Erthygl ag awdur wedi'i enwi

Cyn Ysgrifenyddion Gwladol Cymru i nodi 50 mlynedd ers creu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Stephen Crabb yn ysgrifennu yn yr Western Mail ar bwysigrwydd sicrhau llais cryf i Gymru o amgylch bwrdd y Cabinet.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
" "

Bydd yfory (17 Hydref) yn nodi 50 mlynedd ers creu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ar 17 Hydref 1964 penododd Harold Wilson Aelod Seneddol Llanelli, Jim Griffiths i’r swydd newydd sbon. Cefais y fraint fawr o ymuno â’r Cabinet fel 17eg Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mis Gorffennaf eleni.

Pan ofynnodd y Prif Weinidog i mi ymgymryd â’r swydd hon dywedodd wrthyf ei fod eisiau i mi roi llais cryf i Gymru wrth fwrdd y Cabinet.

I mi, mae’r swydd yn golygu rhoi llais cryf i lywodraeth y DU yng Nghymru. Rwyf yn gyfrifol am fwrw ymlaen â’n cynllun economaidd tymor hir fel y gallwn barhau i hybu twf economaidd yng Nghymru, sy’n golygu y bydd mwy o bobl ledled y genedl mewn gwaith ac yn mwynhau safon byw uwch.

Mae’n golygu denu mewnfuddsoddiad i Gymru, cynyddu gweithgynhyrchu ac allforion a gweld hynny’n cael ei adlewyrchu yn nifer y swyddi sy’n cael eu creu ac mewn economi gryfach.

Mae hefyd yn golygu gwneud yn siŵr bod gan y miloedd o fusnesau bach a chanolig ledled Cymru, sy’n gyfrifol am yrru economi Cymru, y seilwaith a’r cyfarpar sydd eu hangen arnynt fel y gallant ddal ati i greu swyddi a hybu twf.

Mae’n golygu hyrwyddo Cymru ar lefel ryngwladol drwy dynnu sylw at ansawdd ein cynnyrch a’n gwasanaethau ac arddangos ein gweithlu medrus i ddarpar fuddsoddwyr.

Ac mae’n golygu gofalu am anghenion pob rhan o Gymru, i wneud yn siŵr bod lleisiau Cymreig yn cael eu clywed yn eglur a bod ein buddiannau’n cael eu cynrychioli yn San Steffan pan fydd Llywodraeth y DU yn llunio ei pholisïau.

Heddiw (16 Hydref) rwyf yn nodi 50 mlynedd ers creu’r swydd hon yng nghwmni cynulliad o gyn Ysgrifenyddion Gwladol Cymru. Maent wedi gadael gwaddol pwysig yn sgil eu cyflawniadau mewn seilwaith, buddsoddiad a thorri cwys newydd ar ddatganoli. Hwy oedd yn gyfrifol am gyflwyno deddfwriaeth bwysig ar y defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru, am sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhoi’r pwerau iddo i wneud ei ddeddfau ei hun.

Rwyf yn falch o gael cynrychioli Cymru mewn Llywodraeth sydd ag enw da ar ddatganoli. Mae’n briodol fod cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, William Hague, yn awr yn arwain pwyllgor y Cabinet sy’n ystyried sut y gallwn gael cydbwysedd o’r newydd mewn setliad cyfansoddiadol i’r DU.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Swyddfa Cymru yn gyfrifol am gyflwyno deddfwriaeth bwysig ar gyfer Cymru. Yn 2011, roeddent yn gyfrifol am refferendwm yng Nghymru a arweiniodd at roi pwerau deddfu llawn i’r Cynulliad. A ddoe ddiwethaf (15 Hydref) cwblhaodd Bil Cymru y cam Pwyllgor yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae’r Bil yn datganoli pwerau trethu a benthyca i’r Cynulliad a Gweinidogion Cymru a gobeithiaf y daw’n ddeddf yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Dyma’r hyn a olygaf pan fyddaf yn sôn am ddatganoli ag iddo ddiben, a gall hynny weithio’n well i bobl yng Nghymru. Dyna pam yr ydym wedi cyflwyno gwelliannau i’r Bil i gael gwared ar y cyfyngiadau ar y pwerau treth incwm y byddai Cymru’n eu cael yn dilyn refferendwm. Mae’r pwerau treth incwm newydd yn gyfrwng i helpu economi Cymru i fod yn fwy dynamig ac i wneud Llywodraeth Cymru’n fwy atebol.

Rwyf yn uchelgeisiol dros ein cenedl ac rwyf yn credu ei bod yn haeddu’r gorau. Ond gwn os yw’r uchelgais hon yn mynd i gael ei gwireddu a’n bod yn sicrhau’r buddsoddiad sydd ei angen ar y genedl rhaid i ni gael partneriaethau gwaith effeithiol rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru. Rhaid i ni weithio’n dda â’n partneriaid busnes hefyd, ac eraill sy’n malio am Gymru ac sydd am gael rhan yn ei dyfodol.

Rwyf wedi datgan yn eglur iawn y bydd trydaneiddio’r rhwydwaith rheilffordd yn ne Cymru yn rhoi hwb sylweddol i economi Cymru yn yr 21ain ganrif ac rwyf wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau cytundeb rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru fel y gallwn sicrhau’r buddsoddiad hanfodol hwn i Gymru gyda’n gilydd.

Ym mis Medi dangoswyd i’r byd yr hyn y gallwn ei gyflawni os ydym yn cydweithio drwy drefnu Uwchgynhadledd NATO o’r radd flaenaf. Byddwn wrthi eto ym mis Tachwedd pan fydd Uwchgynhadledd Buddsoddi Ryngwladol y DU yn dod i Gymru. A gwnaethpwyd hyn eto’r wythnos hon pan fûm yn cwrdd ag arweinwyr pleidiau San Steffan yng Nghymru gan roi ein gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu a dechrau gweithio mewn ffordd bragmatig ar setliad datganoli a fydd yn gweithio i bobl Cymru. Fy ngwaith i yw gwyntyllu’r safbwyntiau hyn yng nghyfarfodydd y Cabinet a chynnal trafodaethau ag arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod Cymru’n aros ar flaen ac yng nghanol dadl gyfansoddiadol y DU.

Mae’n bwysig, fodd bynnag, ein bod yn torchi ein llewys ac yn mynd ati o ddifrif i ddatrys rhai o’r materion cyfansoddiadol fel y gallwn ganolbwyntio ar y materion real hynny sy’n effeithio ar fywydau pob dydd pobl: yr economi; parhau â’n diwygiadau lles a pherfformiad ein system addysg. Dyma’r pynciau sy’n bwysig ar garreg y drws.

Rwyf yn benderfynol o sicrhau cymaint o lwyddiant â phosibl i Gymru yn ystod fy nghyfnod fel Ysgrifennydd Gwladol. Rhaid cofio mai helpu i symud ein cenedl ymlaen ymhellach ar hyd y llwybr i ffyniant economaidd yw holl hanfod y fraint o gynrychioli Cymru yn San Steffan, a San Steffan yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 16 October 2014