Canllawiau

Lluosi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Diweddarwyd 1 August 2022

Mae Lluosi yn rhaglen newydd gwerth hyd at £559 miliwn i helpu i weddnewid bywydau oedolion ledled y Deyrnas Unedig, trwy wella eu sgiliau rhifedd swyddogaethol trwy diwtora personol, hyfforddiant digidol, a chyrsiau hyblyg am ddim. Dylai Lluosi ategu’r ddarpariaeth bresennol ond nid ei dyblygu.

Yn sgil lansio Lluosi, bydd yr holl ardaloedd lleol ledled y Deyrnas Unedig yn gallu cael cyllid i ddarparu rhaglenni rhifedd wedi’u teilwra i oedolion yn ystod y tair blynedd nesaf.

Trwy Luosi, rydym eisiau gweld yr ardaloedd lleol hyn yn buddsoddi mewn cyfranogiad ystyrlon sy’n hybu gallu pobl i ddefnyddio mathemateg yn eu bywyd pob dydd, gartref ac yn y gwaith – ac yn galluogi oedolion i gyflawni cymwysterau ffurfiol a all agor drysau iddynt (fel camu ymlaen mewn gyrfa, neu symud ymlaen i astudio pellach). Bydd oedolion y mae angen iddynt wella eu sgiliau rhifedd (hyd at ac yn cynnwys Lefel 2/SCQF Lefel 5) yn gallu cael mynediad at gyrsiau hyblyg am ddim sy’n gweddu i’w bywydau – p’un a yw hynny wyneb yn wyneb neu ar-lein, yn y gwaith neu gyda’r nos, yn rhan-amser neu’n ddwys. Mae’r prosbectws yn esbonio sut.

Bydd yr Adran Addysg hefyd yn lansio rhaglen i brofi dulliau arloesol o leihau rhwystrau rhag dysgu oedolion a gwella rhifedd oedolion er mwyn datblygu sylfaen dystiolaeth ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio.

Mesurau llwyddiant Lluosi

Amcan cyffredinol Lluosi yw cynyddu’r lefelau rhifedd swyddogaethol yn y boblogaeth oedolion ledled y Deyrnas Unedig. Rydym wedi amlygu’r mesurau llwyddiant canlynol ar gyfer y rhaglen gyfan ar lefel genedlaethol:

1. Mwy o oedolion yn cyflawni cymwysterau mathemateg / yn cymryd rhan mewn cyrsiau rhifedd (hyd at ac yn cynnwys Lefel 2/ SCQF Lefel 5).

2. Gwell canlyniadau i’r farchnad lafur e.e. llai o fylchau o ran sgiliau rhifedd yn cael eu hadrodd gan gyflogwyr, a chynnydd yng nghyfran yr oedolion sy’n symud ymlaen i gyflogaeth barhaus a / neu addysg.

3. Cynnydd mewn rhifedd oedolion ar draws y boblogaeth – bydd yr effaith gyffredinol hon, sy’n mynd y tu hwnt i gyflawni tystysgrifau neu gymwysterau, yn olrhain y gwahaniaeth canfyddedig a gwirioneddol y mae cymryd rhan yn y rhaglen yn ei wneud wrth helpu dysgwyr i wella eu dealltwriaeth a’u defnydd o fathemateg yn eu bywydau pob dydd, gartref ac yn y gwaith – ac i deimlo’n fwy hyderus wrth wneud hynny.

Yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, caiff Lluosi ei ddarparu fel rhan o gynllun buddsoddi sengl Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ddatblygir gan ardaloedd. Mae’r prosbectws hwn wedi nodi cyfanswm y dyraniad ar gyfer pob Rhanbarth/Awdurdod Lleol sy’n gysylltiedig â Lluosi a byddwn yn disgwyl i ardaloedd nodi sut y maent yn bwriadu darparu ymyriadau Lluosi yn unol â’r lefel honno o gyllid yn eu cynlluniau buddsoddi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Dylent ystyried nodau, amcanion a blaenoriaethau Lluosi wrth ddatblygu cynlluniau lleol ar gyfer ymyriadau pobl a sgiliau.

