Anerchiad

Cymru – Cenedl Arloesi

Araith Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU 2014.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
" "

Cymru – Cenedl Arloesi

Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb:

Prynhawn da a chroeso’n ôl. Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru mae’n bleser gennyf eich croesawu i’r uwchgynhadledd hon.

Uwchgynhadledd NATO oedd y cyfarfod mwyaf o arweinwyr y byd i gael ei gynnal ar dir y DU, ac roedd yn bwrw goleuni byd-eang ar Gymru mewn ffordd na welwyd ei thebyg o’r blaen.

Roedd yn her i ni yma yng Nghymru i ddangos i’r byd yr hyn y gallwn ei gyflawni ac rwyf wrth fy modd gallu dweud ein bod wedi llwyddo i wneud hynny – ac roedd yr arweinwyr hynny a ddychwelodd adref yn uchel eu canmoliaeth o’r lleoliad gwych hwn yn y Celtic Manor, ansawdd y bwyd a’r gwasanaeth Cymreig, a chroeso a chynhesrwydd pobl Cymru.

Yr unig gŵyn a glywais oedd gan un Gweinidog Tramor a ddywedodd wrthyf y dylai’r Uwchgynhadledd fod wedi para un diwrnod arall er mwyn rhoi cyfle iddo i chwarae golff ar gwrs byd enwog Cwpan Ryder – ond addawodd y byddai’n dod yn ôl rywbryd eto, a hynny gyda’i glybiau golff.

Yn ystod y tridiau hynny ym mis Medi dangoswyd i’r byd bod Cymru’n genedl gref, hyderus, eangfrydig.

Ac rwyf yn benderfynol y dylem greu gwaddol uchelgeisiol a hirhoedlog yn dilyn yr Uwchgynhadledd honno.

Dyma’r gwaddol – parhau i osod y seiliau a’r fframwaith cywir i gynnal economi ddynamig ar gyfer yr 21ain ganrif lle mae uchelgais, gwybodaeth ac arloesedd yn sail i lwyddiant Cymru.

Mae’n wirionedd economaidd sylfaenol bod gwybodaeth yn hybu arloesedd, bod arloesedd yn hybu cynhyrchiant, a bod cynhyrchiant yn hybu twf.

Mewn geiriau eraill, arloesedd yw’r hyn sy’n troi syniadau’n anfonebau.

Gwyddom i gyd fod busnesau sydd ag enw da am arloesi yn allforio mwy ac yn cynhyrchu mwy o dwf na rhai nad ydynt mor arloesol. Ac mae’r hyn sy’n wir am gwmnïau unigol yn wir am genedl gyfan hefyd.

Mae’r DU yn lle ar gyfer arloesi.

Rwyf yn falch o’r enw sydd gan Brydain am arloesi.

Er nad ydym yn cyfrif am ddim ond 0.9% o boblogaeth y byd, rydym yn cyfrif am dros 3% o holl wariant y byd ar ymchwil a datblygu, ac rydym yn gartref i fwy na 4% o ymchwilwyr y byd.

Mae’r DU wedi ennill 78 o wobrau Nobel mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, mwy nag unrhyw wlad arall yn Ewrop, ac yn ail i’r Unol Daleithiau’n unig.

Mae gwyddonwyr a pheirianwyr Cymreig a Phrydeinig wedi newid ac wedi ffurfio’r byd rydym yn byw ynddo heddiw – ac rydym yn benderfynol y dylem barhau i wneud hynny yn y blynyddoedd nesaf – gan mai dyna’r unig sail sicr ar gyfer llwyddiant economaidd yn y ras fyd-eang ddigyfaddawd yr ydym yn rhan ohoni.

Ond mae gennym seiliau cadarn fel man cychwyn.

Mae Prydain yn wlad o fenter a darganfyddiadau, o ryddid a chyfraith, o foroedd agored a masnach rydd fyd-eang …

…gwlad lle mae’r briodas hapus rhwng busnes a gwyddoniaeth wedi arwain at fuddiannau economaidd a chymdeithasol enfawr i’r byd.

Mae’r berthynas honno rhwng busnes a gwyddoniaeth yn ganolog i gynllun tymor hir y Llywodraeth i adennill cydbwysedd yn economi Prydain - ac rydym yn benderfynol y bydd Cymru’n chwarae rhan allweddol yn hyn o beth.

Oherwydd tra’r oedd y rhan fwyaf o’r byd yn edrych i gyfeiriadau eraill yn y blynyddoedd diwethaf, mae economi Cymru wedi profi nifer o newidiadau dramatig.

O dwf gweithgynhyrchu a pheirianneg gwerth uwch yn y sectorau awyrofod, moduron ac amddiffyn, i ganolfannau gwyddorau bywyd sy’n datblygu lle mae ymchwilwyr wrth galon y datblygiadau diweddaraf mewn biodechnoleg; mae sector preifat yn tyfu yma yng Nghymru sy’n deall bod yr 21ain ganrif yn perthyn i’r cwmnïau hynny a all harneisio arloesedd, gwybodaeth a thechnoleg yn y farchnad.

Wythnos yn ôl roeddwn yn eistedd o flaen teledu yn fy swyddfa wedi fy nghyfareddu gan y lluniau a oedd yn cael eu darlledu drwy 300 miliwn o filltiroedd o ofod o’r chwiliedydd gofod Philae yr oedd gwyddonwyr o Ewrop wedi llwyddo i’w lanio ar gomed sy’n teithio ar gyflymder o 36,000 milltir yr awr. Ac, roeddwn yn teimlo dau beth. Yn gyntaf, roeddwn yn gobeithio bod plant mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru wedi’u cyfareddu gan hyn ac y byddent yn cael eu hysbrydoli ganddo i chwilio am wybodaeth ac i ystyried gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Ac, fel Cymro, roeddwn yn eithriadol o falch bod arloesedd Cymreig wedi helpu i wneud y cyfan yn bosibl – roedd cydrannau’r gorchudd gwydr ar fwrdd lloeren y Rosetta wedi’u gwneud gan Qioptiq yng Ngogledd Cymru – wedi’u dorri o rubanau cryf o wydr, cyn deneued â blewyn o wallt.

Mae o leiaf dau gwmni arall sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn yr ystafell hon y prynhawn yma – CGI ac Airbus a oedd hefyd yn gysylltiad â’r gamp eithriadol hon.

Mae gennym gynnyrch a chwmnïau o safon gwirioneddol ryngwladol yma yng Nghymru. Mae Cymru’n awr yn datblygu ac yn gweithgynhyrchu’r adenydd awyrennau cyfansawdd mwyaf datblygedig a gynhyrchir yn unrhyw le yn y byd. Mae dros hanner awyrennau masnachol y byd yn awr yn defnyddio’r awyrennau hyn a gynhyrchir gan Airbus yng Nghymru.

Ac roeddem i gyd mor falch o glywed bod Airbus wedi cyhoeddi £48 miliwn ar gyfer eu safle ym Mrychdyn yn y gogledd. Mae hyn yn dangos bod ganddynt ffydd yn y bobl weithgar sy’n adeiladu’r adenydd ar gyfer yr awyren fwyaf yn y byd – yma yng Nghymru.

Bydd y buddsoddiad hwn yn ei ymchwil a datblygiad yn sicrhau bod Gogledd Cymru yn cadw’i safle blaengar yn y diwydiant aerofod byd-eang.

Ond mae cymaint o lwyddiannau eraill o Gymru y gallwn eu rhannu â chi.

Mae gan Gymru ganolfan ffyniannus i’r diwydiant lled-ddargludyddion yma yn Ne Cymru, gyda llawer o arweinwyr byd-eang mewn technoleg waffer wedi’u lleoli yma. Mae IQE, er enghraifft, yn cynhyrchu’r celloedd waffer bach y mae hanner ffonau symudol y byd yn dibynnu arnynt.

Mae’r cydweithredu rhwng Prifysgol Abertawe a Tata Steel yn datblygu adeiladau yfory, sy’n gallu cynhyrchu eu hynni eu hunain.

Ac un enghraifft yn unig yw hyn o sut y mae’r sector Addysg Uwch yng Nghymru’n awr yn ymwybodol iawn o anghenion diwydiant a busnes. Nid yn unig y mae Prifysgolion yng Nghymru’n gwthio ffiniau gwybodaeth ddeallusol, maent hefyd yn gweithio law yn llaw â busnesau i ddatrys heriau arloesi ar gyfer marchnadoedd masnachol.

Mae’r Ganolfan Gwyddorau Bywyd newydd yng Nghaerdydd yn cyfuno rhagoriaeth y byd academaidd yng Nghymru a chwmnïau gofal iechyd rhyngwladol mawr fel GE Healthcare.

Nid wyf wedi gwneud mwy na chrybwyll Cymru fel lle ar gyfer arloesi gydag ambell enghraifft, ond rwy’n gobeithio eich bod i gyd wedi ymweld â’r stondinau a’r arddangosfeydd gwych sy’n dangos rhai o’r datblygiadau mwyaf arloesol yn y byd – sy’n helpu i ddangos pam y mae Cymru’n lle mor gyffrous i fuddsoddi ynddo ar hyn o bryd.

Mae Cymru’n elwa llawer ar gystadleurwydd cynyddol economi’r DU a’r mynediad at farchnadoedd Ewropeaidd a byd-eang. Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, mae gennym yn awr un o’r cyfundrefnau treth a rheoleiddiol mwyaf cystadleuol yn y byd.

Yr wythnos hon roedd y Global Entrepreneurship Index yn dweud mai’r DU yw’r ‘wlad fwyaf entrepreneuraidd yn Ewrop’ – y safle uchaf ers sefydlu’r mynegai.

Mae Cymru hefyd yn elwa ar ein cynlluniau buddsoddi gwerth dros £100 biliwn mewn prosiectau seilwaith trafnidiaeth a digidol mawr – seilwaith a fydd yn dod â Chymru’n agosach fyth at galon gweithgarwch economaidd y DU ac Ewrop ac a fydd yn gwella ymhellach ein gallu i symud pobl, nwyddau a gwasanaethau.

Bydd trydaneiddio prif lein y Great Western, ochr yn ochr â phrosiect Crossrail, yn lleihau’r amser teithio rhwng prifddinas Cymru a chanolfannau ariannol pwysicaf Ewrop. Bydd modd neidio ar drên o Gaerdydd a bod yn Canary Wharf o fewn dwy awr.

Bydd ein buddsoddiad i wella cysylltiadau rheilffordd o’r gorllewin i Heathrow hefyd yn torri hanner awr oddi ar y siwrnai rhwng Cymru ac un o feysydd awyr pwysicaf y byd.

Rydym ar hyn o bryd hefyd yn buddsoddi dros £1.7 biliwn i gyflenwi band eang cyflym iawn i 95% o gartrefi a busnesau’r DU erbyn 2017. Bydd hyn yn sicrhau bod gennych yr offer a’r dechnoleg sydd eu hangen arnoch i gysylltu â chwsmeriaid mewn unrhyw ran o’r byd.

Mi welwch, felly, ein bod yn credu mewn cefnogi arloesi â gweithredoedd, nid â geiriau’n unig. Dyna pam yr ydym yn diogelu £4.6 biliwn ar gyfer rhaglenni gwyddoniaeth ac ymchwil bob blwyddyn. Dyna pam yr ydym yn neilltuo £185 miliwn yn ychwanegol ar gyfer cyllideb Innovate UK i helpu datblygiadau arloesol newydd mewn busnes – gan gynyddu’r cyfanswm i fwy na £500m – ac yn dyblu’r gwariant cyfalaf ar wyddoniaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf.

A dyna pam yr oedd y cynnydd cyffredinol mewn gwariant ar ymchwil a datblygiad busnes yn y DU y llynedd wedi bod yng Nghymru – cynnydd o £100m – cynnydd o bron i 40% ar y flwyddyn flaenorol a hynny am nad ydym yn diystyru potensial Cymru.

Fel Llywodraeth rydym yn rhoi pob cefnogaeth i fusnesau ym mhob rhan o’r DU – yn cyflwyno cynllun economaidd tymor hir i gydbwyso twf ar draws y cenhedloedd ac i hybu’r cyfoeth o dalent entrepreneuraidd yr wyf yn ei weld yng Nghymru bob dydd.

Mae pobl yn gofyn i mi “Beth yw Swyddfa Cymru?

Swyddfa Cymru yw Llywodraeth y DU yng Nghymru.

