Anerchiad

Araith gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru yng Nghaerdydd

Rhoddodd Stephen Crabb heddiw (10 Tachwedd) araith yn Sefydliad Cyfarwyddwyr Cymru yn nodi ei weledigaeth economaidd i Gymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
The Rt Hon Stephen Crabb MP

Gwirio yn erbyn yr araith a wnaed:

Prynhawn da foneddigion a foneddigesau, mae’n bleser mawr cael bod yma gyda chi yng Nghanolfan y Mileniwm - canolfan anhygoel. Bûm yma ddiwethaf ryw dair neu bedair wythnos yn ôl i wylio cynhyrchiad gwych o William Tell gan Opera Cenedlaethol Cymru – ac i’r rheini ohonoch sy’n gyfarwydd ag opera William Tell, mae’n opera wych ond nid yw’n un fer o bell ffordd - mae oddeutu dair awr a hanner, ac felly yn yr ysbryd hwnnw yr wyf yn edrych ymlaen at siarad â chi heddiw.

Ers dod yn Ysgrifennydd Gwladol ym mis Gorffennaf, rwyf wedi cael y fraint o ymweld â rhai o’r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y byd sy’n gweithredu yma yng Nghymru, ac o gwrdd ag arweinyddion busnes heb eu hail ar draws ein cenedl sy’n deall beth yw bod yn llwyddiannus - hyd yn oed mewn hinsawdd o ansicrwydd, risg a newid parhaus.

O’r gweithrediadau gweithgynhyrchu a thechnegol enfawr yn Airbus neu Toyota yng Ngogledd Cymru, a GE Aviation a BAMC yn y De, i’r busnesau cychwynnol sy’n tyfu’n gyflym, fel Hydro Industries yn y Gorllewin - mae yma sector preifat deinamig ac arloesol yng Nghymru ac mae gennym ni lu o reolwyr busnes, entrepreneuriaid, cyfarwyddwyr a swyddogion gweithredol ardderchog yng Nghymru sy’n gwneud pethau gwych ar hyn o bryd.

A’r bobl yma – pobl fel chi yn yr ystafell hon heddiw – sy’n llywio’r adferiad economaidd yng Nghymru.

Pobl fel chi – sy’n benderfynol ac yn arddel syniadau ffres sy’n gyfrifol am yr 8,000 o fusnesau newydd sy’n dechrau yng Nghymru bob blwyddyn.

A phobl fel chi sy’n gyfrifol am y ffaith i ni weld 23,000 o swyddi newydd net yn cael eu creu yn y sector preifat yng Nghymru y llynedd ac oddeutu 100,000 o swyddi newydd yn y sector preifat ers mis Ebrill 2010.

A, gadewch i ni esbonio, mae’r rhan fwyaf o’r swyddi hyn yn rhai parhaol, llawn amser o safon.

Peidiwch â gadael i unrhyw un ddibrisio hyn.

Mae Cymru yn adfer yn economaidd, ac mae hyn yn cael ei arwain o’r blaen gan yr unig bobl a all greu cyfoeth a chyfleoedd mewn cymdeithas – sef y dynion a’r merched sy’n rhoi eu cyfalaf eu hunain yn y fantol i ddechrau a rhedeg eu busnes eu hunain. Felly gadewch i ni wneud ein man cychwyn yn un cadarnhaol.

Mae gennym ni rai sylfeini da iawn i adeiladu arnynt wrth i ni edrych i’r dyfodol a rhagolygon am economi gryfach, fwy llwyddiannus yng Nghymru.

Oherwydd cenhadaeth y Llywodraeth hon - o’r Prif Weinidog i lawr - yw rhoi cynllun hirdymor ar waith ar gyfer twf ac ailfantoli’r economi a fydd yn rhoi’r cyfle gorau posibl i’r DU o gystadlu ac ennill ym marchnad fyd-eang arw yr 21ain ganrif.

Ac, fel llywodraeth, rydym yn benderfynol o sicrhau bod busnes wrth wraidd y cynllun hirdymor hwn – ac mae hynny’n golygu gwrando ar fusnesau, gweithio gyda busnesau a gwneud popeth o fewn ein gallu i ddileu’r rhwystrau sy’n ffrwyno busnesau.

