Cyfarwyddyd Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti GLlTEF
Diweddarwyd 15 Gorffennaf 2026
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
1. Y drwydded data llysoedd a thribiwnlysoedd i drydydd parti
Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF), mewn cydweithrediad â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yr Archifau Cenedlaethol a’r Farnwriaeth annibynnol wedi llunio fframwaith trwyddedu newydd ar gyfer ailddefnyddio data GLlTEF.
Mae’r wybodaeth a drwyddedir o dan y Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti yn cynnwys rhestrau llysoedd a thribiwnlysoedd a gyhoeddir drwy’r Gwasanaeth Gwrandawiadau Llys a Thribiwnlys (CaTH) a gellir eu gweld yn Gwrandawiadau Llys a Thribiwnlys - GOV.UK.
Mae CaTH yn cyhoeddi gwybodaeth mewn fformat safonol, y gellir ei darllen ar beiriant, gyda’r gallu i rannu data craidd drwy Ryngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API), felly yn galluogi dadansoddi cyfrifiadurol.
Dyma fersiwn 1.0 o’r Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti. Efallai y bydd y Trwyddedwr, o dro i dro, yn cyhoeddi fersiynau newydd.
Ceir cyd-destun pellach, arfer gorau ac arweiniad mewn perthynas ag ailddefnyddio gwybodaeth sector cyhoeddus ar wefan Yr Archifau Cenedlaethol: Fframwaith Trwyddedu Llywodraeth y DU.
Gallwch gael mynediad at ddata arall GLlTEF drwy’r ddolen ganlynol: Cael mynediad at ddata GLlTEF.
1.1 Gwybodaeth am wasanaeth gwrandawiadau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd
Mae rhestrau llys a thribiwnlys yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr llys a’r cyhoedd pa wrandawiadau a gynhelir, a phryd, mewn safleoedd penodol.
Swyddogaeth farnwrol yw rhestru. Mae’r farnwriaeth yn annibynnol o’r llywodraeth ac mae gan farnwyr unigol ymreolaeth i benderfynu pryd ac ym mha ffurf bydd achos yn cael ei restru.
Mae GLlTEF yn llunio nifer fawr o restrau ar draws pob barnwriaeth ac yn eu cyhoeddi ar-lein drwy CaTH ar GOV.UK.
Gall gwybodaeth a gyhoeddwyd neu a ddarparwyd drwy CaTH gynnwys gwybodaeth o dan hawliau Cronfa Ddata’r Goron. Mae’r deunydd hwn wedi’i drwyddedu ar gyfer ei ailddefnyddio o dan Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti neu’r Drwydded Cyfiawnder Agored f2.0.
Gydag amser, bydd CaTH yn cyhoeddi rhestrau ar gyfer yr holl lysoedd a thribiwnlysoedd o ganlyniadau’r llysoedd troseddol yn unol â Phrofi ar gyfer hygyrchedd - Llawlyfr Gwasanaeth - GOV.UK.
1.2 Rheoli cyhoeddi rhestrau
Mae GLlTEF yn rhagweld mewn rhai amgylchiadau prin, gall rhestrau llys gael eu diweddaru neu eu dileu ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi’n wreiddiol.
Bydd GLlTEF bob amser yn cyhoeddi’r fersiwn diweddaraf sydd wedi’i awdurdodi gan y llys neu’r tribiwnlys.
Fel rheol, bydd GLlTEF yn cyhoeddi rhestrau llysoedd a thribiwnlysoedd y diwrnod canlynol am 11:59pm ac yna’n eu tynnu ymaith am 11:59pm ar y dyddiad cyhoeddi.
Mae cwmpas i awdurdodaeth gyhoeddi rhestrau llys a rhestrau tribiwnlys penodol yn fwy ymlaen llaw na’r diwrnod blaenorol ac mae cwmpas i’r rhestrau hynny gael eu cyhoeddi am gyfnod hirach na’r diwrnod.
Unwaith y bydd rhestr neu gofrestr llys neu dribiwnlys wedi’i chyhoeddi, bydd GLlTEF ond yn tynnu’r cyhoeddiad yn ôl os cawn gyfarwyddiadau i wneud hynny gan lys neu dribiwnlys.
1.3 Amcanion y drwydded data llysoedd a thribiwnlysoedd i drydydd parti
Mae’r egwyddor o gyfiawnder agored yn hanfodol i’n system gyfiawnder. Mae galluogi mwy o dryloywder yn hanfodol i reolaeth y gyfraith a datblygu hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein system gyfiawnder.
