Skip to main content
Canllawiau

Gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor (CF83)

Dysgwch sut i wneud cais drwy’r post i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer cyfnodau pan oeddech yn gweithio neu’n byw dramor.

Gwiriwch sut i wneud cais

Mae ffyrdd gwahanol o wneud cais, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Dysgwch sut i wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol os ydych wedi gweithio neu fyw dramor (yn agor tudalen Saesneg).

Os na allwch wneud cais ar-lein

  1. Gwiriwch pa ffurflen sydd ei hangen arnoch.

  2. Argraffwch y ffurflen berthnasol.

  3. Llenwch y ffurflen.

  4. Anfonwch y ffurflen drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Ffurflen argraffadwy

Cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor (CF83)

Gwneud cais am fformat hygyrch
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Cyfarwyddyd i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol

Gwneud cais am fformat hygyrch
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Os yw CThEF wedi ysgrifennu atoch ynghylch talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol

Os yw CThEF wedi ysgrifennu atoch ynghylch talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor, peidiwch â defnyddio’r ffurflenni ar y dudalen hon.

Dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich llythyr a gwnewch gais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o wybodaeth am eich cais.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd CThEF yn anfon llythyr derbyn atoch sy’n cynnwys:

  • y swm y bydd angen i chi ei dalu

  • pryd y mae angen i chi ei dalu

  • eich cyfeirnod talu

Dysgwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a byw dramor, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Argraffu'r dudalen hon