Skip to main content
Transparency data

Transparency Data: Updated estimates of children with a parent in prison (Welsh version)

Updated 6 November 2026

Applies to England and Wales

Amcangyfrifon o blant sydd â rhiant yn y carchar

Crynodeb Gweithredol

Mae’r cyhoeddiad hwn yn darparu amcangyfrifon wedi’u diweddaru o blant sydd â rhiant yn y carchar yn dilyn amcangyfrifon a ryddhawyd yn flaenorol ym mis Gorffennaf 2024. Cyhoeddir y ffigurau hyn fel data tryloywder gan ddefnyddio methodoleg ddiwygiedig i roi amcangyfrif mwy cywir o nifer y plant a adnabuwyd.

Mae bod â rhiant yn y carchar yn cael ei gydnabod fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod, a gall plant wynebu mwy o heriau o’u cymharu â’u cyfoedion sydd heb gael y profiad o fod â rhiant yn y carchar. Yn ei maniffesto ar gyfer y Blaid Lafur yn 2024, ymrwymodd y llywodraeth i adnabod plant yn effeithiol a darparu cefnogaeth i blant yr effeithir arnynt yn sgil bod ganddynt riant yn y carchar. Roedd hyn yn dilyn Papur Gwyn y Strategaeth Carchardai (2021) ac Adolygiad Farmer (2017) a ymrwymodd i ymchwilio i rannu data ar garcharorion a’u teuluoedd. Yn dilyn yr ymrwymiad yn y maniffesto, mae’r llywodraeth yn cymryd camau gyda chynlluniau peilot a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i dreialu cydnabyddiaeth weithredol a chefnogaeth i blant sydd â rhiant yn y carchar, gan weithio’n agos gydag awdurdodau lleol.

Rhwng mis Hydref 2023 a mis Hydref 2024, amcangyfrifwyd bod gan 219,000 o blant riant yn y carchar yng Nghymru a Lloegr, gydag amcangyfrif o 2% o blant oed ysgol yn profi cael rhiant yn y carchar. Mae hyn yn gynnydd o’i gymharu â’n hamcangyfrif blaenorol o 192,000 o blant am gyfnod o 12 mis rhwng mis Hydref 2021 a mis Hydref 2022. Mae’r ddau amcangyfrif wedi cael eu talgrynnu i’r mil agosaf.

Mae’r gwelliannau methodolegol wedi galluogi amcangyfrif mwy cadarn a dibynadwy. Yn flaenorol, roedd amcangyfrifon yn cael eu cyfrifo drwy adnabod carcharorion oedd â statws rhiant a defnyddio lluosydd cyfartalog o 1.77 o blant fesul carcharor. I’r gwrthwyneb, mae’r fethodoleg bresennol yn adnabod ac yn cyfrif plant sydd â rhiant yn y carchar yn uniongyrchol o’r data sydd ar gael, gan ei gwneud yn fwy cywir yn hytrach na dibynnu ar gyfartaledd tybiedig.

Mae gwelliannau methodolegol yn rhoi mwy o hyder yn yr amcangyfrif diweddaraf; fodd bynnag, mae’n parhau i fod yn destun rhai rhagdybiaethau, yn bennaf yr addasiad bach ar gyfer tangyfrif. Disgwylir i gynnydd yn y nifer o blant hefyd gyfateb i’r cynnydd yn y nifer o garcharorion rhwng 2021 a 2024.

Tynnir sylw at ba mor agored i niwed yw’r boblogaeth hon gan y canfyddiad bod o leiaf hanner (53%) y plant a adnabuwyd mewn perygl o gael eu niweidio’n uniongyrchol gan y rhiant sydd yn y carchar. Mae adnabod pwy yw’r plant hyn, yn ogystal â chynnig cefnogaeth i deuluoedd yn gynnar, yn bwysig er mwyn atal niwed. Dim ond tua hanner (48%) y plant a adnabuwyd oedd â chyfeiriad cysylltiedig o gofnodion y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu Fudd-dal Plant CThEF lle’r oedd cysylltiad. Ni ellir tybio bod y plentyn yn byw yn yr un cyfeiriad a’r un a nodir ar gyfer y rhiant yn y carchar.

Ar gyfer plant a adnabuwyd ac sydd â chofnodion o’u cyfeiriad (48% o blant), pan gawsant eu rhestru yn ôl cyfran y plant â rhiant yn y carchar, roedd llawer o’r awdurdodau lleol â chyfran uchel o blant â rhiant yn y carchar mewn ardaloedd trefol gogleddol, a threfi arfordirol. Mae’r canfyddiadau hyn yn ddangosol a dylid eu dehongli’n ofalus o ystyried y diffyg cwmpas lawn o bob cyfeiriad ar gyfer y plant. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau hyn yn cael eu hategu gan ddata Swyddfa’r Comisiynydd Plant sydd hefyd yn dangos cyfrannau uwch o blant sydd â rhiant yn y carchar mewn ardaloedd tebyg. Mae’r rhesymau y tu ôl i’r canfyddiad hwn yn debygol o fod yn gymhleth, wedi’u sbarduno’n rhannol gan amddifadedd ond mae angen ymchwilio ymhellach iddynt.

Er mai canfyddiadau dangosol cynnar yw’r rhain, nod y gwaith hwn yn y pen draw yw galluogi’r holl blant yr effeithir arnynt i gael eu hadnabod a chael cynnig cefnogaeth. At y diben hwn, gall gwaith yn y dyfodol gynnwys cysylltu data ymhellach, cael gwybodaeth yn well o gofnodion testun rhydd, neu gasglu data’n well. Heb ddata cyfeiriadau, ni ellir trosglwyddo gwybodaeth i awdurdodau lleol i adnabod a chefnogi plant.

