Anerchiad

Araith Alun Cairns yng nghinio’r CBI yng Ngogledd Cymru

Alun Cairns yn rhoi araith yng nghinio’r CBI yng Ngogledd Cymru

The Rt Hon Alun Cairns MP

Diolch i chi am y gwahoddiad i siarad yma heno.

Mae’n wych bod yma yng Ngogledd Cymru eto ac rwy’n gefnogwr mawr o’r CBI yn pledio achos busnesau yma yng Nghymru.

Mae Gogledd Cymru yn lle gwych i fuddsoddi fel rwyf wedi gweld o nifer o ymweliadau ers i mi gymryd fy rôl yn Swyddfa Cymru ym mis Gorffennaf y llynedd. Mae’n un o rannau mwyaf deinamig y DU gyda’i chysylltiadau anorfod â Gogledd-orllewin Lloegr - rhywbeth yr wyf am ddychwelyd ato.

Er 2010, mae’r economi yng Ngogledd Cymru wedi cynyddu 13.2 y cant, yn gyflymach na Chymru a’r DU. Dengys y ffigurau diweddaraf ei bod wedi tyfu 3.1 y cant, yn erbyn 2.5 y cant ar lefel y DU.

Felly mae’r economi yng Ngogledd Cymru yn parhau i dyfu, ac mae’r farchnad lafur yn cael ei chefnogi gan fusnesau sy’n parhau i greu swyddi. Mae angen i ni adeiladu ar y momentwm hwn. Y DU sy’n tyfu gyflymaf ymysg y G7. Cymru yw’r rhan o’r DU sy’n tyfu gyflymaf ac mae twf Gogledd Cymru yn digwydd yn gyflymach na’r ffigurau ar gyfer Cymru fel cyfangorff.

Ac mae’r dystiolaeth yn glir.

Ar fy ymweliad â Gogledd Cymru fis diwethaf roeddwn wrth fy modd yn dangos i’r Gweinidog Pwerdy’r Gogledd, James Wharton yr awydd sydd gan fusnesau i fod yn rhan o’r agenda i adfer cydbwysedd economi’r DU. Cyfarfûm ag arweinwyr cynghorau a busnesau o Ogledd Cymru a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy i drafod sut i helpu Pwerdy Gogledd i dyfu.

Roedd hefyd yn fraint cael ymweld a blasu’r seigiau Coreaidd teilwng yn KK Foods - sydd yma heno. Ynghyd â datblygiad parhaus y prosesau yn Toyota. Mae’n anodd credu, yn dilyn ailstrwythuro’r diwydiant yn y 70au a’r 80au ein bod yn awr yn allforio mwy o geir nag erioed o’r blaen.

Ers yr etholiad mae’r Canghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol hefyd wedi ymweld ag Airbus ac fe wnaeth y Prif Weinidog ymweld â Chanolfan Addysg Awyr Agored Oaklands gyda Bear Grylls. Mae’r holl dystiolaeth yn dangos fod Gogledd Cymru mewn sefyllfa berffaith i chwarae rhan holl bwysig ym Mhwerdy’r Gogledd.

Pwerdy’r Gogledd

Mae Pwerdy’r Gogledd yn gyfle i gywiro’r anghydbwysedd economaidd rhwng y Gogledd a’r De – dylid achub ar y cyfle hwn ar bob cyfrif.

Fel Llywodraeth, yr ydym yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd economaidd Rhanbarthau’r Gogledd ac rydym wedi dechrau adeiladu Pwerdy’r Gogledd.

Mae’r Canghellor wedi datgan ei weledigaeth ar gyfer rhanbarth mwy integredig, mwy pwerus gyda chysylltiadau trafnidiaeth cyflymach a llyfnach sy’n gallu rhoi hwb gwirioneddol i dwf economaidd yn y rhanbarth.

Mae cynllun y Canghellor ar gyfer Pwerdy’r Gogledd yn ymwneud â chydbwyso ein twf, creu economi gref a chynnal Teyrnas Unedig gref.

Yr her yn awr yw sicrhau bod Gogledd Cymru yn rhan o’r adfywiad economaidd sy’n digwydd ar draws rhannau Gogleddol y DU.

Ar ei ymweliad diweddar â Gogledd Cymru, roedd y Gweinidog, James Wharton yn glir nad oedd dim ffiniau i Bwerdy’r Gogledd – a bod hynny’n fwriadol.