Ac mae’r cynllun yn dechrau gyda rhywbeth y mae lleisiau o’r byd busnes fel Sefydliad y Cyfarwyddwyr, fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, wedi bod yn galw amdano – sef y ffaith bod angen adfer sefydlogrwydd a chyfyngu ar ein cyllid cenedlaethol.

Yn syml, dychwelyd i fyw o fewn ein modd.

Yn y blynyddoedd nesaf, fe welwn y bydd yr economi fyd-eang yn cosbi’r economïau hynny sydd â diffygion mawr yn eu cyllideb ac yn rhoi dyledion na ellir eu cynnal yn faich ar eu poblogaethau.

Felly mae’r her o fynd i’r afael â’n cyllid cenedlaethol wrth wraidd popeth y ceisiwn ei wneud; mae wedi’i gynnwys ym mhob rhan o gyfansoddiad y llywodraeth glymblaid hon a oedd yn gytûn yng nghyswllt y pwynt hwn o ddiddordeb cenedlaethol y dylid rhoi cyfle teg i’r wlad hon ddod allan o’r sefyllfa anobeithiol y mae ynddi ar hyn o bryd.

Ac felly bedair blynedd a hanner yn ddiweddarach ac rydym wedi lleihau’r diffyg o draean ac wedi rhoi fframwaith ar waith ar gyfer sicrhau bod gan y wlad hon gyllidebau sy’n mantoli erbyn 2019. Ond ni ddylai fod unrhyw amheuaeth ynghylch graddau’r dasg. Bydd angen i’r Blaid sydd mewn grym ar ôl yr etholiad nesaf gael cynllun disgybledig ar gyfer rheoli gwariant cyhoeddus, a bydd hyn yn golygu gwneud penderfyniadau anodd iawn.

A dylid trin unrhyw bleidiau sy’n dod atoch chi a dweud bod ffordd haws o ddelio â hyn, y gallwn gyflawni ein nod heb orfod gwneud rhagor o ddewisiadau gwario anodd, fel cwacs a thwyllwyr. Gan mai dyna beth ydyn nhw.

At hyn, mae cyfyngu ar wariant cyhoeddus yn allweddol hefyd i’r gwaith ehangach rydym yn ceisio ei gyflawni i ailfantoli’r economi. Fe wyddoch gystal â neb fod twf economaidd y DU ddiwedd yr 1990au a ddechrau’r degawd canlynol yn llawer rhy ddibynnol ar ond ychydig weithgareddau a wnaeth yn y pen draw waethygu’r problemau economaidd a wynebwn – yn bennaf y twf yn y sector cyhoeddus a’r twf niweidiol mewn gwasanaethau ariannol.

Yng Nghymru, deallwn yr her hon yn dda iawn.

Mae rôl y sector cyhoeddus yn bwysig ac yn un a drysorir, ac mae’n elfen hanfodol o’r economi mewn sawl rhan o’n cenedl. Ond ddylwn ni ddim gadael i hynny ein twyllo i gredu rywsut nad yw’r genhadaeth rydym yn ceisio ei gwireddu ar gyfer y DU yn berthnasol yma yng Nghymru hefyd.

Yn ôl yn 2010/11, roedd pobl yng Nghymru yn dweud bod y sector preifat yma yn rhy wan i ailfantoli’r economi. Roeddent yn dadlau yn erbyn y camau yr oeddem yn eu cymryd i gyfyngu ar wariant cyhoeddus drwy ddweud na allai busnesau Cymru gau’r bwlch mewn gweithgarwch economaidd, pe baem yn lleihau’r gwariant i lefelau call a chyfrifol.

Wel, roedden nhw’n anghywir.

Mae’r holl swyddi newydd yn y sector preifat y soniais amdanynt yn flaenorol - maent yn uwch o lawer na’r gostyngiad a welwyd ym maint y sector cyhoeddus.

Mae’r hyn rydym wedi ei weld ledled y DU – mwy na 2 filiwn o swyddi newydd yn y sector preifat, lleihau’r gostyngiadau yn nifer y swyddi a ariennir gan y trethdalwr – wedi’i weld yng Nghymru hefyd.

Ac mae angen i ni i gyd roi’r gorau i drin Cymru fel rhyw fath o chwaer iau wael i weddill teulu’r DU, y mae bob amser angen math gwahanol o feddyginiaeth arni.

