Ystadegau Swyddogol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Tachwedd 2017

Cyhoeddwyd 16 January 2018

Applies to Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2017

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£152,855

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

4.5%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

-0.7%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

112.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Newid mewn prisiau

2.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years graph (Welsh)

Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.5% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017 (i lawr o 4.9% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anghysondeb yn y gyfres. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer anghysondeb, gall y newid mewn prisiau ar y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo mewn unrhyw gyfnod arbennig.

Awdurdodau lleol Tachwedd 2017 Tachwedd 2016 Gwahaniaeth
Abertawe £140,790 £136,960 2.8%
Blaenau Gwent £87,564 £81,298 7.7%
Bro Morgannwg £209,314 £205,377 1.9%
Caerdydd £198,649 £189,768 4.7%
Caerffili £128,449 £119,683 7.3%
Casnewydd £161,972 £151,858 6.7%
Castell-nedd Port Talbot £116,036 £110,435 5.1%
Ceredigion £192,742 £172,407 11.8%
Conwy £161,506 £150,409 7.4%
Gwynedd £148,898 £147,388 1%
Merthyr Tudful £96,514 £92,983 3.8%
Pen-y-bont ar Ogwr £148,490 £136,471 8.8%
Powys £176,467 £171,393 3%
Rhondda Cynon Taf £109,687 £100,602 9%
Sir Benfro £161,002 £160,412 0.4%
Sir Ddinbych £146,335 £141,614 3.3%
Sir Fynwy £247,579 £225,609 9.7%
Sir y Fflint £167,764 £154,978 8.3%
Sir Gaerfyrddin £136,140 £135,400 0.5%
Tor-faen £128,250 £129,178 -0.7%
Wrecsam £150,453 £149,795 0.4%
Ynys Môn £172,113 £159,681 7.8%
Cymru £152,855 £146,278 4.5%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales heat map (Welsh)

Yn Nhachwedd 2017, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £248,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £88,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Tachwedd 2017 Tachwedd 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £231,696 £222,255 4.2%
Tŷ pâr £147,643 £140,306 5.2%
Tŷ teras £117,939 £112,457 4.9%
Fflat neu fflat deulawr £107,952 £106,699 1.2%
Holl £152,855 £146,278 4.5%

3. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Medi 2017 Medi 2016 Gwahaniaeth
Abertawe 269 326 -17.5%
Blaenau Gwent 77 74 4.1%
Bro Morgannwg 172 223 -22.9%
Caerdydd 444 485 -8.5%
Caerffili 234 220 6.4%
Casnewydd 234 250 -6.4%
Castell-nedd Port Talbot 152 165 -7.9%
Ceredigion 67 80 -16.3%
Conwy 176 181 -2.8%
Gwynedd 149 194 -23.2%
Merthyr Tudful 67 75 -10.7%
Pen-y-bont ar Ogwr 162 193 -16.1%
Powys 165 146 13.0%
Rhondda Cynon Taf 298 277 7.6%
Sir Benfro 140 152 -7.9%
Sir Ddinbych 126 86 46.5%
Sir Gaerfyrddin 235 228 3.1%
Sir Fynwy 117 159 -26.4%
Sir y Fflint 170 191 -11.0%
Tor-faen 114 106 7.5%
Wrecsam 124 163 -23.9%
Ynys Môn 76 80 -5.0%
Cymru 3,786 4,054 -6.6%

3.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Medi 2013 3,218
Medi 2014 3,654
Medi 2015 3,801
Medi 2016 4,054
Medi 2017 3,786

4. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Medi 2017 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £208,793 0.5% 13.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £149,773 0.4% 5.0%

Sylwer: ar gyfer y datganiad hwn, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.

5. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Tachwedd 2017 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £132,177 -0.4% 4.7%
Cyn berchen-feddiannydd £176,931 -1.0% 4.3%

Sylwer: ar gyfer y datganiad hwn, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.

6. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Tachwedd 2017 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £148,829 -0.7% 4.0%
Morgais £155,246 -0.7% 4.8%

7. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Medi 2017
Cymru 60

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084.