Canllawiau

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Strategaeth Gwerthuso

Diweddarwyd 7 Gorffennaf 2025

Mae’r strategaeth hon yn amlinellu rhagor o fanylion am gynlluniau gwerthuso ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF). Mae hyn yn cyd-fynd â gwybodaeth ychwanegol UKSPF, sy’n cynnwys arweiniad cysylltiedig i bartneriaid lleol ar gymryd rhan yng ngwerthusiad UKSPF, a nodyn technegol 2025-26, sy’n amlinellu diweddariadau allweddol i UKSPF ar gyfer 2025-26.

Cyflwyniad a chyd-destun

Diben UKSPF

Mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu cynllun uchelgeisiol ar gyfer newid, sy’n canolbwyntio ar bum cenhadaeth genedlaethol: amcanion uchelgeisiol, mesuradwy, hirdymor sy’n cynnig ymdeimlad cryf o ddiben i’r wlad. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn golofn ganolog o’r agenda uchelgeisiol hon ac yn elfen sylweddol o’i chefnogaeth i leoedd ar draws y DU. 

Mae rhaglen UKSPF – sef cyfanswm o £3.5 biliwn yn y cyfnod rhwng Mawrth 2022 a Mawrth 2026 – yn darparu cyllid ar gyfer buddsoddiad lleol, gan ganolbwyntio ar feithrin balchder cymunedol a chyfleoedd ar draws y DU[troednodyn 1].

Mae tair blaenoriaeth buddsoddi, sef:

  • cymunedau a lle: buddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol a’r gallu i fanteisio ar amwynderau, fel seilwaith cymunedol, mannau gwyrdd lleol, a dulliau arloesol o atal troseddau
  • cefnogi busnesau lleol: buddsoddi mewn rhaglenni cefnogi busnes ac entrepreneuriaeth, cyfleusterau manwerthu, lletygarwch a hamdden lleol, a thechnolegau sy’n gwella cynhyrchiant, sy’n effeithlon o ran ynni a charbon isel, ar y cyd â’r sector preifat
  • pobl a sgiliau: buddsoddi mewn mesurau i alluogi oedolion i ymuno a symud ymlaen yn y farchnad lafur, gan hybu eu sgiliau craidd trwy gefnogaeth ar gyfer cymwysterau, hyfforddiant a goresgyn rhwystrau rhag gweithio

Mae Ffigur 1 yn dangos sut mae blaenoriaethau buddsoddi, themâu ac is-themâu UKSPF yn cyd-fynd â Chenadaethau’r Llywodraeth.

Ffigur 1: Blaenoriaethau buddsoddi UKSPF a Chenadaethau’r Llywodraeth

Mae’r ddelwedd hon yn amlinellu Cenadaethau’r Llywodraeth.

  • Cenhadaeth 1: Sbarduno twf economaidd
  • Cenhadaeth 2: Gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân
  • Cenhadaeth 3: Hawlio ein strydoedd yn ôl
  • Cenhadaeth 4: Chwalu rhwystrau rhag cyfleoedd
  • Cenhadaeth 5: Creu GIG sy’n addas i’r dyfodol

Yna, mae’n dangos y tair blaenoriaeth fuddsoddi ar gyfer UKSPF (Cymunedau a Lle, Cefnogi Busnesau Lleol, a Phobl a Sgiliau), eu themâu sylfaenol ac is-thema/cwmpas pob un ohonynt. Mae’n dangos sut bydd y pum Cenhadaeth yn cael eu cyflawni gan weithgarwch UKSPF dan bob blaenoriaeth a thema.

Cymunedau a Lle

Mae dwy thema dan y flaenoriaeth Cymunedau a Lle, sef Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol, a Lleoedd sy’n Ffynnu.

Mae Cymunedau Iach, Diogel a Chynhwysol yn cefnogi:

  • Cenhadaeth 2: Gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân
  • Cenhadaeth 3: Hawlio ein strydoedd yn ôl
  • Cenhadaeth 4: Chwalu rhwystrau rhag cyfleoedd
  • Cenhadaeth 5: Creu GIG sy’n addas i’r dyfodol

Mae ei chwmpas yn cynnwys gwella iechyd a lles, lleihau troseddu ac ofn troseddu, dod â chymunedau ynghyd a mynd i’r afael â digartrefedd.

Mae Lleoedd sy’n Ffynnu yn cefnogi Cenhadaeth 1: Sbarduno twf economaidd. Mae ei chwmpas yn cynnwys datblygu’r economi ymwelwyr, a gwella strydoedd mawr a chanol trefi.

Cefnogi Busnesau Lleol

Mae’r thema Cymorth i Fusnesau yn dod o dan y flaenoriaeth Cefnogi Busnesau Lleol. Dyma’r unig thema dan y flaenoriaeth fuddsoddi hon.

Mae Cymorth i Fusnesau yn cefnogi:

  • Cenhadaeth 1: Sbarduno twf economaidd
  • Cenhadaeth 2: Gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân
  • Cenhadaeth 4: Chwalu rhwystrau rhag cyfleoedd

Mae ei chwmpas yn cynnwys cyngor a chymorth i fusnesau, diwylliant menter a chymorth i egin fusnesau, yn ogystal â safleoedd busnes.

Pobl a Sgiliau

Mae dwy thema dan y flaenoriaeth Pobl a Sgiliau, sef Cyflogadwyedd a Sgiliau.

Mae’r ddwy thema’n cefnogi:

  • Cenhadaeth 1: Sbarduno twf economaidd
  • Cenhadaeth 2: Gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân
  • Cenhadaeth 4: Chwalu rhwystrau rhag cyfleoedd

Mae cwmpas y thema Cyflogadwyedd yn cynnwys cynorthwyo pobl, gan gynnwys y rhai sy’n economaidd anweithgar, i symud tuag at gyflogaeth gynaledig ac i mewn iddi, a chymorth i bobl ifanc sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

Mae cwmpas y thema Sgiliau yn cynnwys sgiliau hanfodol (gan gynnwys rhifedd, llythrennedd, Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE) a digidol) a sgiliau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth.

Mae model cyflwyno dirprwyedig, cyffyrddiad ysgafn y Gronfa yn galluogi llywodraeth leol i barhau i fuddsoddi mewn blaenoriaethau lleol a thargedu cyllid lle mae ei angen fwyaf. Mae’n galluogi gwneud penderfyniadau gwbl leol a fydd yn cael eu cynlluniau a’u cyflawni gan gynghorau ac Awdurdodau Strategol Maerol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban (‘awdurdodau lleol arweiniol’).

