Talu’ch bil treth drwy Dystysgrifau Blaendal Treth
Sut i dalu treth drwy ddefnyddio blaendaliadau, cael gwerth cyfredol o’ch tystysgrif a gwirio faint o log rydych wedi’i ennill.
Roedd cynllun Tystysgrif Blaendal Treth yn caniatáu i chi dalu arian i mewn i gyfrif gyda CThEF a’i ddefnyddio’n ddiweddarach i dalu rhai rhwymedigaethau treth. Yr enw ar y dyddiad pan wnaethoch brynu’ch tystysgrif yw’r ‘dyddiad effeithiol y taliad’.
Cau’r cynllun Tystysgrif Blaendal Treth
Ar 22 Tachwedd 2017, rhoddodd Trysorlys EF rybudd y byddai’r cynllun yn cau. Mae hyn yn golygu y gwnaeth y cynllun Tystysgrif Blaendal Treth gau ar gyfer pryniannau newydd ar 23 Tachwedd 2017.
Bydd CThEF yn parhau i anrhydeddu tystysgrifau presennol tan 23 Tachwedd 2023.
Dylech gysylltu â thîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg) cyn i’r cynllun gau i roi gwybod i ni sut yr hoffech ddefnyddio’ch tystysgrif.
Os ydych o’r farn y bydd gennych unrhyw dystysgrifau o hyd ar ôl 23 Tachwedd 2023, dylech gysylltu â’r tîm cyn gynted â phosibl i drefnu ad-daliad.
Ar ôl 23 Tachwedd 2023, byddwn yn ceisio ad-dalu balans unrhyw dystysgrif sy’n parhau heb ei thalu ac heb ei hawlio. Os na allwn wneud hynny (er enghraifft, am nad ydym yn gallu cysylltu â deiliad presennol y dystysgrif ar ôl gwneud ymdrech resymol), byddwn yn ystyried bod y balans wedi’i fforffedu.
Pwy all ddefnyddio blaendal treth
Tan i’r cynllun gau ar 23 Tachwedd 2023, gallwch ddefnyddio’r blaendaliadau o hyd i dalu’r rhwymedigaethau ar gyfer y canlynol:
-
unigolion
-
unigolion mewn partneriaeth — i dalu rhwymedigaethau sy’n berthnasol iddynt unig
-
cwmnïau
-
cynrychiolwyr personol — i dalu rhwymedigaethau ystâd yr unigolyn ymadawedig
-
ymddiriedolwyr — i dalu rhwymedigaethau’r ymddiriedolaeth
Cysylltwch â’r tîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg) i dalu rhwymedigaethau treth gyda’ch blaendaliadau.
Trethi gallwch dalu â blaendal
Hyd nes 23 Tachwedd 2023, gallwch ddefnyddio’ch blaendaliadau i dalu rhwymedigaethau ar gyfer y canlynol:
-
Treth Incwm (Hunanasesiad)
-
cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4
-
Treth Enillion Cyfalaf — heb gynnwys Treth Enillion Cyfalaf sy’n berthnasol i Dreth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu
-
Treth Gorfforaeth — tystysgrifau Cyfres 6 a brynwyd yn 1993 neu’n gynharach yn unig y gellir eu defnyddio
-
Treth Refeniw Petroliwm
-
Treth Etifeddiant
Rhwymedigaethau treth sy’n destun ymchwiliad gan CThEF
Efallai eich bod wedi gwneud blaendal i’w gadw yn erbyn rhwymedigaethau treth sy’n destun ymchwiliad gan CThEF.
Mae eich blaendal yn helpu i atal taliadau llog am dalu’n hwyr ar y swm sy’n ddyledus wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen.
Gellir ychwanegu llog at werth eich blaendal yn dibynnu ar pryd y gwnaed y blaendal.