Ymyriadau Lluosi

Er mwyn helpu lleoedd lleol i amlygu’r ddarpariaeth iawn, rydym wedi llunio dewislen o ymyriadau y gall ardaloedd lleol ddewis o’u plith, neu lunio opsiynau newydd sy’n arwain at gymysgedd o ymyriadau sy’n gweddu orau i’w hardaloedd.

Mae’r ddewislen hon wedi’i seilio ar y sylfaen dystiolaeth sy’n tyfu ynglŷn â’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag rhoi sylw i’w sgiliau rhifedd a beth sy’n gweithio wrth fynd i’r afael â rhifedd gwael ymhlith oedolion, yn ogystal ag ymgysylltu â lleoedd lleol, darparwyr a sefydliadau rhifedd eraill. Edrychwch ar y rhestr o ymyriadau.

Egwyddorion cyffredinol ar gyfer defnyddio cyllid Lluosi

Cynulleidfa darged

Y dysgwyr targed yw oedolion 19+ oed nad ydynt wedi cyflawni cymhwyster mathemateg Lefel 2/ SCQF Lefel 5 neu uwch yn flaenorol. Gallant naill ai fod yn gweithio tuag at gymhwyster mathemateg Lefel 2/ SCQF Lefel 5 neu Gymhwyster Sgiliau Swyddogaethol, angen sgiliau rhifedd penodol ar gyfer eu gwaith neu i gamu ymlaen, neu eisiau gloywi’r sgiliau i’w helpu i gamu ymlaen mewn bywyd ac mewn gwaith.

Trefniadau presennol

Ni ddylai ymyriadau ddisodli, amnewid a / neu ddyblygu unrhyw ddarpariaeth bresennol ar gyfer rhifedd oedolion. Mae Lluosi yn rhoi hwb i’r cyllid ar gyfer rhifedd oedolion, gan alluogi ardaloedd lleol i ddarparu dulliau mwy arloesol a chyrraedd mwy o bobl. Disgwyliwn i ardaloedd lleol ddangos sut mae hyn yn ategu ac yn wahanol i ymyriadau presennol, yn eu cynlluniau buddsoddi.

Dyrannu cyllid

Mae’r holl ddyraniadau cyllid, gan gynnwys y dyraniad Lluosi ar gyfer pob lle, ar gael yn https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus/delivery-geographies-and-funding-allocations.

Partneriaethau

Dylai pob ardal gyflwyno ei chynllun buddsoddi ei hun. Croesawn ymyriadau ar y cyd a gynhelir rhwng dau neu fwy o leoedd pan fydd hyn yn ychwanegu gwerth. Anogwn leoedd lleol i ddatblygu ymyriadau mewn partneriaeth â darparwyr a chyflogwyr hefyd, yn ogystal â phartneriaid eraill yn eu hardal leol, oherwydd ystyriwn fod hyn yn bwysig i gynyddu gwerth am arian i’r eithaf a sicrhau bod datrysiadau effeithiol yn cael eu darparu i ddysgwyr.

Cyllido gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud â dysgu a chymorth ar gyfer capasiti

Gan gydnabod yr angen i sefydlu’r rhaglen ar dir cadarn, caniateir i ardaloedd lleol ddefnyddio rhan o’r cyllid ar wariant gweinyddol, er mwyn datblygu’r capasiti sy’n angenrheidiol i’w chyflawni’n llwyddiannus. Amlinellir hyn yn y prosbectws UKSPF ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd yr Adran Addysg yn gweithredu elfen leol Lluosi yn Lloegr, platfform rhifedd digidol ar draws y Deyrnas Unedig, a hap-dreialon rheoledig a gweithgarwch gwerthuso i brofi dulliau arloesol o leihau rhwystrau rhag dysgu oedolion, a datblygu’r sylfaen dystiolaeth ynglŷn â’r hyn sy’n gweithio. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweithio gydag awdurdodau lleol arweiniol a’r gweinyddiaethau datganoledig i ddarparu Lluosi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.