Bydd y drefn Trwyddedu Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti yn cynnal yr egwyddor o gyfiawnder agored yn well drwy roi mwy o fynediad a mynediad haws i ddata llys a thribiwnlys tra’n galluogi GLlTEF i hwyluso ailddefnyddio yn dryloyw ac yn gyfrifol ar raddfa.
Yn ogystal â’r egwyddor o gyfiawnder agored, mae’r drwydded yn anelu i gyflawni deilliannau o fudd i les y cyhoedd; fel hyrwyddo arloesedd mewn sectorau gan gynnwys ymchwil a thechnoleg gyfreithiol, lleihau’r galw cyfreithiol sydd heb ei ddiwallu a rhoi hwb i dwf economaidd.
1.4 Data ar gyfer trwyddedu
Bydd y drwydded yn gwneud dau fath o ddata ar gael i’w ailddefnyddio:
- Data Cyhoeddus (o wybodaeth sydd ar gael i holl aelodau’r cyhoedd)
- Data Cyfyngedig (o wybodaeth sydd ar gael i’r sawl sydd ei hangen yn unig ar gyfer cyflawni eu dyletswyddau proffesiynol o ystyried sensitifrwydd y data, gan gynnwys newyddiadurwyr achrededig, gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a defnyddwyr llys proffesiynol eraill wedi eu rheoleiddio, fel staff meddygol a chynghorwyr cyfreithiol)
Gallwch wneud cais i dderbyn:
- Data cyhoeddus yn unig
- Data cyhoeddus a chyfyngedig os ydych yn aelod achrededig o’r cyfryngau neu’n ddefnyddiwr proffesiynol awdurdodedig, sydd eisoes â hawliau mynediad at wybodaeth gyfyngedig
-
Data Cyhoeddus a Chyfyngedig os nad ydych yn aelod o’r wasg achrededig neu broffesiwn cyfreithiol, ar yr amod bod unrhyw gynnyrch neu wasanaethau rydych yn eu creu drwy ei ddefnyddio ar gael i’r gweithwyr proffesiynol hynny sydd â threfniant mynediad presennol eisoes ar gyfer y Data Cyfyngedig gyda GLlTEF.
- mae mwy o wybodaeth ar achrediad y wasg ar gael yn y Protocol Cyfryngau GLlTEF. Mae gwybodaeth ar pa ddefnyddwyr proffesiynol sydd â hawl i gael mynediad i wybodaeth Gyfyngedig ar gael yn y Protocol defnyddwyr llys proffesiynol GLlTEF
2. Ailddefnyddio cyfrifiadurol o dan y drwydded data llysoedd a thribiwnlysoedd i drydydd parti
Mae GLlTEF yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2015 ac yn annog trwyddedwyr cymeradwy i berfformio dadansoddiad cyfrifiadurol o’r wybodaeth rydym yn ei chynhyrchu, ei dal, a’i lledaenu.
Mae dadansoddiad cyfrifiadurol yn cyfeirio at brosesu data mewn swmp ac ar raddfa sydd angen peiriant. Mae hyn yn cynnwys dosbarthu gwybodaeth na ellir ei darllen ar beiriant; sganio sy’n gysylltiedig â rhaglen a chwilio am wybodaeth a gyhoeddwyd a’r defnydd o algorithmau i gynnal dadansoddiad. Nid yw’n cynnwys prosesu â llaw gan unigolyn, hyd yn oed os yw hyn yn cynnwys nifer fawr o gofnodion.
Mae’r Goron yn dal hawliau cronfa ddata rhestrau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd. O ganlyniad i’r hawliau hyn, os ydych yn dymuno ailddefnyddio a chynnal dadansoddiad cyfrifiadurol o’r data sydd ar gael, rhaid i chi wneud cais am Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti.
2.1 Trwyddedau ar gael ar gyfer ailddefnydd cyfrifiadurol
Rydym yn cyhoeddi dau fath o drwydded sy’n caniatáu ailddefnydd cyfrifiadurol o’r data a gyhoeddir gan wasanaeth Gwrandawiadau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd . Bydd y Panel Llywodraethu Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti angen cymeradwyo ceisiadau cyn y gellir cyflwyno unrhyw drwydded.