Os bydd yr ymchwiliad yn dod i ben cyn i’r cynllun gau ar 23 Tachwedd 2023
Byddwch yn gallu defnyddio’ch blaendal i dalu rhwymedigaeth treth yn ôl yr arfer. Os oes balans sy’n weddill ar eich tystysgrif, dylech ofyn am ad-daliad ar yr un pryd.
Os bydd yr ymchwiliad yn annhebygol o ddod i ben cyn i’r cynllun gau ar 23 Tachwedd 2023
Bydd gennych yr opsiwn i ddefnyddio’ch blaendal fel taliad ar gyfrif hyd at werth y rhwymedigaethau treth sy’n destun ymchwiliad ac unrhyw log am dalu’n hwyr cysylltiedig. Os oes balans sy’n weddill ar eich tystysgrif, dylech ofyn am ad-daliad ar yr un pryd.
Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Tîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg) gyda’r wybodaeth ganlynol:
-
enw’r swyddog ymchwilio
-
y maes cydymffurfio sy’n cynnal y gwiriad
-
eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr
-
y blynyddoedd treth a’r symiau sy’n cael eu herio
-
cyfeirnodau a gwerth ar gyfer pob Tystysgrif Blaendal Treth
Bydd y tîm Tystysgrif Blaendal Treth yn cadarnhau’r sefyllfa gyda’r swyddog ymchwilio cyn trosi eich Tystysgrif Blaendal Treth yn daliad ar gyfrif.
Os ydych yn ansicr a fydd yr ymchwiliad yn dod i ben cyn i’r cynllun gau ar 23 Tachwedd 2023
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
Cysylltwch â’r swyddog ymchwilio i gadarnhau sefyllfa eich achos.
-
Dilynwch y canllawiau ar y dudalen hon sy’n berthnasol i chi.
Diogelwch rhag llog am dalu’n hwyr
Bydd y diogelwch presennol rhag llog am dalu’n hwyr yn parhau i fod yn berthnasol os ydych yn gosod eich blaendal fel taliad ar gyfrif.
Bydd dyddiad dod i rym taliad eich Tystysgrif Blaendal Treth yn parhau i fod y diweddaraf o’r naill neu’r llall o’r canlynol:
-
y dyddiad y cafodd ei phrynu
-
dyddiad dyledus y rhwymedigaethau sy’n weddill
Bydd y diogelwch a ddarperir yn erbyn llog taliad hwyr yn dibynnu ar pryd y gwnaethoch brynu eich tystysgrif a gwerth eich tystysgrif.
Blaendaliadau a wnaed cyn dyddiad talu’r rhwymedigaeth treth
Os gwnaethoch brynu eich tystysgrif cyn dyddiad dyledus y rhwymedigaeth treth sy’n cael ei hymchwilio, bydd yr elfen o dreth sy’n ddyledus sy’n cael ei chwmpasu gan y blaendal yn cael ei thrin fel petai wedi’i thalu ar ei dyddiad dyledus. Ni chodir llog am dalu’n hwyr ar y swm hwn.
Codir llog am dalu’n hwyr ar unrhyw dreth sy’n weddill sy’n ddyledus nad yw’n cael ei chwmpasu gan y blaendal.
Blaendaliadau a wnaed ar ôl dyddiad talu’r rhwymedigaeth treth
Os gwnaethoch eich blaendal ar ôl y dyddiad pan roedd y rhwymedigaeth treth yn ddyledus, bydd llog am dalu’n hwyr yn berthnasol o ddyddiad dyledus y rhwymedigaeth treth hyd at y dyddiad y gwnaed y blaendal.
Codir llog am dalu’n hwyr ar unrhyw dreth sy’n ddyledus nad yw’n cael ei chwmpasu gan y blaendal.