Mae’r Gronfa’n cael ei chyflwyno gan awdurdodau lleol arweiniol (ALlAau); sy’n cynnwys cynghorau ac Awdurdodau Strategol Maerol yn Lloegr, cynghorau a grwpiau rhanbarthol yn yr Alban, a phedwar grŵp rhanbarthol yng Nghymru. Yng Ngogledd Iwerddon, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) sy’n cyflwyno UKSPF – gan weithio â phartneriaid lleol, gan gynnwys awdurdodau lleol (ALlau), y sector preifat a’r trydydd sector ac adrannau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon – i gyflawni prosiectau sy’n adlewyrchu anghenion penodol economi a chymdeithasol Gogledd Iwerddon orau.

Mae cyllid UKSPF yn cynnwys rhaglenni ychwanegol targedig, sef:

  • Cronfa Ffyniant Lloegr Wledig (REPF) – gan ddechrau yn 2023-24, mae REPF yn ychwanegiad gwledig gwerth £143m ledled Lloegr i raglen UKSPF, sy’n cynnig cymorth i fusnesau gwledig i arallgyfeirio eu ffrydiau incwm a chryfhau economïau lleol, ochr yn ochr â chyllid ar gyfer seilwaith cymunedol a dinesig sy’n benodol i ardaloedd gwledig yn Lloegr. Daw amcanion REPF dan flaenoriaethau buddsoddi cymunedau a lle, a chefnogi busnesau lleol UKSPF. Mae gwerthusiad REPF yn cael ei ariannu a’i arwain gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) fel ychwanegiad at ran astudiaethau achos gwerthusiad craidd UKSPF yn ymwneud â lle, yn ogystal â chael ei ystyried mewn gwerthusiadau ar lefel ymyriadau a rhaglenni, lle y bo’n briodol.

  • Lluosi (2022-25) – menter sgiliau tair blynedd, ledled y DU, gwerth hyd at £559m ac sydd â’r nod o gynyddu lefel rhifedd swyddogaethol ymhlith poblogaeth yr oedolion ledled y DU, i wella deilliannau’r farchnad lafur a chau bylchau sgiliau. Ar gyfer 2025-26, ni fydd y rhaglen Lluosi yn parhau fel rhaglen benodol, wedi’i chlustnodi. Mae gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i ddefnyddio eu dyraniad UKSPF lleol yn ôl yr angen, a gall hyn gynnwys cyllid ar gyfer rhifedd oedolion o hyd. Mae gwerthusiad y rhaglen Lluosi ei gyflawni gan yr Adran Addysg (DfE), ar wahân i’r gwerthusiad ehangach o UKSPF a gyflawnir gan MHCLG. Bydd astudiaethau achos ar lefel lleoedd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cynnwys gwerthusiad o brosesau Lluosi, gan arweiniad MHCLG. Mae rhagor o fanylion am flaenoriaethau buddsoddi a model cyflawni Lluosi i’w gweld ym mhrosbectws Lluosi. (PDF, 708KB)

Diben y strategaeth hon

Nod gwerthusiad UKSPF yw:

  • gwerthuso’r effaith a’r broses, trwy ddeall yr hyn y mae UKSPF wedi’i gyflawni; a yw wedi cyflawni ei amcanion polisi ei hun yn llwyddiannus, yn unol â Chenadaethau’r Llywodraeth, pa mor effeithiol y mae wedi’i rhoi ar waith mewn lleoedd (gan gynnwys a yw hyn yn amrywio ar draws ac a fewn gwahanol genhedloedd), ac a yw wedi cynnig gwerth da am arian
  • creu sylfaen dystiolaeth ar ‘yr hyn sy’n gweithio’ o ran balchder cymunedol a chyfleoedd ledled y DU; datblygu dealltwriaeth MHCLG o sut gellir mesur llwyddiant yn yr ardaloedd hyn a defnyddio’r wybodaeth hon i lywio dyluniad rhaglenni twf lleol yn y dyfodol ar lefel rhaglenni a lleoedd
  • darparu atebolrwydd bod MHCLG wedi cyflwyno cyllid yn y ffordd fwyaf effeithiol i gynorthwyo i wireddu deilliannau UKSPF

Mae’r ddogfen hon yn ychwanegu at adran ‘gwerthuso’ Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: gwybodaeth ychwanegol (ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban) a gwybodaeth ychwanegol Gogledd Iwerddon, gan gynnig rhagor o fanylion am:

  • y strategaeth gwerthuso: yr agweddau ar y rhaglen sy’n cael eu gwerthuso a pham, y dulliau a’r ffynonellau data a fydd yn cael eu defnyddio i alluogi gwerthuso, a sut bydd gwahanol elfennau’r gwerthusiad yn cydweithio â’i gilydd i greu darlun cyfannol o ddarpariaeth UKSPF a’r effaith ar lefel ymyriadau, lleoedd a’r rhaglen
  • cyflawni’r gwerthusiad: sut bydd MHCLG yn rhoi’r strategaeth ar waith, pa allbynnau a fydd yn cael eu creu, sut dylai ALlAau ddisgwyl cefnogi gweithgarwch gwerthuso, a pha amserlenni y bydd gwahanol elfennau’r gwerthusiad yn gweithredu’n unol â nhw

Mae nodyn technegol UKSPF 2025-26 a gwybodaeth ychwanegol wedi’u diweddaru, ochr yn ochr â chyhoeddi’r strategaeth hon, i gynnwys rhagor o arweiniad i ALlAau ar sut y dylent ddisgwyl bod yn rhan o bob un o elfennau’r gwerthusiad.

Caiff UKSPF ei chyflwyno mewn ardaloedd datganoledig ar draws Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Am y rheswm hwn, mae’r dull gwerthuso wedi’i addasu i gyd-destun ac anghenion cyflwyno penodol ar draws Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

Mae dogfennau yn ymwneud a chydrannau gwerthuso UKSPF – gan gynnwys adroddiadau dichonoldeb, interim a therfynol – i’w gweld ar dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: gwerthusiad - GOV.UK.

Mae MHCLG hefyd wedi cyhoeddi ‘canllaw’ i awdurdodau lleol sydd â diddordeb mewn cynllunio a dylunio eu gwerthusiadau eu hunain o brosiectau a ariennir gan UKSPF.

Crynodeb o’r dull gwerthuso

Gwerthusiad o UKSPF Craidd a Lluosi

Ochr yn ochr â phrosbectws UKSPF, cyhoeddodd MHCLG ddewislen o fathau o ymyriadau ar gyfer 2022-25. Ers hynny, mae hyn wedi’i ddiweddaru trwy Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-26: Nodyn technegol, i themâu ac is-themâu ar gyfer 2025-26, sy’n cyd-fynd â Chenadaethau’r Llywodraeth. Yn wreiddiol, roedd gan bob gwlad gyfres benodol o ymyriadau dan y tair blaenoriaeth fuddsoddi, gyda mathau ychwanegol o ymyriadau Lluosi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Lle bynnag y bo modd, mae’r gweithgarwch gwerthuso sydd wedi’i amlinellu yn y strategaeth hon yn gyson ar draws pob rhan o’r DU; fodd bynnag, mewn rhai achosion, roedd angen dull gwahanol yn unol ag amrywiant cyfatebol yn y dull cyflwyno UKSPF ehangach (e.e. yn achos Lluosi).

Mae UKSPF yn gronfa hyblyg sy’n caniatáu i leoedd dylunio a gweithredu prosiectau sy’n gweddu orau i’w hanghenion lleol penodol. Mae’r cwmpas eang hwn, ynghyd â chynllun gwerthuso aml-lefel, aml-elfen MHCLG – fel yr amlinellir yn ddiweddarach yn yr adran hon – yn golygu nad yw llunio un model rhesymeg ar lefel rhaglen yn ymarferol. Yn hytrach, bydd ALlAau a phartneriaid lleol yn cydweithio â MHCLG i lunio damcaniaethau newid ar sail thema fesul ymyrraeth/fesul lle i gyd-fynd â nodau penodol pob elfen o’r gwerthusiad.

Mae Ffigur 2 yn nodi model rhesymeg lefel uchel ar gyfer UKSPF, gan gynnwys pum Cenhadaeth y llywodraeth y mae’n eu cefnogi. Bydd hyn yn cael ei brofi trwy werthusiad effaith ar lefel y rhaglen.

Ffigur 2: Model rhesymeg lefel uchel ar gyfer UKSPF

Mae’r ddelwedd hon yn amlinellu’r model rhesymeg lefel uchel ar gyfer UKSPF yn ei chyfanrwydd, gan ddangos y broses gam wrth gam o ran sut bydd mewnbynnau canolog a lleol y Gronfa’n cefnogi prosiectau UKSPF i greu allbynnau, deilliannau ac effeithiau.

Mae mewnbynnau’n cynnwys cyllid £3.5 biliwn UKSPF ei hun, ynghyd ag arweiniad a chefnogaeth i leoedd ei wario’n effeithiol. Mae mewnbynnau ar lefel lleoedd yn cynnwys gallu i gyflwyno’n lleol, ffrydiau ariannu eraill a chyd-destunau economaidd-gymdeithasol ehangach lleoedd.

Bydd y mewnbynnau hyn yn cefnogi prosiectau sy’n cyd-fynd â themâu ac is-themâu UKSPF, ar draws y DU, gan arwain at allbynnau (e.e. lleoedd yn cael cyllid i gyflawni prosiectau) ac yna effeithiau (e.e. o ran dod â chymunedau ynghyd, cefnogi pobl i symud tuag at gyflogaeth ac i mewn iddi, a datblygu’r economi ymwelwyr). Yna, mae’r siart yn dangos y Cenadaethau y bydd effeithiau UKSPF yn eu cefnogi.

Sylwer bod fersiwn flaenorol o fodel rhesymeg lefel uchel UKSPF yn cyfeirio at genadaethau ac effeithiau cysylltiedig Papur Gwyn Ffyniant Bro, gan gynnwys gwell balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd. Mae hyn wedi cael ei ddiweddaru. Mae mewnbynnau UKSPF wedi’u diweddaru hefyd i ystyried y cyhoeddiad yng Nghyllideb yr Hydref 2024 o £900 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn diwedd mis Mawrth 2026.

Gan fod UKSPF yn gronfa a gynlluniwyd yn ganolog i’w chyflwyno’n ddirprwyedig, bydd gweithgarwch gwerthuso’n digwydd ar draws tair lefel, sef: lefel y rhaglen (gan ganolbwyntio ar UKSPF yn ei chyfanrwydd), lefel lleoedd (gan ganolbwyntio ar UKSPF mewn ALlAau unigol ac yng Ngogledd Iwerddon yn ei chyfanrwydd), a lefel ymyriadau (gan ganolbwyntio ar themâu ymyrraeth penodol ar draws ystod o leoedd).

Ar draws y tair haen hyn, nod y gwerthusiad yw canfod:

  • lefel y rhaglen: beth yw effaith gyffredinol UKSPF ar falchder cymunedol, cyfleoedd a Chenadaethau’r Llywodraeth? Pa mor effeithiol y cyflwynwyd y Gronfa yn ei chyfanrwydd?
  • lefel lleoedd: sut cafodd y Gronfa ei chyflwyno ar draws gwahanol fathau o leoedd ac ar draws gwahanol rannau o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon? Sut rhyngweithiodd y Gronfa â chronfeydd twf lleol eraill a phrosiectau lleol yn y lleoedd hyn? Pa mor effeithiol y cyflwynwyd y Gronfa mewn lleoedd?
  • lefel ymyriadau: beth oedd effaith prosiectau a themâu ymyrraeth penodol? Sut roedd hyn yn cymharu â’r nodau gwreiddiol? Pa mor effeithiol y cafodd prosiectau eu cyflwyno  ac a wnaethant gyflawni gwerth am arian? A oedd hyn yn amrywio ar draws themâu ymyrraeth gwahanol?

Tabl 1: elfennau gwerthuso UKSPF

Haen ofodol Elfen Nodau
Ymyrraeth Gwerthusiad ar lefel ymyriadau Asesu effeithiau naw grŵp astudio ar draws tair blaenoriaeth fuddsoddi UKSPF, a pha mor dda y maent wedi’u cyflwyno gan ddefnyddiol dull lled-arbrofol gyda grwpiau triniaeth a rheoli
Ymyrraeth Hapbrofion wedi’u rheoli Ennill dealltwriaeth ddyfnach o effeithiau’r is-set o brosiectau sy’n briodol ar gyfer hapbrofion wedi’u rheoli, y tu hwnt i’r hyn sy’n bosibl trwy ddull lled-arbrofol y gwerthusiad ehangach o effaith ymyrraeth. Noder, fel y nodir yn nes ymlaen, nid yw’r gwaith hapbrofion wedi’u rheoli yn cael ei symud ymlaen mwyach
Lle Astudiaethau achos ar lefel lleoedd Datblygu dealltwriaeth fanwl o effeithiolrwydd UKSPF ar draws gwahanol fathau o leoedd, gan ystyried eu nodweddion a’u heriol lleol unigryw a chanolbwyntio ar ryngweithiadau rhwng rhanddeiliaid, penderfyniadau lleol, effeithlonrwydd prosesau a chronfeydd twf lleol eraill
Rhaglen Gwerthusiad o’r effaith ar lefel y rhaglen Asesu i ba raddau y mae’r rhaglen wedi effeithio ar nodau craidd cefnogi Cenadaethau’r Llywodraeth a meithrin balchder a chyfleoedd cymunedol ar draws y DU ac, yn sgil hynny, a yw lefel newid damcaniaeth y rhaglen wedi gweithio’n ymarferol, trwy ddull gwerthuso sy’n seiliedig ar ddamcaniaeth
Rhaglen Gwerthusiad o Lluosi Asesu effaith a gwerth am arian Lluosi, pa mor effeithiol y mae wedi’i gyflwyno gan leoedd a Llywodraeth y DU, a chreu sylfaen dystiolaeth yn ymwneud ag arfer addawol o ran cyflwyno ymyriadau sgiliau lleol i oedolion