- Trwydded arbrofol - Tymor Blwyddyn
Mae’r drwydded hon yn eich caniatáu i gynnal dadansoddiad cyfrifiadurol i ddatblygu prawf o gysyniad. Ni all y dadansoddiad neu’r gwasanaeth gael ei ryddhau i gwsmeriaid na’r cyhoedd ac mae ar gael i’r trwyddedai a GLlTEF yn unig.
- Trwydded drafodaethol - 3 Blynedd
Mae’r drwydded hon yn eich caniatáu i gynnal dadansoddiad cyfrifiadurol i allu datblygu a darparu gwasanaethau a chynhyrchion masnachol.
Mae’r penderfyniad i roi trwydded Arbrofol neu drwydded Drafodaethol yn ôl disgresiwn y Panel a bydd yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cais.
Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried fel peri risg uchel ac yn cael cynnig trwydded arbrofol os byddant yn ailddefnyddio rhestrau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd i:
- gynhyrchu cyngor cyfreithiol cwbl awtomataidd
- berfformio awtomeiddio i ragweld penderfyniadau cyfreithiol yn uniongyrchol ar gyfer cleient neu ddefnyddiwr, fel adnoddau sy’n pennu disgwyliadau ar gyfer canlyniadau achos trwy fodelu neu ddadansoddi rhagfynegol
- cyfarwyddo neu ddylanwadu fel arall ar benderfyniad trydydd parti i fynd ar drywydd cyfiawnder neu gamau cyfreithiol
- galluogi proffilio personol, yn enwedig lle bo wedi’i gyfuno gyda setiau data eraill
Os bydd trwydded arbrofol yn cael ei chymeradwyo gan y Panel i gychwyn, ar ôl blwyddyn, gallai’r trwyddedai wneud cais am drwydded drafodaethol. Nid yw cymeradwyo trwydded arbrofol yn gwarantu y bydd trwydded drafodaethol yn cael ei chymeradwyo.
3. Sail gyfreithiol
Y sail gyfreithiol dros ddarparu Data Cyhoeddus a Chyfyngedig yw Erthygl 6(e) GDPR y DU. Ble mae data yn ymwneud â throseddau ac eugofarnau mewn Data Cyhoeddus a Chyfyngedig, mae Erthygl 10 GDPR y DU hefyd yn berthnasol.
Mae GLlTEF yn trwyddedu’r Data Cyhoeddus yn unol â’i rwymedigaethau o dan Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth Sector Cyhoeddus 2015
Mae GLlTEF yn trwyddedu’r Data Cyfyngedig ar sail pwerau a etifeddwyd gan yr Arglwydd Ganghellor, yn codi o’i ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd effeithiol ac effeithlon, fel y mynegwyd yn adran 1 o’r Ddeddf Llysoedd 2003, adran 39 o’r Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 ac yn hanfodol i’w gyfrifoldeb o gynnal rheolaeth y gyfraith.
Os yw eich cais yn llwyddiannus, fe gewch ganiatâd gan GLlTEF o dan awdurdod dirprwyedig Ceidwad Cofnodion Cyhoeddus yr Archifau Cyhoeddus, i ailddefnyddio’r wybodaeth.
Heb drwydded, cewch eich atal rhag gwneud unrhyw un o’r canlynol i’r wybodaeth sydd ar gael o dan y Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti.
- copïo’r wybodaeth
- cylchredeg copïau ohoni, p’un a yw’n rhad ac am ddim neu ar werth
- rhentu neu fenthyg copïau ohoni
- gwneud addasiad ohoni
- ei rhannu ar y rhyngrwyd
4. Data personol
Mae rhestrau gwrandawiadau yn cynnwys data fel enwau’r partïon a’r barnwyr a gall hefyd gynnwys manylion a all fod yn sensitif, yn ddibynnol ar y math o restr. Mae trwyddedu yn sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei thrin yn gyfrifol ac yn gyfreithlon. Rhaid i’r sawl sy’n defnyddio’r wybodaeth hon fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a pheidio ag ymyrryd gyda gweinyddu cyfiawnder.
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r rheolydd data at ddibenion hwyluso ac ailddefnyddio’r data, p’un a yw’n golygu dadansoddi cyfrifiadurol neu beidio. Mae hyn yn golygu eu bod yn gyfrifol am gyhoeddi data personol a gynhwysir yn yr wybodaeth sydd wedi’i chyhoeddi ar CaTH.
