Guidance

Mynegi Diddordeb mewn Dinas Diwylliant y DU 2029: Arweiniad i ymgeiswyr

Updated 28 November 2025

Ynys Ewyn yn Bradford, Dinas Diwylliant y DU 2025. Llun gan: Andrew Benge

Rhagarweiniad

Mae’r arweiniad hwn wedi’i gynhyrchu gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (y DCMS) i helpu’r mannau (gan gynnwys trefi mwy o faint, dinasoedd, rhanbarthau a grwpiau o fannau) sy’n dymuno ymgeisio am y teitl, Dinas Diwylliant y DU 2029. Mae’r arweiniad hwn yn amlinellu nodau’r gystadleuaeth ac yn manylu ar ofynion y cam cyntaf o fynegi diddordeb. Mae’r arweiniad hefyd yn nodi’r broses ymgeisio a’r broses ddethol ar gyfer y camau nesaf yn y gystadleuaeth er mwyn cynorthwyo â gwaith cynllunio’r ymgeiswyr. Rydyn ni’n argymell bod y mannau sy’n dymuno gwneud cais ar gyfer cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2029 yn darllen yr arweiniad hwn o’r dechrau i’r diwedd.

Beth yw Dinas Diwylliant y DU?

Cystadleuaeth gan y DCMS yw Dinas Diwylliant y DU. Mae’n gwahodd mannau ledled y DU i gyflwyno eu gweledigaeth ar gyfer gweithgarwch trawsnewidiol sydd wedi’i arwain gan ddiwylliant. Gall dinasoedd, trefi, rhanbarthau a grwpiau o fannau gystadlu. Lawnsiwyd yn gyntaf yn 2009, ac erbyn hyn dyma’r pumed tro i’r DCMS gynnal y gystadleuaeth. Yn ystod yr amser hwn, mae hi wedi cynorthwyo Derry/Londonderry, Hull, Coventry a Bradford i gyflawni blwyddyn o weithgarwch llawn diwylliant sydd wedi’i wreiddio yn hunaniaeth unigryw’r llefydd hyn ac yn tynnu ar eu straeon a’u chryfderau lleol. Mae’r gystadleuaeth wedi cynorthwyo sawl un arall i fynegi eu gweledigaeth am eu man nhw, yn ogystal ag ystyried y man diwylliannol yn eu cynlluniau a’u huchelgeisiau. Rhaglen ledled y DU ydyw, sydd wedi’i datblygu ar y cyd â’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae wedi datblygu’n fodel ar gyfer creu mannau diwylliannol.

Nodau

Nodau cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU yw: dathlu cymunedau mewn mannau ar hyd a lled y DU a’u cynorthwyo i ddefnyddio diwylliant fel catalydd ar gyfer trawsnewid y llefydd hyn a bywydau eu trigolion. Bydd hyn yn digwydd drwy ysgogi twf a swyddi da; creu bywydau cyfoethocach sydd â dewisiadau a chyfleoedd i bawb; meithrin gwlad sydd â chymdeithas unedig ble mae cymunedau yn teimlo’n falch o’u man nhw a’u bod nhw’n teimlo bod hawl ganddyn nhw ei newid. Mae Dinas Diwylliant y DU yn adeg drawsnewidiol yn nhaith mannau ymgeisio wrth iddyn nhw dyfu, ac mae’r gystadleuaeth yn gyfle i fannau a chymunedau anelu’n uwch a rhoi diwylliant a chreadigrwydd wrth wraidd eu cynlluniau ar gyfer gweithgarwch trawsnewidiol a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

Buddion ennill

Mae’n glir i weld beth yw buddion dal y teitl Dinas Diwylliant y DU. Mae llwyddiant yr enillwyr blaenorol, sef Derry/Londonderry, Hull, Coventry a Bradford, yn dangos sut gall y rhaglen ddod â chanlyniadau economaidd a chymdeithasol cadarnhaol, datblygu partneriaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy’n para, a dod â phobl at ei gilydd. Gall hefyd gryfhau cymunedau, creu ymdeimlad o le ac ysbrydoli balchder lleol, dathlu a rhoi hwb i gelfyddydau a diwylliant lleol a llawr gwlad, a denu buddsoddiad a thwristiaeth newydd.

Mae ymchwil wedi dangos bod rhaglen Dinas Diwylliant y DU hyd yn hyn (heb ystyried Bradford yn 2025) wedi annog buddsoddiad ychwanegol o dros £1 biliwn. Yn ogystal, mae mwy na 70% o’r rheini sy’n mynychu digwyddiadau Dinas Diwylliant y DU yn teimlo’n fwy balch fyth. Yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn pan enillodd Bradford y teitl, cyrhaeddodd rhaglen Bradford dros miliwn o bobl, gan gynnwys 11,000 o ddisgyblion a thros 2,000 o wirfoddolwyr o bob ward yn y rhanbarth. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod y buddion i’r mannau hyn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r flwyddyn pan oedden nhw’n dal y teitl. Fe arweiniodd at waddol o newidiadau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sy’n dal i gael eu teimlo hyd heddiw.

Buddion ymgeisio

Rydyn ni’n gwybod yn iawn bod ymgeisio am y teitl – heb sôn am ennill y teitl – yn gallu cael hynod o effaith gadarnhaol ar y mannau dan sylw. Gall y broses o ymgeisio helpu gyda dod â phartneriaid at ei gilydd a datblygu arweinyddiaeth ddiwylliannol strategol, arddangos a gwella mynediad at eich treftadaeth, eich celfyddydau a’ch diwylliant lleol, a mynegi eich uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn cystadleuaethau blaenorol, gwelson ni fod modd i rai o’r syniadau a’r partneriaethau hyn barhau waeth beth fo canlyniad yr ymgais yn y pen draw. Mae sawl ymgeisydd wedi mynd ati i wireddu elfennau o’i ymgais hyd yn oed os nad oedd ei ymgais yn llwyddiannus yn ystod y gystadleuaeth hon.