Ar draws y pum elfen gwerthuso yn Nhabl 1, mae MHCLG yn cynnal sawl math o werthusiad, sef:

  • gwerthusiad o’r broses: i ddeall sut mae UKSPF wedi’i rhoi ar waith gan leoedd yn ymarferol, a’r agweddau ar ei dyluniad sydd wedi helpu neu lesteirio’r gweithredu hwnnw
  • gwerthusiad o’r effaith: i ddeall y ba raddau y mae deilliannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn ymwneud â balchder cymunedol a chyfleoedd gwell wedi newid o ganlyniad i UKSPF – ar gyfer y Gronfa yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â mewn perthynas â themâu ymyrraeth a lleoedd penodol
  • gwerthusiad gwerth am arian: i ddeall, lle mae’r effaith wedi cael ei gwerthuso, sut mae gwerth yr effaith a gyflawnwyd yn cymharu â’r gost yn ôl egwyddorion economi, effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd Y Llyfr Gwyrdd

Mae Ffigur 3 yn dangos, mewn modd anghyflawn, y mathau o ddata a’r ffynonellau data a fydd yn bwydo’r elfennau yn Nhabl 1 ac, wedi hynny, sut bydd yr elfennau hyn gyda’i gilydd yn cynyddu dealltwriaeth MHCLG o’r hyn sy’n gweithio ar lefelau ymyriadau, lleoedd a’r rhaglen.

Ffigur 3: Crynodeb o fewnbynnau ac allbynnau gwerthuso

Mae’r ddelwedd hon yn dangos y gwahanol fathau o ddata a ffynonellau data a fydd yn cynorthwyo i werthuso UKSPF, elfennau’r gwerthusiad a ddisgrifir yn Nhabl 1, a sut mae pob un o’r elfennau hyn yn bwydo nodau craidd y gwerthusiad o ddeall beth sy’n gweithio ar gyfer dylunio ymyriadau, prosesau a chyflwyno’n lleol, a dylunio’r rhaglen.

Mae’r ffynonellau data sy’n cael eu dangos yn y siart yn cynnwys:

  • data monitro o brosiectau
  • data a gesglir yn uniongyrchol gan gontractwyr gwerthuso
  • data gweinyddol
  • gwybodaeth am fuddiolwyr UKSPF
  • data arolygon

Gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Lloegr Wledig

Mae Cronfa Ffyniant Lloegr Wledig (REPF) yn ychwanegiad gwledig i raglen UKSPF sy’n cynnig dyraniadau i awdurdodau lleol cymwys yn Lloegr i helpu i fynd i’r afael â’r anghenion a’r heriau ychwanegol y mae ardaloedd gwledig yn eu hwynebu.  

Fel yr amlinellir yn Rural England Prosperity Fund: prospectus, mae REPF yn ariannu prosiectau cyfalaf ar gyfer busnesau bach a seilwaith cymunedol. Bydd hyn yn helpu i wella cynhyrchiad a chryfhau’r economi wledig a chymunedau gwledig ac mae’n cyd-fynd â Chenhadaeth 1 y Llywodraeth, sef: Sbarduno twf economaidd.

Lansiodd Llywodraeth y DU REPF ym mis Medi 2022, gyda chyllid yn cwmpasu’r cyfnod o fis Ebrill 2023 hyd fis Mawrth 2025. Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddwyd blwyddyn ychwanegol o gyllid – gyda’r rhaglen yn dod i gyfanswm o £143 miliwn.

Bydd Defra a MHCLG yn gwerthuso REPF trwy sawl ychwanegiad penodol i ardaloedd gwledig i elfennau astudiaethau achos ar sail lleoedd prif werthusiad UKSPF. Mae’r gwerthusiad ar wahân o REPF, a ariennir gan Defra, yn canolbwyntio ar y broses a chyflwyno. Mae rhagor o fanylion i’w weld yn yr adran ‘Gwerthuso Proses Cronfa Ffyniant Lloegr Wledig’.

Allbynnau gwerthuso

Ar gyfer pob un o’r elfennau yn Nhabl 1, bydd MHCLG yn cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr, o leiaf, ar ôl cwblhau’r gwerthusiad sy’n nodi’r hyn a ddysgwyd, tystiolaeth ac argymhellion sy’n berthnasol i’r man twf lleol ehangach. Bydd cwmpas a graddau’r adroddiadau hyn (gan gynnwys cynlluniau i gyhoeddi dogfennau ychwanegol) yn amrywio ar draws yr elfennau gwahanol ac mae rhagor o fanylion i’w gweld yn yr adrannau penodol ar gyfer pob un ohonynt.

Yn ogystal â’r prif adroddiadau, gall ALlAau a phartneriaid perthnasol yng Ngogledd Iwerddon sy’n cymryd rhan yn y gwerthusiad weld dadansoddiad cyn cyhoeddi’n ehangach, hefyd. Bydd MHCLG yn ceisio ategu unrhyw adroddiadau ysgrifenedig ag offer delweddu data rhyngweithiol a dangosfyrddau allbynnau i ganiatáu i randdeiliaid ymgysylltu â data a dadansoddiad sylfaenol y gwerthusiad mewn modd ystyrlon, lle mae hyn yn ddefnyddiol, yn ymarferol a lle nad yw’n datgelu manylion unigolion.

Goblygiadau ar gyfer awdurdodau lleol arweiniol

Cyfranogiad awdurdodau lleol arweiniol mewn gweithgarwch gwerthuso

Nid yw gwerthusiad UKSPF wedi’i fwriadu’n ffordd o ddwyn ALlAau i gyfrif am ddewis neu gyflwyno rhaglenni a ariennir gan ddefnyddio dyraniadau UKSPF. Ei fwriad yw datblygu dealltwriaeth ledled y DU o’r hyn sy’n gweithio, ym mha gyd-destun a thrwy ba ddull i gynorthwyo i gyflwyno’r cynllun ar gyfer newid a Chenadaethau’r Llywodraeth, yn ogystal â’r hyn nad yw’n gweithio. Bydd yr hyn a ddysgir o brosiectau llwyddiannus ac aflwyddiannus yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer llywodraeth leol a chanolog wrth ddatblygu cyllid twf lleol yn y dyfodol. Ni fydd ALlAau yn cael eu cosbi na’u rhoi dan anfantais mewn unrhyw ffordd arall oherwydd canlyniad unrhyw ran o werthusiad UKSPF.

Mae lleoedd sydd wedi’u gwahodd i gymryd rhan yn y gwerthusiad wedi cael eu hysbysu ac mae gofynion y cyfranogiad wedi’u cyfleu. Ni ofynnwyd i bob ALlA gymryd rhan ym mhob elfen o’r gwerthusiad, ac efallai y gofynnwyd i rai ohonynt gymryd rhan mewn sawl elfen, yn dibynnu ar eu math o sefydliad, maint y dyraniad a’r prosiectau a ddewiswyd.

Nid yw’n orfodol i ALlAau gymryd rhan mewn gweithgarwch gwerthuso i gael cyllid. Fodd bynnag, fel y nodir yn Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: gwybodaeth ychwanegol, caiff ALlAau eu hannog i gynorthwyo MHCLG â’r agweddau lefel leol ar werthusiad UKSPF. Gall ALlAau ddefnyddio eu cyllideb rheoli a gweinyddu i dalu am gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch gwerthuso dan arweiniad MHCLG. Nid oedd yn ofynnol i ALlAau gasglu data cyn y gwerthusiad; fodd bynnag, mae MHCLG yn gofyn bod unrhyw wybodaeth a gasglwyd yn rhagweithiol yn cael ei rhannu i gefnogi’r gwerthusiad.

Bydd MHCLG yn cydlynu’r gwerthusiad gan ddefnyddio contractwyr gwerthuso arbenigol i helpu i gynnal gwaith maes a’i ddadansoddi, fel y bo’n briodol, gan gadw cyfrifoldeb cyffredinol am ddylunio a chyflawni. Bydd MHCLG yn cydweithio’n agos â chontractwyr, ALlAau a derbynwyr grantiau (lle bo hynny’n berthnasol) trwy gydol cyfnodau dylunio a chyflawni’r gwerthusiad i leihau’r baich, cynnal cyfathrebu clir a rheolaidd rhwng pob parti, a gwneud yn siŵr fod cynnydd yn unol â nodau craidd y gwerthusiad.

Mae’r dull cyd-ddylunio hwn yn golygu bod llawer o fanylion penodol am sut y dylid rhoi pob elfen o’r gwerthusiad ar waith – gan gynnwys y ffynonellau data manwl a’r dulliau gwerthuso a ddefnyddiwyd – wedi’u cadarnhau yn ystod cyfnod dichonolrwydd pob elfen. Ceisiwyd barn ALlAau, lle bo hynny’n bosibl, er mwyn sicrhau bod y dulliau gwerthuso terfynol yn gymesur ac y gellir eu cyflawni.

Mae rolau a chyfrifoldebau penodol partneriaid yng Ngogledd Iwerddon wedi’u hadlewyrchu ym model cyflwyno UKSPF ar gyfer Gogledd Iwerddon; mae MHCLG yn rheoli cyflwyno ar y cyd ag ystod o bartneriaid lleol (gan gynnwys awdurdodau lleol), a fydd yn cyflwyno ar ystod o raddfeydd gofodol. Oni nodir yn benodol yn y strategaeth hon, ni fydd hyn yn effeithio ar gwmpas nodau gwerthuso UKSPF yng Ngogledd Iwerddon. Caiff partneriaid allweddol a derbynwyr grantiau eu hannog i gymryd rhan mewn agweddau penodol ar y gwerthusiad. Gallai hyn gynnwys helpu i nodi buddiolwyr a rhoi adborth a safbwyntiau ar y modd y cafodd UKSPF ei chyflwyno a’i heffeithiau yng Ngogledd Iwerddon i gefnogi, er enghraifft, gwerthusiad o broses Gogledd Iwerddon neu werthusiad ar lefel ymyrraeth sy’n berthnasol i Ogledd Iwerddon.

Mae adran ‘gwerthuso’ Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: gwybodaeth ychwanegol wedi’i diweddaru â chanllawiau ychwanegol ar gyfer ardaloedd lleol sy’n cwmpasu pob elfen, i ategu’r strategaeth hon.

Monitro ac adrodd

Mae angen data adrodd arferol ar MHCLG at ddibenion monitro. Mae manylion am ofynion adrodd i’w gweld yn Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: gwybodaeth ychwanegol. Er mwyn lleihau unrhyw faich ychwanegol, bydd MHCLG yn defnyddio’r un data adrodd hwn i gefnogi nifer o elfennau gwerthuso, gan gynnwys yr asesiadau o’r effaith ar lefel ymyriadau, lleoedd a’r rhaglen.

Er mwyn casglu gwybodaeth leol am sut mae UKSPF yn cael ei rhoi ar waith ac yn cyflawni’r canlyniadau dymunol, caiff ALlAau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban eu hannog i gynnal ymarferion “gwersi a ddysgwyd” myfyriol ysgafn (yn hytrach na gwerthusiadau lleol llawn), ond nid ydynt yn ofynnol. Bydd yr ymarferion hyn yn sicrhau bod ALlAau yn defnyddio capasiti a gallu i gasglu gwybodaeth leol. Gallai’r dulliau arfaethedig gynnwys mesur allbynnau, dadansoddi cyfraniadau, datblygu astudiaethau achos neu gynnal arolygon a chyfweliadau â rhanddeiliaid a buddiolwyr. Fel yr amlinellir yn y wybodaeth ychwanegol, mae MHCLG yn gofyn am gael gwybod trwy adroddiadau arferol pan fydd hyn yn digwydd.

Elfennau’r gwerthusiad

Gwerthusiad ar lefel ymyriadau

Mae gan ALlAau yr hyblygrwydd i fuddsoddi ar draws ystod o weithgareddau sy’n cynrychioli’r atebion cywir ar gyfer eu hardaloedd. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025-26: Nodyn Technegol yn amlinellu themâu symlach UKSPF ar gyfer 2025-26, sy’n cyd-fynd â Chenadaethau’r Llywodraeth. Mae’r pum thema a’r deuddeng is-thema newydd – fel y dangosir yn Ffigur 1 – yn mapio â’r ymyriadau blaenorol, fel yr amlinellwyr yn y rhestr ymyriadau blaenorol.

