Skip to main content
Canllawiau

Cartelau: cyflwynwch eich enw a gwnewch gais am drugaredd

Sut i roi gwybod am eich cyfranogiad mewn cartel o dan ein rhaglen drugaredd a beth i'w ddisgwyl.

Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn ymchwilio i fusnesau ac unigolion sy’n ymwneud â gweithgarwch cartelau. Mae ein polisi trugaredd yn ein helpu i ganfod a gweithredu yn erbyn cartelau. Mae’r dudalen hon yn nodi sut i gyflwyno eich enw a gwneud cais am drugaredd.

Beth yw cartel?

Cartel yw pan fydd 2 fusnes cystadleuol neu fwy yn cytuno i weithredu gyda’i gilydd yn lle cystadlu. Er enghraifft, gallai busnesau gytuno ar ba brisiau maent yn mynd i’w codi neu rannu marchnad fel eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag cystadleuaeth. Gall y math hwn o dwyllo gymryd sawl ffurf – gallai gynnwys trefniadau ffurfiol neu anffurfiol, ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Mae cartelau o fudd i’w haelodau ond maen nhw hefyd yn:

  • niweidio cwsmeriaid, defnyddwyr a busnesau eraill

  • niweidio’r economi ehangach

Mae cartelau’n anghyfreithlon ac mae canlyniadau difrifol os cewch eich dal mewn un. Gall busnesau gael dirwyon a’u gwahardd rhag contractau sector cyhoeddus, gall cyfarwyddwyr gael eu gwahardd a gall unigolion gael euogfarn droseddol.

Rhowch wybod am gartel sy’n hysbys i chi

Os nad ydych chi’n rhan o gartel ond eich bod chi’n gwybod am un, rhowch wybod i ni. Gallech gael gwobr o hyd at £250,000 am wybodaeth sy’n arwain at ymchwiliad.

Pam gwneud cais am drugaredd

Trugaredd yw pan fyddwch chi’n dweud wrth y CMA eich bod wedi ymwneud â chartel ac yn cydweithredu â’n hymchwiliad. Yn gyfnewid, gallech chi gael eich diogelu rhag y canlyniadau (fel yr eglurir isod). Gall busnesau ac unigolion wneud cais am drugaredd.

Mae gwahanol fathau o drugaredd. Bydd y math sydd ar gael yn dibynnu’n gyffredinol ar:

  • a yw unrhyw unigolion neu fusnesau eraill sy’n ymwneud â’r cartel eisoes wedi gwneud cais am drugaredd ai peidio

  • a yw’r CMA eisoes yn ymchwilio i’r cartel ai peidio

  • p’un a ydych chi’n gwneud cais am drugaredd fel busnes neu unigolyn

Bod y cyntaf i wneud cais am drugaredd cyn i’r CMA ddechrau ymchwiliad yw’r unig ffordd i sicrhau y cewch imiwnedd rhag y canlynol:

  • cosbau ariannol

  • anghymhwyso cyfarwyddwr

  • erlyniad troseddol

  • gwaharddiad a rhagwaharddiad contract cyhoeddus

Am ragor o wybodaeth am y gwahanol fathau o drugaredd a’r mesurau diogelu maen nhw’n eu cynnig, darllenwch ein canllawiau llawn ar drugaredd, canllaw byr i fusnesau a chanllaw byr i unigolion.

Gwneud cais am drugaredd

Ffoniwch linell ymholiadau trugaredd y CMA ar 020 3738 6833 i ofyn a yw trugaredd ar gael, ac, os felly, i wneud cais.

Er mwyn cael imiwnedd neu drugaredd rhaid i chi:

  • roi’r gorau i ymwneud â’r cartel

  • rhoi’r holl wybodaeth, dogfennau a thystiolaeth sydd gennych am y cartel i ni

  • cydweithredu â ni drwy gydol y broses ymgeisio ac unrhyw ymchwiliad a gynhaliwn

  • cyfaddef bod yn rhan o’r cartel (mae hyn fel arfer yn digwydd yn ddiweddarach yn y broses ymchwilio, fel arfer ychydig cyn i’r CMA gyhoeddi datganiad o wrthwynebiadau)

Ystyriwch gael cyngor cyfreithiol os ydych chi’n credu eich bod wedi ymwneud â gweithgarwch cartel. Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael cyngor cyfreithiol am ddim drwy’r Cynllun Pro Bono Cystadleuaeth.

Gallwch hefyd ofyn i’r CMA am ganllawiau cyfrinachol drwy ffonio ein llinell ymholiadau trugaredd ar 020 3738 6833. Nid oes rhaid i chi ddatgelu pwy ydych chi.

Am ragor o wybodaeth am wneud cais, darllenwch ein canllawiau byr neu ein canllawiau llawn ar drugaredd.

Gweithgarwch cartel yn yr Alban

Os yw gweithgarwch y cartel wedi digwydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol yn yr Alban, y CMA sydd i benderfynu a ddylid rhoi trugaredd i fusnesau. Fodd bynnag, ni allwn roi imiwnedd gwarantedig i unigolion am droseddau y bwriedir eu herlyn yn yr Alban.

I gael mwy o wybodaeth am drin ceisiadau am drugaredd sy’n cynnwys gweithgarwch cartel yn yr Alban, darllenwch y canllaw byr i unigolion a’r canllawiau llawn ar drugaredd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Hydref 2025 show all updates
  1. Guidance updated to reflect changes to the CMA's leniency policy and processes.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon