Anerchiad

Araith Alun Cairns i'r dderbyniad Dydd Gŵyl Dewi

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn darparu araith i westeion yn nerbyniad a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog yn Rhif 10 Downing Street

The Rt Hon Alun Cairns MP

Diolch yn fawr i bawb am ymuno gyda ni yma yn Rhif 10 i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, a diolch yn fawr i’r Prif Weinidog am ein croesawu ni am y drydedd flynedd yn ddilynol.

Dyma achlysur arwyddocaol i ni fel Llywodraeth y Deyrnas Unedig gael dathlu a nodi pa mor berthnasol yw’r wlad sydd – yn fy marn i – y pwysicaf yn y Deyrnas Unedig, sef Cymru! Ac mae’r gêm rygbi ar ddydd Sadwrn yn cadarnhau hyn!

Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol fy mod i, dros y tair blynedd ddiwethaf, wedi ceisio tynnu sylw at ffeithiau pwysig am Gymru i bwysleisio’r cyfraniad mawr rydyn ni’n ei wneud i’r Deyrnas Unedig.

Rwy’n meddwl fy mod i wedi dweud bob tro bod gan Gymru fwy o gestyll am bob milltir sgwâr nag unrhyw wlad arall yn y byd!

Mae gen i rai ffeithiau newydd eleni:

Dyma lle mae’r ffordd fwyaf serth yn y byd, sef Ffordd Pen Llech yn Harlech, Eryri.

Mae Mynydd Everest wedi cael ei enwi ar ôl y Cymro, Syr George Everest, am arolygu’r Bwa Meridian am fwy na 35 mlynedd.

Cafodd yr hafalnod ei ddyfeisio gan Robert Recorde, y Ffisegydd a’r Mathemategydd o Ddinbych-y-Pysgod – felly os ydych chi’n cael trafferth gydag algebra, rydych chi’n gwybod pwy sydd ar fai.

Cafodd y neges radio gyntaf erioed ei throsglwyddo gan Marconi yn 1897, o Larnog, wrth ymyl fy etholaeth i, i Ynys Echni ym Môr Hafren dros bellter o dair milltir.

A’r neges oedd: “Ydych chi’n barod?”

Wel, Er mai gwlad fach ydyn ni, rydyn ni’n sicr yn barod i bwysleisio, nodi a dathlu ein hanes unigryw, ein hiaith a’n diwylliant sy’n ychwanegu at amrywiaeth y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.

Ac fel llywodraeth, rydyn ni’n barod i barhau i gefnogi arloesi, diwylliant, y byd academaidd a rhagoriaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru, er mwyn darparu ar gyfer y genhedlaeth nesaf o Gymry balch.
Y Gymraeg yw un o’r ieithoedd byw hynaf yn Ewrop, ac mae’n tarddu o’r 6ed ganrif. Llawer hynach na Saesneg!

Ac mae’n bleser gweld bod 30% o boblogaeth Cymru yn gallu siarad o leiaf rywfaint o Gymraeg, a bod chwarter y plant yn cael eu dysgu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae ein diwylliant rhagorol ar fïn gael ei arddangos gan y côr, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi eu presenoldeb heddiw. Rydyn ni hefyd yn diolch i’r arddangoswyr am dynnu sylw at y bwyd gwych sydd hefyd yn bwysig i ymgyrch allforio’r Deyrnas Unedig.

Mae’r Prif Weinidog yn frwd dros bob rhan o’r Deyrnas Unedig, ond o brofiad personol gallaf ddweud bod lle arbennig iawn i Gymru yn agenda’r Prif Weinidog. O hyrwyddo busnesau Cymreig fel Aston Martin, i fasnach ryngwladol i hybu allforion. Mae Cymru wastad o fewn golwg y Prif Weinidog.

Ym mis Awst fe wnaeth y Prif Weinidog a minnau fynd â mwy o fusnesau o Gymru nag o unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig i Affrica, i hyrwyddo rhagoriaeth Gymreig wrth gefnogi’r byd sy’n datblygu.

A thros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chefnogaeth y Prif Weinidog, rwyf wedi cael y fraint o weld ein gwyddonwyr yn CERN yn Genefa. Mae ein clwstwr lled-ddargludyddion - y mwyaf yn y byd - wedi rhyfeddu cynulleidfaoedd rhyngwladol, ac ymhen tair wythnos byddaf yn cyflwyno’r rhestr gyntaf erioed o brosiectau Cymreig i gynulleidfaoedd rhyngwladol yng nghynhadledd MIPIM yn Cannes.

Mae ein Bargeinion Dinesig a Thwf yn dangos y gwaith sy’n digwydd ar y cyd rhyngom ni a Llywodraeth Cymru. Ac ar ddechrau’r wythnos hon, am y tro cyntaf, mae’r ddwy lywodraeth wedi cynnal digwyddiad gyda’i gilydd i Lysgenhadon yn y Swyddfa Dramor fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain.

Mae rhai o bobl fwyaf dawnus Cymru yn yr ystafell hon nawr, o fyd busnes i chwaraeon a diwylliant. Hoffwn dalu teyrnged i chi am eich ymdrech ddiflino yn hybu buddiannau Cymru gartref a thramor.

Gadewch i mi orffen gyda geiriau Dewi Sant, a fydd gobeithio yn ysbrydoliaeth i ni i gyd:

“Byddwch lawen a gwnewch y pethau bychain.”

Brif Weinidog – yn ogystal â’r pethau mawr yn y llywodraeth rydych chi’n gwneud trwy’r amser, rwy’n gwybod y bydd y geiriau hyn yn bwysig i chi oherwydd mae rhoi sylw ar y manylion yn cyfleu i’r dim sut rydych chi’n gwneud pethau.

Felly, rwy’n siŵr y bydd pob un ohonom yn cytuno eich bod yn dilyn llwybr a chyngor Dewi Sant, y Cymro gorau fu.

Diolch yn fawr.

Cyhoeddwyd ar 27 February 2019