Yn rhan o’u cynlluniau buddsoddi gwreiddiol, roedd yn ofynnol i ALlAau nodi’r allbynnau a’r deilliannau yr oeddent am eu targedu a’r mathau o ymyrraeth yr oeddent am eu blaenoriaethu. Erbyn hyn, mae gan ALlAau fwy o hyblygrwydd i ariannu unrhyw gyfuniad o themâu, a gall prosiectau dorri ar draws themâu fel y bo’n briodol i amgylchiadau penodol y lle. Caiff prosiectau eu cyflwyno gan ALlAau eu hunain neu gan sefydliad neu bartner lleol (e.e. elusen, grŵp cymunedol lleol neu gontractwr).

Cyhoeddodd MHCLG gynllun buddsoddi a ddatblygwyd â phartneriaid lleol i amlinellu’r mathau o ymyriadau sy’n cael eu cefnogi gan UKSPF yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer 2022‑25 ac maent wedi’u llywio gan bartneriaid wrth ddewis themâu i fuddsoddi ynddynt ar gyfer 2025-26. 

Nodau

Nod y gwerthusiad ar lefel ymyriadau yw deall pa themâu ymyrraeth sy’n gweithio, i bwy ac o dan ba amodau, ar gyfer y tair blaenoriaeth fuddsoddi (pobl a sgiliau, cefnogi busnesau lleol, a chymunedau a lle). 

Mae’r elfen lefel ymyriadau o werthusiad UKSPF yn cyfuno gwerthusiad o’r effaith, y broses a gwerth am arian mewn dull integreiddiol, sydd â’r nod o ddeall i ba raddau y mae prosiectau unigol a ariannwyd gan UKSPF wedi effeithio ar falchder a chyfleoedd cymunedol ar lefel leol. Bydd hyn, yn ei dro, yn dangos i MHCLG a lleoedd yr hyn sy’n gweithio ac nad yw’n gweithio yn y gofod polisi twf lleol ac yn cefnogi lleoedd i dargedu eu gwariant twf lleol yn effeithlon yn y tymor hwy. 

Mae’r elfen hon o’r gwerthusiad yn defnyddio cymysgedd o ddulliau damcaniaethol, lled‑arbrofol, arolwg a dulliau sydd wedi’u seilio ar gyfweliadau i:  

  • greu sylfaen dystiolaeth o amgylch themâu ymyrraeth mwyaf effeithiol UKSPF ar draws gwahanol fathau o leoedd

  • deall sut i ddylunio a chyflwyno’r prosiectau hyn mewn ffordd sy’n cyflawni’r effaith a’r gwerth mwyaf am arian, gan greu sylfaen dystiolaeth y gall lleoedd a Llywodraeth y DU ei defnyddio wrth gyflwyno cyllid twf lleol a chymunedau yn y dyfodol

Strwythur

Ar gyfer y gwerthusiad ar lefel ymyriadau, cynhaliwyd astudiaeth dichonoldeb i lywio dyluniad y prif gyfnod.

Yn yr astudiaeth dichonoldeb, nodwyd blaenoriaethau ar gyfer gwerthuso o’r mathau o ymyriadau a gyhoeddwyd gan UKSPF, lle mae’r sylfaen dystiolaeth ehangach ar ei gwannaf, y gwariant ar ei uchaf, a’r rhai hynny sydd fwyaf addas ar gyfer gwerthusiad cadarn o’r effaith achosol. Cydweithiodd MHCLG a chontractwyr gwerthuso ag ALlAau a phartneriaid lleol yng Ngogledd Iwerddon i ddatblygu damcaniaethau newid a dulliau gwerthuso ar gyfer pob thema ymyrraeth â blaenoriaeth. 

Trwy’r ymarfer hwn, nodwyd naw grŵp o brosiectau tebyg – gweler Ffigur 4. Y ‘grwpiau astudio’ hyn yw ffocws y gwerthusiad ar lefel ymyrraeth. Dewiswyd tua thri phrosiect ym mhob grŵp astudio, gyda’r rhai a ddewiswyd yn rhannu nodweddion craidd tebyg o ran eu nodau neu amcanion, allbynnau (canlyniadau diriaethol o’r buddsoddiad), buddiolwyr arfaethedig a’r dulliau y bwriedir iddynt sicrhau newid.

Mae cynnal y gwerthusiad ar lefel y grŵp astudio yn cynnig cyfle i grynhoi tystiolaeth o brosiectau yn y grŵp astudio. Mae hyn yn cynyddu graddfa a chadernid y dystiolaeth sy’n cael ei chreu.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses o nodi grwpiau astudio i’w gweld yn adroddiad dichnoldeb ar lefel ymyriadau UKSPF (PDF, 2023KB).

Ffigur 4. Grwpiau astudio ar lefel ymyriadau

Mae’r ddelwedd hon yn dangos sut mae naw grŵp astudio’r gwerthusiad yn ymwneud â thair blaenoriaeth fuddsoddi UKSPF, sef: pobl a sgiliau, cefnogi busnesau lleol, a chymunedau a lles.

  • Grŵp Astudio 1: Helpu i wella cyflogadwyedd pobl sy’n economaidd anweithredol (Pobl a Sgiliau)
  • Grŵp Astudio 2/3: Helpu i wella cyflogadwyedd pobl ifanc sy’n economaidd anweithredol (Pobl a Sgiliau)
  • Grŵp Astudio 4: Cynnwys busnesau lleol i helpu i wella cyflogadwyedd pobl sy’n economaidd anweithredol (Pobl a Sgiliau)
  • Grŵp Astudio 5: Cefnogi datblygiad digidol busnesau lleol (Cymorth i Fusnesau)
  • Grŵp Astudio 6: Darparu grantiau i fusnesau lleol (Cymorth i Fusnesau)
  • Grŵp Astudio 7: Helpu busnesau i ddatgarboneiddio trwy archwiliadau a grantiau (Cymorth i Fusnesau)
  • Grŵp Astudio 8: Adnewyddiadau mawr i adeiladau cymunedol (Cymunedau a Lle)
  • Grŵp Astudio 9: Buddsoddiadau mawr mewn pafiliynau neu gaeau chwaraeon (Cymunedau a Lle)
  • Grŵp Astudio 10: Buddsoddiadau mewn offer newydd neu well ar gyfer lleoedd chwarae (Cymunedau a Lle)

Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad dichonoldeb (PDF, 2023KB), nodwyd cyfle i gyflwyno dadansoddiad mwy cadarn ac arloesol trwy gyfuno prosiectau ar draws grŵp astudio 1 (helpu i wella cyflogadwyedd pobl sy’n economaidd anweithredol) a grŵp astudio 2/3 (helpu i wella cyflogadwyedd pobl ifanc sy’n economaidd anweithredol) a chanolbwyntio ar y cysyniad o “bellter teithio tuag at gyflogaeth”. Mae hyn yn golygu y gellir olrhain teithiau cyfranogwyr tuag at gyflogaeth yn gynharach, gan ddarparu dysgu ar effeithiolrwydd y prosiectau heb orfod aros am flynyddoedd i arsylwi deilliannau cyflogaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y fethodoleg pellter a deithiwyd i’w gweld yn yr adroddiad diweddaru cynnar.

