Gwneud cais i drosi cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd gennych pan oeddech yn gweithio dramor
Gwnewch gais i drosi’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 a dalwyd gennych tra roeddech yn gweithio dramor yn gyfraniadau Dosbarth 2.
Os gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 yn y DU tra roeddech yn gweithio dramor, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol ar gyfradd is am y cyfnod hwnnw.
Os ydych yn gymwys, gallwch wneud cais i CThEF i drosi’r cyfraniadau Dosbarth 3 a dalwyd gennych mewn blwyddyn dreth (er enghraifft, o 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024) i Ddosbarth 2 a chael y gwahaniaeth yn ôl i chi.
O 6 Ebrill 1996 i 5 Ebrill 1997 a 6 Ebrill 1999 i 5 Ebrill 2000 roedd cyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn uwch na chyfradd cyfraniadau Dosbarth 3.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, mae’n bosibl na fyddwch yn elwa o drosi’ch cyfraniadau ar gyfer y cyfnodau hynny.
Gallwch gysylltu â CThEF i gael rhagor o wybodaeth i’ch helpu i benderfynu a ydych am wneud cais i drosi’ch cyfraniadau ar gyfer y blynyddoedd treth hynny.
Pwy all wneud cais
I wneud cais i drosi’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol, mae’n rhaid eich bod wedi gweithio:
- yn y DU yn syth cyn i chi adael y wlad
- tramor yn ystod y cyfnod rydych yn hawlio amdano
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen yr wybodaeth canlynol arnoch i wneud cais:
- eich enw llawn
- eich dyddiad geni
- eich rhif Yswiriant Gwladol — gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi’i golli
- eich cyfeiriad yn y DU os ydych wedi dychwelyd i’r DU
- eich cyfeiriad tra roeddech dramor neu os ydych chi’n dal dramor
- y dyddiad y gwnaethoch adael y DU
- manylion eich cyflogaeth cyn i chi adael y DU
- pa mor hir y gwnaethoch fyw dramor, neu pa mor hir yr ydych yn bwriadu byw tramor, os yw’n hysbys
- manylion eich cyflogaeth neu hunangyflogaeth pan oeddech dramor
- manylion unrhyw fudd-daliadau llywodraeth y gallech fod wedi’u cael neu wedi’u hawlio
Sut i wneud cais
-
Argraffwch
. -
Llenwch y ffurflen.
-
Ysgrifennwch lythyr gyda’r teitl ‘Atodiad CF83’ a chynnwys yr wybodaeth ganlynol ynddo:
-
eich rhif Yswiriant Gwladol
-
y blynyddoedd treth rydych am drosi’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol o Ddosbarth 3 i Ddosbarth 2 ar eu cyfer
- eich hanes cyflogaeth ar gyfer y blynyddoedd treth rydych am eu trosi
- cais am ad-daliad o’r gwahaniaeth a dalwyd gennych
4. Atodwch y llythyr yn ddiogel i’r ffurflen.
5. Postiwch y ffurflen a’r llythyr i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Ar ôl i chi wneud cais
Byddwn yn adolygu’ch cais ac mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth.
Os yw ad-daliad yn ddyledus i chi, byddwn yn anfon siec atoch.
Cael gwybod pryd i ddisgwyl ymateb gan CThEF.