Cafodd y gystadleuaeth ddiwethaf nifer ddigynsail o ymgeisiau, a’r tro hwn hoffen ni weld cymaint o fannau â phosibl ledled y DU yn cael y cyfle i fanteisio ar y broses ymgeisio. Rydyn ni wedi trefnu’r gystadleuaeth gan gofio hynny: bydd cam cychwynnol ysgafn ei natur pan gewch chi fynegi diddordeb a bydd arian i gynorthwyo ymgeiswyr ar gael yn ystod camau diweddarach y gystadleuaeth – yn ogystal ag arian i’r rheini sy’n dod yn ail. Hoffen ni annog bob un ymgeisydd i feddwl am sut y byddech chi’n defnyddio’r arian gan y DCMS a sut y byddech chi’n gweithio gyda phartneriaid er mwyn symud elfennau o’ch ymgais yn eu blaen, hyd yn oed os na fyddwn ni’n eich dewis chi fel Dinas Diwylliant y DU 2029.

Cyllid

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi y bydd gwobr o £10 miliwn wedi’i warantu ar gyfer y man sy’n ennill er mwyn ei gynorthwyo i gyflawni ei raglen, yn ogystal â grantiau o £125,000 ar gyfer adnoddau i bob un o’r (hyd at) dri ymgeisydd ail orau i’w galluogi i symud rhai elfennau o’u hymgais yn eu blaen. Rydyn ni’n cydnabod y gall ymrwymo ymlaen llaw i gyllid roi hyder a sicrwydd i fannau fynd ati â’r gystadleuaeth a lansio ymgeisiau uchelgeisiol.

Rydyn ni’n cydnabod bod yna gostau yn gysylltiedig â datblygu a chyflwyno ymgeisiau ac rydyn ni eisiau i fannau deimlo eu bod nhw’n gallu ymgeisio a manteisio ar y broses ymgeisio. Mae’r cam Mynegi Diddordeb yn ysgafn ei natur ac wedi’i gynllunio i gadw costau mor isel â phosibl ar y dechrau. Bydd y DCMS yn dyfarnu grantiau o £60,000 i bob un o’r (hyd at) wyth man ar y rhestr hir i ddatblygu eu hymgeisiau. Dyma’r ymgeisiau y byddwn ni’n eu gwahodd i gyflwyno cais llawn.

Mae angen i chi amlinellu yn eich ffurflen Mynegi Diddordeb sut y byddech chi’n gwario’r grant hwn o £60,000. Mae’n ffynhonnell hyblyg o arian i gryfhau eich cais llawn a helpu i ddatblygu cynllun graddadwy, er enghraifft ar gyfer y canlynol:

  • Ymchwil a Datblygu
  • Ymgynghori
  • Adnoddau dynol
  • Casglu data
  • Arbenigedd masnachol ar gyfer eich cynlluniau cyfalaf arfaethedig

Meini prawf cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2029

Mae meini prawf Dinas Diwylliant y DU 2029 yn nodi amcanion strategol y rhaglen ac fe ddylai’r mannau sy’n ymgeisio eu defnyddio i lywio eu hymgeisiau. Bydd y Panel Cynghori Arbenigol yn defnyddio’r meini prawf hyn i asesu ymgeisiau ar bob cam o’r gystadleuaeth. Mae’r meini prawf wedi’u diweddaru ar gyfer y gystadleuaeth hon er mwyn canolbwyntio hyd yn oed yn fwy ar gynnwys pobl leol wrth lunio’r ymgais a sicrhau eu bod nhw wir yn elwa o’r cyfleoedd a’r effeithiau a ddaw yn sgil y rhaglen.

Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae’n rhaid i ffurflenni Mynegi Diddordeb ddangos sut mae’r mannau’n bodloni’r meini prawf ac yn dangos potensial i wneud cyfraniad arwyddocaol tuag at nodau rhaglen Dinas Diwylliant y DU.

Tabl 1: Nodau a meini prawf Dinas Diwylliant y DU 2029

Nodau Meini Prawf
1. Rhannu a dathlu stori a gweledigaeth leol unigryw sy’n defnyddio diwylliant a chreadigrwydd i drawsnewid man penodol 1. Gweledigaeth: Mynegi gweledigaeth gref ac unigryw ar gyfer eich man a’ch rhaglen, wedi’i llywio gan gymunedau ac wedi’i seilio ar stori leol drawiadol sy’n defnyddio effaith diwylliant a threftadaeth fel catalydd i ddod â phobl at ei gilydd, meithrin ymdeimlad o fan penodol ac ysbrydoli balchder lleol.

2. Arweinyddiaeth: Dangos dull arweinyddol cryf a chydweithredol gydag ymrwymiad clir a chymorth gan awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol a’r sector diwylliannol, gan sicrhau gwaddol diwylliannol, credadwy a hirdymor.

3. Anghenion lleol: Gosod rhaglen a gwaddol sydd wedi’i lunio gan gymunedau ac sy’n defnyddio diwylliant i ymateb i flaenoriaethau penodol lleol ac yn targedu’r rhai sydd angen cymorth mwyaf.

4. Trawsnewid: Cyflwyno dealltwriaeth strategol o beth mae “trawsnewid” yn ei olygu i’ch man chi a sut y gall hynny gyflawni newid mesuradwy a chynaliadwy fesul cam ar gyfer y bobl a’r man dan sylw. Mae hyn yn cynnwys cyfleu effeithiau cymdeithasol, llesiannol ac economaidd clir.
2. Creu cyfleoedd trawsnewidiol a bywydau cyfoethocach i bobl a chymunedau 5. Cyfle: Creu mwy o gyfleoedd i bawb, yn enwedig pobl ifanc, i gael mynediad at ddiwylliant a chymryd rhan yn y diwylliant hwnnw.

6. Galluogi: Dangos ymrwymiad i gynnwys cymunedau lleol, artistiaid a gweithwyr creadigol llawr gwlad, ac arweinwyr lleol a rhanbarthol yn y broses o wneud penderfyniadau. Hefyd dangos ymrwymiad i’w cynorthwyo nhw i lunio’r ymgais, y rhaglen a’r gwaddol yn uniongyrchol, gan ddatganoli’r pŵer i wneud penderfyniadau i gymunedau lle bo modd.