Cofnodwyd tua thraean (32%) o blant ar restrau ymwelwyr carchardai. Mae hyn yn debyg i ganfyddiadau’r elusen Children Heard and Seen, sy’n nodi bod dwy ran o dair (67%) o’r plant y mae’r elusen yn eu cefnogi ddim yn ymweld[1] â charchar o gwbl. Mae’r canfyddiadau’n dangos bod gwahaniaeth o ran ymweliadau plant â charcharorion benywaidd (31%) o’i gymharu â charcharorion gwrywaidd (50%). Gall fod amryw o resymau dros y gwahaniaeth hwn, megis bod pellter yn rhwystr rhag ymweld â charchardai menywod, amgylchiadau teuluol, neu drefniadau gofal.

Mae’r amcangyfrifon a gyflwynir yma wedi cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio data gweinyddol a gedwir gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF), drwy gysylltu gwybodaeth o gofnodion carchardai â data Budd-dal Plant.

Mae cyhoeddiad cysylltiedig sy’n darparu ystadegau disgrifiadol ar garfan Gymreig o blant yr effeithir arnynt gan fod â rhiant yn y carchar a natur y teuluoedd yr effeithir arnynt wedi cael ei ryddhau ochr yn ochr â’r data hwn.

Cyfyngiadau

Wrth ddehongli’r amcangyfrifon hyn, dylai darllenwyr ystyried y cyfyngiadau a’r tybiaethau a wnaed, sef:

  • mae’r diffiniad o statws rhiant yn eang ac oni nodir yn wahanol, mae cyfeiriadau at “rhiant” yn cynnwys gwarcheidwaid cyfreithiol ac eraill sydd â chyfrifoldebau ehangach rhiant (adran 1.2)
  • efallai na fydd rhai plant yn cael eu cynnwys naill ai yn systemau data’r HMPPS nac yn nata hawlwyr Budd-dal Plant CThEF. Dangosodd ymarfer dilysu (adran 2.4) fod darpariaeth ar gyfer pob plentyn oddeutu 85% a bod addasiad cwmpas cysylltiedig wedi’i ddefnyddio i gael yr amcangyfrif terfynol o 219,000 o blant. Mae’r amcangyfrif terfynol hwn wedi’i dalgrynnu i adlewyrchu ansicrwydd ac, er nad oes modd ei gymharu â’r amcangyfrif blaenorol oherwydd gwahaniaethau mewn methodoleg, mae’r cynnydd yn nifer y plant sydd â rhiant yn y carchar yn adlewyrchu cynnydd cyfatebol yn y nifer o garcharorion
  • mae ein data lleoliad yn cwmpasu is-set o gyfanswm y plant a adnabuwyd, lle’r oedd cyfeiriad ar gael, ac yn rhoi syniad o ddosbarthiad daearyddol yn unig. Mae data lleoliad (cyfeiriad) yn hanfodol er mwyn gallu trosglwyddo gwybodaeth am blant i awdurdodau lleol er mwyn gallu cynnig cefnogaeth i deuluoedd

1. Cyflwyniad

1.1 Cefndir

Weithiau, disgrifir plant pobl sydd yn y carchar fel rhai sy’n bwrw “dedfryd gudd[2]”. Gall plant yr effeithir arnynt gan fod â rhiant yn y carchar wynebu nifer o anawsterau, fel y gwelir ar draws amrywiaeth o ganlyniadau iechyd, addysgol a chymdeithasol. Felly, mae’n hanfodol gweithio ar draws y llywodraeth i alluogi plant sydd wedi cael profiad o riant yn y carchar i gyflawni a ffynnu.[3] Mae ymchwil yn dangos yn gyson bod plant sydd â rhiant yn y carchar yn cael canlyniadau addysgol gwaeth na’u cyfoedion, gan gynnwys cyrhaeddiad is, cyfraddau gwahardd uwch, a llai o debygolrwydd o symud ymlaen i addysg bellach neu uwch[4]. Gall plant hefyd ddod ar draws perthynas drwblus gydag athrawon a chyfoedion, a waethygir yn aml gan stigma a chyfrinachedd ynghylch carcharu rhiant[5].

Cyfeiriodd Adolygiad Farmer, a oedd yn trafod pwysigrwydd cryfhau cysylltiadau teuluol carcharorion (2017), at fylchau sylweddol mewn data swyddogol ar yr effaith o fod â rhiant yn y carchar, gan nodi nad oedd proses yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i gofnodi’n ganolog nifer y plant yr effeithir arnynt. Nid yw hwn yn achos ar ei ben ei hun; mae gwledydd eraill hefyd yn mynd i’r afael â defnyddio data i ddeall graddfa’r nifer o blant yr effeithir arnynt gan fod â rhiant yn y carchar[6]. Mae dulliau eraill o weithredu yn dibynnu ar ddata rhannol a darniog yn hytrach na darlun llawn a chywir. Hyd yma, y cyhoeddiad hwn yw’r amcangyfrif mwyaf cynhwysfawr ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae cryfhau cysylltiadau teuluol, lle mae’n ddiogel ac yn briodol gwneud hynny, yn agwedd hanfodol ar waith y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r HMPPS i helpu i gefnogi cydlyniant teuluol a gwella canlyniadau i blant a theuluoedd. Mae hefyd yn galluogi ail-ymgysylltu cadarnhaol â chymdeithas ar ôl rhyddhau lle mae cynnal perthynas â rhiant sydd wedi’i garcharu yn ddiogel, yn briodol ac er lles gorau’r plentyn. Yn dilyn yr ymrwymiad yn y maniffesto yn 2024, mae’r llywodraeth yn cymryd camau[7]. Mae cynlluniau peilot wedi dechrau treialu cydnabyddiaeth weithredol dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder o blant sydd â rhiant yn y carchar a chefnogaeth dan arweiniad yr Adran Addysg.

