Datganiad y Prif Weinidog am farwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II
Datganiad y Prif Weinidog Liz Truss am farwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II.

Datganiad y Prif Weinidog Liz Truss am farwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II
Rydym i gyd wedi ein llorio gan y newyddion yr ydym newydd ei glywed gan Balmoral.
Mae marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines yn syndod enfawr i’r genedl ac i’r byd.
Y Frenhines Elizabeth II oedd y graig yr adeiladwyd Prydain fodern arni.
Mae ein gwlad wedi tyfu a ffynnu o dan ei theyrnasiad.
Prydain yw’r wlad fawr y mae heddiw oherwydd hi.
Esgynnodd i’r orsedd ychydig wedi’r Ail Ryfel Byd.
Hyrwyddodd ddatblygiad y Gymanwlad - o grŵp bychan o saith gwlad i deulu o 56 o wledydd sy’n rhychwantu pob cyfandir o’r byd.
Rydym bellach yn genedl fodern, ffyniannus a deinamig.
Drwy’r cyfan, rhoddodd y Frenhines Elizabeth II y sefydlogrwydd a’r cryfder yr oedd ei angen arnom.
Hi oedd gwir ysbryd Prydain Fawr – a bydd yr ysbryd hwnnw’n parhau.
Hi yw’r frenhines sydd wedi teyrnasu’r hiraf erioed.
Mae’n gamp ryfeddol i fod wedi llywyddu gyda’r fath urddas a gras am 70 mlynedd.
Ymestynnodd ei bywyd o wasanaeth y tu hwnt i’r rhan fwyaf o’n hatgofion byw.
Roedd pobl y Deyrnas Unedig a phob cwr o’r byd yn ei charu a’i hedmygu.
Mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth bersonol i mi ac i lawer o Brydeinwyr. Mae ei hymroddiad i ddyletswydd yn esiampl i ni i gyd.
Yn gynharach yr wythnos hon, yn 96 oed, arhosodd yn benderfynol o gyflawni ei dyletswyddau wrth iddi fy mhenodi fel ei 15fed Prif Weinidog.
Drwy gydol ei hoes mae wedi ymweld â mwy na 100 o wledydd ac mae hi wedi cyffwrdd â bywydau miliynau o amgylch y byd.
Yn y dyddiau anodd i ddod, byddwn ni’n dod at ein gilydd gyda’n ffrindiau…
….ar draws y Deyrnas Unedig, y Gymanwlad a’r byd…
… i ddathlu ei hoes ryfeddol o wasanaeth.
Mae’n ddiwrnod o golled fawr, ond mae’r Frenhines Elizabeth II yn gadael etifeddiaeth fawr.
Heddiw mae’r Goron yn cael ei basio - fel y mae wedi’i wneud ers dros fwy na fil o flynyddoedd - i’n brenin newydd, ein pennaeth gwladwriaeth newydd:
Ei Fawrhydi Brenin Charles III.
Gyda theulu’r Brenin, rydym yn galaru colli ei fam.
Ac wrth i ni alaru, mae’n rhaid i ni ddod at ein gilydd fel cenedl i’w gefnogi.
I’w helpu i ysgwyddo’r cyfrifoldeb anhygoel y mae bellach yn ei gario i ni i gyd.
Rydym yn cynnig ein teyrngarwch a’n hymroddiad iddo yn union fel yr ymroddodd ei fam i gymaint i gynifer cyhyd.
Ac wrth i’r ail oes Elisabethaidd pasio, tywyswn gyfnod newydd yn hanes godidog ein gwlad fawr,
yn union fel y byddai Ei Mawrhydi wedi dymuno –
drwy ddweud y geiriau…
Duw Gadwo’r Brenin.