Gwneud cais am warant reolaeth
Gofyn i'r llys gasglu arian sy'n ddyledus i chi os oes gennych orchymyn llys heb ei dalu. Gelwir yn 'warant reolaeth'. Mae'n cynnwys y ffurflen gais N323.
Trosolwg
Os nad ydy rhywun wedi talu arian sy’n ddyledus ganddynt i chi ar ôl i’r llys orchymyn iddynt, gallwch wneud cais am ‘warant reolaeth’ i orfodi’r dyfarniad. Mae gwarant i weithredu yn rhoi’r awdurdod i asiant gorfodi’r llys fynd â nwyddau o gartref neu fusnes y diffynnydd i setlo’r ddyled.
Cyn gwneud cais, dylech ddarllen y canllawiau ar beth i’w wneud os na fydd diffynnydd yn talu arian yn dilyn dyfarniad (EX321). Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu pa un ai gwneud cais am warant yw’r ffordd orau o weithredu.
Bydd gwarant reolaeth ond yn eich helpu os yw’r diffynnydd (dyledwr) naill ai gyda:
- yr arian yr ydych yn ei hawlio ar y warant i gyd
- digon o nwyddau yn y cyfeiriad a roddwyd gennych y gellid eu gwerthu mewn arwerthiant i godi arian i chi
Cyn gall y llys godi gwarant, mae’n rhaid i’r diffynnydd:
- fod wedi methu talu’r swm y gorchmynnwyd iddo ef neu hi ei dalu
- fod wedi peidio â thalu o leiaf un o’i daliadau/thaliadau
Mae hyn yn cael ei alw’n fod ‘mewn ôl-ddyled’.
Cyn i chi benderfynu sut i fwrw ymlaen, mae angen i chi ystyried a ydych chi’n debygol o gael yr arian sy’n ddyledus i chi a ffi’r llys gan y diffynnydd. Ni all y llys warantu y cewch eich arian yn ôl.
Am faint y gallwch godi gwarant
Mae faint y gallwch godi gwarant yn dibynnu pa lys yr ydych yn gwneud cais iddo.
Llys sirol
Os yw’r swm sy’n ddyledus i chi yn £10 neu lai, ni allwch wneud cais am warant reolaeth.
Os ydych yn gwneud cais mewn llys sirol, gall yr asiantau gorfodi geisio cael unrhyw swm hyd at £5,000. Ni allwch ofyn i’r llys godi gwarant am fwy na £5,000. Os oes mwy na hyn yn ddyledus i chi a’ch bod yn dymuno gorfodi’r swm llawn, gallwch drosglwyddo eich dyfarniad i’r Uchel Lys.
Os yw’r swm sy’n ddyledus i chi rhwng £600 a £5,000 gallwch ddewis codi gwarant mewn llys sirol neu yn yr Uchel Lys. Ni all staff y llys ddweud wrthych pa un o’r ddau ddewis sydd fwyaf tebygol o gael yr arian i chi. Felly, efallai y dymunwch gael cymorth neu gyngor cyfreithiol.
Os ydych yn gwneud cais i orfodi cytundeb a reoleiddiwyd gan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr, gallwch ond gwneud cais mewn llys sirol ac nid oes yna derfyn uchaf.
Llys teulu
Os ydych yn gwneud cais mewn llys teulu, gall yr asiantau gorfodi geisio cael unrhyw swm o arian yn ôl.
Yr Uchel Lys
Os ydych yn gwneud cais yn yr Uchel Lys, byddwch yn gofyn am ‘writ rheolaeth’ - mae hyn yn cyfateb i warant reolaeth yr Uchel Lys. Byddwch angen ‘tystysgrif dyfarniad’ sydd â manylion eich achos ac mae’n dweud faint sy’n ddyledus i chi.
Mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen tystysgrif dyfarniad cyfunol a chais am writ rheolaeth neu writ meddiant (N293A). Llenwi rhan 1 a’i anfon i naill ai’r:
Os na fyddwch yn llenwi rhan 1 yn llawn, efallai bydd yn rhaid i’r llys ei dychwelyd atoch.