1.2 Diffiniad o blant sydd â rhiant yn y carchar

Nid oes un diffiniad ffurfiol o blant yr effeithir arnynt gan fod â rhiant yn y carchar. Fodd bynnag, yn 2023, darparodd Cyngor Ewrop rai safonau a chanllawiau rhyngwladol[8] ar blant sydd â rhieni yn y carchar, gan argymell dealltwriaeth eang sy’n seiliedig ar hawliau ac sy’n cwmpasu:

  • plant rhieni sydd yn y carchar, y mae eu hawliau a’u llesiant yn cael eu heffeithio arnynt
  • plant rhoddwyr gofal sydd yn y carchar, nid rhieni biolegol yn unig
  • plant yr effeithir arnynt ym mhob cam o’r broses cyfiawnder troseddol

Ymgynghorwyd ag ystod eang o randdeiliaid ar ddiffiniadau o ran rhiant yn y carchar. Mae’r diffiniad yn dal yn un eang er mwyn cofnodi cymaint o senarios â phosibl lle gellid adnabod plant. Mae’r plant hyn yn cynnwys:

  • Plentyn/plant carcharor(ion)
  • Plentyn/plant partner presennol neu gyn-bartner carcharor
  • Carcharorion sydd wedi’u cysylltu drwy gyfeiriad - lle mae carcharor wedi rhannu cyfeiriad â phlentyn/plant yn y gorffennol

Mae’r categori olaf yn cael ei hidlo i gyfrif am blant o rwydwaith cymdeithasol ehangach pob carcharor (er enghraifft neiniau a theidiau, modrybedd, ewythrod), lle mae’r plentyn wedi byw gyda’r carcharor. Mae hyn yn golygu bod modd adnabod mwy o blant. Ar gyfer cofnodion plant, cadwyd cofnodion y rhai a oedd o dan 18 oed ar 1 Hydref 2024.

2. Methodoleg

Mae amcangyfrif nifer y plant sydd â rhiant yn y carchar yn fethodolegol gymhleth ac fe’i disgrifir yn llawn yn adran 4 y Canllaw Technegol. Fodd bynnag, gellir crynhoi’r broses yn fras mewn tri cham:

1) Cael gwybodaeth am berthnasoedd cymdeithasol carcharorion, gan gynnwys eu plant, gan ddefnyddio cyfuniad o ddata strwythuredig a dadansoddiad gan Ddeallusrwydd Artiffisial o nodiadau achos.

2) Cysylltu’r cofnodion hyn â data Budd-dal Plant CThEF.

3) Addasu’r amcangyfrifon canlyniadol i roi cyfrif am blant nad ydynt efallai wedi cael eu hadnabod drwy eu cymharu â ffynonellau data annibynnol.

2.1 Ffynonellau data

Mae’r holl waith dadansoddi yn seiliedig ar garfan o unigolion a dreuliodd unrhyw gyfnod yn y carchar rhwng 1 Hydref 2023 a 1 Hydref 2024 y cyfeirir atynt yma fel y garfan o garcharorion.[9]  Mae hyn yn cynnwys pob unigolyn yn y ddalfa, p’un a oeddent ar remánd, wedi’u dedfrydu, yn cael eu galw’n ôl neu wedi’u cadw am drosedd sifil.[10]

Cafwyd gwybodaeth am berthnasoedd cymdeithasol carcharorion o bum ffynhonnell ddata carchardai a phrawf HMPPS ar gyfer y 154,620 o unigolion yn y garfan. Disgrifir y ffynonellau data a’r meysydd data yn llawn yn adran 2 y Canllaw Technegol.

2.2 Defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)

Cofnodir gwybodaeth am berthnasoedd teuluol a chymdeithasol mewn meysydd data strwythuredig ac mewn cofnodion testun rhydd sydd heb strwythur, megis nodiadau achos swyddog carchar NOMIS a swyddog prawf NDelius. Defnyddiwyd Modelau Iaith Mawr (LLMs) i adnabod ac i gael gwybodaeth berthnasol o’r ffynonellau testun rhydd hyn. Math o Ddeallusrwydd Artiffisial yw Modelau Iaith Mawr sydd wedi’u hyfforddi ar symiau mawr o destun ac sy’n gallu prosesu a dadansoddi iaith ddynol i gyflawni tasgau penodol.

Mae’r amcangyfrifon a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar fethodoleg wedi’i mireinio a ddatblygwyd o’r gwersi a ddysgwyd yn ystod ein cyhoeddiad blaenorol. Daeth dau fewnwelediad allweddol i’r amlwg o ddysgu blaenorol.

Yn gyntaf, roedd y cysylltiad rhwng poblogaeth y carchardai sy’n ddynion yn bennaf a chofnodion hawlwyr Budd-dal Plant CThEF yn llai effeithiol na’r disgwyl oherwydd bod Budd-dal Plant yn aml yn cael ei hawlio gan fam y plentyn neu aelod arall o’r teulu sy’n gweithredu fel y prif ofalwr. Yn 2025, roedd 85% o’r hawlwyr yn fenywod o’i gymharu â 15% o ddynion.[11] Addaswyd y fethodoleg i gael gwybodaeth am berthnasoedd cymdeithasol carcharorion, gan gynnwys eu plant.

