Canllawiau

Mynegi Diddordeb mewn Tref Diwylliant y DU 2028: Arweiniad i ymgeiswyr

Diweddarwyd 13 Mawrth 2026

Rhagair gweinidogol

Rwy’n falch bod y llywodraeth Lafur diwethaf wedi lansio cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU yn 2009 i ddathlu’r cyfraniad enfawr y mae pobl ac ardaloedd ledled y DU wedi’i wneud i’n bywyd diwylliannol. Ers ei lansio, mae’r rhaglen wedi mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn mae wedi ennill ei lle yng nghalendr diwylliannol y DU. Pedair dinas anhygoel - Derry/Londonderry, Hull, Coventry ac yn awr Bradford - sydd wedi cyflwyno blwyddyn o weithgareddau diwylliannol cyfoethog, wedi’u gwreiddio yn eu hunaniaeth unigryw ac yn tynnu ar gryfderau a storïau lleol. Ym mhob ardal, mae cael bod yn Ddinas Diwylliant y DU wedi bod yn brofiad trawsnewidiol, gyda’r effeithiau ar ardaloedd a phobl yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r flwyddyn pan enillon nhw’r teitl.

Nawr, rydym yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy ddechrau ar yr ymgyrch i chwilio am Dref Diwylliant gyntaf y DU.

Nid yw diwylliant gwych wedi’i gyfyngu i’n canolfannau prif ddinesig mwyaf; mae diwylliant ym mhobman, wedi’i wreiddio mewn cymunedau ledled y wlad. Ond ers gormod o amser, mae’r dalent a’r cyfraniad hwnnw heb gael ei gydnabod. Yn fy nhref i, yn Wigan, rydym yn hynod falch o’r cyfraniad yr ydym wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud i fywyd diwylliannol y DU. O fandiau pres a Northern Soul i’r Verve ac Ian McKellen. Mae gan bob tref ei stori ei hun a’i chyfraniad unigryw. Mae ein llywodraeth yn credu y dylai hyn gael ei weld a’i werthfawrogi, ac y dylai gael ei adlewyrchu yn y storïau rydym yn eu hadrodd amdanon ni ein hunain fel cenedl.

Mae pawb yn haeddu’r cyfle i rannu eu balchder yn yr ardal sy’n gartref iddynt a chael mynediad at gelf, cerddoriaeth, dawns a drama o ansawdd uchel, waeth ble maent yn byw. Dyna pam rydym yn lansio Tref Diwylliant y DU. I ddathlu trefi ac i helpu creu etifeddiaeth ddiwylliannol barhaol. Byddwn yn dewis y gorau o’r trefi bach, canolig a mawr ar sail y ceisiadau llawn a gawn. Bydd un o’r rhain yn ennill teitl Tref Diwylliant y DU 2028 ac fe fyddant yn cael £3 miliwn, tra bydd y ddau arall sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael £250,000 yr un i gyflawni rhaglen uchelgeisiol o weithgareddau diwylliannol yn ystod 2028. Mae hyn yn ychwanegol at y grantiau datblygu ar gyfer yr ardaloedd ar y rhestr fer i’w galluogi i ddatblygu eu hymgeisiau llawn.

Rwy’n gobeithio y byddwch yn ystyried cystadlu am deitl Tref Diwylliant gyntaf y DU, a dangos i’r wlad gyfan beth sy’n unigryw am eich tref chi.

Lisa Nandy

Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Rhagarweiniad

Mae’r arweiniad hwn wedi’i greu gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (y DCMS) i gynorthwyo trefi sy’n dymuno ymgeisio am deitl Tref Diwylliant y DU 2028. Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu nodau’r gystadleuaeth ac yn manylu ar ofynion y cam cyntaf o fynegi diddordeb. Mae’r arweiniad hwn hefyd yn amlinellu’r broses ymgeisio a dethol ar gyfer camau diweddarach y gystadleuaeth er mwyn rhoi cymorth i chi gyda’ch gwaith cynllunio.

Rydym yn awgrymu bod ardaloedd sy’n dymuno ymgeisio ar gyfer cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU 2028 yn darllen yr arweiniad yn llawn.

Esbonio beth yw Tref Diwylliant y DU

Mae Tref Diwylliant y DU yn gystadleuaeth newydd sbon gan y DCMS. Am y tro cyntaf, mae’r DCMS yn gwahodd trefi ar draws y DU i gymryd rhan yn y gystadleuaeth er mwyn dangos eu doniau wrth adrodd storïau gwreiddiol a diwylliant grymusol, hygyrch. Mae’r gystadleuaeth wedi’i hanelu at bob tref, boed yn fach, canolig neu fawr. Cyfeiriwch at yr adran ‘Pwy all gystadlu?’ yn yr arweiniad hwn. Byddwn yn ystyried unrhyw dref sy’n gallu bodloni’r gofynion hyn. Wedi’i hysbrydoli gan lwyddiant y brif raglen Dinas Diwylliant y DU, sy’n fodel sydd wedi profi bod modd creu ardaloedd diwylliannol, mae’r gystadleuaeth hon yn anelu at amlygu cyfraniad diwylliannol trefi i’n stori genedlaethol. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu arddangos trefi o wahanol feintiau, byddwn yn cyflwyno enillwyr y categori i drefi bach, canolig a mawr. O’r tri chategori hyn, caiff enillydd cyffredinol ei ddewis ar gyfer teitl Tref Diwylliant y DU.

