Guidance

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd

Updated 3 April 2017

1. Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd

Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n eich atal rhag gweithio, neu’n cyfyngu ar faint o waith y gallwch ei wneud, mae Credyd Cynhwysol yn eich darparu gyda system syml o gymorth ariannol a chymorth sy’n gysylltiedig â gwaith.

2. Gwneud cais

Mae Credyd Cynhwysol yn darparu cefnogaeth i bobl o oedran gweithio sydd mewn gwaith neu allan o waith. Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein. Os na allwch wneud cais ar-lein yn rhwydd, bydd eich canolfan waith lleol yn eich helpu.

Dargafyddwch os ydych yn gymwys i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn eich ardal chi.

Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol ac mae eich iechyd yn newid gallwch aros ar y Credyd Cynhwysol, ond rhaid i chi hysbysu eich amgylchiadau newydd.

3. Asesiadau Gallu i Weithio

Efallai y gofynnir i chi fynychu Asesiad Gallu i Weithio (WCA) i ganfod a yw eich cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio. Bydd canlyniad eich WCA yn helpu’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i benderfynu os ydych:

  • yn abl i weithio
  • gyda gallu cyfyngedig i weithio - sy’n golygu er efallai na fyddwch yn gallu chwilio am waith nawr, byddwch yn gallu paratoi ar gyfer gwaith gyda’r nod o weithio rywbryd yn y dyfodol
  • gyda gallu cyfyngedig i weithio a gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith - sy’n golygu na ofynnir i chi i chwilio am waith, neu i baratoi ar gyfer gwaith.

Mae WCA yn asesu beth y gallwch ei wneud, yn ogystal â’r hyn na allwch ei wneud, ar sail cyffredinol o ddydd i ddydd yn hytrach na dim ond cymryd cipolwg ar effeithiau eich cyflwr. Mae’n rhoi cyfle i chi egluro os, a sut, mae’ch cyflwr yn amrywio dros amser.

Mae hyn yn caniatáu i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i ystyried sut y gall newidiadau yn eich cyflwr effeithio ar eich gallu i fynd i weithio, neu i baratoi ar gyfer gwaith.

4. Ymrwymiad Hawlydd

Bydd canlyniadau’r WCAyn helpu eich anogwr gwaith i drafod a chytuno’r cyfrifoldebau bydd yn rhaid i chi eu bodloni mewn perthynas â’ch dyfarniad o Gredyd Cynhwysol. Bydd gofyn i chi dderbyn Ymrwymiad Hawlydd personol sy’n egluro’n glir y cyfrifoldebau hyn.

Bydd y cyfrifoldebau yn amrywio o, er enghraifft, diweddaru eich sgiliau, i baratoi ar gyfer ceisiadau a chyfweliadau, i baratoi ar gyfer symud i mewn i waith - i beidio â gorfod cymryd unrhyw gamau o gwbl os oes gennych gyfyngiadau sylweddol ar eich gallu i weithio neu i baratoi ar gyfer gwaith.

5. Credyd Cynhwysol a gwaith

Mae Credyd Cynhwysol yn daladwy i hawlwyr sy’n gweithio yn ogystal ag i’r rhai sydd allan o waith neu i’r rhai nad ydynt yn gallu gweithio.

Mae Credyd Cynhwysol wedi cael ei gynllunio i annog pobl nad ydynt yn gweithio, ac yn enwedig y rhai â chyflyrau iechyd neu anableddau, i gymryd eu camau cyntaf i fyd gwaith drwy gynyddu’r cymhellion i wneud hyd yn oed ond ychydig oriau o waith.

Gan y gall Credyd Cynhwysol barhau i gael ei dalu pan fyddwch yn gweithio, mae hyn yn golygu bod unrhyw bryderon a risgiau sy’n gysylltiedig â dechrau swydd yn cael eu lleihau’n fawr.

Gallwch ennill swm penodol cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol gael ei effeithio os cewch eich darganfod i fod gyda gallu cyfyngedig i weithio.

Gelwir hyn yn Lwfans Gwaith. Os ydych yn ennill mwy na’ch Lwfans Gwaith, bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau’n raddol fel mae eich cyflog yn codi.

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol, yn uniongyrchol i mewn i’r cyfrif rydych wedi’i ddewis. Mae taliadau misol yn cyd-fynd ar ffordd y mae’r rhan fwyaf o gyflogau yn cael eu talu.

Gall hyn eich helpu i baratoi ar gyfer symud i fyd gwaith wrth i chi ddod i arfer â thrin eich arian yn fisol. Os gallwch weithio, byddwch yn cael cymorth wedi’i deilwra i wella eich sgiliau a pharatoi ar gyfer y gwaith.

6. Cymorth ariannol

Os cewch eich darganfod i fod gyda gallu cyfyngedig i weithio a gweithgareddau cysylltiedig â gwaith byddwch yn cael swm ychwanegol bob mis wedi’i ychwanegu at eich taliad Credyd Cynhwysol.

Os ydych wedi gwneud eich cais ar sail bod â chyflwr iechyd neu anabledd ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, ac yn cael cael eich canfod i fod gyda gallu cyfyngedig i weithio, ni fyddwch yn cael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol.

Os ydych wedi gwneud eich cais mewn cysylltiad ag iechyd neu anabledd cyn 3 Ebrill 2017, gall darpariaethau arbennig fod yn berthnasol.

Os ydych yn gweithio a bod gennych blant, gallech hefyd gael help gyda chostau gofal plant.

Efallai eich bod yn gymwys i wneud cais am fudd-daliadau eraill, yn cynnwys, er enghraifft, Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd (ESA).

Mae PIP yn helpu gyda’r costau ychwanegol o gyflwr iechyd neu anabledd hirdymor, a gellir ei hawlio p’un a ydych yn gweithio neu beidio.

Efallai y gallwch gael ESA dull newydd os oes gennych nodyn ffitrwydd ac rydych wedi talu neu gael eich credydu gyda digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Gellir gwneud cais am ESA dull newydd yn lle, neu yn ogystal â, Chredyd Cynhwysol yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os byddwch yn gwneud cais am y ddau fudd-dal, bydd eich ESA dull newydd yn cael ei dynnu allan o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

7. Newidiadau mewn cyflyrau iechyd

Mae’n rhaid ic hi ddweud wrth Credyd Cynhwysol os:

  • yw eich cyflwr wedi gwella
  • yw eich cyflwr wedi gwaethygu
  • mae gennych gyflwr iechyd newydd

Os nad ydych yn dweud wrth Gredyd Cynhwysol am y newidiadau hyn yn syth gallech gael eich talu mwy neu lai o arian nag y dylech. Efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi cael ei ordalu i chi.

Mae sut y byddwch yn rhoi gwybod am y newidiadau hyn yn dibynnu ar ble rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol.

7.1 Gwasanaeth llawn

Os ydych yn cael gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol dylech ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i hysbysu unrhyw newidiadau.

7.2 Gwasanaeth byw

Os ydych yn defnyddio gwasanaeth byw Credyd Cynhwysol gallwch hysbysu newidiadau drwy’r llinell gymorth gwasanaeth byw Credyd Cynhwysol.

7.3 Llinell gymorth gwasanaeth byw Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0345 600 0723
Ffôn testun: 0345 608 8551
Llinell Gymraeg: 0345 600 3018
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

7.4 Cyfeiriad post Credyd Cynhwysol

Universal Credit
Post Handling Site B
Wolverhampton
WV99 1AJ