Gweithredu fel dirprwy neu atwrnai yn ystod lledaeniad y coronafeirws
Dysgwch sut y gallwch chi barhau i weithredu er budd pennaf y cleient neu roddwr, yn ystod achos COVID-19.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Yn ystod yr achos o goronafeirws, mae eich rôl a’ch cyfrifoldebau fel dirprwy neu atwrnai yn aros yr un fath.
Ar 18 Chwefror 2022, diweddarodd y llywodraeth y canllawiau ar sut i gadw Cymru’n ddiogel. Cyfeiriwch at y canllawiau i gael gwybod mwy.
Rwy’n hunan-ynysu beth allaf ei wneud?
Os ydych yn hunan-ynysu, rhaid i chi barhau i wneud penderfyniadau ar gyfer yr unigolyn dan sylw. Ni allwch ofyn i unrhyw un arall ei wneud ar eich rhan. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi gwneud y penderfyniad, gallwch gael cymorth gan rywun arall mewn perthynas ag unrhyw dasgau na allwch eu gwneud eich hun.
Os oes angen i chi wneud penderfyniad ond eich bod eisiau siarad â’r unigolyn hwnnw yn gyntaf, meddyliwch pa mor frys ydyw ac a ellid ei ohirio.
Gweithio gyda darparwyr iechyd neu ofal yr unigolyn
Nid yw bod yn atwrnai neu’n ddirprwy yn golygu y gallwch ddweud wrth ddarparwr iechyd neu ofal bod yn rhaid iddynt ddefnyddio eu hadnoddau i helpu’r unigolyn.
Os yw’r unigolyn i fod i gael triniaeth feddygol fel brechlyn atgyfnerthu COVID-19, mae angen iddo/iddi allu cydsynio iddo. Os ydynt yn analluog yn feddyliol i wneud hynny, fel atwrnai neu ddirprwy rhaid i chi wneud y penderfyniad ar eu rhan. Dylai’r tîm brechu gysylltu â chi i gael gwybod eich penderfyniad.
Ni fydd gennych y pŵer i wneud y penderfyniad hwnnw os ydych yn ddirprwy eiddo a materion neu’n atwrnai ar atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol. Os felly, yr unigolyn sy’n rhoi’r brechiad sy’n penderfynu a yw’r unigolyn yn cael y brechlyn.
Os ydych yn ddirprwy iechyd a lles neu’n atwrnai ar atwrneiaeth arhosol iechyd a lles, yna byddwch yn debygol o fod yn rhan o’r penderfyniad hwnnw.
Alla i roi’r gorau i weithredu fel atwrnai neu ddirprwy dros dro?
Na allwch, allwch chi ddim rhoi’r gorau i’ch rôl dros dro. Os ydych yn atwrnai, gallwch roi’r gorau i wneud yn rôl honno yn barhaol (‘ildio’). Os ydych chi’n ddirprwy, gallwch wneud cais i’r llys i derfynu eich dirprwyaeth yn barhaol.
Dylech feddwl yn ofalus cyn gwneud hyn, gan y gallai adael yr unigolyn heb y cymorth sydd ei angen arnynt.
Updates to this page
-
Amended to reflect new guidance for England and Wales
-
Update to reflect date of new Welsh guidance
-
Update to reflect new welsh guidance.
-
Update to government guideline dates.
-
Updated the information to make it more succinct and amended the date to reflect new guidance from government
-
Date change
-
Updates to Welsh page to reflect guideline changes on 8 October
-
Updates to English page to reflect guideline changes on 14 September, and to Welsh page to link to new English plan.
-
Changes made due to 16 August announcement
-
Updating Welsh translation information to reflect the change to guidance in Wales on 7 August
-
Large-scale changes to reflect changes to government guidance on 19 July
-
Update to reflect change to government guidance on 21 June
-
Added translation
-
17 May Roadmap changes
-
Added translation
-
changes to welsh version
-
Changes made due to announcement of roadmap out of lockdown February 2021
-
Add Welsh translation of the recent English language amendments about vaccinations
-
Added information about consent and medical treatment such as the COVID-19 vaccination
-
changes to welsh translation affected by Lockdown 3
-
Changes due to Lockdown 4
-
Welsh version edited for updates
-
amends for local tier restrictions 2/12/20
-
changes to welsh language version
-
Changes made due to lockdown 5/11/20
-
12 October 2020 lockdown changes
-
Added Welsh translation and shopping card information
-
First published.