Nid yw Pwerdy’r Gogledd, fel busnesau yn yr ardal, yn cydnabod y ffiniau gweinyddol.

Mae’r cysylltiadau rhwng gogledd Cymru a dinasoedd gogledd Lloegr yn bwysig iawn ac rydym yn cydnabod nad yw’n ffin sefydlog. Mae llawer o bobl yn byw ac yn gweithio ar ddwy ochr y ffin ac yn teithio ar ei thraws bob dydd.

Cydnabyddir yn eang bod gogledd ddwyrain Cymru a gogledd orllewin Lloegr yn ffurfio un endid economaidd sengl. Mae rhwydwaith trafnidiaeth integredig ac ardal mewnfuddsoddi ddeniadol ymysg dyheadau’r llywodraeth leol ac arweinwyr busnes ar ddwy ochr y ffin - ac rydym am ymateb i’r galw hwn.

Roeddwn braidd yn siomedig pan awgrymodd un o Weinidogion Llywodraeth Cymru nad oedd gan Bwerdy’r Gogledd ond ‘diferion manteision’ i’w cynnig i Ogledd Cymru. Rhaid i bawb gyd-dynnu, er mwyn cyflawni dros Gymru. Nid oes llawer o bwynt sefyll ar y cyrion. Rwyf am i Ogledd Cymru fod â rhan allweddol yn y prif weithredu. Mae gan Ogledd Gymru lawer i’w elwa o Bwerdy’r Gogledd. Ond mae gan Ogledd Cymru hefyd lawer i’w gynnig i Bwerdy’r Gogledd.

Mae gennym gyfoeth o ddiwydiannau sy’n rhoi Gogledd Cymru ar y map fel canolbwynt byd-eang i ragoriaeth gweithgynhyrchu. Mae sylfeini allforio Gogledd Cymru a’i enw da ym maes prosiectau ynni mawr yn ei wneud yn bartner perffaith ar gyfer cydweithio’n agosach er mwyn ehangu economi’r gogledd yn ogystal â sector busnesau bach deinamig ar draws i Ynys Môn a Gwynedd.

Sgiliau

Mae arnom nid yn unig angen adfer cydbwysedd ein heconomi yn ddaearyddol, mae angen i ni sicrhau bod ein hadnoddau sgiliau yn diwallu anghenion busnesau a gofynion pobl ifanc.

Mae prentisiaethau yn ganolog i’n cenhadaeth i ailadeiladu ac adfer cydbwysedd, gan roi cyfle i bobl ifanc ddysgu crefft ac adeiladu eu gyrfaoedd.

Mae Llywodraeth y DU wedi gosod targed o 3 miliwn o brentisiaethau newydd yn ystod y senedd hon. Mae hon yn uchelgais enfawr a bydd angen ymdrech deg i’w chyflawni, ac fe wnawn hynny. Rydym yn cynnig cefnogaeth i fusnesau yn Lloegr i helpu i gyflawni hyn ac rwyf eisiau sicrhau nad yw Cymru’n cael ei gadael ar ôl.

Rwyf am i Lywodraeth Cymru ddilyn ein hesiampl a buddsoddi ym mhobl ifanc Cymru, neu bydd yna broblemau penodol yn rhannau dwyreiniol gogledd Cymru o ystyried y flaenoriaeth a gaiff yr uchelgais hon ar ochr Lloegr i’r ffin.

Mae cystadleuaeth am lafur yn risg. Rwyf am iddi fod rhwng cwmnïau nid rhwng gwledydd.

Arloesi

Wedi’i gysylltu â sgiliau y mae arloesi - elfen arall o Bwerdy’r Gogledd.

Mae gennym rai enghreifftiau o arloesi o’r radd flaenaf yng Ngogledd Cymru ac fe wnes i ymweld â rhai ohonynt yn ddiweddar. Mewn eglwys wedi’i haddasu yn Llandudno yr oedd un, mae bellach yn ganolfan ar gyfer cwmnïau uwch-dechnoleg. Ymhlith y rhai a welais yr oedd Stockomendation - gwefan sy’n dwyn ynghyd arbenigwyr ag awgrymiadau gwych am y gyfnewidfa stoc – sydd eisoes yn gwneud argraff fawr yn y wasg ariannol. Ond nid oddi wrth fusnesau yn unig y daw arloesi. Mae rhai o ddarparwyr addysg gorau’r byd i’w cael yn lleol.