Yn ail, mae datblygiadau diweddar mewn Modelau Iaith Mawr bellach yn golygu bod modd cael gafael ar wybodaeth o nodiadau achos yn hynod o gywir a bod modd prosesu yn effeithlon symiau mawr o destun sydd heb strwythur. Addaswyd y fethodoleg i ddefnyddio’r modelau diweddaraf ar gyfer ymdrin yn fwy cywir a chyflawn â gwybodaeth am garcharorion a’u plant.

Defnyddiwyd yr holl ddata at ddibenion dadansoddi yn unig, gan ddarparu amcangyfrifon cyffredinol yn ymwneud â charcharorion a’u plant ar ffurf gyfun. Ni ddefnyddiwyd y dadansoddiad i adnabod carcharorion na phlant unigol.

2.3 Cysylltu â data CThEF

Mae data HMPPS wedi cael ei gysylltu â data Budd-dal Plant CThEF i greu data cysylltiedig a rennir rhwng y Weinyddiaeth Gyfiawnder a CThEF. Mae hyn er mwyn darparu gwybodaeth fwy cyflawn am blant a adnabir yn y ffynonellau data strwythuredig a’r ffynonellau data heb strwythur. Edrychwyd ar rwydwaith cymdeithasol llawn pob carcharor gan fod y gwarcheidwad cyfreithiol yn hawlio Budd-dal Plant, felly mewn rhai achosion efallai nad yr hawlydd yw’r rhiant ei hun.[12] Dewiswyd data Budd-dal Plant gan fod ganddo gwmpas uchel iawn, gyda 90% o’r holl blant sy’n gymwys i gael Budd-dal Plant yn cael eu hawlio ar eu cyfer,[13] ac mae’n darparu gwybodaeth gywir am blant sy’n gysylltiedig â hawlydd, eu hoedran, a lle man nhw’n preswylio.

2.4 Cwmpas y plant a adnabuwyd

Mae’r ffynonellau data sy’n gysylltiedig â’i gilydd yn galluogi cyfrif o blant sydd â rhiant yn y carchar. Cafodd yr amcangyfrifon eu haddasu ymhellach i gyfrif am blant nad oedd modd eu hadnabod drwy ddata strwythuredig, nodiadau achos heb strwythur, neu drwy baru data CThEF. Mesurwyd y tangyfrif hwn drwy gymharu plant a adnabuwyd yn erbyn dwy ffynhonnell ddata annibynnol:

  • Ymgyrch Paramount yn ardal Dyffryn Tafwys. Mae Ymgyrch Paramount yn fenter dan arweiniad yr heddlu sy’n cysylltu plant sydd â rhiant yn y carchar â sefydliadau trydydd sector sy’n gallu darparu cefnogaeth. Mae wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn a chymerir ei fod yn ffynhonnell wybodaeth gadarn am blant sydd â rhiant yn y carchar ar gyfer yr ardal honno

  • cyfrifiad untro o ysgolion gan Gomisiynydd Plant Lloegr. Gofynnwyd i ysgolion (ymhlith cwestiynau eraill) roi amcangyfrif o nifer eu disgyblion oedd â rhiant neu ofalwr yn y carchar yn ystod tymor yr haf 2024. Cafodd hyn ei ddefnyddio i wirio’r allosodiad ar gyfer tangyfrif o ranbarth Dyffryn Tafwys i lefel genedlaethol

Roedd dadansoddiad manwl, a oedd yn cymharu sampl o blant o ddata cysylltiedig y Weinyddiaeth Gyfiawnder-CThEF ag Operation Paramount, yn awgrymu bod y rhan fwyaf o blant (a’u brodyr a chwiorydd cysylltiedig sydd dan 18 oed) wedi cael eu hadnabod (gweler Canllaw Technegol adran 4.8 am ragor o fanylion). Defnyddiwyd y dadansoddiad hwn i bennu ffactor addasu o 1.2 er mwyn cyfrif am yr amcangyfrif o dangyfrif cenedlaethol.

Mae defnyddio’r addasydd hwn ar y cyfrif a welwyd, sef 182,724 o blant, yn arwain at amcangyfrif o 219,000 o blant a oedd â rhiant yn y carchar rhwng 1 Hydref 2023 ac 1 Hydref 2024. Mae’r ffigur hwn yn cynrychioli’r amcangyfrif gorau ar ôl ystyried data coll a’r tan-nodi posibl, gydag ansicrwydd yn cael ei adlewyrchu drwy dalgrynnu i’r mil agosaf.

2.5 Cymaroldeb ag amcangyfrif blaenorol

Mae amcangyfrif 23/24 o 219,000 o blant sydd â rhiant yn y carchar tua 14% yn uwch na’r amcangyfrif yn 2021/22 o 192,912. Mae poblogaeth y carchardai wedi cynyddu 12% o 78,324[14] (30 Mehefin) yn 2021 i 87,360[15] (28 Mehefin) yn 2024, ac o ganlyniad, mae’n bosibl y bydd disgwyl i nifer y plant sy’n garcharorion gynyddu hefyd.

Mae’r gwelliannau methodolegol wedi galluogi amcangyfrif mwy cadarn a dibynadwy. Yn flaenorol, roedd amcangyfrifon yn cael eu cyfrifo drwy adnabod carcharorion oedd â statws rhiant a defnyddio lluosydd cyfartalog o 1.77 o blant fesul carcharor. I’r gwrthwyneb, mae’r fethodoleg bresennol yn adnabod ac yn cyfrif plant sydd â rhiant yn y carchar yn uniongyrchol o’r data sydd ar gael, gan ei gwneud yn fwy cywir yn hytrach na dibynnu ar gyfartaledd tybiedig.

