Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Tachwedd 2017

Cyhoeddwyd 16 January 2018

1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2017

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£226,071

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

5.1%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.1%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

118.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 5.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017, gyda gostyngiad o 0.3 pwynt canran ers y mis blaenorol.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU ar gyfer Tachwedd 2017 (PDF, 598KB) Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ei gyfres prif ddisgwyliadau pris yn y dyfodol agos wedi codi i -5% o -10% yn Hydref, sy’n golygu bod y disgwyliadau tri mis fwy neu lai yn wastad ar y lefel genedlaethol erbyn hyn.Yn yr un modd, sefydlogodd y gyfres ymholiadau gan brynwyr newydd gyda gweddill net o -5% o ymatebwyr yn nodi lleihad yn y galw (yn hytrach na chynnydd), i fyny o -19% yn Hydref.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Tachwedd 2017 (PDF, 825KB) fod nifer y trafodion wedi’u haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy wedi cynyddu gan 7.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017. Rhwng Hydref 2017 a Thachwedd 2017, cynyddodd trafodion gan 0.6%.

Nododd crynodeb o amodau busnes (PDF, 713KB) Asiantau Banc Lloegr fod gweithgarwch wedi tawelu yn chwarter olaf 2017, gyda’r galw yn parhau i fod yn wan yn y farchnad eilaidd, y farchnad adeiladau newydd ac yn Llundain.

Wrth edrych ar y lefel ranbarthol, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ar 7.2%, i fyny o 7.1% yn Hydref 2017. Dilynwyd hyn gan Ddwyrain Canolbarth Lloegr ar 6.4%. Ar 2.3%, dangosodd Llundain ac ardal Gogledd Ddwyrain Lloegr y twf blynyddol arafaf o holl ardaloedd y DU. Dyma’r 12fed mis yn olynol i’r twf blynyddol yn Llundain barhau’n is na chyfartaledd y DU.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod ei weddill net ar gyfer cyfarwyddiadau newydd wedi parhau’n negyddol am y 23ain mis yn olynol. Parhaodd lefelau stoc a nodwyd gan asiantau tai yn sefydlog.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past five years Welsh

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 5.1% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017 (i lawr o 5.4% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2017).

Daeth y prif gyfraniad at y cynnydd mewn prisiau tai y DU o Loegr, lle y cynyddodd prisiau tai gan 5.3% dros y flwyddyn hyd at Dachwedd 2017.

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn prisiau tai o 4.5% dros y 12 mis diwethaf.

Yn yr Alban, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.6% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 6.0% dros y flwyddyn i chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2017.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £152,855 -0.7% 4.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2017) £132,169 3.0% 6.0%
Lloegr £243,339 0.1% 5.3%
Yr Alban £145,992 1.1% 3.6%
De Ddwyrain Lloegr £325,270 0.3% 5.7%
De Orllewin Lloegr £251,923 -0.5% 6.2%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £185,047 0.2% 6.4%
Dwyrain Lloegr £289,731 -0.2% 6.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £192,119 1.3% 7.2%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £127,737 -1.0% 2.3%
Gogledd Orllewin Lloegr £159,066 1.4% 6.2%
Llundain £481,915 -0.9% 2.3%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £155,778 -0.8% 3.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region Welsh

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Tachwedd 2017 Tachwedd 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £340,886 £326,020 4.6%
Tŷ pâr £213,022 £201,403 5.8%
Tŷ teras £182,738 £173,104 5.6%
Fflat neu fflat deulawr £203,651 £195,545 4.1%
Holl £226,071 £215,113 5.1%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn effeithio ar nifer y gwerthiannau ar gyfer adeiladau newydd yn y misoedd mwy diweddar. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Medi 2017 Medi 2016 Gwahaniaeth
Lloegr 64,812 76,114 -14.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2017) 5,453 5,968 -8.6%
Yr Alban 9,323 9,563 -2.5%
Cymru 3,786 4,054 -6.6%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Medi

Sales volumes for 2013 to 2017 by country Welsh

Ym Medi 2017 lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 12.9% o’i gymharu â Medi 2016. O’i gymharu ag Awst 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 10.6%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Medi 2017 wedi’i gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2017 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Medi 2017 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £290,991 0.0% 12.8%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £221,239 -0.2% 4.5%

Sylwer: Er Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Tachwedd 2017 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £191,376 0.6% 5.5%
Cyn berchen-feddiannydd £261,403 -0.3% 4.9%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Tachwedd 2017 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £215,581 0.1% 5.0%
Morgais £235,738 0.2% 5.2%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU
0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban
44 (0)131 659 6111 Est. 6387