Publication

Credyd Cynhwysol: Canllaw gofal plant

Updated 2 July 2020

Costau gofal plant yn ystod yr achos coronafeirws (COVID-19)

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallwch hawlio nôl hyd at 85% o gostau gofal plant sydd wedi digwydd ac rydych eisoes wedi talu amdanynt.

Gallwch barhau i hawlio costau gofal plant nôl gyda’ch Credyd Cynhwysol os ydych yn weithiwr hanfodol neu os nad ydych yn weithiwr hanfodol sydd â mynediad at ofal plant cofrestredig.

Darllenwch y canllawiau diweddaraf ar:

Talu am ofal plant ymlaen llaw

Os ydych yn talu am fwy nag un mis o ofal plant ymlaen llaw, gallwch hawlio hyd at 85% o’r costau yn ôl os bydd y gofal plant yn digwydd. Gallwch hawlio nôl hyd at 3 mis o gostau gofal plant rydych yn eu talu ac yn rhoi gwybod i ni amdanynt ymlaen llaw. Bydd y taliadau’n cael eu lledaenu dros y 3 cyfnod asesu rydych chi wedi talu amdanynt. Ni allwch hawlio costau gofal plant rydych yn talu amdanynt ymlaen llaw nôl os na fydd y gofal plant hynny’n digwydd.

Ni allwch hawlio nôl unrhyw arian y mae eich darparwr gofal plant yn gofyn i chi ei dalu i gadw lle i’ch plentyn, os na fydd gofal plant yn digwydd. Weithiau gelwir hyn yn daliad i gadw lle. Ni allwch hawlio’r arian hwn yn ôl oni bai ei fod yn daliad ymlaen llaw ar gyfer costau gofal plant.

Bod yn gymwys am gostau gofal plant Credyd Cynhwysol

Gallwch ond cael costau gofal plant Credyd Cynhwysol os ydych chi, neu chi a’ch partner:

  • mewn gwaith â thâl, neu wedi derbyn cynnig o waith â thâl (does dim ots faint o oriau rydych chi neu’ch partner yn gweithio)
  • yn talu am ofal plant ar gyfer y plentyn neu berson ifanc perthnasol

Nid yw gwaith â thâl yn cynnwys cael ei gyflogi gan sefydliad elusennol neu wirfoddol neu fod yn wirfoddolwr (ble mae treuliau yw’r unig daliad).

Os oes gennych bartner

Os ydych yn rhan o gwpl mae’n rhaid i’r ddau ohonoch fod mewn gwaith â thâl, neu wedi derbyn cynnig o waith â thâl. Efallai y gall costau gofal plant gael eu talu os yw un partner yn gweithio ac ni all y llall edrych ar ôl y plentyn neu blant oherwydd eu bod:

  • gyda’r gallu cyfyngedig i weithio neu allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith
  • gofalu am oedolyn sy’n ddifrifol anabl neu blentyn sy’n ddifrifol anabl
  • yn absennol dros dro o’r cartref (er enghraifft yn yr ysbyty, mewn gofal preswyl neu yn y ddalfa)

Os ydych yn absennol o’r gwaith

Os ydych chi neu’ch partner yn absennol o’r gwaith gallwch ddal i gael costau gofal plant Credyd Cynhwysol ar gyfer gofal plant presennol os yw un ohonoch yn cael:

  • Tâl Salwch Statudol
  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol (yn cynnwys Tâl Tadolaeth Statudol Gyffredin ac Ychwanegol)
  • Tâl Rhieni Statudol Wedi’i Rannu
  • Lwfans Mamolaeth

Hawlio arian ar gyfer costau gofal plant

Os ydych yn gymwys, bydd eich costau gofal plant yn cael eu cynnwys a’u talu fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol. Byddwch yn derbyn hyd at 85% o’r costau gofal plant rydych chi’n eu talu, hyd at derfyn misol uchaf o:

  • £646.35 i un plentyn
  • £1108.04 ar gyfer 2 neu fwy o blant

Dim ond hyd at 31 Awst yn dilyn pen-blwydd y plentyn y gallwch wneud cais gofal plant ar gyfer plentyn dibynnol.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd cyfyngiad ar gyfanswm y budd-dal y gallwch ei dderbyn. Gelwir hyn yn cap-ar-fudd-daliadau.

Pryd fydd eich costau gofal plant yn cael eu talu

Byddwch yn derbyn eich costau gofal plant mewn ôl-ddyledion. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi dalu’r costau eich hun ac yna hawlio’r arian yn ôl trwy Gredyd Cynhwysol.

Talu costau gofal plant ymlaen llaw

Os ydych chi’n talu am ofal plant ymlaen llaw, byddwch chi’n derbyn y costau yn ôl fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol. Gallwch hawlio hyd at 3 cyfnod asesu gofal plant ar y tro. Rhennir y costau gofal plant cymwys ar draws y cyfnodau asesu y mae’r gofal plant yn eu cynnwys.

Darganfyddwch fwy am cyfnodau asesu a’ch taliadau.