O ganlyniad i’r newidiadau methodolegol hyn, nid oes modd cymharu’r amcangyfrifon yn y cyhoeddiad hwn yn uniongyrchol â ffigurau blaenorol. Gan ddefnyddio’r dull gweithredu presennol, cafwyd cymhareb o 2.44 o blant o dan 18 oed ar gyfer pob carcharor sy’n rhiant, sy’n sylweddol uwch na’r gymhareb 1.77 a ddefnyddiwyd yn y cyhoeddiad cynharach.

3. Canfyddiadau

Nid yw’r ffigur o 182,724 o blant a adnabuwyd wedi’i addasu ar gyfer tangyfrif a bydd yn cael ei ddefnyddio i roi mewnwelediadau ar gyfer gweddill yr adroddiad.

3.1 Trosolwg o’r ffynonellau data

Ceir disgrifiadau llawn o’r ffynonellau data hyn yn y Canllaw Technegol.

Tabl 1: Nifer a chanran y plant a adnabuwyd ym mhob ffynhonnell ddata.

Mae rhai plant yn ymddangos mewn sawl ffynhonnell ddata felly nid yw’r cyfrifiadau’n dod i gyfanswm o 182,724. Yn yr un modd, nid yw’r canrannau ym mhob colofn yn dod i 100% gan y bydd yr un plentyn yn ymddangos mewn sawl ffynhonnell ddata. 

Ffynhonnell Disgrifiad Nifer y plant a nodwyd Canran o gyfanswm y plant a nodwyd Canran o gyfanswm y plant a nodwyd yn y ffynhonnell ddata hon yn unig
OASys - Plentyn mewn Perygl Gwybodaeth am blant a allai fod mewn perygl o niwed difrifol gan y troseddwr. 97,277 53% 7%
Asesiadau llawn OASys Asesiadau manwl sy’n cael eu cynnal drwy gydol cyfnod unigolyn yn y carchar. 94,484 52% 8%
OASys BCST– Adnodd Sgrinio Sylfaenol ar gyfer Carcharorion Yn cael ei gynnal o fewn 72 awr ar ôl cyrraedd y ddalfa. Holi’r carcharor am gyfrifoldebau gofalu (oes/nac oes). 1,779 1% <1%
Nodiadau achos carchar Nodiadau wedi’u cofnodi mewn testun rhydd gan swyddogion carchar. 17,100 9% 1%
Rhestr ymwelwyr carchardai Unigolion sydd wedi’u cymeradwyo i ymweld â charcharorion. 59,212 32% 7%
Nodiadau achos y gwasanaeth prawf Nodiadau wedi’u cofnodi mewn testun rhydd gan swyddogion prawf. 47,872 26% 0%
Rhestr gyswllt y gwasanaeth prawf Cysylltiadau allweddol sy’n gysylltiedig ag unigolion dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf. 8,711 5% 2%
Budd-dal Plant CThEF Budd-dal gan y Llywodraeth a ddarperir ar gyfer y rhai hynny sy’n gyfrifol am fagu plentyn. 67,146 37% 14%

Yn unol â chanfyddiadau’r cyhoeddiad blaenorol, nid oes un ffynhonnell unigol yn cynnwys manylion am yr holl blant a adnabuwyd. Yn gyffredinol, roedd y ffynonellau data sydd heb strwythur yn fwy addysgiadol ond hefyd yn anoddach eu prosesu. Sylwch fod Tabl 1 yn adlewyrchu llwyddiant gwybodaeth a gafwyd ar enwau, oedrannau a chyfeiriadau plant (i adlewyrchu’r fethodoleg bresennol) yn hytrach nag arwydd ie/na deuaidd o statws rhiant (yr hen fethodoleg). Roedd hyn yn golygu bod y BCST yn llai defnyddiol ar gyfer y fethodoleg bresennol.

Roedd tua thraean (32%) o blant wedi’u rhestru ar restrau ymwelwyr â charchardai, mae hyn yn debyg i ganfyddiadau’r elusen Children Heard and Seen gyda dwy ran o dair (67%) o blant sy’n cael eu cefnogi sydd ddim yn ymweld[16] â charchar o gwbl.

Mae OASys - Plentyn mewn Perygl yn nodi dros hanner yr holl blant. Mae’r rhain yn blant y mae diogelu8 - risg o niwed uniongyrchol gan y carcharor i’r plentyn - yn broblem iddynt ac mae’n dangos poblogaeth o blant agored i niwed sy’n ddioddefwyr, neu a allai ddod yn ddioddefwyr, o ymddygiad troseddol eu rhieni. Gall niwed gynnwys troseddau rhywiol yn erbyn plant, cam-drin neu esgeuluso plant, paratoi neu gamfanteisio, neu sefyllfaoedd lle mae cam-drin domestig yn digwydd o’u cwmpas. Mae’r canfyddiad hwn yn cyd-fynd â’r cyhoeddiad “Characteristics of children affected by household imprisonment in Wales” sy’n dangos bod ffactorau bregusrwydd teuluoedd ac aelwydydd dros bum gwaith yn fwy cyffredin yn y garfan o blant [o Gymru] yr effeithiwyd arnynt gan garcharu aelod o’r aelwyd, gan gynnwys cam-drin domestig gan rieni, camddefnyddio sylweddau, salwch meddwl, salwch corfforol, ac anableddau dysgu.