Rhaid i chi ddarparu’r canlynol:
- dyddiad y dyfarniad
- y swm y gwnaethpwyd y gorchymyn ar ei gyfer, gan gynnwys unrhyw gostau ychwanegol a ganiatawyd gan y llys ers y dyfarniad
- cyfanswm unrhyw log sydd wedi cronni ar y dyfarniad
- y gyfradd ddyddiol, os yn briodol
Mae gweithdrefn yr Uchel Lys yn wahanol i’r llys sirol a’r llys teulu ac mae’n gallu bod yn gymhleth ac yn fwy costus. Efallai y dymunwch gael cyngor cyn dechrau’r broses hon.
Mae rhai canolfannau gwrandawiadau llys sirol hefyd yn gofrestrfeydd dosbarth i’r Uchel Lys. Gall y staff yno neu yn yr Uchel Lys yn Llundain ddweud rhagor wrthych chi am orfodaeth Uchel Lys.
Gwneud cais i gyhoeddi gwarant
Gallwch ofyn i’r asiant gorfodi gasglu’r swm cyfan sy’n ddyledus i chi.
Neu, yr isafswm y gallwch ofyn iddynt gasglu yw pa un bynnag yw’r swm mwyaf o:
- ran o’r swm sy’n ddyledus
- un rhandaliad misol
- pedwar rhandaliad wythnosol
- £50
Cost a sut i dalu
Mae cost gwarant rheolaeth (neu gwrit rheolaeth yn yr Uchel Lys) yn dibynnu ar y math o lys yr ydych yn gwneud cais ynddo:
- llys sirol – £94
- llys teulu – £114
- Yr Uchel Lys – £80
Dylech dalu’r ffi gyda siec neu archeb bost yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi’. Dylech gynnwys y taliad gyda’ch ffurflen pan fyddwch yn ei hanfon.
Os gwnaethoch ddechrau hawliad llys sirol ar-lein, gofynnir i chi dalu ar-lein yn defnyddio cerdyn credyd neu ddebyd.
Ble i anfon y ffurflen
Dylech anfon eich ffurflen, gyda thaliad i’r llys wnaeth gyhoeddi’r dyfarniad yn gorchymyn i’r diffynnydd dalu’r hyn sy’n ddyledus i chi.
Os gwnaethoch ddechrau hawliad llys sirol ar-lein gallwch gyflwyno’r ffurflen a thalu’r ffi ar-lein.
Os byddwch eisiau cadarnhad bod y warant wedi ei chodi, a gwybod rhif y warant, dylech hefyd anfon amlen barod gyda stamp at y llys.
Os bydd y diffynnydd yn anfon unrhyw daliadau atoch ar ôl i chi anfon y ffurflen i’r llys, mae’n rhaid i chi ddweud wrth y llys ar unwaith.
Beth fydd y llys yn ei wneud
Unwaith y bydd y llys yn cymeradwyo eich cais, bydd yn cyhoeddi’r warant i asiant gorfodi ardystiedig sy’n cynnwys cyfeiriad y diffynnydd. Bydd yr asiant gorfodi fel rheol yn anfon llythyr at y diffynnydd yn dweud bod gwarant wedi ei chodi a bod yn rhaid iddo/iddi dalu o fewn 7 diwrnod gwaith.
Os bydd y diffynnydd yn talu, bydd y llys yn anfon yr arian atoch. Gallai hyn gymryd hyd at 15 niwrnod gwaith os ydy’r diffynnydd wedi talu drwy siec.
Yn hytrach gall y diffynnydd dalu rhan o’r arian a gwneud cais i’r warant gael ei gohirio (stopio). Bydd y llys yn anfon copi o gais y diffynnydd, ynghyd â ffurflen arall ar gyfer eich ymateb i’w cais i ohirio’r warant (ffurflen N246A). Bydd hyn yn dweud wrthych beth i’w wneud os:
- ydych yn cytuno i’r warant gael ei gohirio ac yn derbyn cynnig y diffynnydd i dalu
- ydych yn cytuno i’r gohiriad ond eich bod yn credu y gallai’r diffynnydd dalu mwy nag y mae ef neu hi wedi ei gynnig
- nad ydych yn cytuno i’r warant gael ei gohirio
Os ydych yn cytuno i’r gohiriad
Os ydych yn cytuno i’r gohiriad a’r cynnig, bydd y llys yn anfon yr arian unwaith y bydd y diffynnydd wedi talu.
