Canllawiau

Newidiadau i’r drefn o ran rhoi gwybod am opsiwn i drethu tir ac adeiladau yn ystod coronafeirws (COVID-19)

Gwiriwch newidiadau dros dro i’r terfyn amser a’r rheolau ar gyfer rhoi gwybod am opsiwn i drethu tir ac adeiladau.

Mae’r newidiadau dros dro i’r terfyn amser i roi gwybod i CThEM am opsiwn i drethu yn ystod coronafeirws (COVID-19) wedi dod i ben.

Os ydych yn rhoi gwybod i ni am benderfyniad i ddewis trethu tir ac adeiladau, fel rheol mae’n ofynnol i chi roi gwybod i ni cyn pen 30 diwrnod drwy naill ai:

  • argraffu ac anfon yr hysbysiad atom, wedi’i lofnodi gan berson awdurdodedig yn y busnes
  • e-bostio copi wedi’i sganio o’r hysbysiad llofnodedig

Gwnaethom newid y rheolau dros dro i helpu busnesau ac asiantau yn ystod y pandemig.

Newidiadau i’r terfyn amser

Gwnaethom ymestyn y terfyn amser dros dro i 90 diwrnod o’r dyddiad y gwnaed y penderfyniad i ddewis trethu tir ac adeiladau. Mae’r estyniad hwn bellach wedi dod i ben.

Roedd hyn yn berthnasol i benderfyniadau a wnaed rhwng 15 Chwefror 2020 a 31 Gorffennaf 2021.

Ar gyfer penderfyniadau a wneir o 1 Awst 2021 ymlaen, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn pen 30 diwrnod.

Mewn rhai sefyllfaoedd, gall CThEM dderbyn hysbysiad a wnaed fwy na 30 diwrnod ar ôl i’r penderfyniad i ddewis trethu tir ac adeiladau gael ei wneud (gweler paragraff 4.2.1 o Opting to tax land and buildings).

Gallwch anfon hysbysiadau drwy e-bost at optiontotaxnationalunit@hmrc.gov.uk.

Yn ystod cyfnod cynnar COVID-19, gwnaethom ganiatáu i fusnesau neu asiantau roi gwybod am opsiwn i drethu gyda llofnodion electronig. Roedd hyn yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

Mae’r newid hwn bellach wedi’i wneud yn barhaol.

Os ydych yn rhoi gwybod am opsiwn fel busnes

Gallwch gyflwyno’r ffurflen gyda llofnod electronig, ond mae angen tystiolaeth arnom fod y llofnod gan berson sydd wedi’i awdurdodi i wneud yr opsiwn ar ran y busnes.

Mae enghreifftiau o dystiolaeth atodol yn cynnwys e-bostio’r ffurflen:

  • gydag e-bost gan y llofnodwr awdurdodedig at yr anfonwr o fewn y busnes, sy’n rhoi awdurdod i ddefnyddio’r llofnod electronig
  • gan y llofnodwr awdurdodedig gyda’i lofnod yn yr e-bost a’r ffurflen
  • gyda chadwyn e-bost neu sgan o ohebiaeth sy’n dangos yr awdurdod a roddwyd gan lofnodwr awdurdodedig

Os ydych yn rhoi gwybod am opsiwn fel asiant

Os ydych yn asiant sy’n rhoi gwybod i ni fod eich cwsmer wedi gwneud penderfyniad i ddewis trethu tir ac adeiladau, a’ch bod yn e-bostio’r ffurflen gyda llofnod electronig, mae angen i chi anfon prawf atom:

  • bod y llofnod gan berson sydd wedi’i awdurdodi i wneud yr opsiwn ar ran y busnes
  • bod awdurdod wedi’i roi i chi gan y busnes i ddefnyddio’r llofnod electronig

Mae enghreifftiau’n cynnwys e-bostio’r ffurflen:

  • gydag e-bost neu gadwyn e-bost gyfredol gan lofnodwr awdurdodedig o fusnes eich cwsmer, sy’n rhoi’r awdurdod i chi ddefnyddio’r llofnod hwn ac anfon y ffurflen atom ar ei ran
  • gyda sgan o ohebiaeth sy’n dangos bod llofnodwr awdurdodedig yn rhoi awdurdod i ddefnyddio’i lofnod electronig ar y ffurflen ac i anfon y ffurflen hon atom ar ei ran hefyd

Ewch ati i ddysgu rhagor am ddewis trethu tir ac adeiladau.

Cyhoeddwyd ar 14 May 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 August 2021 + show all updates
  1. The temporary change to the time limit for notifying an option to tax has now ended. The temporary change to allow options to tax to be signed electronically has now been made permanent.

  2. The temporary changes on the rules on notifying an option to tax land and property during coronavirus (COVID-19) have been extended to 31 July 2021.

  3. The temporary changes on the rules on notifying an option to tax land and property during coronavirus (COVID-19) have been extended to 30 June 2021.

  4. The date the extended time limit for notifying an option to tax land and buildings applies to has been extended to decisions made between 15 February 2020 and 31 March 2021.

  5. We have extended the time limit from the date the decision to opt was made. This now applies to decisions made between 15 February 2020 and 31 October 2020.

  6. We have extended the time limit from the date the decision to opt was made. This now applies to decisions made between 15 February and 30 June 2020.

  7. First published.