Bydd y dref fuddugol yn cael gwobr o £3 miliwn er mwyn cyflawni rhaglen ddiwylliannol yn 2028 am tua chwe mis. Yn ogystal, bydd y ddau sy’n cyrraedd rownd derfynol eu categori yn cael £250,000 yr un i gyflawni elfennau o’u hymgais.

Dyma raglen sy’n digwydd ar draws y DU, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a’r Alban.

Nodau

Mae cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU yn anelu at ddathlu cyfraniadau sylweddol gan drefi i’n stori genedlaethol. Mae’r gystadleuaeth yn canolbwyntio ar greu gwlad sy’n fwy cydlynes yn gymdeithasol, lle mae cymunedau’n teimlo bod ganddynt hawl i ddathlu eu hardal nhw. Mae Tref Diwylliant y DU yn gyfle i ardaloedd a chymunedau ddefnyddio diwylliant a chreadigrwydd i adrodd eu stori a pham maent yn falch o’u cymuned.

Buddion ennill

Yn ogystal â’r brif wobr o £3 miliwn a’r gwobrau o £250,000 i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol, rydym yn disgwyl y bydd ennill y teitl yn arwain at ganlyniadau ymarferol ac arwyddocaol, gan gynnwys rhoi hwb i falchder dinesig, mwy yn ymwneud â gweithgareddau diwylliannol, a ffurfio partneriaethau cymunedol parhaol. Bydd y partneriaethau hyn yn helpu i feithrin ymdeimlad cryf o berthyn ac yn hyrwyddo celfyddydau a diwylliant lawr gwlad, gan efelychu effaith brofedig rhaglen Dinas Diwylliant y DU. Mae ymchwil wedi dangos, yn achos rhaglen Dinas Diwylliant y DU, fod mwy na 70% o’r rhai sy’n mynychu digwyddiadau Dinas Diwylliant y DU yn teimlo mwy o falchder. Rydym hefyd yn gwybod bod y buddion i ardaloedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’w cyfnod teitl, gan arwain at waddol parhaol o newid cymdeithasol a diwylliannol. Rydym yn disgwyl gweld buddion tebyg ar gyfer Tref Diwylliant y DU.

Buddion ymgeisio

Gall cystadlu am y teitl, p’un ai bod yr ardal yn ennill neu beidio, gael effaith hynod gadarnhaol ar y gymuned leol. Mae’n meithrin ymdeimlad o falchder lleol ac yn cryfhau cydweithio rhwng partneriaid lleol. Mae ymgeiswyr blaenorol ar gyfer Dinas Diwylliant y DU yn dweud bod y broses wedi dod â’r gymuned ynghyd i ddatblygu arweinyddiaeth ddiwylliannol strategol a chydlynol. Yn ei dro, galluogodd hyn iddynt arddangos – ac ehangu mynediad at – dreftadaeth, celf a diwylliant lleol.

Hoffwn i gymaint o ardaloedd â phosibl ledled y DU gael y cyfle i elwa o’r broses ymgeisio. Rydym wedi dylunio’r gystadleuaeth gyda hyn mewn golwg: gyda cham Mynegi Diddordeb (EOI) i gychwyn a chyllid i roi cymorth i ymgeiswyr yn ystod y cam diweddarach o’r gystadleuaeth.

Cyllid

Rydym yn falch o gyhoeddi cronfa wobr warantedig o £3.5 miliwn ar gyfer cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU. Bydd y panel yn dewis y trefi bach, canolig a mawr gorau o’r ceisiadau llawn a gawn. Bydd un o’r rhain yn cael ei enwi’n Dref Diwylliant y DU 2028 ac yn cael £3 miliwn, tra bydd y ddwy ardal arall yn y rownd derfynol yn cael £250,000 yr un i sicrhau eu bod yn gallu bwrw ymlaen â rhannau allweddol o’u ceisiadau. Rydyn ni’n cydnabod y gall ymrwymo ymlaen llaw i gyllid roi hyder a sicrwydd i ardaloedd fynd ati â’r gystadleuaeth a lansio ymgeisiau uchelgeisiol.