Oherwydd yr hyn a welaf i ledled Cymru yw arweinyddion busnes ysbrydoledig sydd â gweithluoedd medrus ac ymroddedig yn cynhyrchu rhai o’r cynhyrchion mwyaf arloesol sydd ar gael unrhyw le yn y farchnad fyd-eang.

Ac mae gennym ni’r potensial i fod yn fwy llwyddiannus o lawer.

Dyna pam ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i roi busnesau wrth wraidd yr adferiad economaidd.

Dyna pam ein bod wedi cymryd camau i leihau cyfradd y Dreth Gorfforaethol fel bod busnesau Cymru yn gallu manteisio ar un o’r systemau treth mwyaf cystadleuol unrhyw le yn y byd.

Rydym hefyd yn dileu Yswiriant Gwladol i’r busnesau hynny sydd am gyflogi mwy o staff a thyfu, ac rydym yn ei ddileu hefyd ar gyfer pobl o dan 21 oed yn gyfan gwbl.

Mae ein Lwfans Cyflogaeth yn rhoi arian yn ôl ar swyddi, gan arbed hyd at ddwy fil o bunnoedd yr un i fusnesau yng Nghymru. Mae rhyw 35,000 o gyflogwyr yng Nghymru yn elwa o’r cynllun hwn, ac mae rhyw 20,000 o gwmnïau bach yng Nghymru wedi cael eu heithrio rhag talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gyfan gwbl.

Ac er ein bod yn cymryd camau i gefnogi busnesau drwy’r system dreth, rydym hefyd yn cydnabod bod meysydd lle mae angen i ni, fel Llywodraeth, symud o’ch ffordd a gadael i chi wneud yr hyn a wnewch chi orau.

Felly, drwy ddileu neu ddiwygio rhyw 3,000 o reoliadau, rydym yn arbed mwy na 850 miliwn o bunnoedd y flwyddyn i fusnesau. Arbedion y gellir eu hailfuddsoddi mewn twf busnesau a gweithgarwch cynhyrchiol.

Ac mae’r camau hyn rydym yn eu cymryd i ostwng trethi busnes a lleihau faint o fiwrocratiaeth sydd ynghlwm, tra’n cymryd camau i sicrhau sefydlogrwydd ein cyllid cyhoeddus o hyd – mae’r camau hyn yn gweithio.

Mae’r DU yn dod yn fwy cystadleuol yn yr economi fyd-eang.

Rydym wedi symud i fyny’r rhengoedd o ran pa mor gystadleuol ydym ni’n rhyngwladol fel y mesurir hynny gan Fforwm Economaidd y Byd a Banc y Byd.

Bydd hyn yn elfen hanfodol o’r strategaeth hirdymor ar gyfer yr economi.

Ond gwyddom hefyd er mwyn bod yn gystadleuol yn yr hirdymor, fod angen i ni barhau i wella ein seilwaith.

Fel Ysgrifennydd Cymru rwy’n argyhoeddedig bod angen seilwaith o’r radd flaenaf yng Nghymru gymaint â De Ddwyrain neu Ogledd Lloegr – a hoffwn ddefnyddio fy amser yn y swydd hon i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau’r buddsoddiad hwnnw mewn seilwaith.

Mae hynny’n golygu eistedd i lawr gyda Gweinidogion Cymru, torchi ein llewys a gweithio gyda’n gilydd ar y cyd yn bragmatig i weithredu ar yr agenda hon.

Dydw i ddim yn credu bod busnesau yng Nghymru am weld gweinyddiaethau yn Llundain a Chaerdydd yn mynd ben ben â’i gilydd pan fo angen gwneud cymaint o waith allweddol bwysig sy’n gofyn bod y ddwy lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol.

Dyna pam rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i roi’r adnoddau ariannol iddi fuddsoddi yn y gwaith o wella’r M4 o amgylch Casnewydd - mae’n brosiect sydd wedi bod yn yr arfaeth ers 20 mlynedd ac nid ydym wedi gweld cynnydd. Rwy’n gobeithio gyda’r mesurau rydym wedi’u sicrhau i Lywodraeth Cymru, y gallwn fwrw ati gyda hynny a chyflawni prosiect sydd, yn fy marn i, â chefnogaeth gref gan fusnesau yma yng Nghymru.

