Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Awst 2016

Cyhoeddwyd 18 October 2016

1. Prif ystadegau

Ar gyfer Awst 2016:

  • pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £218,964
  • y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.4%
  • y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.3%
  • y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 114.8 (Ionawr 2015 = 100)

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Awst fod y mis hwn wedi bod yn gyfnod cymharol sefydlog. Tyfodd prisiau tai gan 8.4% yn y flwyddyn hyd at Awst, i fyny ychydig o 8.0% yng Ngorffennaf. Er na fu llawer o newid yn y galw a’r cyflenwad o’i gymharu â’r mis blaenorol, parhaodd dangosyddion rywfaint yn wannach nag yn 2015 ac ar ddechrau 2016.

O ran y galw am dai, gostyngodd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai ychydig yn Awst o’i gymharu â Gorffennaf, gan barhau ar y lefelau a welwyd ar ddechrau 2015. Arhosodd gwerthiannau tai y DU yn sefydlog rhwng Gorffennaf ac Awst ond maent yn parhau’n is na’r lefelau a welwyd yn 2014, 2015 a chyn y newidiadau i’r doll stampiau ar ddechrau 2016. Nododd arolwg o’r farchnad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Awst fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi cwympo dros y tri mis diwethaf, gyda’r galw gan fuddsoddwyr prynu i osod wedi cwympo’n fwy sydyn na’r galw gan brynwyr am y tro cyntaf a pherchnogion presennol.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod rhestriadau gwerthiannau newydd yn parhau’n isel, gan gwympo ychydig yn Awst o’i gymharu â Gorffennaf. Nododd cyhoeddiad diweddaraf Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ostyngiad misol o 0.8% yn allbwn tai a adeiledir o’r newydd yng Ngorffennaf, er bod allbwn yn parhau 6.2% yn uwch nag yng Ngorffennaf 2015. Nododd Crynodeb Asiantau Banc Lloegr fod gweithgarwch yn ardal Llundain wedi arafu, ond nad oedd y gweithgarwch wedi newid mewn mannau eraill yn y DU.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past five years Welsh

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £144,514 -0.6% 2.7%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2016) £123,241 3.8% 7.8%
Lloegr £235,573 1.4% 9.2%
Yr Alban £144,561 1.3% 4.3%
De Ddwyrain Lloegr £317,904 1.9% 12.2%
De Orllewin Lloegr £243,226 2.3% 9.0%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £175,610 1.6% 7.6%
Dwyrain Lloegr £276,952 1.4% 13.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £179,429 1.6% 6.9%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £127,385 -0.2% 3.0%
Gogledd Orllewin Lloegr £151,489 0.9% 6.3%
Llundain £488,908 1.3% 12.1%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £152,394 0.6% 4.9%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region Welsh

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Awst 2016 Awst 2015 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £330,574 £304,063 8.7%
Tŷ pâr £205,239 £189,427 8.3%
Tŷ teras £177,087 £164,258 7.8%
Fflat neu fflat deulawr £198,183 £181,747 9.0%
Holl £218,964 £201,973 8.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Mehefin 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mehefin 2016 Mehefin 2015 Gwahaniaeth
Cymru 3,046 4,181 -27.1%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2016) 4,075 5,200 -21.6%
Lloegr 57,637 85,020 -32.2%
Yr Alban 8,620 9,307 -7.4%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Mehefin 2016

Sales volumes for 2012 to 2016 by country: June 2016 Welsh

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £294,832 12.7% 24.8%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £214,029 0.5% 7.3%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £184,423 1.0% 8.2%
Cyn berchen-feddiannydd £254,335 1.5% 8.7%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £207,982 1.2% 7.8%
Morgais £228,808 1.4% 8.9%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035