Canllawiau

Coronafeirws (COVID-19): Cylchlythyr Cysylltu Landlordiaid Credyd Cynhwysol

Diweddarwyd 1 April 2020

Mae’r cylchlythyr Credyd Cynhwysol hwn yn bwriadu darparu gwybodaeth i landlordiaid sectorau prefat a chymdeithasol ar Goronafeirws (COVID-19) a Chredyd Cynhwysol. Dewch yn ôl yn rheolaidd i wirio am ddiweddariadau.

1. Gwybodaeth benodol i DWP am Goronafeirws (COVID-19) a gwneud ceisiadau am fudd-daliadau

Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth benodol i DWP ar goronafeirws a gwneud ceisiadau am fudd-daliadau ar ein gwefan Understanding Universal Credit. Bydd y tudalen hwn yn cael ei ddiweddaru os bydd unrhyw newidiadau, felly dewch yn ôl yn rheolaidd i wirio.

Rhagor o wybodaeth:

Understanding Universal Credit

1.1 Newidiadau i gyfarfodydd yn y Ganolfan Gwaith

Nid oes rhaid i bobl sy’n cael budd-daliadau fynd i gyfarfodydd yn y ganolfan gwaith am dri mis, gan ddechrau o ddydd Iau 19 Mawrth 2020.

Bydd pobl yn parhau i gael eu budd-daliadau yn ôl yr arfer, ond mae’r gofyn iddynt fynd i’r ganolfan gwaith yn bersonol wedi ei atal dros dro. Gall pobl ddal i wneud ceisiadau am fudd-daliadau ar-lein os bydd hawl ganddynt.

Rhagor o wybodaeth:

Understanding Universal Credit

2. Coronafeirws (COVID-19) a Rhent (Cymru, Lloegr, a’r Alban)

2.1 Gwybodaeth am Goronafeirws (COVID-19) a Landlordiaid yn Lloegr

Gwnaethpwyd datganiad gan y Weinyddiaeth Dai a Chymunedau am gynlluniau dros ddeddfwriaeth argyfwng i atal troi tenantiaid allan o llety rhent y sectorau prefat a chymdeithasol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y datganiad yma:

Complete ban on evictions and additional protection for renters

2.2 Gwybodaeth am Goronafeirws (COVID-19) a Landlordiaid yn yr Alban

Mae’r Gweinidog dros Dai, Llywodraeth Leol, a Chynllunio wedi cyhoeddi cyfathrebiad i bob landlord ac asiantaeth gosod tai yn yr Alban ar 18 Mawrth 2020.

Ceir rhagor o wybodaeth am y datganiad yma:

Coronavirus: letter from Housing Minister to landlords and letting agents

2.3 Gwybodaeth am Goronafeirws (COVID-19) a Landlordiaid yng Nghymru

Datblygir deddfwriaeth argyfwng i atal troi tenantiad allan dros dro o lety rhent sectorau preifat a chymdeithasol. Mae gweinidogion Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn parhau i ystyried pa gymorth arall sydd angen ei ddarparu i rentwyr.

Ceir rhagor o wybodaeth am y datganiad yma:

Complete ban on evictions and additional protection for renters

3. Gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol i Landlordiaid

Ceir gwybodaeth a chanllawiau i landlordiaid ynghylch Credyd Cynhwysol ar GOV.UK. Mae gwybodaeth hefyd i’w chael ar wefan ‘Understanding Universal Credit’.

Rhagor o wybodaeth:

Gwybodaeth i landlordiaid

Credyd Cynhwysol a landlordiaid

3.1 Gwneud cais am daliad wedi’i reoli i’r landlord

Ceir gwybodaeth a chanllawiau ar sut i wneud cais am daliad wedi’i reoli i’r landlord ar GOV.UK.

Rhagor o wybodaeth:

Universal Credit: Alternative Payment Arrangements

4. Defnyddwyr Porth Landlordiaid

Os ydych chi’n landlord sector cymdeithasol ac yn defnyddio porth landlordiaid, byddwn yn cyhoeddi unrhyw newidiadau i’r proses hwn ar dudalenau porth y landlordiaid ar wefan Understanding Universal Credit. Gwiriwch am unrhyd ddiweddariadau yn rheolaidd.

Rhagor o wybodaeth:

Credyd Cynhwysol a landlordiaid

5. Llawlyfr Rhaglenni Tydydd Parti

Amcan y llawlyfr hwn yw darparu trosolwg o sut mae’r Rhaglen Didyniadau Trydydd Parti yn gweithio i sefydliadau ac unigolion (cyfeirir atynt fel credydwyr neu gyflenwyr) sy’n derbyn taliadau trydydd parti.

Noder: Oherwydd effeithiau’r Coronafeirws (COVID 19), mae adnoddau DWP dan bwysau trwm ac mae Gwasanaethau Talu wedi gorfod blaenoriaethu gweithgareddau allweddol er mwyn sicrhau bod taliadau yn cael eu cynnal i’n hawlwyr a’u landlordiaid.

O ganlyniad, ni allwn weithredu unrhyw ofyn i newid dull cyflenwi rhaglenni taliadau i fformat electronig hyd nes y ceir rhybudd pellach.

Universal Credit: Third party payments creditor and supplier handbook

6. Gwybodaeth gyffredinol am Goronafeirws (COVID-19)

Ceir gwybodaeth gyffredinol am Goronafeirws (COVID-19) ar GOV.UK. Gwiriwch am ddiweddariadau ar y wefan yn rheolaidd.

Rhagor o wybodaeth:

Coronavirus (COVID-19): what you need to do

7. Sefydlu diweddariadau dros ebost

Mae diweddariadau dros ebost yn ffordd dda iawn o gael gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol (UC) sydd wedi ei diweddaru ar GOV.UK.

Cofrestrwch am ddiweddariadau dros ebost ac ychwanegu’ch cyfeiriad ebost a phenderfynu pa mor aml yr hoffech gael y diweddariadau.

Os ydych yn hoffi’r cylchlythyr hwn ac rydych am allu dod o hyd iddo eto’n hawdd, gan ddibynnu pa wefan porwr rydych yn ei defnyddio, ychwanegwch hi at eich “ffefrynnau” neu’ch “nodau tudalen.

Nid ydym yn cadw rhestr cylchredeg ar wahân ar gyfer y cylchlythyr hwn.