Llog ar eich blaendaliadau treth
Byddwch yn cronni llog yn dyddiol ar flaendaliadau treth dros £100,000 o’r dyddiad a ddangosir ar eich Tystysgrif Blaendal Treth. Bydd y llog yn dod i ben ar un o’r dyddiadau canlynol, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf:
-
dyddiad dyledus y rhwymedigaeth treth rydych yn ei thalu (yn llawn neu’n rhannol) gan ddefnyddio’r blaendal
-
y dyddiad y byddwch yn tynnu eich blaendal yn ôl am arian parod
-
chwe-mlwyddiant y dyddiad ar eich tystysgrif
Bydd llog yn cael ei ychwanegu at werth eich tystysgrif pan fyddwch yn ei defnyddio i dalu rhwymedigaeth treth neu’n tynnu eich blaendal yn ôl. Byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau faint o log rydych wedi’i gael pan fyddwch yn gwneud hynny.
Cysylltwch â’r tîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg) i wirio lefel y llog a enillwyd flaendal ar treth a wnaethoch o dan gynllun y Dystysgrif Blaendal Treth.
Cyfraddau llog ar eich blaendal
Pan wnaethoch flaendal treth, bydd CThEF wedi anfon llythyr atoch i gadarnhau’r gyfradd llog a oedd yn berthnasol. Bydd y gyfradd llog hon yn berthnasol i’ch blaendal drwy gydol y flwyddyn gyntaf.
Arian ar flaendal am fwy na blwyddyn
Y gyfradd llog a ddefnyddir bob blwyddyn ar ôl y flwyddyn gyntaf yw’r gyfradd sydd mewn grym ar ben-blwydd y dyddiad a ddangosir ar eich Tystysgrif Blaendal Treth.
Er enghraifft, bydd y gyfradd llog sydd mewn grym ar ail ben-blwydd eich tystysgrif yn berthnasol drwy gydol y drydedd flwyddyn y mae eich arian ar flaendal.
Cyfraddau llog presennol
Mae’r cyfraddau canlynol ar waith o 6 Mawrth 2009.
| Blaendaliadau | Cyfradd llog |
|---|---|
| O dan £100,000 | Dim llog |
| Dros £100,000 wedi’i ddal llai na 1 mis |
Dim llog |
| Dros £100,000 wedi’i ddal am fwy na 1 mis |
Cyfradd dreth: 0.75% Cyfradd arian parod: 0.25% |
Cysylltwch â’r tîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynghylch cyfraddau.
Pan nad yw llog yn ddyledus
Ers 5 Rhagfyr 2008, nid oes llog yn ddyledus ar flaendaliadau o lai na £100,000. Mae hyn yn cynnwys taliadau wythnosol neu fisol a wnewch sy’n llai na £100,000 yr un.
Treth ar y llog rydych wedi’i gael
Bydd unrhyw log a gewch ar eich blaendaliadau yn cael ei dalu’n gros (heb dreth wedi’i didynnu wrth y ffynhonnell). Felly, mae’n rhaid i chi drin yr holl log hwn fel rhan o’ch incwm at ddibenion treth wrth lenwi’ch Ffurflen Dreth flynyddol.
Gwneud blaendal
Ers 23 Tachwedd 2017, nid ydych wedi gallu gwneud y canlynol:
-
gwneud blaendal newydd
-
ychwanegu at dystysgrif sy’n bodoli eisoes
Talu treth â blaendal
I ddefnyddio’ch blaendaliadau i dalu rhwymedigaeth treth, mae’n rhaid i chi anfon eich Tystysgrif Blaendal Treth gyda chyfarwyddiadau ysgrifenedig yn egluro sut rydych am i’r blaendal gael ei ddefnyddio.
Os oes gennych fwy nag un rhwymedigaeth, gallwch gadarnhau’r drefn yr ydych am iddynt gael eu talu ynddi. Os na fyddwch yn cadarnhau trefn y taliadau, bydd y rhwymedigaethau hynaf fydd yn cael eu talu’n gyntaf.
Anfonwch eich tystysgrif a chyfarwyddiadau at y tîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg). Unwaith y bydd y tîm wedi’i gael, bydd yn cymryd 10 i 14 diwrnod i ddyrannu’r blaendal i’ch rhwymedigaeth.