Mae Prifysgol Bangor eisoes wedi sicrhau £2.3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU o gronfa Innovate UK ar gyfer eu gwaith arloesol yn y bio-wyddorau.

Mae Prifysgol Glyndŵr hefyd wedi datblygu braich robotig sydd hefyd wedi cael cyllid o gronfa Innovate UK.

Ond nid oes pendraw ar arloesi, ac felly rwy’n awyddus i brifysgolion a busnesau Gogledd Cymru gymryd rhan mewn clystyrau arbenigol sy’n datblygu yng Ngogledd y DU.

Ynys Ynni

Mae arloesi o’r fath hefyd yn lledaenu i bolisi Ynni.

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld sefydlu nifer o brosiectau buddsoddi - gorsaf bŵer niwclear Wylfa Newydd; safle biomas ac eco-barc Lateral Power; a fferm wynt ar y môr Gwynt y Môr sydd bellach wedi dechrau gweithio.

Mae Ynys Ynni Môn yn dwyn ynghyd randdeiliaid o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae cydweithio o’r fath yn hollbwysig os ydym am ddenu buddsoddiad a datblygu sgiliau’r cymunedau lleol.

Dylai cydweithrediad Coleg Menai gyda Pŵer Niwclear Horizon gael ei gymeradwyo hefyd. Y gweithredu uniongyrchol hwn, sy’n darparu i’n pobl ifanc yr union sgiliau y mae’r sector ynni niwclear ac ehangach yn chwilio amdanynt, a fydd yn sicrhau ein bod yn elwa o gynifer â phosibl o’r manteision sydd ar gael.

Mae gan y buddsoddiadau hyn y potensial i ddod â miloedd o swyddi sydd wir eu hangen i’r rhanbarth, yn ogystal â chyfleoedd economaidd ehangach. Mae Hitachi wedi nodi y gallai hyd at 60% o’r cynnwys ar gyfer y safle cyntaf gael eu prynu o ffynonellau lleol.

Rwyf eisiau sicrhau bod busnesau yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigia’r gadwyn gyflenwi a bod gan ein gweithlu’r sgiliau i ymgeisio am y swyddi sy’n cael eu creu.

Carchar Gogledd Cymru

A byddwn i’n hoffi meddwl bod y carchar £212m yn Wrecsam nid yn unig yn enghraifft dda o fuddsoddiad cyfalaf sydd wir ei angen, gyda throsiant refeniw a chyflogaeth barhaus - ond ei fod hefyd yn enghraifft dda o gaffael a chyrchu effeithiol.

Mae ¾ o’r gweithwyr sy’n adeiladu’r prosiect yn lleol, mae £13.3m o’r gwariant hyd yn hyn wedi cael ei neilltuo i gwmnïau lleol, mae 100 o brentisiaid wedi’u recriwtio a bydd 500 o leoliadau diwrnod gwaith ar gael. Bydd mwy na 1000 o staff yn rhedeg y carchar.

Mae’r model caffael a ddefnyddir ar gyfer y carchar wedi cael ei gydnabod fel ffordd wych o sicrhau bod busnesau lleol yn elwa. Bu galwadau i fodelau tebyg gael eu defnyddio ar gyfer prosiectau i’r dyfodol, ond hoffwn glywed eich adborth chi ar sut gallai hyn gael ei ddatblygu ymhellach, gyda chynifer o gynlluniau eraill i’r dyfodol, yn enwedig Wylfa 2.

Band eang cyflym iawn

Gwn fod rhai ardaloedd yn y rhan hon o Gymru sy’n dal i gael trafferth gyda chysylltiad band eang ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd band eang dibynadwy da, a signal ffonau symudol, mewn lleoliadau dinesig a gwledig fel ei gilydd.

Gwn eich bod wedi hyrwyddo’r angen am seilwaith band eang gwell sy’n allweddol i’ch busnesau.

Wel, ers yr etholiad, llofnododd Llywodraeth y DU gontract pellach fel rhan o’r broses o gyflwyno band eang cyflym iawn - yma yng Nghymru - ac rydym yn gweld canlyniadau go iawn. Erbyn hyn mae gan dros filiwn o gartrefi a busnesau yng Nghymru fynediad i fand eang sydd ymysg y cyflymaf yn y byd. Ein bwriad ydy y bydd 96% o Gymru wedi cael ei chysylltu erbyn y gwanwyn nesaf a 95% o’r DU y flwyddyn ganlynol. Enghraifft dda lle mae Cymru ar flaen y gad.

O ran ffonau symudol, sicrhawyd dêl arloesol gyda chwmnïau ffonau symudol i rannu mastiau i wella’r signal, a bydd 4G yn cyrraedd 98% o’r DU, gydag o leiaf 95% yma yng Nghymru.

Drwyddo draw, mae hwn yn ddarlun positif o ddyfodol y seilwaith digidol ar draws Cymru.

Seilwaith trafnidiaeth

Mae seilwaith trafnidiaeth yr un mor bwysig i fodloni ein disgwyliadau o ran cynhyrchiant; i annog buddsoddiadau newydd; ac i helpu pobl i fanteisio ar y cyfleoedd am waith a ddaw yn sgil hyn.

Mae’r gwelliannau diweddar i’r Halton Curve – gan ailsefydlu cysylltiad trenau uniongyrchol rhwng Gogledd Cymru a Lerpwl, yn ddechrau da.

Mae potensial enfawr i HS2 hefyd, gyda Crewe yn ganolbwynt rhanbarthol.

Ond rydym yn cydnabod bod angen buddsoddi ymhellach yn y rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru. Fe wnaeth y Canghellor ar ei ymweliad diweddar gydnabod pwysigrwydd gwneud gwelliannau i’r rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru ac i Ogledd Orllewin Lloegr.

Yr wythnos nesaf byddaf yn cyfarfod ag Edwina Hart i weld sut gallwn fwrw hyn ymlaen orau – gan gydnabod y potensial economaidd yn ogystal â’r mesurau traddodiadol sydd wedi canolbwyntio ar nifer y teithwyr ac ystyriaethau amgylcheddol. Mae cydweithredu ar draws y ffin yn allweddol i’n cais.

Mae arnom angen consortiwm effeithiol o bawb sydd â buddiant - ASau, ACau, arweinwyr busnes, cynghorau - gan gyflwyno’r ddadl dros seilwaith trafnidiaeth gyda set glir o flaenoriaethau, cynllun gweithredu clir ac ymrwymiadau cyllido clir.

Llais i Ogledd Cymru

Heno rwyf wedi cyfeirio’n sydyn at lawer o’r gweithgaredd sy’n digwydd yma yng Ngogledd Cymru – eich arloesedd chi a buddsoddiadau cyffrous fel ei gilydd, yn ogystal â pholisïau’r llywodraeth a fwriedir i’ch cefnogi chi a Gogledd Cymru i ddatblygu ymhellach. Mae llawer wedi ei gyflawni ac mae mwy o gyfleoedd o’n blaenau.

Mae Pwerdy’r Gogledd yn digwydd a gyda blaenoriaeth wleidyddol o’r fath, bydd yn adfer cydbwysedd ein heconomi.

Ond gadewch i mi eich gadael gydag un ystyriaeth olaf.

Mae cyfleoedd a buddsoddiadau tebyg yn digwydd mewn mannau eraill ar draws rhannau Gogleddol y DU. Nid yw’r rhanbarthau eraill yn sefyll yn llonydd.

Mae agenda Pwerdy’r Gogledd yn codi momentwm. Manceinion sy’n arwain y ffordd a hi oedd y cyntaf gyda’i Metro-Faer. Mae pwerau sylweddol yn cael eu datganoli i ardaloedd eraill ar draws y wlad - mae Manceinion wedi cael rheolaeth dros £1bn o wariant ynghyd â phwerau dros drafnidiaeth, addysg, lles ac iechyd a gofal cymdeithasol. Mae nifer o geisiadau i ddilyn eu hesiampl. Mae Cynlluniau Dinesig yn cael eu creu ar draws y DU - o Aberdeen i Fryste i Gernyw. Y tu ôl i’r newidiadau hyn mae syniad syml; mae arian sy’n cael ei wario’n agosach yn aml yn arian sy’n cael ei wario’n ddoethach.

Mae agenda Pwerdy’r Gogledd yn digwydd. Mae’n agenda y mae’n rhaid inni fanteisio arni. Ni allwn gael ein gadael ar ôl.

Er mwyn i Ogledd Cymru gyflawni ei wir botensial, mae angen i lais gogledd Cymru fod yn gryfach nag erioed o’r blaen.

Mae angen i chi leisio eich barn yn uchel a chlir i dawelu unrhyw densiwn gwleidyddol.

Mae gan y CBI record wych o sicrhau bod ei lais yn cael gwrandawiad.

Cyhoeddwyd ar 17 September 2015