Wrth hwyluso’r ailddefnydd o’r data personol hwn, mae GLlTEF a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn glynu at God Rhannu Data: Cod Ymarfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Os byddwch yn llwyddo i gael trwydded, byddwch yn dod yn rheolydd data. Gallwch ganfod mwy am beth mae hyn yn ei olygu ar wefan Rheolydd a phroseswyr ICO. Rhaid i chi gydymffurfio â’r gyfraith diogelu data.
5. Diogelu data
Er mwyn ailddefnyddio’r data personol a gyhoeddir gan CaTH, rhaid i chi lynu at delerau’r Cytundeb Rhannu Data a gytunwyd arno gyda GLlTEF yn dilyn derbyn Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti.
Fel rhan o’ch cais ar gyfer y Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti, byddwch angen:
- darparu Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data
- darparu Dogfen Bolisi Priodol os ydych chi’n gwneud cais i ailddefnyddio data troseddau yn gyfrifiadurol ac mae’n ofynnol ar gyfer eich achos ailddefnyddio arfaethedig
- nodi am faint rydych angen cadw’r data, na ddylai fod dim mwy na’r angen ar gyfer eich achos defnydd arfaethedig.
6. Eithriadau
Nid yw’r drwydded hon yn cwmpasu:
- gwybodaeth sydd heb gael ei chyhoeddi neu ei datgelu o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth (gan gynnwys Deddfau Rhyddid Gwybodaeth ar gyfer y DU a’r Alban) neu heb gydsyniad y Trwyddedwr
- arwyddluniau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd
- hawliau trydydd parti nad oes gan y Trwyddedwr yr awdurdod i’w trwyddedu
gwybodaeth sy’n destun hawliau eiddo deallusol eraill, gan gynnwys patentau, hawlfreintiau, a hawliau dylunio.
7. Dim gwarant
Mae’r wybodaeth yn cael ei thrwyddedu ‘fel y mae hi’ ac mae’r Trwyddedwr yn eithrio’r holl gynrychioliadau, gwarantau, rhwymedigaethau ac atebolrwydd yng nghyswllt yr Wybodaeth i’r raddfa fwyaf a ganiateir gan y gyfraith.
Nid yw’r Trwyddedwr yn atebol am unrhyw gamgymeriadau neu esgeulustod yn yr Wybodaeth ac ni fydd yn atebol am unrhyw golled, anaf neu niwed o unrhyw fath a achosir gan ei defnydd.
Nid yw’r Trwyddedwr yn gwarantu bod y setiau data a ddarperir yn gyflawn. Efallai bydd y Trwyddedwr yn dymuno darparu fersiwn gyfyngedig neu fersiwn dienw o’r setiau data ac mae’n cadw’r hawl i wneud hynny.
8. Nid yw’r Trwyddedwr yn gwarantu bydd darpariaeth gyson o’r Wybodaeth ac mae’n cadw’r hawl i roi’r gorau i ddarparu data a thynnu trwydded yn ôl ar unrhyw adeg.
9. Y gyfraith lywodraethol
Mae’r drwydded hon wedi’i llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
10. Ffioedd a godir ar ôl rhoi Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti
Darperir grant cychwynnol y drwydded hon yn rhad ac am ddim am hyd y drwydded.
Mae’n bosibl y cyflwynir taliadau ar gyfer y drwydded yn y dyfodol. Os byddant yn cael eu cyflwyno yn ystod tymor eich trwydded, byddwch ond yn rhwym iddynt ar ôl adnewyddu neu dderbyn trwydded newydd o dan y telerau newydd.
11. Cyn i chi wneud cais
Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd arnoch angen uwchlwytho Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi’i gwblhau .
Efallai bydd arnoch angen cynnwys neu uwchlwytho:
- dogfen bolisi priodol wedi’i chwblhau
- templed safonol cofnodi tryloywder algorithmig wedi’i gwblhau
- manylion unrhyw gynllun ardystio perthnasol
- unrhyw ddogfennau eraill sy’n berthnasol i’ch cais
Cyn dechrau ar gais, dylech gyfeirio at y ddogfen rheoliadau API am alla n i sicrhau bod eich systemau yn cyd-fynd ag API CaTH.
12. Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Cysylltwch â ni os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein neu os oes arnoch angen cymorth i wneud cais.
Bydd GLlTEF yn cadarnhau bod eich cais wedi dod i law. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen mwy o wybodaeth.