Rydym hefyd yn cydnabod bod costau’n gysylltiedig â datblygu a chyflwyno cais ac rydym eisiau i ardaloedd deimlo’n hyderus i ymgeisio ac elwa o’r broses ymgeisio. Mae’r cam o Fynegi Diddordeb (EOI) yn un syml ac mae wedi’i ddylunio i gadw costau mor isel â phosibl o’r cychwyn cyntaf. Bydd y DCMS yn dyfarnu grantiau datblygu ymgeisiau o £60,000 i bob un o’r ardaloedd ar y rhestr fer a wahoddir i gyflwyno cais llawn.

Mae angen i chi amlinellu yn eich ffurflen Mynegi Diddordeb sut y byddech chi’n gwario’r grant hwn o £60,000. Mae’n ffynhonnell hyblyg o arian i gryfhau eich cais llawn a helpu i ddatblygu cynllun graddadwy, er enghraifft ar gyfer y canlynol:

  • Ymchwil a Datblygu
  • Ymgynghoriadau
  • Adnoddau dynol
  • Casglu data
  • Arbenigedd masnachol ar gyfer cynlluniau cyfalaf

Meini prawf y gystadleuaeth

Mae meini prawf Tref Diwylliant y DU 2028 yn nodi amcanion strategol y rhaglen a dylai ardaloedd sy’n ymgeisio eu defnyddio i lywio eu hymgeisiau. Bydd y Panel Cynghori Arbenigol yn defnyddio’r meini prawf hyn i asesu ymgeisiau ar bob cam o’r gystadleuaeth.

I fod yn llwyddiannus, mae’n rhaid i ffurflenni Mynegi o Ddiddordeb ddangos sut maent yn bodloni’r meini prawf ac yn dangos y potensial i wneud cyfraniad sylweddol at nodau rhaglen Tref Diwylliant y DU.

Sylwer: Os cawn nifer fawr o geisiadau, byddwn yn cynnal sifft gychwynnol ar sail y maen brawf gyntaf yn unig, sef ‘Eich Stori’.

Tabl 1: Nodau a meini prawf cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU 2028

Amcanion Meini prawf
1. Eich stori: rhowch wybod i ni am stori a diwylliant unigryw eich tref. 1. Gweledigaeth: Stori leol gryf a chraff sy’n defnyddio diwylliant i ddod â phobl ynghyd, gan adlewyrchu’r ardal, balchder ei phobl a’i chyfraniad i’r stori genedlaethol.

2. Anghenion lleol: Sut mae eich rhaglen yn adeiladu ar gryfderau lleol wrth fynd i’r afael â blaenoriaethau penodol lleol.

3. Galluogi: Ymrwymiad i gynnwys cymunedau, artistiaid lawr gwlad, pobl greadigol ac arweinwyr lleol wrth siapio’r cais, y rhaglen a’r gwaddol, gan rannu penderfyniadau lle bo modd.
2. Diwylliant i Bawb: sut y byddwch yn dylunio rhaglen ddiwylliannol sy’n darparu diwylliant amlwg, hygyrch ac sy’n codi proffil eich tref. 4. Ansawdd ac Arloesedd: Rhaglen beiddgar o ansawdd uchel sy’n tynnu ar y celfyddydau, treftadaeth a’r diwydiannau creadigol, gan ddangos rhagoriaeth, creadigrwydd, arloesedd a defnydd o dechnoleg i ehangu mynediad.

5. Cyfle: Ehangu cyfleoedd i’r rhai nad ydynt ar hyn o bryd yn cael mynediad at seilwaith diwylliannol, yn enwedig pobl ifanc, a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer y rhai sy’n cymryd rhan eisoes.

6. Hygyrchedd: Sicrhau bod y rhaglen yn hygyrch i bobl o bob oed a chymunedau sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol, gan ddarparu amgylchedd diogel, cefnogol ac, nad yw’n gwahaniaethu.

7. Cyfathrebu: Cynllun cyfathrebu â digonedd o adnoddau sy’n cyrraedd sawl cynulleidfa ac sy’n amlygu cyfraniad y dref at fywyd cenedlaethol.
3. Dod â’ch syniadau yn fyw: sut y byddwch yn cyflawni rhaglen lwyddiannus. 8. Partneriaethau: Arweinyddiaeth gref a chydweithredol gyda chymorth clir gan awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol a phartneriaid diwylliannol/treftadaeth, gan gynnwys chwilio am gyfleoedd newydd a chysylltiadau sy’n para’n hir.

9. Rheoli’r Rhaglen: Tystiolaeth o gapasiti, gallu a phrosesau effeithiol i gyflawni’r rhaglen yn llwyddiannus.

10. Rheoli arian: Cyllideb realistig, hyfyw sy’n cynrychioli gwerth am arian, gyda phrosesau monitro clir a chynlluniau i denu’r cyllid priodol.

11. Monitro, Gwerthuso a’r Gwaddol: Cynllun clir ar gyfer gwerthuso effaith (gan gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol), rhannu mewnwelediadau, a chryfhau neu adfywio seilwaith diwylliannol a threftadaeth gyda disgwyliadau realistig.

