Guidance

Welsh: Sector Rhentu Cymdeithasol newidiadau rhent mis Ebrill 2017: cyngor i landlordiaid SRS

Updated 3 April 2017

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi newid y broses ar gyfer hysbysu newidiadau mewn rhent yn 2017.

1. Gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn

Mae hawlwyr sydd yn ardaloedd gwasanaeth Credyd Cynhwysol (UC) llawn yn gyfrifol am hysbysu eu newidiadau rhent trwy ddefnyddio eu cyfrif ar-lein. Ni fydd hawlwyr yn gallu hysbysu newidiadau yn eu rhent tan fydd y newid yn cymryd lle.

Bydd yn ddefnyddiol os byddai landlordiaid Cymdeithasol yn gallu atgoffa eu tenantiaid gwasanaeth llawn i hysbysu newidiadau rhent ar eu cyfrif Credyd Cynhwysol.

2. Gwasanaeth Credyd Cynhwysol byw

Mae hawlwyr yn ardaloedd gwasanaeth Credyd Cynhwysol (UC) byw hefyd angen hysbysu eu newidiadau. Gan nad yw hawlwyr gwasanaeth byw yn gallu hysbysu newidiadau ar-lein, byddwn hefyd yn derbyn atodlenni newidiadau rhent gan landlordiaid cymdeithasol.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cynnal ymarfer i gasglu’r newidiadau blynyddol mis Ebrill 2017 yn y rhent ar gyfer hawlwyr gwasanaeth Credyd Cynhwysol byw.

Cyfrifoldeb yr hawlwyr gwasanaeth Credyd Cynhwysol byw yw hysbysu am unrhyw newid yn eu rhent. Mae hefyd opsiwn i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban hysbysu’n wirfoddol newidiadau rhent blynyddol ar gyfer eu tenantiaid sy’n hawlio costau tai Credyd Cynhwysol.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymwybodol bod landlordiaid cymdeithasol yn penderfynnu ar gynyddu neu leihau rhent ymlaen llaw i ddyddiad effeithiol y newid.

Gall landlordiaid cymdeithasol hysbysu’n wirfoddol newidiadau rhent i’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer eu tenantiaid sy’n hawlio costau tai Credyd Cynhwysol o 1 Chwefror 2017 i 31 Mawrth 2017.

3. Sut i hysbysu newidiadau mewn rhent yn wirfoddol

Mae landlordiaid cymdeithasol yn gyfrifol am benderfynu os ydynt yn gallu rhannu’r data hwn gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae unrhyw wybodaeth yn cael ei rhannu ar ei risg ei hunain.

Er hynny, os bydd landlord cymdeithasol yn penderfynu anfon gwybodaeth ynglŷn â’r newidiadau rhent ym mis Ebrill 2017, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn derbyn hwn ar atodlen luosog, mewn fformat Microsoft Excel.

Os yw’n bosibl, dylai’r atodlen gynnwys hawlwyr gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn yn unig. Nid oes gan wasanaeth Credyd Cynhwysol byw y cyfleuster i brosesu atodlenni newidiadau rhent ar gyfer eu hawlwyr.

Os nad yw’r landlord cymdeithasol yn gallu gwahaniaethu rhwng hawlwyr gwasanaeth llawn a hawlwyr gwasanaeth byw, gallant roi ei holl hawlwyr Credyd Cynhwysol ar yr atodlen, ond ni fydd hawlwyr gwasanaeth llawn yn cael eu newidiadau wedi’u prosesu yn y modd hwn.

Rhaid i atodlenni gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • enw’r hawlydd
  • rhif YG yr hawlydd
  • cyfeiriad a chod post yr hawlydd
  • enw’r landlord
  • hen swm y rhent
  • cyfanswm yr hen ffioedd am wasanaethau cymwys
  • swm newydd y rhent (gydag unrhyw gyfnodau rhent yn rhad ac am ddim eisoes wedi’u hystyried)
  • cyfanswm y ffioedd newydd am wasanaethau cymwys
  • dyddiad newidiodd y rhent
  • amlder talu rhent

Rhaid i faes pwnc yr e-bost cynnwys yr ardal yn gyntaf ac, yn ail, enw sefydliad y landlord cymdeithasol (e.e. Cymru (Awdurdod Lleol Pisces), Gogledd-ddwyrain (Gemini Housing Association) neu’r Alban (Taurus Housing Association).

E-bosiwch yr atodlen sydd wedi ei chwblhau i SOCIALRENTED.SECTORSCAN@DWP.GSI.GOV.UK

Bydd gwasanaeth Credyd Cynhwysol byw yn cydnabod ei bod wedi cael yr atodlen trwy e-bost yn ôl a phrosesu’r holl newidiadau a dderbyniwyd ar gyfer ein hawlwyr gwasanaeth byw.

Ym mis Mai a Mehefin 2017, bydd gwasanaeth Credyd Cynhwysol byw yn dechrau cysylltu â holl gwsmeriaid trwy neges destun nad ydynt wedi hysbysu newid mewn rhent ar gyfer mis Ebrill 2017 a heb gael newid wedi ei hysbysu ar eu rhan.

Bydd y neges destun yn gofyn iddynt ffonio Credyd Cynhwysol i roi gwybod i ni os yw eu rhent wedi newid neu beidio.

Bydd hawlwyr nad yw’n ymateb yn cael neges destun arall eto yn gofyn iddynt ymateb. Ble na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gallu cysylltu â hawlwyr trwy neges destun, caiff llythyr ei anfon atynt ac os yw’n berthnasol, nodyn atgoffa trwy’r post.