Canfyddiadau pellach a gyflwynwyd yw:

  1. cymhariaeth rhwng y data blynyddol a chiplun un pwynt mewn amser yn ystod y flwyddyn (adran 3.2)
  2. grŵp oedran y plant (adran 3.3)
  3. dadansoddiad o garcharorion yn ôl rhyw ac ymweliadau gan blant (adran 3.4)
  4. arwydd o ddosbarthiad gofodol plant carcharorion (adran 3.5)

3.2 Amcangyfrif blynyddol yn erbyn amcangyfrif ciplun

Cyfanswm nifer y plant a adnabuwyd â rhiant yn y carchar a welir yn ein hamcangyfrif un diwrnod yn seiliedig ar y dyddiad 28 Mehefin 2024 yw 102,785. Cyfrifwyd hyn drwy gyfrif plant a oedd yn gysylltiedig ag unigolyn yn y carchar ar y dyddiad hwnnw.

3.3 Dadansoddiad o blant carcharorion yn ôl grŵp oedran plant

Roedd gwybodaeth am oedran ar gael ar gyfer 80% o’r rhai hynny a oedd wedi’u hadnabod fel bod â rhiant yn y carchar. Ochr yn ochr â’r ffigur o 182,724 o blant a adnabuwyd, roedd 35,327 o unigolion dros 18 oed pan gafodd y rhiant ei garcharu.

O’r plant (dan 18 oed) sydd â rhiant yn y carchar, mae:

  • 32,579 rhwng 0 a 4 oed (cyn ysgol)
  • 77,178 rhwng 5 ac 11 oed (ysgol gynradd)
  • 71,521 yn 12-17 oed (ysgol uwchradd)
  • 148,699 rhwng 5 ac 17 oed (oed ysgol)
  • 60,824 rhwng 10 ac 14 oed (yr ystod oedran yn y cyhoeddiad “Characteristics of children affected by household imprisonment in Wales”)

Mae’r data cysylltiedig yn amcangyfrif bod tua 1.4% o blant oed ysgol (5 i 17 oed) wedi cael y profiad o fod â rhiant yn y carchar rhwng mis Hydref 2023 a mis Hydref 2024. Gan ystyried y posibilrwydd o tangyfrif, byddai hyn yn cyfateb ag oddeutu 2% o blant sydd â rhiant yn y carchar. Mae’r ganran hon yn gyson ar draws yr ystod oedran ysgol gynradd (5 i 11 oed) a’r ysgol uwchradd (12 i 17 oed), yn ogystal â’r ystod oedran a ddefnyddir yn y cyhoeddiad “Characteristics of children affected by household imprisonment in Wales” (10 i 14 oed). Fodd bynnag, yn yr oedran cyn ysgol (0 i 4 oed) mae’r ganran hon yn is ar 0.9%.  Gall hyn fod oherwydd ffactorau megis diffyg ymysg rhai carcharorion o ran rhoi gwybod neu anhawster o ran sefydlu cysylltiadau teuluol â phlant ifanc iawn, yn ogystal ag oedi cyn hawlio yn arwain at gwmpas is o ran Budd-dal Plant CThEF ar gyfer yr ystod oedran hon.

3.4 Dadansoddiad o garcharorion yn ôl rhyw ac ymweliadau gan blant

Roedd gwybodaeth am ryw carcharorion ar gael ym mron pob achos (99.8%). Rhwng 1 Hydref 2023 a 1 Hydref 2024, roedd 8,707 o garcharorion benywaidd (6%) a 145,913 o garcharorion gwrywaidd (94%).

O’r rhain, roedd 4,374 (50%) o garcharorion benywaidd yn rhieni (2.1 plentyn ar gyfartaledd) ac roedd 70,444 (48%) o garcharorion gwrywaidd yn rhieni (2.5 plentyn ar gyfartaledd). Mae’r canrannau hyn yn ôl rhyw yn gyson â’r cyhoeddiad blaenorol gyda 55% a 53% o garcharorion sy’n rhieni o ran menywod a dynion yn y drefn honno. Mae’r nifer cyfartalog hwn o blant i bob carcharor sy’n rhiant hefyd yn gyson â chanfyddiadau’r cyhoeddiad “Characteristics of children affected by household imprisonment in Wales” sy’n dangos bod y rhan fwyaf o blant yn byw mewn aelwydydd o 4 i 5 o bobl.

Mae dadansoddiad o’r rhestrau cyswllt ac ymwelwyr yn dangos bod carcharorion gwrywaidd yn fwy cyffredin yn cael cyswllt â’u plant.

O’r carcharorion hynny sy’n rhieni:

  • Roedd 31% o garcharorion benywaidd naill ai wedi cael ymweliad gan eu plentyn neu wedi’u cynnwys ar eu rhestr gyswllt (1,350 o unigolion)
  • Roedd 50% o garcharorion gwrywaidd naill ai wedi cael ymweliad gan eu plentyn neu wedi’u cynnwys ar eu rhestr gyswllt (34,913 o unigolion)

Gall y gyfran is o garcharorion benywaidd sydd ag ymweliadau gan blant neu â chyswllt â phlant wedi’u cofnodi adlewyrchu’n rhannol y nifer llai o garchardai i fenywod yng Nghymru a Lloegr, a all olygu bod menywod yn cael eu cadw ymhellach oddi wrth rwydweithiau teuluol a chymdeithasol na charcharorion gwrywaidd, gan wneud ymweliadau’n anoddach. Efallai fod rhesymau eraill dros lai o ymweliadau.