Pwy all gystadlu?

Rydym yn croesawu ymgeisiau gan ardaloedd ledled y DU. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’r ardaloedd sy’n ymgeisio dangos eu bod yn gallu rheoli, ariannu a chyflawni rhaglen sy’n bodloni’r meini prawf sydd wedi’u hamlinellu uchod yn llwyddiannus. Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu hyder a’u parodrwydd i gyflawni’r rhaglen yn y cais Mynegi Diddordeb, gan fanylu ymhellach yn ystod y cais llawn. I’r trefi mwyaf, efallai y bydd cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU yn fwy addas ac fe ddylai’r trefi hyn ystyried gwneud cais i Ddinas Diwylliant y DU 2029.

Yr unig ardaloedd na chânt ymgeisio yw’r rhai o fewn Llundain Fawr, ond rydym yn annog yr ardaloedd hyn neu sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Llundain i fod yn bartneriaid mewn ymgais ar gyfer ardal y tu allan i Lundain.

Rydym am sicrhau bod trefi o bob maint yn cael eu harddangos wrth wneud cais am y gystadleuaeth, ac felly rydym wedi cyflwyno tri chategori ar gyfer gwobrau. Byddwn yn cyflwyno enillwyr y categorïau ar gyfer trefi bach, canolig a mawr. O’r tri lleoliad terfynol hyn, caiff enillydd cyffredinol ei ddewis ar gyfer Tref Diwylliant y DU. Byddwn yn defnyddio diffiniadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer trefi/ardaloedd trefol yn seiliedig ar faint y boblogaeth i bennu’r categorïau, ac ni ddisgwylir i chi wneud cais am gategori penodol.

Categori Cyfanswm y Boblogaeth
Tref Fach Llai na 20,000 o bobl
Tref Ganolig 20,000 – 75,000
Tref Fawr Mwy na 75,000

Pa sefydliadau all ymgeisio?

Rydyn ni’n disgwyl i ymgeisiau ddod gan bartneriaeth ar gyfer eich ardal ymgeisio a bod yr awdurdodau lleol perthnasol wedi’u cynnwys. Gall y bartneriaeth hon fod wedi’i sefydlu ers tro, ond nid oes rhaid iddi fod felly. Rydyn ni’n croesawu ymgeisiau gan bartneriaethau sydd newydd ffurfio ar gyfer ardal benodol. Bydd angen i ymgeisiau nodi un sefydliad i fod yn ‘Brif Ymgeisydd’ at ddibenion rhannu gwybodaeth a chyfathrebu drwy gydol y broses gystadlu. Mae’n rhaid i’r Prif ymgeisydd fod yn sefydliad atebol sydd wedi’i sefydlu’n ffurfiol. Nid oes rhaid iddo fod yn awdurdod lleol, ond bydd angen i’r awdurdod lleol perthnasol fod mewn rôl benodol yn y bartneriaeth sy’n ymgeisio.

Dylai’r bartneriaeth ddangos ymrwymiad i gydweithio, a gallai gynnwys amrywiaeth o bartneriaid cymunedol a thraws-sector fel: busnesau lleol, arweinwyr diwydiannau ac arweinwyr dinesig, cyrff diwylliannol, gwasanaethau llyfrgell leol, a sefydliadau gwirfoddol, cymunedol ac elusennau cymdeithasol. Dylai hefyd ddangos ymrwymiad i gynnwys cymunedau lleol yn y broses o wneud penderfyniadau a’u cynorthwyo i lywio’n uniongyrchol beth sy’n digwydd yn eu hardal nhw. Dylech chi ddangos yr ymrwymiad hwn i gydweithio â’r gymuned ar bob cam o’r gystadleuaeth.

Cyfrifoldeb dros y rhaglen

Os byddan nhw’n llwyddiannus, bydd yn ofynnol i’r ardaloedd buddugol enwi ‘Corff Atebol’ a ‘Chorff sy’n Cyflawni’ ar gyfer eu rhaglen (a all fod yr un sefydliad, ond nid oes raid iddynt fod). Bydd angen i chi amlinellu’ch cynllun ar gyfer hyn yn ystod y cam Mynegi Diddordeb, gan gyfeirio at y diffiniadau isod.