Os yw’r rhwymedigaeth treth yn ymwneud ag ymchwiliad parhaus sy’n annhebygol o ddod i ben cyn i’r cynllun gau, darllenwch adran ‘Rhwymedigaethau treth sy’n destun ymchwiliad gan CThEF’ y canllaw hwn.
Os nad ydych yn defnyddio gwerth llawn y dystysgrif
Os mai dim ond rhan o werth tystysgrif yr ydych am ei defnyddio i dalu rhwymedigaeth treth, mae’n rhaid i chi hefyd roi eich manylion banc i’r tîm Tystysgrif Blaendal Treth, fel y gellir ad-dalu’r balans.
Ni fydd CThEF yn gadael unrhyw falans sy’n ddyledus fel credyd yn eich cofnodion treth.
Os yw’ch rhwymedigaeth treth yn fwy na gwerth eich tystysgrif
Os nad yw gwerth eich tystysgrif yn talu’r dreth sydd arnoch, bydd angen i chi dalu hyn ar unwaith. Bydd hyn yn golygu eich bod yn osgoi neu’n lleihau cosbau am dalu’n hwyr a thaliadau llog.
I gael gwybod gwerth cyfredol eich tystysgrif (gan gynnwys y llog a enillwyd), cysylltwch â’r tîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg).
Gwneud taliadau hwyr gan ddefnyddio Tystysgrif Blaendal Treth
Os ydych yn talu rhwymedigaeth treth ar ôl ei dyddiad dyledus gan ddefnyddio Tystysgrif Blaendal Treth sydd wedi’i dyddio cyn y dyddiad dyledus, ni chodir llog am dalu’n hwyr arnoch.
Talu treth person neu gwmni arall
Ni ellir trosglwyddo Tystysgrif Blaendal Treth, ond gallwch ei defnyddio i dalu rhwymedigaethau treth person arall. Gallwch wneud hyn drwy ysgrifennu at y tîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd llog ar flaendal a ddefnyddir i dalu yn erbyn rhwymedigaeth treth person arall ar y gyfradd arian parod is.
Gall cwmni gyflwyno cais ysgrifenedig i ddefnyddio blaendaliadau treth i dalu rhwymedigaethau:
-
ei gwmni daliannol
-
ei is-gwmni
-
is-gwmni arall o’i gwmni daliannol
Mae hefyd angen cadarnhad ynghylch yr is-gwmnïau neu’r cwmni daliannol, neu’r ddau, i gael y gyfradd llog uwch.
Tynnu blaendal treth yn ôl
Dylech dynnu eich blaendaliadau yn ôl cyn i’r cynllun gau ar 23 Tachwedd 2023. Bydd hyn yn atal unrhyw oedi os nad oes gennych unrhyw rwymedigaethau treth yn ddyledus cyn hynny.
I dynnu blaendal yn ôl, anfonwch y Dystysgrif Blaendal Treth gyda chais ysgrifenedig at y tîm Tystysgrif Blaendal Treth. Hefyd, mae’n rhaid i chi roi manylion banc y cyfrif yr hoffech i’r arian gael ei dalu iddo, gan gynnwys y canlynol:
-
enw’r cyfrif:
-
rhif y cyfrif
-
cod didoli’r cyfrif
-
enw’r banc neu’r gymdeithas adeiladu
Os ydych yn gwsmer tramor, dylech gysylltu â’r tîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg) i drafod sut i dynnu eich blaendal yn ôl.
Sut y caiff eich blaendal ei ad-dalu
Byddwch yn cael eich ad-daliad fel credyd i’ch cyfrif banc drwy Daliad Cyflymach.
Fel arfer, caiff ad-daliadau eu gwneud cyn pen 12 diwrnod gwaith.
Y dyddiad ar gyfer cyfrifo’r llog (lle bo’n briodol) fydd y dyddiad y byddwn yn cyfarwyddo ein banc i gredydu eich cyfrif banc.
