Canllawiau

Elusennau: apeliadau trychineb ac argyfwng

Sut y gall eich elusen ymateb i drychineb neu argyfwng a sut i redeg apêl lwyddiannus.

This guidance was withdrawn on

This guidance has been archived, and no longer applicable. Advice on emergency appeals can be found in our guidance Charity emergency appeals: starting, running and supporting charitable emergency appeals (CC40).

Applies to England and Wales

Ymateb i drychineb

Gall eich elusen ddefnyddio ei chronfeydd ar gyfer y dibenion a nodir yn eich dogfen lywodraethol yn unig.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod ymateb i apêl drychineb wedi’i gynnwys o fewn dibenion eich elusen:

Hefyd, meddyliwch am y canlynol:

  • gallu’ch elusen i ymateb i’r trychineb
  • a yw elusennau eraill mewn sefyllfa well i weithredu

Sut i newid dibenion eich elusen i ymateb i drychineb

Efallai y bydd gan eich elusennau ddiben sy’n caniatáu iddi weithio o fewn ardal benodol neu gyda rhai buddiolwyr yn unig. Os ydych chi am newid eich dibenion i ymateb i drychineb, fel arfer bydd rhaid i chi ofyn i’r Comisiwn Elusennau am ei gymeradwyaeth.

Dylech chi allu dangos bod y newid er lles eich elusen a’i buddiolwyr. Dylech chi hefyd ystyried pa effaith y gallai’r newid hwn ei chael ar eich buddiolwyr presennol - er enghraifft, a fydd ymateb i drychineb yn golygu bod angen i chi leihau’r gwasanaethau rydych yn eu cynnig ar hyn o bryd.

Gall ysgrifennu dibenion newydd fod yn gymhleth. Mae gofyn i’r comisiwn i’w cymeradwyo yn cymryd amser hefyd. Os yw hyn yn broblem, gallech chi ystyried ffyrdd eraill o helpu.

Codi arian gydag elusennau eraill

Gall eich elusen weithio gydag elusennau eraill i godi arian ar gyfer eich gweithgareddau lleddfu effeithiau trychineb eich hun, neu ei drosglwyddo i elusen neu sefydliad arall sydd eisoes yn gweithio yn y maes. Rhaid i unrhyw gydweithredu i godi arian:

  • fod er lles buddiolwyr eich elusen
  • hyrwyddo dibenion eich elusen

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi cytundeb ysgrifenedig yn ei le rhwng pob parti perthnasol. Dylai amlinellu manylion ymarferol y bartneriaeth, gan gynnwys:

  • dibenion cydweithredu
  • am faint y bydd y cydweithredu yn para
  • beth fydd yn digwydd gydag unrhyw arian dros ben
  • a fydd yr arian a godir yn ffurfio cronfa elusennol ar wahân
  • sut y caiff arian ac adnoddau pob sefydliad eu defnyddio
  • y prosesau, y rolau a’r cyfrifoldebau ar gyfer rheoli’r arian a godir
  • trefniadau paratoi cyfrifon ac adroddiadau

Darllenwch ganllawiau’r comisiwn ar weithio gydag elusennau eraill .

Sut i redeg apeliadau

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymwybodol o y gyfraith codi arian ac arferion da pan fyddwch yn rhedeg apeliadau. Dylai’ch apêl:

  • nodi’n glir pwy yw’ch elusen a beth y mae’n ei wneud
  • egluro at beth y caiff yr arian ei godi a sut y caiff ei ddefnyddio
  • rhoi gwybod i’r cyhoedd sut i gyfrannu at yr apêl
  • esbonio’r trefniadau cymorth rhodd
  • dweud beth fydd yn digwydd i unrhyw arian dros ben a beth fydd yn digwydd os nad yw digon o arian yn cael ei godi

Rhoddion personol

Os nad yw codi arian ar gyfer trychineb wedi’i gynnwys o fewn dibenion eich elusen, gallwch dal i roi neu drefnu casgliadau personol. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n:

  • casglu arian yn enw neu ar ran eich elusen
  • symud unrhyw arian o’r fath drwy gyfrif banc eich elusen
Cyhoeddwyd ar 23 May 2013