Corff Atebol: Parti y mae’r ardal wedi’i ddewis, sef y Corff Atebol a gydnabyddir mewn perthynas â rhaglen Tref Diwylliant y DU arfaethedig, e.e. yr awdurdod cyhoeddus lleol neu ranbarthol perthnasol. Os byddwch chi’n llwyddiannus, bydd gan y Corff Atebol gyfrifoldeb cyffredinol dros y rhaglen, a bydd yn berchen arni. Gall cyfrifoldebau’r Corff Atebol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Sicrhau bod rhaglen Tref Diwylliant y DU yn cael ei chyflawni’n ddiogel ac yn llwyddiannus;
  • Rheoli’r gofynion ariannol a chyfreithiol sy’n gysylltiedig â chyflawni rhaglen Tref Diwylliant y DU;
  • Cymryd cyfrifoldeb dros drefnu rhaglen Tref Diwylliant y DU, gan arwain ar y gwaith cydlynu angenrheidiol rhwng partneriaid perthnasol;
  • Cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw arian gan grant sy’n gysylltiedig â rhaglen Tref Diwylliant y DU, lle mai’r Corff Atebol yw’r sefydliad sy’n cael y grant; a
  • Monitro’r gwaith o gyflawni rhaglen Tref Diwylliant y DU a pharatoi adroddiadau perthnasol yn ôl y gofyn gan y DCMS.

Corff sy’n Cyflawni: Parti y mae’r ardal wedi’i ddewis a fydd yn gyfrifol am gynllunio, caffael, comisiynu a chyflawni rhaglen arfaethedig Tref Diwylliant y DU.

Beth ydyn ni’n ei olygu wrth sôn am ddiwylliant?

Mae diwylliant yn golygu pethau gwahanol i wahanol ardaloedd a chymunedau, ac rydyn ni eisiau i straeon lleol a chymeriad unigryw’r ardaloedd serennu yn yr ymgeisiau. Rydyn ni’n disgwyl i ymgeiswyr ddangos cryfderau’r hyn sydd ar gael yn ddiwylliannol yn yr ardal, cydnabod ei wendidau, a’i uchelgais a’r potensial i’w wella. Eich lle chi fydd cyflwyno’r achos dros ba weithgareddau sy’n cael eu cynnwys yn eich rhaglen ddiwylliannol arfaethedig a chyfleu’r newidiadau fesul cam rydych chi’n bwriadu eu cyflawni. Rydym yn disgwyl i raglenni apelio at ystod eang o gynulleidfaoedd a chynyddu faint y mae pobl yn cyfrannu at weithgareddau diwylliannol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, yn ogystal â chyfrannu at gydlynant cymunedol a llesiant.

Anogir ymgeiswyr i gynnwys gweithgareddau sy’n cwmpasu diffiniad eang o ddiwylliant a’i ddiwydiannau creadigol, a sut mae hyn yn gysylltiedig â hanes, stori a chymuned y dref. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol: y celfyddydau gweledol; llenyddiaeth; cerddoriaeth; theatr; dawns; y celfyddydau cyfun; pensaernïaeth; crefftau; dylunio; treftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol a naturiol; amgueddfeydd ac orielau; llyfrgelloedd ac archifau; ffilm; darlledu a’r cyfryngau; gemau fideo; animeiddio; effeithiau gweledol ac arbennig; ffotograffiaeth; a’r diwydiant cyhoeddi.

Cyd-fynd â chenadaethau a blaenoriaethau Llywodraeth y DU

Mae Tref Diwylliant y DU, ynghyd â chystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU, yn ategu mentrau eraill gan Lywodraeth y DU i gynorthwyo diwylliant i ffynnu, fel y Gronfa Celfyddydau Ym Mhob Man (Arts Everywhere Fund) sydd werth £270 miliwn, a fydd yn sicrhau bod gan bawb, ym mhob man, y cyfle i brofi diwylliant o safon uchel a chael mynediad at sefydliadau o ansawdd uchel yn yr ardaloedd sy’n gartref iddynt.

Mae llywodraeth leol yn ffurfio un o’r sylfaeni ar gyfer rhannu cyfleoedd diwylliannol ledled y DU, ac i sicrhau llwyddiant wrth gyflawni Tref Diwylliant y DU. Dylai awdurdodau lleol weithio gyda phobl leol i sicrhau bod eu hymgais a’u gweledigaeth greadigol nhw yn adlewyrchu eu cymunedau. Yn y modd hwn, mae cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU yn ymgorffori’r egwyddorion a nodir yn y Papur Gwyn Datganoli Lloegr, sef y trosglwyddiad mwyaf o bŵer o San Steffan i ranbarthau Lloegr yn y ganrif hon.

Mae hefyd yn ategu mentrau eraill gan Lywodraeth y DU sy’n canolbwyntio ar ardaloedd, yn enwedig y Strategaeth Falch o’ch Ardal sy’n nodi cynllun i greu cymdogaethau mwy diogel ac iachach lle gall cymunedau ffynnu. Mae’r Rhaglen Balchder yn yr Ardal yn cynrychioli un o’r buddsoddiadau mwyaf mewn cymdogaethau difreintiedig ers cenhedlaeth - hyd at £5 biliwn dros 10 mlynedd i gynorthwyo hyd at 250 o ardaloedd.

Rydyn ni’n annog ymgeiswyr i ystyried sut mae eu hymgais yn cyd-fynd â chronfeydd a mentrau eraill, yn adeiladu arnyn nhw neu’n paratoi ar eu cyfer. Yn ogystal â sut mae’r ymgais yn cael ei integreiddio i mewn i gynlluniau twf cynhwysol ehangach yn lleol ac yn rhanbarthol. Byddwn ni’n asesu’r uchod yn ystod y cam Mynegi Diddordeb mewn ffordd ysgafn a bydd disgwyl i ymgeiswyr dangos hyn yn fwy manwl yn ystod y cais llawn.

Dylai ymgeisiau ategu, yn hytrach na dyblygu neu gystadlu â chyllid sydd eisoes yn cyflawni, neu’n bwriadu cyflawni, yn eu hardaloedd nhw. Ni ddylai ardaloedd ystyried cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU fel cyfle i lenwi unrhyw fwlch yn eu cyllid nad yw wedi’i sicrhau drwy gronfeydd eraill y llywodraeth. Ni ddylai ardaloedd nad ydynt wedi cael, neu nad ydynt am gael, gymorth drwy gronfeydd eraill deimlo eu bod dan anfantais wrth wneud cais am gystadleuaeth Tref Diwylliant y DU. Hoffwn gefnogi pob ymgeisydd i sylweddoli’r fath o gyfraniadau trawsnewidiol y gall diwylliant eu gwneud fesul cam.

Ystyriaethau amgylcheddol

Un o genadaethau Llywodraeth y DU yw troi Prydain yn uwchbŵer ynni glân ac i gyflymu’r daith tuag at fod yn sero net erbyn 2050. Mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yw un o ymdrechion mwyaf brys ein hoes ni, sy’n galw am gamau beiddgar gan bob un ohonon ni. Mae ein trefi a’n dinasoedd ar flaen y gad o ran newid yn yr hinsawdd ac mae diwylliant yn offeryn pwerus i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol. Dylai ymgeisiau ar gyfer Tref Diwylliant y DU 2028 ystyried sut i ymgorffori arferion amgylcheddol cynaliadwy yn eu cynlluniau, gan ddangos eu cyfraniad at amcanion sero net a diogelu natur y DU, yn ogystal â hybu ac ysbrydoli pobl i gymryd cyfrifoldeb am yr amgylchedd.

Cymorth yn ystod y broses ymgeisio

Mae’r DCMS yn bwriadu cynnal sesiwn rhannu gwybodaeth ar-lein ar 21 Ionawr 2026 ar gyfer pob ymgeisydd â diddordeb. Bydd manylion pellach yn dilyn; cysylltwch â uktownofculture2028-competition@dcms.gov.uk gydag unrhyw gwestiynau ac i gofrestru eich diddordeb.

Bydden ni’n annog ymgeiswyr â diddordeb i fynychu’r sesiwn rhannu gwybodaeth hon er mwyn cael clywed gan arbenigwyr. Ni fydd y DCMS, adrannau eraill y llywodraeth na chyrff hyd braich ar gael i roi cymorth pellach i ymgeiswyr yn ystod gam Mynegi Diddordeb y gystadleuaeth. Bydd ardaloedd ar y rhestr fer yn cael mynediad at ragor o arbenigedd, cymorth a chyngor wrth baratoi eu ceisiadau llawn, a byddwn yn rhoi arweiniad pellach ar hyn maes o law.

Camau o’r gystadleuaeth

Mae’r broses ddethol ar gyfer Tref Diwylliant y DU 2028 wedi’i dylunio i nodi a dynodi ardaloedd ledled y DU sy’n cynnig yr ymgeisiau gorau posibl. Nid dim ond cyflwyno gweledigaeth uchelgeisiol ac unigryw ar gyfer eu rhaglen yn 2028 y mae’n rhaid i ymgeiswyr ei wneud, ond hefyd mae’n rhaid iddynt ddangos cynlluniau credadwy a realistig i wireddu’r weledigaeth honno yn llwyddiannus.

Mae tri phrif gam i’r gystadleuaeth.

Cam 1 – Mynegi Diddordeb

1. Mae’r cam Mynegi Diddordeb yn gyfle i’r ardaloedd ymgeisio fynegi eu gweledigaeth yn gryno, nodi elfennau allweddol eu rhaglen arfaethedig, a dangos eu parodrwydd i gyflawni eu rhaglen. Mae’r ffurflen Mynegi Diddordeb yn gofyn am ymatebion i’r tri maen prawf, gyda rhagor o awgrymiadau i’ch tywys. Rydym yn cydnabod yr her o ran adnoddau yn ystod y cyfnod cynnar hwn, felly nid ydym yn disgwyl gweld data economaidd manwl, ymchwil, nac unrhyw gynlluniau cyflawni trylwyr. Am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais, gweler yr adran ‘Sut i gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb’ isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb yw 31 Mawrth 2026.