Pan benodwyd fi’n Ysgrifennydd Cymru gan y Prif Weinidog, dywedodd wrtha i ‘codwch lais dros Gymru yn Whitehall ac o amgylch bwrdd y Cabinet’. A dyna’n union beth rwyf yn ei wneud.

Mae’r bobl yn fy adran yn gweithio ar draws Whitehall, yn hyrwyddo anghenion pobl a busnesau yng Nghymru, yn dylanwadu ar adrannau eraill y llywodraeth ac yn helpu i ffurfio polisi fel y bydd o fydd i Gymru.

Rydym yn adran sy’n datrys problemau. Rydym yn ymladd dros fuddiannau Cymru yn Whitehall. Ond ni hefyd yw Llywodraeth y DU yng Nghymru - sy’n egluro wrth fusnesau yng Nghymru beth mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ac yn helpu busnesau yng Nghymru i dyfu.

Os ydych chi eisiau cael cymorth gan Lywodraeth y DU – dewch atom ni yn Swyddfa Cymru.

Os ydych chi angen help gan Lywodraeth y DU, help gan UKTI i ehangu i farchnadoedd newydd, neu i chwalu rhwystrau sy’n atal eich cynlluniau buddsoddi neu os oes angen cysylltiadau arnoch – cysylltwch â Swyddfa Cymru.

Ac os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth geisio cysylltu ag adrannau Llywodraeth y DU, gall fy nhîm o bobl – mae nifer ohonynt yma yn yr ystafell hon - eich helpu i ddatrys hyn ac mae fy nrws innau yn agored bob amser.

Rwyf eisiau bod yn llais cryf dros Gymru yng nghalon y Llywodraeth - ac yn bresenoldeb cryf i’r Llywodraeth yng nghalon Cymru.

Rwyf eisiau ymfalchïo yn ein gorffennol a bod yn uchelgeisiol am ein dyfodol.

Rwyf am weld Cymru yng nghanol y datblygiadau newydd sy’n newid sut yr ydym yn gwneud busnes a’n ffordd o fyw.

Rwyf am weld busnesau o Gymru’n datblygu’r atebion ar gyfer yfory.

Rwyf am i bob un ohonoch fod yn gwbl glir bod Cymru’n lle gwych i fuddsoddi ynddo. Mae gennym y sgiliau, y brwdfrydedd a’r penderfyniad i ffynnu yn y farchnad fyd-eang.

Nid oes neb sy’n enghraifft well o’r weledigaeth fyd-eang hon, a phwysigrwydd gallu harneisio arloesedd, na’r person y mae gen i’r fraint o’ch trosglwyddo i’w ofal. Syr Terry Mathews.

Fel y sawl a greodd ac sy’n berchen ar y lleoliad rhyfeddol hwn, rwyf yn hynod ddiolchgar i Syr Terry a’u dîm am gynnal yr uwchgynhadledd hon heddiw.

Mae’r Celtic Manor heb amheuaeth yn un o’r prif gyrchfannau ar gyfer digwyddiadau byd-eang.

Ond, wrth gwrs, yn y maes arloesedd a thechnoleg mae Syr Terry wedi gwneud enw iddo’i hun ar lefel ryngwladol.

Ers y cwmni cyntaf a sefydlwyd ganddo, Mitel, mae wedi creu portffolio hynod o gwmnïau.

Fel gyda’r rhan fwyaf o ddatblygiadau newydd arloesol, roedd yn gallu gweld y cyfle nesaf yn y farchnad o flaen y gweddill a chyn hir datblygodd Newbridge Networks i fod yn gwmni pwysig yn y maes rhwydweithio data.

Fe’i hymgorfforwyd yn Acatel yn 2000, ond mae gan y cwmni bresenoldeb cryf yn Ne Cymru o hyd ac mae’n parhau i sefydlu cwmnïau newydd a datblygiadau newydd o’i bencadlys ar draws y ffordd.

Rwyf wrth fy modd bod Syr Terry wedi cytuno i ddod atom ni ac i rannu ei syniadau am fabwysiadu technoleg a’i syniadau am Gymru fel lle i sefydlu a thyfu busnes llwyddiannus.

Cyhoeddwyd ar 21 November 2014