Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Medi 2017
Cyhoeddwyd 14 Tachwedd 2017
Yn berthnasol i Gymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2017
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£152,661
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
5.3%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
0.6%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Chwefror 2015 = 100) oedd
112.1
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Newid mewn prisiau
2.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog gan 5.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2017 (i fyny o 4.4% yn y flwyddyn hyd at Awst 2017).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anghysondeb yn y gyfres. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer anghysondeb, gall y newid mewn prisiau ar y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo mewn unrhyw gyfnod arbennig.
Awdurdodau lleol | Medi 2017 | Medi 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £142,708 | £137,733 | 3.6% |
Blaenau Gwent | £85,165 | £79,233 | 7.5% |
Bro Morgannwg | £209,827 | £206,525 | 1.6% |
Caerdydd | £195,774 | £190,535 | 2.7% |
Caerffili | £130,651 | £121,360 | 7.7% |
Casnewydd | £160,630 | £151,848 | 5.8% |
Castell-nedd Port Talbot | £113,069 | £107,096 | 5.6% |
Ceredigion | £187,316 | £173,684 | 7.8% |
Conwy | £156,396 | £145,401 | 7.6% |
Gwynedd | £150,513 | £140,350 | 7.2% |
Merthyr Tudful | £94,775 | £95,295 | -0.5% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £147,168 | £136,434 | 7.9% |
Powys | £171,961 | £170,953 | 0.6% |
Rhondda Cynon Taf | £104,958 | £104,173 | 0.8% |
Sir Benfro | £165,961 | £155,848 | 6.5% |
Sir Ddinbych | £145,985 | £143,242 | 1.9% |
Sir Fynwy | £240,063 | £223,381 | 7.5% |
Sir y Fflint | £164,944 | £154,614 | 6.7% |
Sir Gaerfyrddin | £133,157 | £135,934 | -2.0% |
Tor-faen | £134,726 | £126,610 | 6.4% |
Wrecsam | £152,772 | £148,717 | 2.7% |
Ynys Môn | £160,680 | £154,294 | 4.1% |
Cymru | £152,661 | £144,976 | 5.3% |
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Medi 2017, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Trefynwy, lle mai £240,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £85,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Medi 2017 | Medi 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £230,342 | £218,339 | 5.5% |
Tŷ pâr | £147,025 | £139,442 | 5.4% |
Tŷ teras | £118,417 | £112,455 | 5.3% |
Fflat neu fflat deulawr | £108,456 | £104,114 | 4.2% |
Holl | £152,661 | £144,976 | 5.3% |
3. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn effeithio ar nifer y gwerthiannau ar gyfer adeiladau newydd yn y misoedd mwy diweddar. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Gorffennaf 2017 | Gorffennaf 2016 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | 304 | 296 | 2.7% |
Blaenau Gwent | 73 | 65 | 12.3% |
Bro Morgannwg | 182 | 216 | -15.7% |
Caerdydd | 410 | 549 | -25.3% |
Caerffili | 211 | 202 | 4.5% |
Casnewydd | 177 | 201 | -11.9% |
Castell-nedd Port Talbot | 135 | 155 | -12.9% |
Ceredigion | 75 | 71 | 5.6% |
Conwy | 212 | 190 | 11.6% |
Gwynedd | 123 | 135 | -8.9% |
Merthyr Tudful | 56 | 75 | -25.3% |
Pen-y-bont ar Ogwr | 154 | 202 | -23.8% |
Powys | 133 | 160 | -16.9% |
Rhondda Cynon Taf | 271 | 329 | -17.6% |
Sir Benfro | 121 | 152 | -20.4% |
Sir Ddinbych | 127 | 126 | 0.8% |
Sir Gaerfyrddin | 235 | 212 | 10.8% |
Sir Fynwy | 133 | 127 | 4.7% |
Sir y Fflint | 160 | 242 | -33.9% |
Tor-faen | 108 | 97 | 11.3% |
Wrecsam | 109 | 177 | -38.4% |
Ynys Môn | 84 | 78 | 7.7% |
Cymru | 3,599 | 4,057 | -11.3% |
3.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Gorffennaf 2013 | 3,329 |
Gorffennaf 2014 | 4,151 |
Gorffennaf 2015 | 4,469 |
Gorffennaf 2016 | 4,057 |
Gorffennaf 2017 | 3,599 |
4. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru: Medi 2017
Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £198,205 | 2.2% | 7.6% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £149,872 | 0.5% | 5.1% |
5. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru: Medi 2017
Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £131,735 | 0.5% | 5.0% |
Cyn berchen-feddiannydd | £177,098 | 0.6% | 5.6% |
6. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru: Medi 2017
Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £148,467 | 0.4% | 4.9% |
Morgais | £155,149 | 0.6% | 5.5% |
7. Nifer yr adfeddiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer yr adfeddiannau yn ôl rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Gorffennaf 2017 |
---|---|
Cymru | 54 |
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084.