3.5 Arwydd o ddosbarthiad gofodol plant yr adnabuwyd bod ganddynt riant yn y carchar

Roedd data lleoliad ar gael ar gyfer tua hanner y plant a adnabuwyd fel bod â rhiant yn y carchar (48%). Mae hyn yn unol â’r disgwyl o ystyried mai prif bwrpas data HMPPS yw cofnodi gwybodaeth am y carcharor yn hytrach na’i blant, ac ni ellid paru pob plentyn â chofnod Budd-dal Plant CThEF. Dylid dehongli’r canfyddiadau hyn yn ofalus a’u bwriad yw dangos patrymau daearyddol eang yn hytrach na darparu amcangyfrifon pendant o ran awdurdodau lleol.

Yn gyffredinol, mae’r awdurdodau lleol sydd â’r nifer uchaf o blant y adnabuwyd bod ganddynt riant yn y carchar yn cyfateb i boblogaethau plant mwy. Mae’r adran ganlynol yn trafod cyfran y plant a adnabuwyd, yn hytrach na niferoedd absoliwt. Mae’r dull hwn o weithredu yn cyfrif am wahaniaethau ym maint y boblogaeth plant ac mae hefyd yn helpu i osgoi patrymau sy’n cael eu hachosi gan grynodiad o garchardai mewn rhai rhanbarthau, yn enwedig gogledd Lloegr.

3.5.1 Cyfrannau’r plant a adnabuwyd mewn awdurdodau lleol yn Lloegr

Mae’n bwysig nodi bod yr adran hon yn ymwneud â’r 48% o blant yr oedd gwybodaeth am eu cyfeiriad ar gael ar eu cyfer. Yn Lloegr, mae’r canfyddiadau dangosol yn awgrymu bod y rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol sydd â’r cyfrannau uchaf wedi’u lleoli mewn ardaloedd trefol gogleddol, a threfi arfordirol.  Yr awdurdodau lleol yr ystyrir eu bod yn y gogledd oedd y rhai yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, gogledd-orllewin Lloegr a Swydd Efrog a Humber (Lloegr).

Cymharwyd safleoedd o ran sgoriau amddifadedd (Mynegai Amddifadedd Lluosog 2025[17]) â chyfran y plant sydd â rhiant yn y carchar ar draws awdurdodau lleol yn Lloegr. Dangosodd y dadansoddiad berthynas gadarnhaol gymedrol rhwng amddifadedd a nifer yr achosion o blant â rhiant yn y carchar. Mae hyn yn awgrymu bod plant sydd â rhiant yn y carchar yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd mwy difreintiedig; fodd bynnag, nid yw’r berthynas yn ddigon cryf i ddangos mai amddifadedd yn unig sy’n achosi’r amrywiad a welwyd. Mae ffactorau eraill hefyd yn debygol o ddylanwadu ar ddosbarthiad y boblogaeth hon ar draws awdurdodau lleol.

Er mwyn cymharu, mae’r data annibynnol a gasglwyd drwy gyfrifiad ysgolion Comisiynydd Plant Lloegr hefyd yn dangos bod y cyfrannau uchaf o blant yr adnabuwyd fod ganddynt riant yn y carchar i’w gweld mewn ardaloedd trefol gogleddol, a threfi arfordirol. Fodd bynnag, roedd gan bum awdurdod lleol yn Llundain gyfrannau uchel hefyd - ni welwyd hyn yn nata cysylltiedig y Weinyddiaeth Gyfiawnder a CThEF. Gallai ffynhonnell y gwahaniaeth hwn ddod o’r data lleoliad a ddefnyddiwyd. Mae cyfrifiad ysgolion y Comisiynydd Plant yn defnyddio cyfeiriad yr ysgol, tra bo data cysylltiedig y Weinyddiaeth Gyfiawnder-CThEF yn defnyddio cyfeiriad cartref y plentyn a allai fod yn rheswm am wahaniaethau mewn awdurdodau lleol llai preswyl, megis canol Llundain.

Mae gwaith pellach i edrych ar y gwahaniaethau gofodol yn Lloegr yn gofyn am gasglu gwell data ar ble mae’r plant yn byw. Mae data cyfeiriadau yn golygu bod modd cysylltu â theuluoedd er mwyn cynnig cefnogaeth iddynt. Er bod data cyfyngedig a dangosol yn awgrymu bod gan blant mewn rhai ardaloedd gyfraddau anghymesur o uwch o rieni yn y carchar, mae’r anghysondeb ar gyfer Llundain yn dangos bod angen cofnodi data’n well o ran cyfeiriadau plant.

Mae’r cyfrifiadau a’r cyfrannau o blant sydd â rhiant yn y carchar yn ôl awdurdod lleol i’w gweld yn yr Atodiadau (Tabl 1 gyda Map cysylltiedig). Dylid eu dehongli’n ofalus gan eu bod yn ymwneud yn unig â phlant y mae gwybodaeth am eu cyfeiriad wedi’i chofnodi.

3.5.2 Plant y tu allan i Loegr

Yn Lloegr y mae’r boblogaeth fwyaf o’r rhai sy’n bwrw dedfryd o garchar ac mae ganddi’r nifer fwyaf o blant sydd â rhiant yn y carchar ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Er nad yw’r dadansoddiad hwn yn rhoi sylw i’r carchardai yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae plant y rhai sy’n bwrw dedfrydau o garchar yn Lloegr i’w gweld yn y gwledydd hyn.

Mae data cyfeiriadau plant sydd ar gael yng Nghymru yn awgrymu nad oedd yr un rhagfarn ddaearyddol i’r cyfrannau o gyfanswm y boblogaeth plant a adnabuwyd. Yn yr un modd â Lloegr, cymharwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC 2025) â chyfran y plant sydd â rhiant yn y carchar ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Dangosodd hyn berthynas gadarnhaol gymedrol rhwng amddifadedd a nifer yr achosion o blant â rhiant yn y carchar.