2. Bydd y Panel Cynghori Arbenigol yn asesu’r ffurflenni Mynegi Diddordeb yn erbyn meini prawf perthnasol y gystadleuaeth ac yn dewis rhestr fer o ardaloedd. Mae’r DCMS yn bwriadu cyhoeddi’r rhestr fer o ardaloedd a fydd yn symud ymlaen i gam nesaf y gystadleuaeth yn ystod tymor y gwanwyn 2026.

Cam 2 – Mae’r ardaloedd ar y rhestr fer yn cyflwyno cais llawn

3. Bydd yr ardaloedd ar y rhestr fer yn cael grant o £60,000 yr un i’w cynorthwyo wrth ddatblygu a chryfhau eu cais llawn. Rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi arweiniad manwl ar wneud cais llawn yn ystod tymor y gwanwyn 2026. Bydd hyn yn cynnwys ein disgwyliadau ar gyfer cyflwyno data. Bydd gan ymgeiswyr hyd at bum mis i gwblhau’r cais llawn.

4. Bydd y cais llawn yn gofyn cwestiynau manylach ac yn disgwyl i chi amlinellu cynllun manwl ar gyfer sut y byddwch chi’n cyflawni’ch gweledigaeth, gan gynnwys cynllun a naratif y rhaglen, ac unrhyw bartneriaethau a chyllidebau. Bydd angen gwybodaeth am eich cyd-destun lleol, eich anghenion a’ch heriau blaenoriaethol, a sut y byddwch yn bwriadu defnyddio’r teitl Tref Diwylliant y DU i’w diwallu. Efallai y byddwn yn gofyn i ymgeiswyr gynnal ymchwil, cyflwyno data sy’n ymwneud â’r effaith ddisgwyliedig, yn ogystal â chynlluniau cyflawni, codi arian a llywodraethu. Byddwn hefyd yn gofyn i ymgeiswyr ystyried sut y byddant yn cyflwyno cynnwys digidol ar gyfer ymgysylltu’n ehangach â’r cyhoedd drwy gydol y gystadleuaeth.

Cam 3 – Ardaloedd ar y rhestr fer yn gwahodd y panel a chyflwyno iddynt

5. Bydd y panel yn ymweld â’r ardaloedd sydd ar y rhestr fer, a fydd yn cael eu gwahodd i gyflwyno i’r panel a chymryd rhan mewn trafodaethau manwl am eu cynlluniau.

6. Bydd y panel yn asesu’r ceisiadau llawn a’r cyflwyniadau gan yr ardaloedd ar y rhestr fer, gan gynnwys unrhyw ganlyniadau o ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfathrebu â nhw, ac yn eu hasesu yn erbyn meini prawf y gystadleuaeth.

7. Bydd y panel yn cyflwyno eu hargymhelliad ar gyfer y rownd derfynol a’r enillydd cyffredinol o Dref Diwylliant y DU 2028 i Ysgrifennydd Gwladol y DCMS, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Byddwn ni’n rhoi adborth i bob un o’r ardaloedd sydd ar y rhestr fer.

8. Mae’r DCMS yn anelu at gyhoeddi enillwyr Tref Diwylliant y DU 2028 ddechrau 2027.

Prif gerrig milltir a dyddiadau

Tabl 2: Prif gerrig milltir y gystadleuaeth

Carreg Filltir Dyddiadau
Ffurflen Mynegi Diddordeb Yn agor: 14 Ionawr 2026
Dyddiad cau: 31 Mawrth 2026
Digwyddiad rhannu gwybodaeth i ymgeiswyr 21 Ionawr 2026
Ardaloedd ar y rhestr fer yn cael eu cyhoeddi Tymor y gwanwyn 2026
Cyfnod y cais llawn Tymor y gwanwyn 2026 – tymor yr hydref 2026
Ymweliadau gan y panel Tymor yr hydref 2026
Yr ardaloedd terfynol a’r enillydd yn cael eu cyhoeddi Dechrau 2027
Cyfnod cyflawni 2028

Sut i gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb

Cofrestru fel ymgeisydd

Y cam cyntaf yw cofrestru fel ymgeisydd ar gyfer teitl Tref Diwylliant y DU 2028 drwy anfon e-bost i uktownofculture2028-competition@dcms.gov.uk a darparu’r wybodaeth ganlynol, a fydd yn ein galluogi i gysylltu â chi’n gyflym pe bai angen, anfon y canllawiau brandio, a rhannu gwybodaeth am y gweithdy rhannu gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr posibl:

  • Enw’r ardal sy’n ymgeisio
  • Disgrifiad daearyddol bras o’r ardal sy’n ymgeisio
  • Cyswllt enwebedig a manylion cyswllt ar gyfer y tîm sy’n ymgeisio

Ffurflen Mynegi Diddordeb

Dylai ymgeiswyr lawrlwytho a chwblhau templed y ffurflen Mynegi Diddordeb, a’i ddychwelyd drwy e-bost i uktownofculture2028-competition@dcms.gov.uk