Rwy’n parhau i weithio’n agos gydag Edwina Hart, a gweinidogion a swyddogion eraill yn Llywodraeth Cymru i ystyried y prosiect trydaneiddio ar gyfer rheilffordd De Cymru a hefyd y gogledd, ac rydym yn gweithio i roi’r pŵer i’r gweinidogion gyhoeddi eu bondiau ariannol eu hunain i fuddsoddi mewn seilwaith.

Gwnaethom hefyd barhau i weithio’n agos gyda nhw ar y gwaith i gyflwyno band eang cyflym iawn, a fydd yn cael cymaint o effaith drawsnewidiol ar fusnesau, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. A chredaf gyda’n gilydd ein bod yn datblygu gweledigaeth gyffrous ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru a fy nyhead i – fy uchelgais – yn ystod y deng mlynedd neu’r 20 mlynedd nesaf, waeth pa liw plaid sydd mewn grym yn Llundain neu yng Nghaerdydd, yw y bydd gweledigaeth ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith a fydd wedi ennyn cefnogaeth ac ewyllys wleidyddol lefel uchel y gymuned fusnes, ond byddwn wedi rhoi’r weledigaeth hirdymor honno ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith ar waith er mwyn i lywodraethau allu gweithio tuag ati a bydd hynny’n cael effaith drawsnewidiol iawn ar economi Cymru.

A chyn fy nghyfarfod ag Edwina Hart, cefais gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, lle roeddem yn siarad am hyn, a chredaf fod yna botensial i ni wireddu gweledigaeth gyffredin o ran buddsoddi a seilwaith yng Nghymru.

Ond nid yw llwyddiant yn ddibynnol ar ansawdd ein seilwaith ffisegol yn unig. Cyfalaf dynol yw ein hased a’n hadnodd mwyaf gwerthfawr yng Nghymru.

Daw llwyddiant yn yr 21ain ganrif i’r economïau hynny sy’n meithrin arloesedd a thechnoleg, sy’n gwthio ffiniau cyflawniad deallusol yn gyson ac yn llwyddo i’w reoli’n fasnachol.

Felly bydd cael rhwydwaith cadarn o brifysgolion a cholegau yng Nghymru yn allweddol. Ac mae rhai pethau gwych yn digwydd yn y sector Addysg uwch yng Nghymru, er gwaethaf yr heriau cyllido amlwg.

Mae prosiectau fel Canolfan Genedlaethol Ymchwil Dylunio a Datblygu Cynnyrch Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn gwneud gwaith ymchwil cymhwysol sy’n wynebu’r diwydiant sy’n cefnogi arloesedd gwych yng Nghymru.

A chredaf na fu erioed amser gwell i arddangos yr arloesedd hwn ac i arddangos beth sydd gan Gymru i’w gynnig.

Yn ôl ym mis Medi, roedd hi’n fraint o’r mwyaf i helpu i groesawu arweinyddion y byd i Gymru ar gyfer Uwchgynhadledd NATO.

Ni ellir gorbwysleisio pa mor fawr oedd y digwyddiad hwnnw – y gwir amdani yw mai dyna’r cynulliad mwyaf o arweinyddion rhyngwladol i ddod i’r DU erioed.

Ac roedd hi’n hyfryd gweld Cymru yn ganolbwynt i hyn i gyd a gweld Cymru yn disgleirio. Credaf i arweinyddion y byd fynd adref heb unrhyw amheuaeth ynghylch ansawdd y cynhyrchion, y gwasanaethau a’r croeso sydd ar gael yma yng Nghymru. Roedd ein proffil byd-eang wedi cyrraedd ei uchafbwynt.

Rwy’n benderfynol ein bod yn adeiladu ar hyn i sicrhau bod gennym ni etifeddiaeth economaidd barhaol.

Dyna pam y mae Uwchgynhadledd Fuddsoddi’r DU sy’n dod i Westy’r Celtic Manor yr wythnos nesaf mor bwysig.

Er mwyn pwysleisio pam bod Cymru yn lle mor wych i fuddsoddi ynddo.

Bydd rhai o’r datblygiadau arloesol mwyaf technolegol sydd ar gael unrhyw le yn y byd yn cael eu harddangos yno i gynulleidfa fyd-eang.

Datblygiadau arloesol a ddechreuodd yng Nghymru, a ddatblygwyd yng Nghymru ac a weithgynhyrchwyd yng Nghymru.