Os ydych yn cytuno i ohirio ond yn anghytuno â chynnig y diffynnydd, bydd swyddog o’r llys yn edrych ar yr wybodaeth a roddwyd ar gais y diffynnydd ac yn penderfynu faint all y diffynnydd fforddio ei dalu. Bydd y llys yn anfon gorchymyn at y diffynnydd yn dweud wrtho/wrthi faint i’w dalu a phryd. Bydd copi yn cael ei anfon atoch.
Os nad ydych yn cytuno gyda phenderfyniad swyddog y llys, gallwch ofyn iddo gael ei adolygu gan farnwr. Bydd angen i chi ysgrifennu i’r llys yn dweud pam eich bod yn gwrthwynebu penderfyniad swyddog y llys gan nodi eich rhesymau.
Mae’n rhaid i chi anfon ffurflen N246A neu eich llythyr i’r llys o fewn 16 diwrnod o ddyddiad y marc post ar yr amlen y daeth y gorchymyn ynddi. Bydd y llys yn trefnu apwyntiad a chewch chi a’r diffynnydd wybod pryd i ddod i’r llys. Ni chodir unrhyw ffi am yr apwyntiad hwn. Os nad ewch chi i’r apwyntiad hwn, gall y barnwr wneud gorchymyn beth bynnag.
Os nad ydych yn cytuno â’r gohiriad
Bydd y llys yn trefnu apwyntiad a chewch chi a’r diffynnydd wybod pryd i ddod i’r llys. Gallwch ysgrifennu i’r llys yn dweud pam eich bod yn gwrthwynebu. Ond, os na fyddwch yn mynd i’r apwyntiad, mae’n bosib y bydd y barnwr yn gwneud gorchymyn beth bynnag.
Os bydd y warant yn cael ei gohirio ond nad yw’r diffynnydd yn talu
Os bydd y warant yn cael ei gohirio ond nad yw’r diffynnydd yn talu’r hyn y gwnaethant gytuno neu y gorchmynnwyd iddynt dalu, gallwch ofyn i’r llys ailgyhoeddi’r warant (ffurflen N445). Nid oes ffi am ail-godi gwarant sydd wedi ei gohirio.
Faint mae’r warant yn para
Mae’r warant yn para am flwyddyn. Os nad ydy’r diffynnydd wedi talu, neu os nad ydy’r asiant gorfodi wedi gwneud adroddiad terfynol o fewn yr amser hwnnw, nid yw bellach yn ddilys.
Gallwch wneud cais i’r llys i ‘ymestyn oes y warant’ yn defnyddio hysbysiad cais (Ffurflen N244). Bydd yn rhaid i chi dalu ffi o £119 am ofyn i’r llys wneud hynny. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn i flwyddyn y warant ddod i ben – fel arall, bydd yn rhaid i chi roi rhesymau pam na wnaethoch hynny’n gynt.
Os nad ydy’r llys yn cytuno i ymestyn y warant, a’ch bod chi’n dal i fod eisiau i’r gorfodaeth fwrw ymlaen, bydd yn rhaid i chi ofyn am warant newydd a thalu ffi arall.
Sut caiff y warant ei gorfodi
Os nad yw’r diffynnydd yn talu o fewn 15 diwrnod gwaith o gyhoeddi’r warant, bydd yr asiant gorfodi yn galw yn y cyfeiriad a roddwyd gennych.
Bydd yr asiant yn ceisio casglu taliad. Os nad ydynt yn gallu, byddant yn nodi nwyddau y gallant eu gwerthu mewn arwerthiant. Bydd yr asiant yn tynnu cost cymryd, storio a gwerthu’r nwyddau o’r swm a godwyd ganddynt. Bydd y llys yn anfon gweddill yr arian atoch ar ôl gwneud hyn.
Os na fydd y swm hwn yn ad-dalu’r swm sy’n ddyledus i chi, bydd yr asiant yn ymweld â’r diffynnydd eto i weld a oes unrhyw nwyddau eraill y gellid eu gwerthu. Os nad oes, ni fydd yr asiant yn gallu gweithredu ymhellach ar y warant.