Talu costau gofal plant ar ôl darparu gofal plant

Os ydych chi’n talu am ofal plant ar ôl iddo gael ei ddarparu, byddwch chi’n derbyn eich costau yn yr un cyfnod asesu ag y byddwch yn rhoi gwybod amdanynt. Byddwch yn derbyn y taliad mewn un cyfandaliad hyd at naill ai 85% o’r costau hynny neu’r uchafswm misol, pa un bynnag sydd isaf. Dylech roi gwybod am eich costau gofal plant cyn gynted â phosibl ar ôl i chi eu talu.

Pan na ellir talu costau gofal plant

Os yw rhan o’ch costau gofal plant yn cael eu talu gan rywun arall (er enghraifft gan gyflogwr drwy raglen neu gynllun gwaith) gallwch ond gwneud cais am yr hyn sy’n weddill, sef y swm rydych chi, neu chi partner yn ei dalu mewn gwirionedd.

Efallai y byddwch yn parhau i fod â hawl i gael un ai 15 awr neu 30 awr o ofal plant am ddim, ac efallai bydd Credyd Cynhwysol yn gallu talu tuag at unrhyw gostau gofal plant sy’n weddill.

Darparwyr gofal plant

Gallwch ddefnyddio mwy nag un darparwr gofal plant. Fodd bynnag, i gael costau gofal plant Credyd Cynhwysol, mae’n rhaid i’r gofal plant rydych yn talu amdano gael ei ddarparu gan ddarparwr gofal plant cofrestredig. Yn gyffredinol mae hyn yn golygu bod y darparwr gofal plant wedi’i gofrestru gydag un o’r sefydliadau hyn:

  • Lloegr – OFSTED
  • Yr Alban – The Care Inspectorate
  • Cymru – Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW)

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am fanylion yr holl ddarparwyr gofal plant rydych chi’n eu defnyddio.

Os yw’ch darparwr gofal plant wedi’i gofrestru gydag asiantaeth gwarchodwr plant, bydd angen darparu rhif cofrestru’r asiantaeth.

15 awr o ofal plant am ddim

Mae gan bob plentyn 3 i 4 oed yn Lloegr hawl i 15 awr o ofal plant am ddim (570 awr y flwyddyn) o’r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 3 oed. Fel arfer fe’i cymerir fel 15 awr yr wythnos am 38 wythnos o’r flwyddyn ond gallwch ddewis cymryd llai o oriau dros fwy o wythnosau, er enghraifft.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth gan ddefnyddio’r canllaw cam wrth gam gofal plant am ddim 15 awr, neu trwy gysylltu â’ch darparwr gofal plant neu gyngor lleol.

30 awr o ofal plant am ddim

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol efallai y gallwch gael hyd at 30 awr o ofal plant am ddim (1,140 awr y flwyddyn, y gallwch ddewis sut y byddwch yn ei gymryd) os yw’ch plentyn yn 3 i 4 oed.

Darganfyddwch fwy o wybodaeth gan ddefnyddio’r canllaw cam wrth gam gofal plant am ddim 30 awr.

Os ydych yn gymwys am yr oriau ychwanegol gallwch lofnodi i fyny ar-lein i gael cod i’w roi i’ch darparwr gofal plant cofrestredig i gadw lle i’ch plentyn. Byddwch yn cael yr oriau ychwanegol unwaith bydd y tymor nesaf yn dechrau.

Fel arfer gallwch gael 30 awr o ofal plant am ddim os ydych chi (a’ch partner, os oes gennych un):

  • mewn gwaith neu’n cael seibiant rhieni, i ffwrdd yn sâl neu ar wyliau blynyddol
  • y ddau ohonoch yn ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu Gyflog Byw am 16 awr yr wythnos

Nid yw’r terfyn enillion hwn yn berthnasol os ydych yn hunangyflogedig ac wedi dechrau eich busnes llai na 12 mis yn ôl.

Nid ydych yn gymwys os:

  • nad yw eich plentyn yn byw gyda chi fel arfer
  • mae gennych chi neu’ch partner incwm trethadwy dros £100,000 y flwyddyn
  • rydych yn dod o du allan i’r AEE ac mae eich cerdyn preswylio yn y DU yn dweud na allwch gael mynediad i arian cyhoeddus

Gofal Plant Di–dreth

Ni allwch gael Gofal Plant Di–dreth ar yr un pryd a hawlio Credyd Cynhwysol.

Gallwch weld gwybodaeth fwy manwl am Gofal Plant Di–dreth o dan Childcare and Parenting.

Mae pa gynllun sydd orau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Gallwch ddefnyddio gwefan y llywodraeth Childcare Choices i gael gwybodaeth bellach ac i weithio allan pa fath o gymorth gofal plant sydd orau i chi.

Gofal plant am ddim (ac addysg gynnar) ar gyfer plant 2 oed

Os ydych yn byw yn Lloegr ac yn hawlio Credyd Cynhwysol gallwch gael addysg gynnar a gofal plant am ddim ar gyfer eich plentyn 2 oed.

Os ydych yn gymwys, bydd yr addysg gynnar a gofal plant am ddim:

Cysylltwch â’ch darparwr gofal plant neu gyngor lleol am fwy o wybodaeth, neu ewch i gofal plant ag addysg am ddim ar gyfer eich plentyn 2 oed am wybodaeth fwy manwl.

Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae cynlluniau gwahanol yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.