13. Y broses adolygu a chymeradwyo
Bydd ceisiadau yn destun gwiriad cwblhau gan Dȋm Mynediad at Ddata a Llywodraethu GLlTEF cyn cael eu hasesu gan y Panel Llywodraethu Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti.
Rydym yn agored ac yn dryloyw a byddwn yn trin yr holl geisiadau i gynnal dadansoddiad cyfrifiadurol o wybodaeth mewn ffordd deg nad yw’n wahaniaethol.
Ni ddylai achosion defnydd arfaethedig fod yn niweidiol i egwyddorion y system gyfiawnder a phrosesu data diogel. Bydd y broses gwneud cais yn asesu pa un a all achosion defnydd arfaethedig effeithio’n andwyol ar y 12 egwyddor canlynol:
- Rheolaeth y Gyfraith
- Cyfiawnder agored
- Annibyniaeth y llysoedd, y tribiwnlysoedd a’r farnwriaeth
- Hyder y cyhoedd yng ngweinyddiaeth cyfiawnder
- Urddas y llys
- Craffu priodol
- Niwed gwrth-wahaniaethol
- Atal rhagfarn
- Preifatrwydd personol
- Y gallu i ddatguddio
- Tryloywder algorithmau
- Cynrychiolaeth ddata cywir
Gall y Panel Llywodraethu Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti ofyn i chi am fwy o wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad.
Ar ôl asesu pob cais, bydd y panel yn gwneud un o’r penderfyniadau canlynol:
- caniatáu’r drwydded
- gwrthod y cais (gyda rhesymau)
- caniatáu’r drwydded gydag amodau
Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo gan y Panel, byddwn yn caniatáu trwydded yn unol â’r amodau priodol ar gyfer defnydd. Bydd y data’n cael ei rannu gyda chi drwy API am allan CaTH. Dylai trwyddedwyr ddilyn egwyddorion a nodir yn y polisi cyhoeddi cyn rhannu unrhyw gynnyrch sy’n deillio o’r wybodaeth a ddarparwyd gan GLlTEF.
Bydd y Panel Llywodraethu Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti yn ystyried y cyfnod cadw gofynnol fel rhan o’i asesiad o’r cais. Mae’n bosibl y bydd y panel angen cyfnod cadw byrrach neu hirach ble bydd hynny’n cael ei gyfiawnhau. Gwneir unrhyw benderfyniad yn unol â pholisi perthnasol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a ble bo’n briodol, cyngor cyfreithiol.
Bydd y cyfnod cadw a gymeradwywyd yn cael ei nodi yn amodau’r drwydded.
Os caiff eich cais ei wrthod gan y panel Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti, byddwn yn rhoi crynodeb o’r rhesymau.
Bydd GLlTEF yn cadw cofnod o’r holl geisiadau. Bydd rhestr o ymgeiswyr llwyddiannus a’u datganiad achos o ddefnydd cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am geisiadau sydd wedi eu gwrthod gan y panel a’r sail ar gyfer gwrthod. Os bydd trwyddedai a gymeradwywyd yn camddefnyddio’r data ac yn torri amodau’r drwydded, byddwn yn cynnwys yr achos heb drwydded yn y rhestr hon.
14. Y broses apelio
Mae gan ymgeiswyr yr hawl i apelio os ydynt yn credu bod:
- y penderfyniad a’r dystiolaeth ar gyfer y penderfyniad yn anghywir neu’n annheg a bod tystiolaeth ategol wedi ei darparu ar gyfer hyn
- ni chafodd tystiolaeth berthnasol ei hystyried trwy gydol y broses gwneud penderfyniadau
- ni chafodd y broses gwneud penderfyniadau ei dilyn yn gywir
- mae amodau sydd wedi’u datgan yn anghymesur â’r hyn sydd wedi’i amlinellu o fewn y ffurflen gais
Dylid gwneud unrhyw apêl o fewn 20 diwrnod gwaith o dderbyn hysbysiad o benderfyniad y panel.
Cyn cyflwyno apêl, gall ymgeiswyr wneud cais am:
- eglurhad o’r penderfyniad a wnaed gan y Panel Llywodraethu Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti
- crynodeb o’r dystiolaeth a ystyriwyd. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chynnwys o fewn unrhyw benderfyniad i wrthod. Fodd bynnag, gellir ei hailadrodd os oes angen
Anogir y cam hwn i helpu i ddatrys unrhyw gamddealltwriaeth heb fynd trwy’r broses o apêl.