Os byddwch yn rhoi mwy nag un cyfeiriad, bydd yr asiant yn ymweld â phob cyfeiriad yn ei dro nes bydd wedi mynd â digon o nwyddau ar gyfer yr hyn sy’n ddyledus.
Pwerau asiantau gorfodi i fynd i mewn i eiddo
Ni all asiantau gorfodi fynd i mewn i dŷ’r dyledwr oni bai eu bod yn cael eu gadael i mewn gan y sawl sydd yno. Neu, os nad oes neb yno, yna gall yr asiant fynd i mewn os nad yw’r drws wedi ei gloi. Gallant fynd i mewn hefyd os ydynt wedi cael caniatâd i fynd i mewn o’r blaen ac yn dychwelyd i gasglu nwyddau i’w gwerthu.
Mae’n bosib y gall asiantau dorri i mewn i adeiladau busnes os nad oes lleoedd byw yn gysylltiedig â’u bod yn credu bod nwyddau’r diffynnydd y tu mewn.
Nwyddau y gall asiantau gorfodi fynd â nhw
Ni all yr asiant gorfodi gymryd nwyddau oni bai eu bod yn perthyn i’r diffynnydd neu ei fod yn berchen arnynt ar y cyd. Er enghraifft, ni all yr asiant gymryd nwyddau sydd wedi eu profi eu bod yn perthyn i bartner y diffynnydd yn unig.
Bydd asiantau ond yn cymryd nwyddau os byddant yn credu y byddant yn codi digon i dalu rhywfaint tuag at y warant ar ôl talu costau eu cymryd a’u gwerthu mewn arwerthiant.
Ni fydd yr asiant gorfodi yn mynd ag eitemau fel dodrefn ail-law neu
eitemau trydanol os nad ydynt yn debyg o wneud llawer mewn arwerthiant.
Nwyddau na all asiantau gorfodi fynd â nhw
Ni all asiant gorfodi gymryd:
- eitemau y mae’r diffynnydd eu hangen ar gyfer ei waith neu ei fusnes, fel offer crefftwr neu lyfrau
- eitemau sylfaenol mewn cartref y mae’r diffynnydd a’i deulu eu hangen, fel dillad a dillad gwely
- eitemau sydd wedi eu prydlesu, eu rhentu neu sydd ar gytundebau hurbwrcas gan gynnwys ceir
- nwyddau sydd eisoes wedi eu meddiannu gan asiant gorfodi yn gweithredu dan warant arall.
- unrhyw offer nad yw’n perthyn i fusnes y diffynnydd, fel dodrefn swyddfa, peiriannau a cherbydau wedi eu prydlesu
Mae’n bosib na fydd dim yn perthyn i gwmni’r diffynnydd yn ei swyddfa gofrestredig. Os gallwch, rhowch gyfeiriad lle mae’r cwmni yn gweithredu ei fusnes.
Cael help neu gyngor
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am y cais a gyflwynwyd ar gyfer gwarant rheolaeth, dylech gysylltu gyda’r llys wnaeth gyhoeddi’r warant. Llys lleol y diffynnydd fydd hwn fel arfer.
Cyn cysylltu â’r llys, dylech gael y manylion canlynol wrth law:
- enw a chyfeiriad y diffynnydd
- rhif y warant (os ydych yn ei wybod)
- rhif yr hawliad
Cyn dechrau eich cais, mae’n bosibl y byddwch yn dymuno cael cyngor cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr. Gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol am ddim yn un o ganolfannau’r gyfraith neu gan ganolfan Cyngor ar Bopeth
Canolfannau’r gyfraith
Mae gwefan Rhwydwaith Canolfannau’r Gyfraith yn rhoi manylion ynglŷn â sut i gysylltu gyda chanolfannau’r gyfraith lleol. Mae canolfannau’r gyfraith lleol yn rhoi cyngor wyneb i wyneb am ddim i bobl leol sy’n methu fforddio talu am gyfreithiwr. Mae rhai ohonynt hefyd yn rhoi cyngor dros y ffôn.
Cyngor ar Bopeth
Elusen a rhwydwaith o elusennau lleol sy’n cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb - yn rhad ac am ddim.
Sgwrsio ar-lein gydag ymgynghorydd
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Rhif ffôn: 0800 702 2020 (Cymru), 0800 144 8848 (Lloegr)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm