Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Rhagfyr 2017
Cyhoeddwyd 13 Chwefror 2018
Yn berthnasol i Gymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2017
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£154,398
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
5.4%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
1.0%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd
113.4
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Newid mewn prisiau
2.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years welsh
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog gan 5.4% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017 (i fyny o 4.5% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anghysondeb yn y gyfres. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer anghysondeb, gall y newid mewn prisiau ar y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo mewn unrhyw gyfnod arbennig.
| Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2017 | Rhagfyr 2016 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £141,087 | £138,488 | 1.9% |
| Blaenau Gwent | £85,884 | £82,587 | 4% |
| Bro Morgannwg | £208,828 | £206,172 | 1.3% |
| Caerdydd | £200,363 | £189,115 | 5.9% |
| Caerffili | £127,228 | £118,491 | 7.4% |
| Casnewydd | £168,000 | £153,269 | 9.6% |
| Castell-nedd Port Talbot | £114,522 | £108,102 | 5.9% |
| Ceredigion | £183,729 | £172,275 | 6.6% |
| Conwy | £164,322 | £150,868 | 8.9% |
| Gwynedd | £152,876 | £148,223 | 3.1% |
| Merthyr Tudful | £99,862 | £91,891 | 8.7% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £149,473 | £138,518 | 7.9% |
| Powys | £181,038 | £171,812 | 5.4% |
| Rhondda Cynon Taf | £106,175 | £101,567 | 4.5% |
| Sir Benfro | £165,450 | £161,088 | 2.7% |
| Sir Ddinbych | £144,829 | £142,220 | 1.8% |
| Sir Fynwy | £242,459 | £226,046 | 7.3% |
| Sir y Fflint | £166,094 | £158,419 | 4.8% |
| Sir Gaerfyrddin | £142,664 | £134,759 | 5.9% |
| Tor-faen | £131,451 | £127,957 | 2.7% |
| Wrecsam | £152,225 | £152,153 | 0% |
| Ynys Môn | £168,412 | £159,919 | 5.3% |
| Cymru | £154,398 | £146,442 | 5.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales welsh
Yn Rhagfyr 2017, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £242,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £86,000 oedd pris tŷ cyfartalog.
2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Rhagfyr 2017 | Rhagfyr 2016 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £231,947 | £221,813 | 4.6% |
| Tŷ pâr | £148,968 | £140,572 | 6.0% |
| Tŷ teras | £119,490 | £113,104 | 5.6% |
| Fflat neu fflat deulawr | £111,811 | £105,614 | 5.9% |
| Holl | £154,398 | £146,442 | 5.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
3. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
| Awdurdodau lleol | Hydref 2017 | Hydref 2016 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | 261 | 280 | -6.8% |
| Blaenau Gwent | 77 | 69 | 11.6% |
| Bro Morgannwg | 185 | 204 | -9.3% |
| Caerdydd | 402 | 517 | -22.2% |
| Caerffili | 217 | 194 | 11.9% |
| Casnewydd | 196 | 215 | -8.8% |
| Castell-nedd Port Talbot | 148 | 185 | -20.0% |
| Ceredigion | 93 | 77 | 20.8% |
| Conwy | 188 | 175 | 7.4% |
| Gwynedd | 160 | 158 | 1.3% |
| Merthyr Tudful | 61 | 43 | 41.9% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 180 | 160 | 12.5% |
| Powys | 141 | 160 | -11.9% |
| Rhondda Cynon Taf | 269 | 284 | -5.3% |
| Sir Benfro | 156 | 158 | -1.3% |
| Sir Ddinbych | 139 | 96 | 44.8% |
| Sir Gaerfyrddin | 233 | 268 | -13.1% |
| Sir Fynwy | 132 | 129 | 2.3% |
| Sir y Fflint | 176 | 220 | -20.0% |
| Tor-faen | 121 | 121 | 0.0% |
| Wrecsam | 138 | 138 | 0.0% |
| Ynys Môn | 96 | 104 | -7.7% |
| Cymru | 3,805 | 3,957 | -3.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
3.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Hydref 2013 | 3,632 |
| Hydref 2014 | 4,129 |
| Hydref 2015 | 4,500 |
| Hydref 2016 | 3,957 |
| Hydref 2017 | 3,805 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
4. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Hydref 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £217,588 | 2.9% | 14.6% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £151,322 | 1.1% | 5.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: ar gyfer y datganiad hwn, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.
5. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Rhagfyr 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £133,522 | 1.1% | 5.4% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £178,701 | 0.9% | 5.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: ar gyfer y datganiad hwn, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.
6. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws ariannu | Pris cyfartalog Rhagfyr 2017 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £150,562 | 1.0% | 5.4% |
| Morgais | £156,678 | 1.0% | 5.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Hydref 2017 |
|---|---|
| Cymru | 64 |
8. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU
9. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084.