7. Cydlyniant: Hyrwyddo a gwella cydlyniant cymunedol drwy ymgysylltu â chymunedau lleol a’u hysbrydoli i wirfoddoli a dod â phobl at ei gilydd drwy greu llefydd a chyfleoedd ar gyfer cymysgu’n gymdeithasol.

8. Balchder: Meithrin ymdeimlad o berthyn ac ysbrydoli balchder lleol a chenedlaethol.
3. Creu effaith economaidd gynaliadwy drwy ddarparu swyddi da a rhoi hwb i dwf yn eich man neu’ch rhanbarth chi yn ehangach 9. Cyd-destun: Dangos dealltwriaeth glir o sut mae’ch cynnig yn cyd-fynd â chynlluniau ehangach ar gyfer twf rhanbarthol neu genedlaethol, ac yn cryfhau’r cynlluniau hyn.

10. Twf: Cynyddu buddsoddiad mewn diwylliant a chreadigrwydd, gan arwain at fod yn fwy cynhyrchiol ac at fwy o allbwn, er mwyn codi proffil yr ardal fel cyrchfan ddiwylliannol. Bydd hyn yn denu twristiaeth a buddsoddiad newydd i annog twf cynhwysol.

11. Swyddi: Cynyddu cyfleoedd am gyflogaeth leol yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol – cyn, yn ystod ac ar ôl blwyddyn eich rhaglen.

12. Sgiliau: Cynyddu cyfleoedd cynhwysol ar gyfer datblygu sgiliau arbenigol a sgiliau bywyd, yn ogystal â datblygu llwybrau i yrfaoedd creadigol a diwylliannol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i bobl ifanc.
4. Hyrwyddo ansawdd ac arloesedd 13. Ansawdd: Darparu rhaglen ddiwylliannol o ansawdd uchel sy’n adeiladu ar gryfderau ac asedion lleol, ac yn ehangu arnyn nhw, yn ogsytal â rhaglen sydd wedi’i seilio ar y gorau o gelfyddyd, treftadaeth a diwydiannau creadigol y DU. Bwriad hyn oll fydd gyfrannu at enw da’r DU fel arweinydd byd-eang yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol.

14. Arloesi: Dangos rhagoriaeth ddiwylliannol ac artistig, creadigrwydd ac arloesedd, gan gynnwys gwneud hyn drwy ddefnyddio technoleg i alluogi mynediad at ddiwylliant.

15. Cyfrifoldeb amgylcheddol: Gwreiddio arferion cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol yn rhan o’r rhaglen a’i gwaddol, gan ddangos cyfraniad at nodau Sero Net y DU a nodau o ran amddiffyn natur, yn ogystal â hyrwyddo ac ysbrydoli cyfrifoldeb amgylcheddol.
5. Estyn llaw yn lleol ac ar draws y DU i weithio gyda phartneriaid amrywiol 16. Stori gyffredin: Cryfhau a dathlu cysylltiadau â mannau ar draws pedair gwlad y DU (ac yn rhyngwladol hefyd, os yw’n bwysig i’ch man chi a’i stori). Byddwch yn seilio hyn ar ddiwylliant a threftadaeth i adrodd ein stori gyffredin gyda’n gilydd drwy raglen hynod gynhwysol ac agored ei natur.

17. Partneriaethau: Cydweithio ag ystod eang o bartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol (a rhyngwladol hefyd, os yw’n bwysig i’ch man chi a’i stori). Byddwch yn ceisio cyfleoedd newydd a chreu cysylltiadau ystyrlon a pharhaol sy’n cyfrannu at weledigaeth hirdymor eich man.
6. Manteisio i’r eithaf ar waddol rhaglen Dinas Diwylliant y DU 18. Gwerthuso: Cyflwyno cynllun a methodoleg gadarn a chyraeddadwy i werthuso a monitro effaith y rhaglen a’i newidiadau disgwyliedig fesul cam, gan ddysgu o brofiadau mannau blaenorol sydd wedi ennill.

19. Gwreiddio: Dangos dealltwriaeth glir o sut mae’r rhaglen yn cyd-fynd â strategaethau diwylliannol lleol presennol y tu hwnt i 2029, ac yn gwreiddio ei hun yn y rhain. Yn ogystal â sut mae modd defnyddio’r rhaglen fel catalydd i ddatblygu strategaeth ddiwylliannol sy’n cyd-fynd â strategaethau lleol presennol.

20. Cynnal: Cyflwyno cynllun uchelgeisiol a chadarn sy’n dangos sut bydd y strategaeth sy’n sail i’r rhaglen yn darparu ecosystem gref o sefydliadau diwylliannol a chreadigol. Bydd y sefydliadau hyn wedi’u gwreiddio yn y gymuned ac wedi’u siapio gan y gymuned. Wrth wneud hyn, byddwch yn bwriadu cryfhau arweinyddiaeth, partneriaethau a gallu lleol.

Pa fannau all ymgeisio?

Rydyn ni’n croesawu ymgeisiau gan fannau ledled y DU ac nid yw’r broses ymgeisio wedi’i chyfyngu i ddinasoedd yn unig. Er enghraifft, rydyn ni hefyd yn annog ymgeisiau gan drefi mwy o faint, rhanbarthau neu grwpiau o fannau. Mater i’r man ei hun yw penderfynu a yw’n bodloni’r gofynion. Mae’n rhaid i’r mannau sy’n ymgeisio allu dangos ffocws canolog clir a bod hunaniaeth gyson i’r ardal. Gall rhan o’r rhaglen ddigwydd o fewn cyffiniau ehangach, gan gynnwys ardaloedd gwledig, ac rydyn ni’n annog ymgeiswyr i ystyried sut bydd eu strategaeth hirdymor yn ymwneud â chymunedau cyfagos, a’r buddion a ddaw i’r cymunedau hyn.

