Ystadegau Swyddogol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Hydref 2017

Cyhoeddwyd 12 December 2017

Applies to Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2017

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£153,316

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

4.5%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

0.8%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

112.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Newid mewn prisiau

2.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years (Welsh)

Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017 (i lawr o 4.9% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2017).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anghysondeb yn y gyfres. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer anghysondeb, gall y newid mewn prisiau ar y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo mewn unrhyw gyfnod arbennig.

Awdurdodau lleol Hydref 2017 Hydref 2016 Gwahaniaeth
Abertawe £143,117 £137,171 4.3%
Blaenau Gwent £86,853 £80,283 8.2%
Bro Morgannwg £215,589 £203,882 5.7%
Caerdydd £199,747 £189,351 5.5%
Caerffili £126,105 £121,643 3.7%
Casnewydd £165,133 £151,835 8.8%
Castell-nedd Port Talbot £112,816 £108,670 3.8%
Ceredigion £179,025 £171,042 4.7%
Conwy £159,798 £148,362 7.7%
Gwynedd £158,721 £143,527 10.6%
Merthyr Tudful £99,370 £92,846 7%
Pen-y-bont ar Ogwr £145,078 £135,934 6.7%
Powys £179,091 £172,704 3.7%
Rhondda Cynon Taf £102,707 £104,068 -1.3%
Sir Benfro £161,589 £158,276 2.1%
Sir Ddinbych £145,353 £140,326 3.6%
Sir Fynwy £236,970 £225,881 4.9%
Sir y Fflint £165,219 £153,140 7.9%
Sir Gaerfyrddin £137,485 £134,860 1.9%
Tor-faen £128,582 £127,448 0.9%
Wrecsam £153,495 £149,564 2.6%
Ynys Môn £159,365 £157,617 1.1%
Cymru £153,316 £146,658 4.5%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales (Welsh)

Yn Hydref 2017, yr ardal ddrutaf i fyw ynddi oedd Sir Fynwy, lle mai £237,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £87,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Hydref 2017 Hydref 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £232,632 £221,467 5.0%
Tŷ pâr £147,751 £140,764 5.0%
Tŷ teras £117,344 £113,437 3.4%
Fflat neu fflat deulawr £112,457 £106,393 5.7%
Holl £153,316 £146,658 4.5%

3. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn effeithio ar nifer y gwerthiannau ar gyfer adeiladau newydd yn y misoedd mwy diweddar. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Awst 2017 Awst 2016 Gwahaniaeth
Abertawe 281 286 -1.7%
Blaenau Gwent 60 62 -3.2%
Bro Morgannwg 199 222 -10.4%
Caerdydd 467 500 -6.6%
Caerffili 230 233 -1.3%
Casnewydd 216 275 -21.5%
Castell-nedd Port Talbot 170 168 1.2%
Ceredigion 87 75 16.0%
Conwy 207 203 2.0%
Gwynedd 137 151 -9.3%
Merthyr Tudful 72 77 -6.5%
Pen-y-bont ar Ogwr 199 186 7.0%
Powys 164 179 -8.4%
Rhondda Cynon Taf 312 302 3.3%
Sir Benfro 156 161 -3.1%
Sir Ddinbych 133 106 25.5%
Sir Gaerfyrddin 211 251 -15.9%
Sir Fynwy 120 144 -16.7%
Sir y Fflint 212 201 5.5%
Tor-faen 90 106 -15.1%
Wrecsam 153 142 7.7%
Ynys Môn 98 91 7.7%
Cymru 3,982 4,122 -3.4%

3.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Awst 2013 3,532
Awst 2014 4,084
Awst 2015 3,918
Awst 2016 4,122
Awst 2017 3,982

4. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Awst 2017 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £205,859 1.1% 11.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £148,981 1.1% 4.2%

Sylwer: ar gyfer y datganiad hwn, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.

5. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Hydref 2017 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £132,074 0.7% 4.1%
Cyn berchen-feddiannydd £178,185 1.0% 5.0%

6. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Hydref 2017 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £149,636 1.0% 4.4%
Morgais £155,503 0.7% 4.6%

7. Nifer yr adfeddiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer yr adfeddiannau

Gwlad Awst 2017
Cymru 68

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084.