Bydd arweinyddion busnes o rai o’r cwmnïau mwyaf llwyddiannus sy’n gweithredu ledled y byd yn cael gweld bod y dechnoleg sy’n rhedeg mwy na hanner holl ffonau symudol y byd yn cael ei gwneud yng Nghasnewydd, De Cymru.

Byddant yn cael gweld y Raspberry Pi – y cyfrifiadur maint cerdyn credyd a gaiff ei wneud yng Nghymru ac sydd wedi bod yn llwyddiant allforio ysgubol.

Ac fe ddangosir iddynt fod adeiladau’r dyfodol - a fydd yn gallu cynhyrchu eu hynni eu hunain – yn cael eu harloesi yng Nghymru.

Ond y brif neges rwy’n gobeithio y byddant yn ei chyfleu i’w cwmnïau yw bod Cymru yn wlad uchelgeisiol, bod ganddi economi sy’n edrych tua’r dyfodol, ei bod yn diwallu anghenion busnesau’r oes sydd ohoni ac yn datblygu atebion ar gyfer y dyfodol. Mae heddiw yn nodi dechrau Wythnos Allforio’r Llywodraeth, lle bydd Masnach a Buddsoddi y DU yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i fusnesau, fel rhaglenni cymorth masnachol, help gydag ymchwil i’r farchnad ac yn nodi cysylltiadau dramor.

Rwyf am i bob cwr o’r byd feddwl am Gymru fel lle gwych i gynnal busnes ac fel lle gwych i fuddsoddi ynddo. Fy ngweledigaeth i ar gyfer Cymru yw ei bod yn wlad nad yw bob amser ar ei hôl hi o ran tueddiadau economaidd cenedlaethol, gwlad sydd ar flaen y gad.

Mae diweithdra yn gostwng yng Nghymru ers dwy flynedd. Rydym yn gweld gostyngiadau yn nifer y cartrefi lle nad oes unrhyw un yn gweithio ac rydym yn gweld swyddi yn cael eu creu ar gyfradd gyffrous.

Cafodd un o’r ystadegau pwysicaf i mi ei weld eleni, a gafodd braidd ddim sylw yn y cyfryngau yng Nghymru, ei ryddhau bythefnos yn ôl a ddangosodd fod 43,000 yn llai o gartrefi yng Nghymru lle nad yw’r un person yno yn gweithio o gymharu â phedair blynedd yn ôl.

Mae hynny’n golygu bod degau ar filoedd yn fwy o blant yn tyfu i fyny yng Nghymru yn gweld eu mam neu eu tad yn mynd allan i weithio.

Dyna sy’n fy nghyffroi i.

Nid dim ond siarad am ddamcaniaeth economaidd yr ydym ni. Rydym ni’n siarad am newid gwirioneddol o fewn cymunedau ac o fewn teuluoedd yng Nghymru. Dyma’r math o newid a’m denodd at wleidyddiaeth. Adfywio economaidd a chymdeithasol. Ond dim ond gyda sector preifat ffyniannus, gyda busnesau sy’n gwneud mwy, sy’n masnachu mwy ac yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn y gall hyn ddigwydd.

Dyna sy’n ysgogi’r adferiad economaidd yng Nghymru. A dyna pam bod fy Mwrdd Cynghori Economaidd newydd, sy’n cyfarfod heddiw am y tro cyntaf, yn cynnwys arbenigwyr busnes ledled Cymru i’n helpu ni yn Swyddfa Cymru ond hefyd ar draws Llywodraeth y DU i ddeall a mynd i’r afael ag anghenion a dyheadau busnesau yng Nghymru.

Oherwydd dim ond drwy ymgynghori â chi a gweithio gyda chi y gallwn ni fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu Cymru. Gwyddom fod angen i ni sefyll ochr yn ochr â busnesau er mwyn gwireddu ein gweledigaeth hirdymor i Gymru.

Mae gen i uchelgais i Gymru. Mae gen i uchelgais i Gymru lwyddo a chredaf fod gennym ni’r gallu, yr adnoddau a’r potensial yn ein gwlad i wneud hynny. I ddod yn wlad gryfach, fwy hyderus, sy’n edrych tuag allan ac yn sicrhau canlyniadau gwell i’n plant a’u plant nhw ar ôl hynny.

Diolch yn fawr iawn.

Cyhoeddwyd ar 10 November 2014