Nid oedd y broses annibynnol o gasglu data ar gyfer cyfrifiad ysgolion Comisiynydd y Plant yn cwmpasu Cymru ac nid oedd modd ei ddefnyddio ar gyfer y dadansoddiad hwn. 

Roedd canfyddiadau’r cyhoeddiad “Characteristics of children affected by household imprisonment in Wales” hefyd wedi canfod bod cyfran uwch o blant yng ngharfan yr astudiaeth wedi profi dau neu fwy o fathau o amddifadedd (52% o’i gymharu ag 20%).

4. Datblygiad pellach

Mae gwelliannau sylweddol o ran methodoleg ers ein cyhoeddiad diwethaf yn golygu bod amcangyfrif mwy cadarn o nifer y plant sydd â rhiant yn y carchar wedi bod yn bosibl. Fodd bynnag, gallai gwelliannau pellach roi mwy o fanylion am y plant a’r teuluoedd a adnabuwyd.

4.1 Mireinio’r fethodoleg

Cadarnhaodd y broses baru fod gan rai carcharorion blant, ond oherwydd bod cofnodion rhai carcharorion yn cyfateb i fwy nag un plentyn, nid oedd yn bosibl adnabod y plentyn penodol yn ddibynadwy na dadansoddi gwybodaeth fanwl am blant a theuluoedd. Gellid mireinio’r fethodoleg i anfon data gwell i sicrhau cyfradd gyfateb uwch gyda chofnodion Budd-dal Plant CThEF.

Byddai gwaith pellach i fireinio’r diffiniad o berthynas rhieni a pherthynas gofalu yn gwella cymaroldeb ag amcangyfrifon eraill o ran rhieni yn y carchar a chyda ffynonellau data gweinyddol sy’n defnyddio diffiniadau gwahanol o fod yn rhiant a chyfrifoldeb gofalu.

Gallai gwelliannau ychwanegol ddarparu gwybodaeth fwy cyflawn am gyfeiriadau plant, hyd y cyswllt rhwng carcharorion a phlant, a natur y perthnasoedd hynny.

4.2 Cwmpas ffynonellau data

Er mai’r nodiadau achos yn y System Genedlaethol ar gyfer Rheoli Troseddwyr yn y Carchar (NOMIS) a National Delius (NDelius), sef cronfeydd data gweinyddol carchardai a’r gwasanaeth prawf, yw’r ddwy brif ffynhonnell o wybodaeth testun rhydd yng nghronfeydd data’r HMPPS, efallai y bydd ffynonellau data ychwanegol y gellid eu defnyddio i gynhyrchu’r amcangyfrifon cyfanredol. Gall data llysoedd fod yn fwy defnyddiol yn y dyfodol wrth i systemau gael eu diweddaru ac wrth i fwy o wybodaeth gael ei chofnodi’n ddigidol.

5. Rhagor o wybodaeth

Y gyfres hon o gyhoeddiadau yw’r tro cyntaf i ddata HMPPS sy’n ymwneud â phoblogaeth gyfan y carchardai yng Nghymru a Lloegr gael ei gysylltu â’i gilydd i gynhyrchu amcangyfrif ar gyfer nifer y plant sydd â rhiant yn y carchar.

Anfonwch unrhyw ymholiadau neu adborth at y tîm yn CAPI@justice.gov.uk  


[1] Fersiwn derfynol wedi’i hargraffu o Adroddiad Effaith CHAS 2023 - 2024 tudalen 5

[2] Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai. (2023). Serving a hidden sentence. https://www.prisonadvice.org.uk/media/ahijygdo/serving-a-hidden-sentence-2023.pdf  

[3] Murray J, Farrington F (2008), ‘The effects of parental imprisonment on children’, Crime and Justice: A Review of Research, Cyfrol 37, tudalennau 133 i 206

[4] Nichols, Loper a Meyer, 2016; Shaw, 2023

[5] Philbrick, Ayre a Lynn, 2014

[6] Children with Imprisoned Parents; collecting data with a purpose. Adroddiad COPE a gyhoeddwyd yn 2023. COPE-Data-Report-2023.pdf 

[8] Children of Incarcerated Parents: International Standards and Guidelines

[9] Mae hyn yn rhoi cyffredinrwydd cronnus o garcharorion, ac felly nid oes modd ei gymharu ag ystadegau poblogaeth carchardai (a gyhoeddwyd fel rhan o’r gyfres ‘Offender management statistics’), sy’n mesur ciplun o’r nifer yn y carchar ar un diwrnod.

[10] Mae rhagor o wybodaeth am y categorïau hyn ar gael yng nghanllaw 2016 y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ystadegau rheoli troseddwyr (PDF).

[11] Ystadegau Budd-dal Plant: datganiad blynyddol, data ar fis Awst 2025 - GOV.UK

[12] Gweler y canllawiau ar GOV.UK: https://www.gov.uk/budd-dal-plant/cymhwystra.

[13] Cyllid a Thollau EF, rhyddhawyd Ebrill 2024, GOV.UK, Ystadegau Budd-dal Plant: datganiad blynyddol, data ar fis Awst 2023

[14] Ystadegau chwarterol rheoli troseddwyr: Mis Ionawr i fis Mawrth 2021 - GOV.UK

[15] Poblogaeth carchardai: ffigurau carchar misol 2024 - GOV.UK

[16] Fersiwn derfynol wedi’i hargraffu o Adroddiad Effaith CHAS 2023 - 2024 tudalen 5

[17] English indices of deprivation 2025 - GOV.UK