Mae’n rhaid i’r mannau sy’n ymgeisio allu rheoli, ariannu a chyflawni rhaglen yn llwyddiannus – rhaglen sy’n gallu arwain at adfywio a thrawsnewid amlwg i’r ardal ac ymateb i anghenion lleol penodol. Mae’n rhaid iddyn nhw hefyd ddangos bod digon o seilwaith diwylliannol, digidol a chymdeithasol presennol (neu gynlluniau credadwy i’w datblygu). Bydd y seilwaith hwn yn darparu digon er mwyn i raglen sy’n flwyddyn o hyd fod yn llwyddiannus a bod modd ei chyflawni yn 2029. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos yn eu cais Mynegi Diddordeb pa mor hyderus a pharod ydyn nhw i gyflawni rhaglen uchelgeisiol, ac eto yn fwy manwl yn ystod cam y cais llawn.

Yr unig ardaloedd na chân nhw ymgeisio yw unrhyw rannau o Lundain Fawr, ond nid yw hyn yn atal yr ardaloedd hyn nac unrhyw sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn Llundain rhag bod yn bartneriaid mewn ymgais gan ardal y tu allan i Lundain.

Arweiniad i Drefi

Rydyn ni eisiau i drefi ar hyd a lled y DU ystyried ymgeisio i fod yn Ddinas Diwylliant nesaf y DU. Mae’r meini prawf ar gyfer cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2029 wedi’u diweddaru i gynorthwyo pob math o fannau cymwys i wneud cais a chystadlu. Gobeithiwn y bydd y ffocws newydd ar raglenni uchelgeisiol sy’n rhoi blaenoriaeth i effaith leol, yn ymateb i anghenion lleol penodol ac yn trawsnewid mannau a bywydau cymunedau lleol, yn annog trefi mwy o faint i wneud cais.

Rydyn ni hefyd yn lansio cystadleuaeth newydd, sef Tref Diwylliant y DU, a fydd yn gweld yr enillydd yn cyflawni rhaglen yn ystod Gwanwyn/Haf 2028 ac yn cael cyllid o £3.5 miliwn yn wobr i’w gynorthwyo.

Er enghraifft, bydden ni’n annog trefi mwy o faint i ystyried gwneud cais am Ddinas Diwylliant y DU a bod trefi bach a threfi o faint canolig yn gwneud cais am Dref Diwylliant y DU. Dim ond canllaw yw hwn. Ni fydd yn orfodol, a byddwn ni’n ystyried ymgeisiau gan bob tref sy’n bodloni gofynion yr adran “Pa fannau all ymgeisio?” yn yr arweiniad hwn. Bydden ni’n annog trefi i ystyried eu gallu i gyflawni a beth fyddai’n fwyaf buddiol i’w hardal. Yn y pen draw, trefi eu hunain fydd yn penderfynu pa gystadleuaeth i wneud cais amdani. Bydd rhagor o arweiniad yn cael ei gyhoeddi ar gystadleuaeth Tref Diwylliant y DU maes o law.

Efallai y bydd trefi am gyfeirio at yr arweiniad canlynol ar faint trefi/ardaloedd trefol ar sail y boblogaeth wrth gynllunio:

Pa sefydliadau all ymgeisio?

Rydyn ni’n disgwyl i ymgeisiau ddod gan bartneriaeth ar gyfer eich man ymgeisio ac bod yr awdurdodau lleol perthnasol wedi’u cynnwys. Gall y bartneriaeth hon fod wedi’i sefydlu ers tro, ond nid oes rhaid iddi fod felly. Rydyn ni’n croesawu ymgeisiau gan bartneriaethau sydd newydd ffurfio ar gyfer man penodol. Bydd angen i’r ymgeisiau nodi un sefydliad fel “Prif ymgeisydd” at ddibenion rhannu gwybodaeth a chyfathrebu yn ystod proses y gystadleuaeth. Mae’n rhaid i’r Prif ymgeisydd fod yn sefydliad atebol sydd wedi’i sefydlu’n ffurfiol. Nid oes rhaid iddo fod yn awdurdod lleol, ond bydd angen i’r awdurdod lleol perthnasol fod mewn rôl benodol yn y bartneriaeth sy’n ymgeisio.

Dylai’r bartneriaeth ddangos ymrwymiad i weithio ar y cyd ag ystod eang o bartneriaid o wahanol sectorau, a’u cynnwys yn y broses. Gall y partneriaid hyn fod yn fusnesau lleol, arweinwyr diwydiannol a dinesig, sefydliadau addysg uwch, cyrff diwylliannol, gwasanaethau llyfrgelloedd lleol, mudiadau gwirfoddol, cymunedol a cymdeithasol, a bod y rhain i gyd yn cyd-fynd â chyrff strategol rhanbarthol eraill. Dylai hefyd ddangos ymrwymiad i gynnwys cymunedau lleol yn y broses o wneud penderfyniadau a’u cynorthwyo i lywio’n uniongyrchol beth sy’n digwydd yn eu hardal nhw. Dylech chi ddangos yr ymrwymiad hwn i gydweithio â’r gymuned ar bob cam o’r gystadleuaeth.

Cyfrifoldeb dros y rhaglen

Os byddwch chi’n llwyddiannus, bydd angen i’r man buddugol nodi “Corff Atebol” a “Corff sy’n Cyflawni” ar gyfer ei raglen (gall y ddau fod yr un sefydliad, ond nid oes rhaid iddyn nhw fod felly). Bydd angen i chi amlinellu’ch cynllun ar gyfer hyn yn ystod y cam Mynegi Diddordeb, gan gyfeirio at y diffiniadau isod.

Corff Atebol: Y corff a ddewiswyd gan y man dan sylw, sef y Corff Atebol cydnabyddedig sy’n ymwneud â rhaglen Dinas Diwylliant y DU arfaethedig. Er enghraifft, yr awdurdod cyhoeddus, lleol neu ranbarthol, perthnasol. Os byddwch chi’n llwyddiannus, bydd gan y Corff Atebol gyfrifoldeb cyffredinol dros y rhaglen, a bydd yn berchen arni. Gall cyfrifoldebau’r Corff Atebol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Sicrhau bod rhaglen Dinas Diwylliant y DU yn cael ei chyflawni’n ddiogel ac yn llwyddiannus;
  • Rheoli’r gofynion ariannol a chyfreithiol sy’n gysylltiedig â chyflawni rhaglen Dinas Diwylliant y DU;
  • Cymryd cyfrifoldeb dros drefnu rhaglen Dinas Diwylliant y DU, gan arwain ar y gwaith cydlynu angenrheidiol rhwng partneriaid perthnasol;
  • Cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw gyllid grant sy’n gysylltiedig â rhaglen Dinas Diwylliant y DU, lle mai’r Corff Atebol yw’r sefydliad sy’n cael y grant; a
  • Monitro’r gwaith o gyflawni rhaglen Dinas Diwylliant y DU a pharatoi adroddiadau perthnasol yn ôl y gofyn gan y DCMS.

