Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Chwefror 2018

Cyhoeddwyd 18 April 2018

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2018

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£225,047

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

4.4%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-0.1%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

118.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2018 am 9.30am ddydd Mercher 23 Mai 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 4.4% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2018, i lawr o 4.7% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2018.

Gan edrych ar y galw am dai, nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU ar gyfer Chwefror 2018 Sefydliad y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ei gyfres ymholiadau gan brynwyr newydd wedi gostwng am yr 11eg mis yn olynol, gyda gweddill net o -16% o ymatebwyr yn nodi lleihad yn y galw. Nododd ymatebwyr fod diffyg stoc yn y farchnad ail-law, gan gyfyngu ar ddewis a chreu llai o alw. Cadarnhawyd hynny gan grynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegra nododd hefyd fod y galw am eiddo a adeiledir o’r newydd yn gadarn, wedi’i gynnal gan y cynllun Cymorth i Brynu.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Chwefror 2018 fod nifer y trafodion wedi’u haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy 0.7% yn is o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Ionawr 2018 a Chwefror 2018, lleihaodd trafodion gan 0.3%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr, ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, y cafodd 63,910 o forgeisiau eu cymeradwyo yn Chwefror 2018. Mae hwn yn lleihad o 3,200 ers y mis blaenorol ac yn is na’r cyfartaledd 6 mis o 65,162. Ystyrir bod nifer y morgeisiau a gafodd eu cymeradwyo yn brif ddangosydd nifer y trafodion.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod y gweddill net ar gyfer ei gyfres cyfarwyddiadau newydd wedi gostwng unwaith eto. Mae stociau cyfartalog fesul asiant tai sy’n ymateb wedi syrthio i’r lefel isaf erioed. Mae’r disgwyliadau o ran gwerthiannau a phrisiau yn parhau’n wastad yn y dyfodol agos, er bod mwy o optimistiaeth yn y rhagolygon tymor hwy.

Gan edrych ar y lefel ranbarthol, gwelwyd y twf blynyddol mwyaf yng Nghanolbarth Gorllewin Lloegr, gyda phrisiau yn cynyddu gan 7.3% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2018. Y twf blynyddol isaf oedd yn Llundain, lle y gwelwyd lleihad o 1.0% mewn prisiau dros y flwyddyn. Dyma’r twf blynyddol isaf yn Llundain er Medi 2009 pan roedd yn 3.2% negyddol. Mae cyfradd twf blynyddol Llundain wedi arafu’n gyffredinol ers canol 2016.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past 5 years welsh

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.4% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2018 (i lawr o 4.7% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2018).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn yr Alban, lle y cynyddodd prisiau tai gan 6.2% dros y flwyddyn hyd at Chwefror 2018.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 4.8% dros y 12 mis diwethaf.

Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.1% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.3% dros y flwyddyn hyd at chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2017.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £152,891 -0.4% 4.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2017) £130,482 1.0% 4.3%
Lloegr £242,176 0.2% 4.1%
Yr Alban £144,377 -2.7% 6.2%
De Ddwyrain Lloegr £322,489 -0.1% 4.0%
De Orllewin Lloegr £250,816 -1.1% 4.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £186,071 0.5% 6.3%
Dwyrain Lloegr £288,468 -0.4% 4.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £192,648 2.2% 7.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £128,218 3.1% 3.3%
Gogledd Orllewin Lloegr £158,152 1.6% 4.8%
Llundain £471,986 -2.1% -1.0%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £155,385 -0.1% 3.1%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Chwefror 2018 ac Ionawr 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynt.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Chwefror 2018 Chwefror 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £342,954 £324,883 5.6%
Tŷ pâr £211,079 £200,801 5.1%
Tŷ teras £181,833 £173,585 4.8%
Fflat neu fflat deulawr £201,657 £198,120 1.8%
Holl £225,047 £215,539 4.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Rhagfyr 2017 Rhagfyr 2016 Gwahaniaeth
Lloegr 62,697 79,605 -21.2%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2017) 5,501 6,033 -8.8%
Yr Alban 8,052 8,488 -5.1%
Cymru 3,927 4,581 -14.3%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Rhagfyr

Sales volumes for 2013 to 2017 by country welsh

Yn Rhagfyr 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 18.8% o’i gymharu â Rhagfyr 2016. O’i gymharu â Thachwedd 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 9.1%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Rhagfyr 2017 wedi’i gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2017 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein polisi diwygiadau am ragor o wybodaeth.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Rhagfyr 2017 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £286,985 2.7% 9.1%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £221,850 0.4% 4.5%

Sylwer: Er Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Chwefror 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £189,584 0.0% 4.0%
Cyn berchen-feddiannydd £260,975 -0.2% 4.6%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Chwefror 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £214,473 -0.1% 4.2%
Morgais £234,493 -0.2% 4.4%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Mae ystadegau’n cael eu hadolygu bob chwarter i gynnwys gwerthiannau a dderbyniwyd ers y cyhoeddiad diwethaf, sef gwerthiannau eiddo newydd sydd wedi eu cynnwys yn Rhestr Brisio GI a gwerthiannau hwyr a adroddir i Gyllid a Thollau EM. Gwelwyd adolygiad sylweddol i lawr i’r prisiau/mynegai annedd newydd yn Chwarter 3 2017, a oedd yn bennaf oherwydd bod mwy o werthiannau ar gael, ond gwaethygodd oherwydd gwall prosesu mewnol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen 4 o adroddiad ystadegol Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
lorna.jordan@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk

Ffôn
(0)131 659 6111 Est. 6387