Canllawiau

Archwiliad crynhoad anifeiliaid

Gwybodaeth i ganolfannau casglu a pherchenogion meysydd sioe am archwiliadau a gynhelir ar safleoedd lle y caiff da byw eu crynhoi.

Pwy sy’n cael ei archwilio

Dim ond os byddwch yn cyflwyno cais neu gais i adnewyddu i weithredu fel canolfan gasglu neu faes sioe y cewch eich archwilio. Cynhelir y rhan fwyaf o archwiliadau ar safleoedd penodedig (nad ydynt yn ffermydd) megis tir cyhoeddus a ddefnyddir ar gyfer sioeau.

Os ydych yn adnewyddu eich cais, bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn cynnal asesiad risg er mwyn penderfynu a oes angen archwiliad.

Beth sy’n cael ei archwilio

Caiff safleoedd sy’n gwneud cais am drwydded crynhoi anifeiliaid eu harchwilio ar adeg y cais. Mae’r arolygydd yn asesu addasrwydd y safle ar gyfer y crynhoad, gan gynnwys:

  • arwynebau y gellir eu glanhau a’u diheintio
  • y pellter gwahanu oddi wrth weithgarwch anifeiliaid cyfagos

Amser a hyd

Mae archwiliadau yn cymryd rhwng 1 a 4 awr. Cytunir ar amser cyfarfod â gweithredwr y safle.

Mae cymeradwyaethau yn para am flwyddyn.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Mae arolygwyr APHA yn anfon copïau o ddogfennau perthnasol, megis y drwydded, i’r cyngor lleol gyda chyfundrefn cydymffurfio ac archwilio a argymhellir.

Mae’n bosibl y bydd archwiliadau dilynol, a gynhelir fel arfer gan eich awdurdod lleol.

Bydd y cyngor a roddir i chi gan yr arolygwyr yn gallu datrys y rhan fwyaf o broblemau. Os byddwch wedi torri unrhyw reolau mae’n bosibl y cewch eich cyfeirio ar yr awdurdod lleol er mwyn iddo ymchwilio i’r mater, o bosibl.

Cyhoeddwyd ar 12 January 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 June 2019 + show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.