Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Medi 2017

Cyhoeddwyd 14 November 2017

1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2017

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£226,367

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

5.4%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.4%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

118.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 5.4% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2017, gyda chynnydd o 0.6 pwynt canran er Awst 2017.

O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Medi 2017 fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi lleihau yn ystod Medi, gyda gweddill net o -20% yn fwy o ymatebwyr yn nodi lleihad yn y galw. Mae hyn yn estyn y dilyniant o ddarlleniadau negyddol i’r chweched mis, ac mae hefyd yn cynrychioli’r ffigur gwanaf er Gorffennaf 2016.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU (PDF) fod nifer y trafodion eiddo wedi’u haddasu’n dymhorol ar eiddo yn y DU gyda gwerth o £40,000 neu fwy wedi cynyddu gan 4.6% rhwng Medi 2016 a Medi 2017. Fodd bynnag, o gymharu Medi 2017 ag Awst 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo wedi’u haddasu’n dymhorol gan 1.8%.

Nododd crynodeb o amodau busnes (PDF) Asiantau Banc Lloegr fod cyflenwad a galw i’w gweld yn weddol gytbwys ar draws y farchnad gyfan. Mae galw wedi bod yn fwy gwydn yn y sector adeiladau newydd a barnwyd bod y cynllun cymorth i brynu yn hanfodol i gynnal galw gan brynwyr tai am y tro cyntaf.

Wrth edrych yn fwy manwl ar lefelau rhanbarthol y DU, gwelwyd y twf blynyddol mwyaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr ar 7.3% i fyny o 5% yn Awst 2017. Roedd y twf blynyddol arafaf yn Llundain ar 2.5%. Dyma’r 10fed mis yn olynol i’r twf mewn prisiau tai yn Llundain barhau’n is na chyfartaledd y DU.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod cyfarwyddiadau newydd i werthu yn sefydlog fwy neu lai am yr ail adroddiad yn olynol, ar ôl lleihau’n barhaus dros y deunaw mis diwethaf. Nododd RICS hefyd na ddisgwylir llawer o newid o ran gweithgarwch gwerthiannau cenedlaethol dros y tri mis nesaf. Yn yr un modd, mae’r rhagolygon deuddeg mis yn wastad hefyd ar lefel genedlaethol, er bod ymatebwyr ychydig bach yn fwy optimistaidd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past five years welsh

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 5.4% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2017 (i fyny o 4.8% yn y flwyddyn hyd at Awst 2017).

Daeth y prif gyfraniad at y cynnydd mewn prisiau tai y DU o Loegr, lle y cynyddodd prisiau tai gan 5.7% dros y flwyddyn hyd at Fedi 2017.

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn prisiau tai o 5.3% dros y 12 mis diwethaf.

Yn yr Alban, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.1% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 6.0% dros y flwyddyn i Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2017.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £152,661 0.6% 5.3%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2017) £132,169 3.0% 6.0%
Lloegr £243,945 0.6% 5.7%
Yr Alban £144,924 -1.3% 3.1%
De Ddwyrain Lloegr £324,465 0.3% 5.5%
De Orllewin Lloegr £252,737 0.5% 6.6%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £184,399 0.7% 6.4%
Dwyrain Lloegr £289,301 0.3% 5.9%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £189,038 0.4% 5.7%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £130,271 0.5% 4.4%
Gogledd Orllewin Lloegr £160,951 2.1% 7.3%
Llundain £483,568 -0.2% 2.5%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £158,884 1.0% 5.6%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Medi 2017 Medi 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £341,941 £323,250 5.8%
Tŷ pâr £212,477 £201,442 5.5%
Tŷ teras £183,685 £174,173 5.5%
Fflat neu fflat deulawr £203,388 £194,350 4.7%
Holl £226,367 £214,816 5.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn effeithio ar nifer y gwerthiannau ar gyfer adeiladau newydd yn y misoedd mwy diweddar. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Gorffennaf 2017 Gorffennaf 2016 Gwahaniaeth
Lloegr 64,592 77,919 -17.1%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2017) 5,453 5,968 -8.6%
Yr Alban 8,725 9,249 -5.7%
Cymru 3,599 4,057 -11.3%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Gorffennaf 2017

Sales volumes for 2013 to 2017 by country: June 2017 welsh

Yng Ngorffennaf 2017 lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 15.2% o’i gymharu â Gorffennaf 2016. O’i gymharu â Mehefin 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 8.6%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Gorffennaf 2017 wedi’i gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2017 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd: Medi 2017

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £281,082 1.8% 8.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £222,565 0.3% 5.1%

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd: Medi 2017

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £190,679 0.4% 5.1%
Cyn berchen-feddiannydd £262,898 0.4% 5.7%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais: Medi 2017

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £215,799 0.5% 5.5%
Morgais £236,088 0.4% 5.4%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387