Canllawiau

Sector Rhentu Cymdeithasol – Hysbysu am newidiadau rhent Hydref 2018: cyngor i landlordiaid

Diweddarwyd 5 March 2019

Ar gyfer newidiadau rhent yn y sector gymdeithasol y disgwylir ym mis Hydref 2018, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn parhau gyda’r prosesau a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2017.

Gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol

Mae hawlwyr mewn ardaloedd gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol (UC) yn gyfrifol am gofnodi eu newidiadau rhent trwy ddefnyddio eu cyfrif ar-lein. Ni allant gofnodi eu newidiadau rhent tan mae’r newid wedi digwydd.

Atgoffwch eich tenantiaid gwasanaeth llawn o’r wybodaeth rydym ei angen ac y dylent gofnodi eu newidiadau rhent ar eu cyfrif UC.

Gwasanaeth Byw Credyd Cynhwysol

Mae hawlwyr mewn ardaloedd gwasanaeth byw Credyd Cynhwysol yn gyfrifol am roi gwybod am newidiadau rhent i’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Gan na all hawlwyr gwasanaeth byw cofnodi newidiadau ar-lein, gall landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban rhoi gwybod yn wirfoddol am newidiadau rhent blynyddol ar gyfer eu tenantiaid sy’n hawlio costau tai UC.

Sut i roi gwybod am newidiadau rhent mewn ardaloedd gwasanaeth byw

Gall landlordiaid cymdeithasol rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn wirfoddol am newidiadau rhent mis Hydref 2018 o 1 Medi 2018 hyd at 31 Hydref 2018. Ni chaiff unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn gael eu gweithredu.

Dylech dim ond cynnwys tenantiaid sy’n byw mewn ardaloedd gwasanaeth byw UC. Os nad ydych yn gwybod os yw tenant yn byw mewn ardal gwasanaeth byw, dylech eu cynnwys ar y daenlen. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau dim ond yn prosesu newidiadau ar gyfer tenantiaid sy’n byw mewn ardaloedd gwasanaeth byw.

Dylech gynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen ar y daenlen neu gellir cyfrifo taliadau rhent neu ffioedd gwasanaeth yn anghywir.

Sut i anfon y daenlen

Cyfrifoldeb landlordiaid cymdeithasol yw penderfynu os gallant rannu’r data hwn gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae unrhyw wybodaeth yn cael ei rannu ar eu risg eu hunain.

E-bostiwch y daenlen wedi’i chwblhau i UC.servicecentrehousing@dwp.gsi.gov.uk

Ym maes testun o’r e-bost dylech gynnwys y rhanbarth ac enw’r sefydliad landlord cymdeithasol. Er enghraifft:

  • Cymru (Awdurdod Lleol Pisces)
  • Yr Alban (Taurus Housing Association)
  • Gogledd Ddwyrain Lloegr (Gemini Housing Association)

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cydnabod ei dderbyn drwy e-bost. Peidiwch ag anfon gwybodaeth ddyblyg.

Os na gofnodir unrhyw newid

Ni fydd hawlwyr Gwasanaeth Byw Credyd Cynhwysol yn cael eu hatgoffa i gofnodi eu newidiadau blynyddol ble nad ydynt hwy neu eu landlord cymdeithasol wedi rhoi gwybod am newid.