Mae’r ffurflen Mynegi Diddordeb yn cynnwys tair adran, ac mae pob un yn gofyn am ymateb ar ffurf datganiad:

  1. Eich stori: rhowch wybod i ni am stori a diwylliant unigryw eich tref

  2. Diwylliant i bawb: rhowch wybod i ni sut y byddwch yn dylunio rhaglen ddiwylliannol a fydd yn darparu diwylliant amlwg, hygyrch sy’n codi proffil eich tref

  3. Dod â’ch syniadau yn fyw: rhowch wybod i ni sut y byddwch yn cyflawni rhaglen lwyddiannus

Mae cyfarwyddiadau pellach, gan gynnwys cyfyngiadau ar nifer y geiriau ac awgrymiadau i’w defnyddio i’ch tywys yn eich ymatebion, wedi’u nodi yn nhempled y ffurflen Mynegi Diddordeb. Sylwer: os cawn nifer fawr o geisiadau, bydd ymgeisiau yn cael eu sifftio ar sail yr adran gyntaf yn unig, sef ‘Eich Stori’.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen Mynegi Diddordeb yw 31 Mawrth 2026. Ni fydd y DCMS yn derbyn ffurflenni Mynegi Diddordeb sydd wedi dod i law ar ôl y dyddiad hwn.

‘Tref Diwylliant y DU 2028’ teitl, nod masnach a brandio

Bydd enillydd y gystadleuaeth yn cael ei benodi ‘Dref Diwylliant y DU 2028’. Byddwn ni’n cyhoeddi arweiniad ar frandio i bob ymgeisydd cofrestredig i amlinellu sut mae ardaloedd sy’n ymgeisio, sy’n ennill ac sy’n gadael gwaddol ar eu holau yn gallu defnyddio’r teitl a’r nod masnach yn y blynyddoedd sy’n arwain at 2028 ac ar ôl hynny.

Y cyfryngau a chyhoeddusrwydd

Rydyn ni’n disgwyl y bydd cyhoeddusrwydd sylweddol yn gysylltiedig â’r broses ddethol, gyda sylw ar lefel leol a chenedlaethol. Byddwn yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg ynglŷn â chanlyniadau’r broses o lunio’r rhestr fer a’r broses ddethol derfynol. Bydd yr holl ardaloedd sy’n ymgeisio yn cael eu rhestru ar wefan y DCMS (ynghyd â chysylltiadau i wefannau eu hymgeisiau, os yw hynny’n berthnasol). Efallai y byddwn ni’n cyfeirio at y rhain mewn datganiadau i’r wasg. Bydd tîm gohebu’r DCMS yn cysylltu â thimau gohebu yn y mannau sy’n ymgeisio yn ôl yr angen er mwyn rhoi’r diweddaraf iddyn nhw ynglŷn â’r cynlluniau a’r embargos.

Rhannu data a thryloywder

Bydd rhaglen Tref Diwylliant y DU, a’i gwerthuso, yn allweddol i’n dealltwriaeth gynyddol o’r effeithiau cymdeithasol ac economaidd y mae buddsoddi mewn diwylliant yn ei gael. Rydym yn disgwyl cael clamp o wybodaeth a data fel rhan o’r broses ymgeisio. Ar ôl dyfarnu teitl 2028, rydym yn bwriadu cofnodi’r holl ymgeisiau (y ffurflenni Mynegi Diddordeb cychwynnol a’r ceisiadau llawn) yn yr Archifau Cenedlaethol, sef archif gyhoeddus swyddogol Llywodraeth y DU, er mwyn galluogi ymchwilwyr a’r cyhoedd i gael mynediad am ddim at y cyfoeth o wybodaeth. Rydyn ni’n deall efallai fod rhywfaint o ddata yn fasnachol sensitif, felly byddwn ni’n gweithio gyda phob ymgeisydd i ddarparu fersiynau wedi’u golygu yn ôl yr angen.

Diogelu data

Mae’r DCMS wedi ymrwymo i ddefnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn ni mewn modd cyfreithlon, teg a thryloyw, gan barchu’ch hawliau cyfreithiol fel unigolyn yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 y DU a chyfreithiau perthnasol eraill sy’n rheoleiddio defnydd a phreifatrwydd data personol (Cyfraith Diogelu Data).

Fel rhan o’n hymrwymiad i fodloni’r gofyniad hwn, rydyn ni wedi cyhoeddi ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol i chi gyfeirio ato. Am ragor o wybodaeth am ein hymrwymiadau a’ch hawliau o dan y Gyfraith Diogelu Data, yn ogystal â sut i roi gwybod am bryderon os credwch fod eich data personol yn cael eu casglu neu’u defnyddio’n anghyfreithlon. Gweler hefyd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â uktownofculture2028-competition@dcms.gov.uk