Corff sy’n Cyflawni: Y corff a ddewiswyd gan y man dan sylw a fydd yn gyfrifol am gynllunio, caffael, comisiynu a chyflawni rhaglen Dinas Diwylliant y DU arfaethedig.

Beth ydyn ni’n ei olygu wrth sôn am ddiwylliant?

Mae diwylliant yn golygu pethau gwahanol i wahanol fannau a chymunedau, ac rydyn ni eisiau i straeon lleol a chymeriad unigryw’r mannau serennu yn yr ymgeisiau. Rydyn ni’n disgwyl i ymgeiswyr ddangos cryfderau’r hyn sydd ar gael yn ddiwylliannol yn yr ardal, cydnabod ei wendidau, a’i uchelgais a’r potensial i’w wella. Eich lle chi fydd cyflwyno’r achos dros ba weithgareddau sy’n cael eu cynnwys yn eich rhaglen ddiwylliannol arfaethedig a chyfleu’r newidiadau fesul cam rydych chi’n bwriadu eu cyflawni. Rydyn ni’n disgwyl i raglenni allu apelio at ystod eang o gynulleidfaoedd a chynyddu faint mae pobl yn ymwneud â gweithgareddau diwylliannol, yn enwedig pobl ifanc. Yn ogystal â chyfrannu at dwf economaidd, adfywio, cydlyniant cymunedol, iechyd a llesiant.

Rydyn ni’n annog ymgeiswyr i gynnwys gweithgareddau sy’n cwmpasu diffiniad eang o ddiwylliant a’i ddiwydiannau creadigol. Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): celfyddydau gweledol, llenyddiaeth; cerddoriaeth; theatr; dawns; celfyddydau cyfun; pensaernïaeth; crefftau; dylunio; treftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol a naturiol; amgueddfeydd ac orielau; llyfrgelloedd ac archifau; ffilm, darlledu a’r cyfryngau; gemau fideo; animeiddio, effeithiau gweledol ac effeithiau arbennig; ffotograffiaeth, a chyhoeddi.

Cyd-fynd â chenadaethau a blaenoriaethau Llywodraeth y DU

Mae cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU yn rhan o Gynllun ar gyfer Newid uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn hyrwyddo’r cenadaethau i gael gwared ar rwystrau i gyfleoedd a sbarduno twf economaidd mewn mannau ar draws y DU. Mae’r celfyddydau a diwylliant yn rhan hanfodol o ddiwydiannau creadigol penigamp y DU. Dyma un o’r prif sectorau sy’n annog twf yn Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Mae Cynllun Sector y Diwydiannau Creadigol yn darparu fframwaith i adeiladu ar gryfderau presennol y sector a manteisio ar gyfleoedd newydd.

Mae’r gystadleuaeth yn ategu mentrau eraill gan Lywodraeth y DU i roi cymorth i ddiwylliant allu ffynnu, fel Cronfa Celfyddydau Ym Mhob Man (Arts Everywhere Fund) sydd werth £270 miliwn. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb, ym mhob man, yn cael y cyfle i brofi diwylliant gwych ac i gael mynediad at sefydliadau o ansawdd uchel yn y mannau lle maen nhw’n byw.

Mae llywodraeth leol yn sylfaen i rannu cyfleoedd diwylliannol ar draws y DU, ac i gyflawni Dinas Diwylliant y DU yn llwyddiannus. Dylai awdurdodau lleol weithio gyda phobl leol i sicrhau bod eu hymgais a’u gweledigaeth greadigol nhw yn adlewyrchu eu cymunedau. Yn y modd hwn, mae cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU yn gwreiddio egwyddorion a nodir ym Mhapur Gwyn Datganoli Lloegr, sef y trosglwyddiad mwyaf o bŵer o San Steffan i ranbarthau Lloegr yn ystod y ganrif hon.

Mae hefyd yn ategu mentrau eraill gan Lywodraeth y DU sy’n seiliedig ar leoliadau, yn arbennig Strategaeth Falch o’ch Man eich hun, sy’n gosod cynllun i greu cymdogaethau mwy diogel ac iachach lle gall cymunedau ffynnu. Mae Rhaglen Falch o’ch Man eich hun yn cynrychioli un o’r buddsoddiadau mwyaf mewn cymdogaethau difreintiedig ers oes – hyd at £5 biliwn dros 10 mlynedd i roi cymorth i hyd at 250 o fannau.

Rydyn ni’n annog ymgeiswyr i ystyried sut mae eu hymgais yn cyd-fynd â chronfeydd a mentrau eraill, yn adeiladu arnyn nhw neu’n paratoi ar eu cyfer. Yn ogystal â sut mae’r ymgais yn cael ei integreiddio i mewn i gynlluniau twf cynhwysol ehangach yn lleol ac yn rhanbarthol. Byddwn ni’n asesu’r uchod yn ystod y cam Mynegi Diddordeb mewn ffordd ysgafn a bydd disgwyl i ymgeiswyr dangos hyn yn fwy manwl yn ystod y cais llawn.

Dylai ymgeisiau ategu, yn hytrach na dyblygu neu gystadlu â chyllid sydd eisoes yn cyflawni, neu’n bwriadu cyflawni, yn eu hardaloedd nhw. Ni ddylai ardaloedd ystyried cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU fel cyfle i lenwi unrhyw fylchau sydd heb eu gwireddu gan gronfeydd eraill gan y llywodraeth. Nac ychwaith y ddylai mannau deimlo eu bod nhw dan anfantais wrth wneud cais am gystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU; p’un a wnaethon nhw gael cymorth drwy gronfeydd eraill neu beidio. Hoffwn ni roi cymorth i bob ymgeiydd sylweddoli beth yw cyfraniad diwylliant at drawsnewid fesul cam.