Os ydych dal yn anfodlon â’r ymateb ac yr hoffech apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed, gallwch gyflwyno apêl ysgrifenedig ffurfiol. Byddwn yn cynnal adolygiad mewnol o’r mater ac yn anelu i ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad derbyn.
I apelio yn erbyn penderfyniad, cysylltwch â ni ar-lein (argymhellir):
thirdpartydatalicence@justice.gov.uk
Os na allwch gysylltu â ni ar-lein, gallwch ysgrifennu atom yn:
Tim Mynediad at Ddata a Llywodraethu - Trwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti / Data Access & Governance Team – Third-Party Courts and Tribunals Data Licence
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF/HM Courts & Tribunals Service
Post point 6.32-34
102 Petty France
Llundain / London
SW1H 9AJ
Dylech gynnwys:
- eich enw ac enw eich sefydliad
- y dyddiad gwnaethpwyd y cais
- y dyddiad rydych wedi derbyn hysbysiad o benderfyniad y panel
- manylion eich pryderon ynghylch y penderfyniad
- unrhyw wybodaeth ategol rydych yn dymuno i ni ei hystyried
Ar ôl derbyn eich apêl:
- os bydd eich apêl yn cael ei derbyn: byddwn yn amlinellu manylion ein cynnig a’r camau nesaf perthnasol
- Os gwrthodir eich Apêl: byddwn yn anfon ymateb ysgrifenedig yn esbonio’r rhesymau dros ein penderfyniad
- Os cefnogir y penderfyniad: byddwn yn cadarnhau’r rhesymau dros gynnal y penderfyniad
15. Diffiniadau
Yn y canllawiau hyn, mae’r telerau isod yn cynnwys yr ystyr canlynol:
- Mae ‘gwybodaeth’ yn golygu gwybodaeth sydd wedi’i diogelu gan hawlfraint neu gan hawl cronfa ddata a gynigiwyd i’w ddefnyddio o dan telerau’r drwydded hon, sef rhestrau llysoedd a thribiwnlysoedd a gyhoeddir gan GLlTEF
- Mae ‘Trwyddedwr’ yn golygu (a) yng nghyswllt hawlfraint, yr Arglwydd Ganghellor ac (b) yng nghyswllt hawl cronfa ddata, yr Arglwydd Ganghellor, o dan awdurdod dirprwyedig y Ceidwad Cofnodion Cyhoeddus.
- Mae ‘defnyddio’ fel berf yn golygu unrhyw weithred sydd wedi’i gyfyngu gan hawlfraint neu hawl cronfa ddata, p’un a yw’n gyfrwng gwreiddiol neu unrhyw gyfrwng arall, ac yn cynnwys heb gyfyngiad, cylchredeg, copïo, addasu, newid fel y gall fod yn angenrheidiol yn dechnegol i’w ddefnyddio mewn modd neu fformat gwahanol.
- Mae ‘chi’ yn golygu’r unigolyn naturiol neu gyfreithiol, neu gorff unigolion corfforaethol neu anghorfforaethol, sydd â hawliadau o dan y drwydded hon.
16. Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Drwydded Data Llysoedd a Thribiwnlysoedd i Drydydd Parti, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost: thirdpartydatalicence@justice.gov.uk
Maent yn parhau i ddatblygu CaTH yn rhagweithiol yn seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys gwella’r profiad o sut gall ailddefnyddwyr y data gael mynediad at y data.
Os ydych yn credu bod rhestrau llysoedd a thribiwnlysoedd y dylem fod yn eu cyhoeddi ar goll o’r gwasanaeth, neu os oes arnoch angen cysylltu â ni ynghylch ymholiad arall, anfonwch e-bost i [publicationsinformation@justice.gov.uk]
Gallwch ddarparu adborth am y gwasanaeth trwy lenwi ein ffurflen adborth
© Hawlfraint y Goron 2026
Mae’r penderfyniadau barnwrol a’r achosion, data gwrandawiadau, cofrestrau a rhestrau a’r wybodaeth a gynhyrchir ar gyfer gweinyddu cyfiawnder yn hawlfraint y Goron neu gronfa ddata’r Goron ac fe ailgynhyrchir gyda chaniatâd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF dan awdurdod dirprwyedig Y Ceidwad Cofnodion Cyhoeddus.