Skip to main content
Canllawiau

Gwneud cais am drwydded data llysoedd a thribiwnlysoedd i drydydd parti GLlTEF

Gwnewch gais am drwydded i ailddefnyddio a chynnal dadansoddiad cyfrifiadurol ar wybodaeth a gyhoeddwyd drwy'r Gwasanaeth Gwrandawiadau Llysoedd a Thribiwnlysoedd (CaTH).

Trosolwg

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn cyhoeddi rhestrau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd i:

  • gyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol penodol
  • cynnal yr egwyddor o gyfiawnder agored
  • cynorthwyo ar gyfer gweinyddu cyfiawnder

Bydd y cynllun trwyddedu trydydd partïon ar gyfer data llysoedd a thribiwnlysoedd yn cynnal yr egwyddor o gyfiawnder agored trwy:

  • sicrhau mwy o fynediad a mynediad haws at ddata llysoedd a thribiwnlysoedd
  • galluogi GLTEF i hwyluso’r ailddefnydd o ddata mewn ffordd dryloyw a chyfrifol ar raddfa briodol

Mae’r cynllun hefyd yn anelu at gyflawni canlyniadau sydd er budd y cyhoedd, fel:

  • hyrwyddo arloesi mewn sectorau yn cynnwys technoleg ac ymchwil
  • lleihau’r galw cyfreithiol nad yw wedi’i fodloni
  • hybu twf economaidd

Rhaid i chi wneud cais am drwydded i gynnal dadansoddiad cyfrifiadurol o’r wybodaeth mae GLlTEF yn ei chyhoeddi ar Wasanaeth Gwrandawiadau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd (CaTH) i:

  • gynnal ymchwil a gwaith datblygu
  • help gyda darparu cynhyrchion neu wasanaethau

Mae dadansoddiad cyfrifiadurol yn cyfeirio at brosesu data mewn swmp ac ar raddfa sydd angen peiriant. Mae hyn yn cynnwys:

  • dadanoddi gwybodaeth nad oes modd ei ddarllen gyda pheiriant
  • sganio gyda rhaglen a chwilio am wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi
  • defnyddio algorithmau i gynnal dadansoddiad

Nid yw’n cynnwys prosesu â llaw gan unigolyn, hyd yn oed os yw hyn yn cynnwys nifer fawr o gofnodion.

Sicrhewch eich bod yn darllen y canllawiau llawn ar gyfer y broses ymgeisio.

Cyn i chi wneud cais

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd arnoch angen uwchlwytho asesiad o’r effaith ar ddiogelu data wedi’i gwblhau.

Efallai bydd arnoch angen cynnwys neu uwchlwytho:

Bydd arnoch hefyd angen gwirio bod eich systemau yn cyd-fynd â gofynion rhaglennu rhyngwyneb rhaglenni CaTH.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Gwneud cais ar-lein

Cysylltwch â ni os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein neu os oes angen cymorth i wneud cais.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Mae panel llywodraethu’r cynllun trwyddedu trydydd partïon ar gyfer data llysoedd a thribiwnlysoedd yn cyfarfod yn rheolaidd i adolygu ceisiadau. Efallai na fydd gan y panel amser i adolygu’ch cais y tro cyntaf mae’n cyfarfod ar ôl cael eich cais.

Unwaith y bydd y panel wedi adolygu’ch cais, gall ofyn am fwy o fanylion gennych neu i gyflwyno ffurflen gais ddiwygiedig os oes gwallau neu wybodaeth ar goll. Byddwn yn cysylltu â chi i’ch hysbysu p’un a yw’r panel wedi cymeradwyo neu wedi gwrthod eich cais.

Os derbynnir eich cais, byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am sut i gael mynediad at y data.

Os gwrthodir eich cais ac os rydych yn credu bod gennych yr hawl i apelio, gallwch ganfod sut i apelio yn y canllawiau llawn.

Cael help gyda’ch cais

Os ydych wedi darllen yr holl ganllawiau a dal angen cymorth gyda’ch cais, cysylltwch â thirdpartydatalicence@justice.gov.uk.

Os ydych yn credu bod rhestr llys neu dribiwnlys y dylem fod yn ei chyhoeddi ar goll o’r gwasanaeth, neu os oes gennych ymholiad arall, cysylltwch â publicationsinformation@justice.gov.uk.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf 2026

Argraffu'r dudalen hon