Ystyriaethau amgylcheddol

Un o genadaethau Llywodraeth y DU yw gweld Prydain yn oruwchbŵer o safbwynt ynni adnewyddadwy, ac i gyflymu’r broses o gyrraedd sero net erbyn 2050. Mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yw un o ymdrechion mwyaf brys ein hoes ni, sy’n galw am gamau beiddgar gan bob un ohonon ni. Mae ein trefi a’n dinasoedd ar flaen y gad o ran newid yn yr hinsawdd ac mae diwylliant yn offeryn pwerus i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol. Dylai ymgeisiau am Ddinas Diwylliant y DU 2029 wreiddio arferion cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol yn eu cynlluniau. Dylen nhw ddangos sut maen nhw’n cyfrannu at nodau’r DU i amddiffyn natur a chyrraedd sero net, yn ogystal â hyrwyddo ac ysbrydoli cyfrifoldeb am yr amgylchedd.

Yn ymarferol, dylai rhaglenni fod yn seiliedig ar arferion gorau o ran carbon isel neu ddigarbon, mabwysiadu a cynorthwyo technoleg lân arloesol lle bo hynny’n bosibl, a rhoi cymorth i’r sgiliau cynyddol a’r cadwyni cyflenwi sy’n cynorthwyo’r nod o gyrraedd sero net lle bo hynny’n bosibl. Er mwyn cefnogi twf gwyrdd, dylai ymgeisiau hefyd ystyried sut gall y rhaglen weithio gyda’r amgylchedd naturiol i gyflawni ei hamcanion, ac – ar y lleiaf – ystyried effaith y rhaglen ar asedion naturiol a natur ein gwlad. Mae ‘Julie’s Bicycle’, un o bartneriaid Cyngor Celfyddydau Lloegr, wedi cydweithio ar ystod o adnoddau, adroddiadau ac astudiaethau achos sy’n dangos mannau a sefydliadau ar draws y byd yn dod yn fwy cynaliadwy drwy gymorth diwylliant.

Dysgu o brofiadau Dinasoedd Diwylliant blaenorol y DU

Cafodd rhaglen Dinas Diwylliant y DU ei datblygu gan Lywodraeth y DU drwy ymgynghori â’r gweinyddiaethau datganoledig i adeiladu ar lwyddiant Lerpwl fel Prifddinas Diwylliant Ewrop 2008. Ers hynny, mae Derry-Londonderry, Hull, Coventry ac erbyn hyn Bradford wedi teimlo ei heffaith gadarnhaol. Yn ogystal â’r nifer o fannau eraill sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.

Mae Dinasoedd Diwylliant blaenorol y DU wedi cyhoeddi adroddiadau yn gwerthuso eu rhaglenni nhw:

Efallai y bydd mannau ymgeisio eisiau cyfeirio at yr adolygiadau canlynol o’r dystiolaeth, sy’n archwilio’r effeithiau mae ennill ac ymgeisio yn ystod y gystadleuaeth yn eu cael:

Cymorth yn ystod y broses ymgeisio

Cynllun y DCMS yw cynnal sesiynau rhannu gwybodaeth i’r holl ymgeiswyr sydd â diddordeb ar 1 Rhagfyr 2025. Bydd cynrychiolwyr o fannau sydd â phrofiad ac arbenigedd dros y degawd diwethaf o baratoi ymgeisiau, trefnu a sbarduno newid sy’n cael ei arwain gan ddiwylliant. Byddan nhw ar gael i rannu eu gwybodaeth a’u cyngor â chi. Bydd manylion yn dilyn.

Cysylltwch â ukcityofculture2029-competition@dcms.gov.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Bydden ni’n annog unrhyw ymgeiswyr sydd â diddordeb yn y gystadleuaeth i fynychu’r sesiwn hon er mwyn cael clywed gan ymgeiswyr blaenorol, er enghraifft Bradford. Ni fydd y DCMS, adrannau eraill y llywodraeth na chyrff hyd braich ar gael i roi cymorth pellach i ymgeiswyr yn ystod cam Mynegi Diddordeb y gystadleuaeth. Bydd mannau ar y rhestr hir yn cael mynediad at ragor o arbenigedd, cymorth a chyngor wrth baratoi eu ceisiadau llawn. Byddwn ni’n rhoi arweiniad pellach ar hyn maes o law.

Panel Cynghori Arbenigol

Mae Panel Cynghori Arbenigol Dinas Diwylliant y DU yn chwarae rhan allweddol yn y gystadleuaeth. Mae’r panel yn dod â phrofiad ac arbenigedd eang ac amrywiol ynghyd o’r sector, a bydd y panel yn asesu pob ymgais yn feirniadol ac yn wrthrychol. Bydd hefyd yn gwneud argymhellion i Ysgrifennydd Gwladol y DCMS ar bob cam o’r gystadleuaeth. Bydd y panel hefyd yn ymweld â mannau ar y rhestr fer ac yn gweithredu fel “ffrind beirniadol” i’r man buddugol.

Bydd panel Dinas Diwylliant y DU 2029 yn cael ei arwain gan Syr Phil Redmond CBE, a fydd yn Gadeirydd. Bydd y panel yn cynnwys y Dirprwy Gadeirydd (Claire McColgan CBE), cynrychiolwyr ar gyfer Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, a hyd at bum aelod cyffredin arall. Rydyn ni’n cynnal proses recriwtio agored ar gyfer aelodau’r panel nad ydyn nhw wedi’u penodi eto. Byddwn ni’n rhoi rhagor o wybodaeth maes o law.

Camau o’r gystadleuaeth

Bwriad y broses ddethol yw sicrhau bod yr ymgeisydd gorau posibl o’r DU gyfan yn cael ei ddewis yn Ddinas Diwylliant y DU 2029. Mae’r broses ddethol wedi’i chynllunio fel ei bod hi’n arwain at ddynodi’r man sydd â gweledigaeth uchelgeisiol ac unigryw o’r hyn y bydd yn ei gyflawni yn 2029 ac wedi hynny; ond hefyd un sydd â chynlluniau credadwy a realistig i wireddu ei gweledigaeth.