Rhoi gwybod i CThEF am newidiadau
Newid cyfeiriad
Os ydych wedi newid eich cyfeiriad ers i chi brynu eich tystysgrif, hyd yn oed os oedd hynny beth amser yn ôl, cysylltwch â thîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg). Bydd angen i chi roi’r canlynol:
-
manylion eich cyfeiriad blaenorol
-
manylion eich cyfeiriad newydd
-
eich cyfeirnod y trethdalwr (y rhif 6 digid ar ochr chwith brig y dystysgrif sy’n dechrau gyda sero)
-
cyfeirnod y Dystysgrif Blaendal Treth (y rhif 6 digid ar ochr dde gwaelod y dystysgrif)
Achosion sy’n ymwneud â pherson ymadawedig
Os bydd yr ymddiriedolwyr neu’r ysgutorion a enwir yn newid neu os bydd yr unigolyn a enwir ar y dystysgrif yn marw, bydd angen awdurdod ysgrifenedig wedi’i lofnodi ar CThEF i ddelio â’r enillion a diwygio’r dystysgrif. Mae’n rhaid i hon gynnwys:
-
enw llawn pob ymddiriedolwr neu ysgutor a enwir ar y dystysgrif
-
eu llofnodion yn cadarnhau eu bod yn cytuno â’r newid
-
cyfeirnod y trethdalwr (y rhif 6 digid ar ochr chwith brig y dystysgrif sy’n dechrau gyda sero)
-
cyfeirnod y Dystysgrif Blaendal Treth (y rhif 6 digid ar ochr dde gwaelod y dystysgrif)
Anfonwch yr awdurdod ysgrifenedig at y tîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg).
Newid enw’r busnes
Os yw’ch busnes wedi rhoi’r gorau i fasnachu, neu bod enw’r busnes wedi newid ers i’r dystysgrif gael ei phrynu, cysylltwch â’r tîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen i chi roi’r canlynol:
-
enw masnachu blaenorol y busnes
-
tystiolaeth o newid i’r enw
-
cyfeirnod y trethdalwr (y rhif 6 digid ar ochr chwith brig y dystysgrif sy’n dechrau gyda sero)
-
cyfeirnod y Dystysgrif Blaendal Treth (y rhif 6 digid ar ochr dde gwaelod y dystysgrif)
Os ydych wedi colli Tystysgrif Blaendal Treth
Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at y tîm Tystysgrif Blaendal Treth (yn agor tudalen Saesneg) i roi gwybod am dystysgrif coll. Byddant yn anfon ffurflen indemniad atoch. Dylech ei llenwi a’i dychwelyd.
Ar ôl i CThEF anfon ffurflen indemniad, ni fydd eich Tystysgrif Blaendal Treth wreiddiol yn ddilys mwyach. Os dewch o hyd iddi, anfonwch hi at y tîm Tystysgrif Blaendal Treth a fydd yn ei dinistrio.
Updates to this page
-
A Welsh translation has been added.
-
The guidance has been updated to explain what holders of deposits need to do if the investigation is unlikely to end before the scheme closes on 23 November 2023.
-
The guidance has been updated to explain what holders of deposits need to do before the Certificate of Tax Deposit Scheme closes on 23 November 2023.
-
The payment process when withdrawing a tax deposit has changed. Edited chapter 11 'Withdraw a tax deposit' — Repayments will be sent as a credit to your bank account by Faster Payment.
-
The postal address to use to request a withdrawal of a tax deposit has been updated.
-
Withdrawing a tax deposit updated.
-
Changes have been made to the section about how to withdraw a tax deposit.
-
The interest calculator tool has been removed and information about how to contact the CTD team has been added.
-
Updated with details about the closure of the Certificate of Tax Deposit scheme.
-
Petroleum Royalty can no longer be paid with a tax deposit. It has been removed from the section 'Taxes you can pay with your deposits'.
-
There has been a change in the amount of time that can be taken to issue your Tax Deposit scheme certificate.
-
Timescales added for receiving confirmation letter of your deposit and for the deposit to be allocated to your liability.
-
First published.