Mae tri phrif gam i’r gystadleuaeth.

Cam 1 – Mynegi Diddordeb

1. Mae’r cam Mynegi Diddordeb yn gyfle i’r mannau ymgeisio fynegi eu gweledigaeth yn gryno, nodi elfennau allweddol eu rhaglen arfaethedig, a dangos eu parodrwydd i gyflawni eu rhaglen. Mae’r ffurflen Mynegi Diddordeb fer yn gofyn am ymatebion i bum cwestiwn. Mae’r ffurflen wedi’i chynllunio fel cam cyntaf ysgafn ei natur. Rydyn ni’n cydnabod yr her o ran adnoddau ar y cam cynnar hwn, felly nid ydyn ni’n disgwyl data economaidd manwl, gwaith ymchwil, delweddau’r brand na chynlluniau codi arian na chynlluniau manwl y gwaith cyflawni. Am ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais, gweler yr adran “Sut i gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb” isod.

2. Bydd y Panel Cynghori Arbenigol yn asesu’r ffurflenni Mynegi Diddordeb yn erbyn meini prawf perthnasol y gystadleuaeth ac yn dewis rhestr hir o hyd at wyth man. Bydd y panel yn cyflwyno ei argymhelliad ar gyfer y rhestr hir i Ysgrifennydd Gwladol y DCMS, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Mae’r DCMS yn bwriadu cyhoeddi’r rhestr hir o fannau a fydd yn symud ymlaen i’r cam nesaf ym mis Chwefror 2026.

Cam 2 – Mannau ar y rhestr hir yn cyflwyno cais llawn

3. Bydd hyd at wyth man ar y rhestr hir yn cael grant o £60,000 yr un i’w cynorthwyo i ddatblygu a chryfhau eu cais llawn. Rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi arweiniad manwl ar gwneud cais llawn ym mis Chwefror 2026. Bydd hyn yn cynnwys ein disgwyliadau ar gyfer cyflwyno data. Bydd gan ymgeiswyr hyd at bedwar mis i gwblhau’r cais llawn.

4. Bydd y cais llawn yn gofyn cwestiynau manylach ac yn disgwyl i chi amlinellu cynllun manwl ar gyfer sut y byddwch chi’n cyflawni’ch gweledigaeth, gan gynnwys cynllun a naratif y rhaglen, ac unrhyw bartneriaethau a chyllidebau. Bydd angen gwybodaeth am eich cyd-destun lleol, blaenoriaethau a heriau, a sut y byddwch chi’n defnyddio Dinas Diwylliant y DU i fynd i’r afael â’r rhain. Byddwn ni hefyd yn disgwyl i ymgeiswyr gynnal ymchwil ac ymgynghori, a chyflwyno data sy’n ymwneud ag effaith gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd eu rhaglen. Yn ogystal â chynlluniau credadwy a manwl y gwaith cyflawni, codi arian a llywodraethu, yn enwedig ar gyfer unrhyw brosiectau cyfalaf arfaethedig. Dylai’r ceisiadau llawn fod yn raddadwy fel bod modd gweithredu ar elfennau o’r rhaglen a gwireddu ei heffeithiau i ryw raddau, waeth beth fo canlyniad y gystadleuaeth hon.

5. Bydd y panel yn asesu’r ceisiadau llawn gan y mannau ar y rhestr hir yn erbyn meini prawf y gystadleuaeth ac yn argymell rhestr fer o hyd at bedwar man. Bydd y panel yn cyflwyno ei argymhelliad ar gyfer y rhestr fer i Ysgrifennydd Gwladol y DCMS, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Byddwn ni’n rhoi adborth i bob un o’r mannau ar y rhestr hir.

Cam 3 – Mannau ar y rhestr fer yn gwahodd ac yn cyflwyno i’r panel

6. Bydd y panel yn ymweld â’r mannau sydd ar y rhestr fer, a fydd yn cael eu gwahodd i gyflwyno i’r panel a chymryd rhan mewn trafodaethau manwl am eu cynlluniau.

7. Bydd y panel yn cyflwyno ei argymhelliad ar gyfer enillydd Dinas Diwylliant y DU 2029 i Ysgrifennydd Gwladol y DCMS, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Byddwn ni’n rhoi adborth i bob un o’r mannau sydd ar y rhestr hir.

8. Bydd y DCMS yn anelu at gyhoeddi enillydd Dinas Diwylliant y DU 2029 cyn diwedd 2026.

Prif gerrig milltir y gystadleuaeth

Tabl 2: Prif gerrig milltir y gystadleuaeth ac awgrym o’r dyddiadau

Cerrig milltir Dyddiadau
Mynegi Diddordeb Agor: 30 Hydref 2025
Dyddiad cau: 11 Ionawr 2026
Digwyddiad rhannu gwybodaeth i ymgeiswyr 1 Rhagfyr 2025
Cyhoeddi’r mannau ar y rhestr hir Chwefror 2026
Mannau ar y rhestr hir yn gwneud cais llawn Agor: Chwefror 2026
Dyddiad cau: Mai/Mehefin 2026
Cyhoeddi’r mannau ar y rhestr fer Haf 2026
Panel yn ymweld â’r mannau ar y rhestr fer Medi 2026
Cyhoeddi’r enillydd Gaeaf 2026
Y flwyddyn pan fydd yr enillydd yn cyflawni ei raglen Dinas Diwylliant y DU 2029 Ionawr i Ragfyr 2029

Sut i gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb

Cofrestru fel ymgeisydd

Y cam cyntaf yw cofrestru fel ymgeisydd ar gyfer teitl Dinas Diwylliant y DU 2029 drwy anfon e-bost i ukcityofculture2029-competition@dcms.gov.uk a rhoi’r wybodaeth ganlynol. Bydd hyn yn ein galluogi i gysylltu â chi’n gyflym os oes angen, anfon canllawiau o ran brandio, a rhannu gwybodaeth am y gweithdy rhannu gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr:

  • Enw’r man ymgeisio
  • Disgrifiad daearyddol byr o’r man ymgeisio
  • Enw’r cyswllt sydd wedi’i enwebu ar ran y tîm ymgeisio a’i fanylion cyswllt

Ffurflen Mynegi Diddordeb

Dylai ymgeiswyr lawrlwytho a llenwi templed y ffurflen Mynegi Diddordeb a’i dychwelyd drwy e-bost i ukcityofculture2029-competition@dcms.gov.uk.

Lawrlwytho templed y ffurflen Mynegi Diddordeb

Mae’r ffurflen hon yn cynnwys pum adran sydd wedi’u strwythuro yn ôl pum cwestiwn. Mae’r cwestiynau hyn yn gofyn i chi ymateb ar ffurf datganiad:

  1. Lluniwch eich Cais Creadigol: Beth yw’r weledigaeth ar gyfer eich man chi?

  2. Beth yw canolbwynt eich ymgais a phwy sy’n arwain yr ymgais?

  3. Pa drawsnewid y byddwch chi’n ei gyflawni ar gyfer eich man chi a’i thrigolion?

  4. Sut byddwch chi’n cydweithio â phartneriaid a chymunedau ar hyd y daith?

  5. Pa mor barod a hyderus ydych chi i gyflawni hyn?

Mae cyfarwyddiadau pellach, gan gynnwys cyfyngiadau ar nifer y geiriau ac awgrymiadau i’w defnyddio fel canllaw yn eich ymatebion, wedi’u nodi yn nhempled y ffurflen Mynegi Diddordeb.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen Mynegi Diddordeb yw:

23:59, dydd Sul 11 Ionawr 2026.

Ni fydd y DCMS yn ystyried unrhyw ffurflenni a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Asesu’r ffurflenni Mynegi Diddordeb

Bydd y ffurflenni Mynegi Diddordeb yn cael eu hasesu gan y Panel Cynghori Arbenigol yn erbyn y meini prawf perthnasol a nodir yn Nhabl 1 yn yr adran “Meini prawf cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2029” uchod. Nid oes disgwyl i’r ffurflenni Mynegi Diddordeb ymateb i’r holl feini prawf ar y cam hwn o’r gystadleuaeth. Bydd disgwyl i’r ceisiadau llawn ddangos sut maen nhw’n bodloni’r holl feini prawf yn fanwl. Bydd y panel yn argymell rhestr hir o hyd at wyth man i Ysgrifennydd Gwladol y DCMS, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Byddwn ni’n rhoi adborth i bob ymgais sy’n cyrraedd y rhestr hir. Nid oes modd i’r DCMS roi adborth i ymgeisiau sydd heb gyrraedd y rhestr hir.

Teitl, nod masnach a brand ‘Dinas Diwylliant y DU 2029’

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ddynodi fel ‘Dinas Diwylliant y DU 2029’. Byddwn ni’n cyhoeddi canllawiau o ran brandio i bob ymgeisydd cofrestredig i amlinellu sut mae mannau sy’n ymgeisio, sy’n ennill ac sy’n gadael gwaddol ar eu holau yn gallu defnyddio’r teitl a’r nod masnach yn y blynyddoedd sy’n arwain at 2029 ac ar ôl hynny.

Y cyfryngau a chyhoeddusrwydd

Rydyn ni’n disgwyl y bydd cyhoeddusrwydd sylweddol yn gysylltiedig â’r broses ddethol, gyda sylw ar lefel leol a chenedlaethol. Byddwn ni’n cyhoeddi datganiadau i’r wasg ynglŷn â phwy sydd wedi cyrraedd y rhestr hir, y rhestr fer a’r dewis terfynol. Bydd yr holl fannau sy’n ymgeisio yn cael eu rhestru ar wefan y DCMS (ynghyd â chysylltiadau i wefannau eu hymgeisiau, os yw hynny’n berthnasol). Efallai y byddwn ni’n cyfeirio at y rhain mewn datganiadau i’r wasg. Bydd tîm gohebu’r DCMS yn cysylltu â thimau gohebu yn y mannau sy’n ymgeisio yn ôl yr angen er mwyn rhoi’r diweddaraf iddyn nhw ynglŷn â’r cynlluniau a’r embargos.

Rhannu data a thryloywder

Mae rhaglen Dinas Diwylliant y DU a’i gwerthuso yn hollbwysig i’n dealltwriaeth gynyddol o effeithiau cymdeithasol ac economaidd y mae buddsoddiad diwylliannol yn eu cael. Bob pedair blynedd, rydyn ni’n cael swm anhygoel o wybodaeth a data. Ar ôl dyfarnu teitl 2029, byddwn ni’n ychwanegu pob ymgais (o’r cam Mynegi Diddordeb cychwynnol a’r cheisiadau llawn) at yr Archifau Gwladol, sef archif gyhoeddus swyddogol Llywodraeth y DU, er mwyn rhoi mynediad rhydd i ymchwilwyr a’r cyhoedd at y cyfoeth hwn o fanylion. Rydyn ni’n deall efallai fod rhywfaint o ddata yn fasnachol sensitif, felly byddwn ni’n gweithio gyda phob ymgeisydd i ddarparu fersiynau wedi’u golygu yn ôl yr angen.

Diogelu Data

Mae’r DCMS wedi ymrwymo i ddefnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn ni mewn modd cyfreithlon, teg a thryloyw, gan barchu’ch hawliau cyfreithiol fel unigolyn yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 y DU a chyfreithiau perthnasol eraill sy’n rheoleiddio defnydd a phreifatrwydd data personol (Cyfraith Diogelu Data).

Fel rhan o’n hymrwymiad i fodloni’r gofyniad hwn, rydyn ni wedi cyhoeddi ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol i chi gyfeirio ato. Am ragor o wybodaeth am ein hymrwymiadau a’ch hawliau o dan Gyfraith Diogelu Data, yn ogystal â sut i roi gwybod am bryderon os credwch chi fod eich data personol yn cael eu casglu neu eu defnyddio’n anghyfreithlon, gweler hefyd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cysylltu

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i ukcityofculture2029-competition@dcms.gov.uk.