Mae’r prif gyfnod yn cynnwys cyflawni gwerthusiad tair rhan (effaith, proses a gwerth am arian) o’r naw grŵp astudio a nodwyd yn ystod y cam dichonoldeb. Bydd MHCLG yn cydweithio’n agos â’r ALlAau sy’n cymryd rhan i ddeall manylion am y prosiectau sydd wedi’u grwpiau ym mhob un ohonynt ac i gyrchu a chasglu gwybodaeth a data.

Methodoleg a chasglu data

Nododd yr astudiaeth dichonoldeb y methodolegau mwyaf addas a fydd yn arwain at ddysgu cadarn mewn ffordd gymesur.

Bydd y ffynonellau data union a ddefnyddir i gefnogi’r gwerthusiad yn amrywio yn ôl y grŵp astudio. Yn ogystal â chasglu data cynradd dan arweiniad contractwyr, mae enghreifftiau o ffynonellau data y mae MHCLG yn disgwyl eu defnyddio yn cynnwys, ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i:

  • ddata monitro wedi’i gasglu trwy weithdrefnau adrodd ehangach UKSPF (gan gynnwys gwybodaeth am y themâu ymyrraeth y mae pob lle yn eu targedu, maint y gwariant ar bob prosiect, a chynnydd tuag at allbynnau a deilliannau cytûn)
  • data arolwg yn mesur balchder a chyfleoedd cymunedol, ochr yn ochr ag arolygon blynyddol cenedlaethol cysylltiedig, fel Arolwg Bywyd Cymunedol yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS)
  • data gweinyddol sy’n cael ei gadw’n ganolog, fel dangosyddion economaidd-gymdeithasol ac ystadegau teithio, marchnad lafur a throseddu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)
  • data sy’n nodi unigolion a busnesau sy’n cymryd rhan mewn ymyriadau UKSPF neu a fyddai’n elwa arnynt fel arall[troednodyn 2]. Ar gyfer prosiect pobl a sgiliau – fel cwrs hyfforddiant – gallai hyn gynnwys manylion am y rhai sy’n bresennol. Ar gyfer prosiect sy’n seiliedig ar ardal neu brosiect cyfalaf – fel parc newydd – gallai hyn gynnwys manylion am y rhai yn nalgylch y parc y gellid disgwyl iddynt ei ddefnyddio

Gwerthusiad o’r broses

Mae’r gwerthusiad o’r broses yn ceisio llunio gwersi a ddysgwyd am ddylunio, cynllunio, gweithredu, rheoli a monitro’r prosiectau. Bydd yn triongli tystiolaeth o ddogfennau (fel arweiniad UKSPF a dogfennau prosiect); cyfweliadau manwl ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys ALlAau, partneriaid cyflwyno, cynrychiolwyr cymunedau lleol, a busnesau lleol; grwpiau ffocws â rhanddeiliaid sy’n cyflwyno ac yn derbyn y prosiectau; ar arsylwadau o’r safle sy’n cynnig dealltwriaeth o brosiectau ar lawr gwlad.

Mae’r adroddiad diweddaru cynnar yn cynnwys mewnwelediadau cynnar i brosesau sy’n benodol i bob blaenoriaeth fuddsoddi UKSPF, ar sail deg cyfweliad ag ALlAau a darparwyr cyflwyno, a gynhaliwyd rhwng Chwefror a Mawrth 2024.

Gwerthusiad o’r effaith

Mae’r dull gwerthuso effaith a nodir isod yn canolbwyntio ar effeithiau hyd at 2025. Fodd bynnag, o ystyried natur effeithiau tebygol llawer o brosiectau a ariennir gan UKSPF yn y tymor hwy, mae ymarferoldeb ymestyn y gwerthusiad y tu hwnt i 2025 yn cael ei ystyried.

Mae dull gwerthuso integreiddiol yn cael ei ddefnyddio i werthuso effaith pob grŵp astudio – sydd wedi’i grynhoi yn Ffigur 5. Mae hyn yn sicrhau’r dysgu gorau posibl trwy ddod â sawl dull gwerthuso ynghyd – gan gynnwys sawl ffynhonnell data a dull dadansoddol i wella trylwyredd – gyda’r nod o lunio tystiolaeth gadarn o’r hyn sy’n gweithio, i bwy, sut ac o dan ba amodau.

Ffigur 5: Dull gwerthuso integreiddiol ar lefel ymyriadau

Siart llif sy’n dangos sut bydd gwahanol ffynonellau data sy’n cael eu defnyddio yn y gwerthusiad yn ategu gwahanol dechnegau dadansoddol, a fydd yn dod at ei gilydd i ffurfio’r dull gwerthuso integreiddiol.

Mae’r ffynonellau data’n cynnwys:

  • data monitro: gan bartneriaid cyflwyno prosiectau
  • data ansoddol: o grwpiau ffocws a chyfweliadau
  • data arolygon pwrpasol: gan breswylwyr lleol neu gyfranogwyr y rhaglen
  • data eilaidd: arolygon a data gweinyddol presennol

Mae’r dulliau dadansoddol y mae’r ffynonellau data hyn yn eu hategu yn cynnwys:

  • dadansoddiad disgrifiadol
  • dadansoddiad cyn ac ar ôl
  • dadansoddiad lled-arbrofol (lle bo hynny’n bosibl)
  • dadansoddiad o gyfraniadau yn seiliedig ar ddamcaniaeth

Mae’r dulliau’n cynnwys:

  • dadansoddiad disgrifiadol o’r prosiectau (ym mhob grŵp astudio) gan ddefnyddio data o arolygon pwrpasol, data monitro prosiectau a data eilaidd arall. Caiff hyn ei ddefnyddio i ddeall ffactorau cyd-destunol, sy’n bwysig o ran priodoli effeithiau i’r prosiectau sy’n cael eu gwerthuso ac archwilio sut gallai’r effeithiau amrywio ar draws cyd-destunau
    • asesiad disgrifiadol o’r graddau y mae amcanion strategol y prosiectau (ym mhob grŵp astudio) wedi cael eu cyflawni. Mae hyn yn bwysig i’w ddeall ar gyfer y gwerthusiad o’r effaith a’r gwerth am arian
  • dadansoddiad cyn ac ar ôl i nodi’r hyn sydd wedi newid dros amser, gan ddefnyddio data sy’n cael ei gasglu mewn arolygon pwrpasol a data monitro lleol. Nid yw’r dull hwn yn darparu tystiolaeth o’r hyn y gellir ei briodoli i’r prosiectau, ond mae’n amlygu’r hyn sydd wedi newid, ymhle ac i bwy ers iddynt gael eu sefydlu
  • bydd dadansoddiad o’r gwahaniaeth mewn gwahaniaeth lled-arbrofol yn atgyfnerthu trylwyredd, trwy greu tystiolaeth o ba effeithiau y gellir eu priodoli o’r prosiectau ym mhob grŵp astudio. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y grwpiau astudio cymunedau a lle, gan ddefnyddio grwpiau rheolydd synthetig sy’n deillio o’r data Arolwg Bywyd Cymunedol – gweler yr adran ‘Offer gwerthuso a ffynonellau data’. Bydd y dadansoddiad hwn yn canolbwyntio ar gymharu deilliannau ar ystod o bellteroedd penodol o safle’r prosiect. Mae uno’r grwpiau astudio pobl a sgiliau – fel y disgrifiwyd uchod – wedi galluogi o fewn dadansoddiadau grŵp, i ddeall pa gyfuniad o sgiliau a chymorth cyflogadwyedd sy’n gweithio orau ar gyfer gwahanol nodweddion
  • bydd dadansoddiad o gyfraniad ar sail ddamcaniaeth yn triongli tystiolaeth, o’r gwaith maes pwrpasol ar gyfer gwerthuso’r broses, a’r dulliau uchod, i brofi’r ddamcaniaeth newid. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i fynegi naratif yn seiliedig ar dystiolaeth o’r graddau y mae’n rhesymol honni bod y themâu ymyrraeth, a gynrychiolwyd gan bob grŵp astudio, wedi cyfrannu at y deilliannau a welwyd. Bydd yn archwilio sut mae hyn yn amrywio ar draws carfanau o gyfranogwyr neu ffactorau cyd-destunol, yn ogystal â rhesymau posibl dros amrywiadau

Gwerth am arian

Bydd y gwerthusiad gwerth am arian yn llunio asesiad o’r graddau y mae’r prosiectau a gynrychiolir gan bob grŵp astudio yn darparu gwerth am arian, ac o dan ba amodau. Mae’r dull ar gyfer gwneud hynny, fel y nodir yn Y Llyfr Gwyrdd, yn cynnwys:

(i) darparu asesiad ansoddol i’r graddau y mae’r prosiectau wedi cyflawni’r amcanion strategol lleol y cawsant eu llunio i’w cyflawni
(ii) defnyddio dadansoddiad yn seiliedig ar senario a dadansoddiad adennill costau i benderfynu i ba raddau y gellid disgwyl i’r buddion cymdeithasol fod yn fwy na chostau’r mathau hyn o brosiectau yn ystod eu hoes

Bydd cwmpas y gwerthusiad gwerth am arian yn cael ei bennu gan nifer o ffactorau, fel ansawdd gwybodaeth ar lefel prosiectau, data monitro a chyfraddau ymateb arolygon. Fodd bynnag, dros dro, mae’r gwerthusiad yn ceisio ateb y pum cwestiwn allweddol canlyn ôl:

1. I ba raddau y cyflawnwyd amcanion strategol lleol gan y prosiectau ym mhob grŵp astudio?
2. I ba raddau oedd y costau ariannol yn cyd-fynd â’r rhagamcanion?
3. I ba raddau y mae’r buddion cymdeithasol (ariannol ac anariannol) yn debygol o fod yn fwy na’r costau, yn ystod oes y prosiectau ym mhob grŵp astudio?
4. O dan ba amodau y mae gwerth am arian yn debygol o fod yn gymharol uwch neu’n is ac i bwy?
5. I ba raddau y mae tystiolaeth bod unrhyw fuddion a welwyd wedi’u dadleoli o grŵp neu leoliad arall i’r grŵp neu’r ardal darged?

Gwerthuso posibl y tu hwnt i 2025

Mae’r gwerthusiad cyfredol yn edrych ar effeithiau tymor byr i ganolig prosiectau. Mae ymarferoldeb ymestyn y gwerthusiad y tu hwnt i 2025, er mwyn casglu effeithiau tymor hwy, yn cael ei archwilio ar hyn o bryd. Roedd yr adroddiad dichonoldeb (PDF, 2023KB) yn awgrymu dulliau i ymestyn y gwerthusiad a thystiolaeth y gellid ei chreu, am gyfnod enghreifftiol o dair blynedd.

Allbynnau

Bydd allbynnau allweddol ar gyfer pob un o’r naw grŵp astudio yn cynnwys:

  • proses:  adroddiad cryno manwl yn tynnu sylw at ganfyddiadau allweddol penodol, ynghyd ag adroddiad gwerthuso proses cyffredinol yn nodi canfyddiadau ac argymhellion y gellir eu cyffredinoli
  • effaith: adroddiad cryno manwl y’ tynnu sylw at ganfyddiadau allweddol penodol, ynghyd ag adroddiad gwerthuso proses cyffredinol yn nodi canfyddiadau ac argymhellion y gellir eu cyffredinoli
  • gwerth am arian: crynodeb lefel uchel o asesiad gwerth am arian y grwpiau astudio

Amserlen

Carreg filltir Amserlen
Cyfnod dichonoldeb Gwanwyn 2023*
Cyhoeddi adroddiad y cyfnod dichonoldeb Chwefror 2024*
Prif gyfnod Haf 2023 - Haf 2025
Cyflwyno arolwg Your Community, Your Say 2024 Chwefror - Mawrth 2024*
Cyhoeddi adroddiad diweddaru cynnar Hydref 2024*
Cyflwyno arolwg Your Community, Your Say 2025 Chwefror – Ebrill 2025
Cyhoeddi’r adroddiadau gwerthuso effaith, proses a gwerth am arian terfynol Gaeaf 2025/6

*Cyflawnwyd y garreg filltir hon (erbyn mis Ebrill 2025)

Hapbrofion wedi’u rheoli

Roedd elfen hapbrofion gyda rheolydd gwerthusiad UKSPF yn ceisio asesu effaith UKSPF ar lefel prosiectau unigol mewn lleoedd penodol. Lluniwyd yr hapbrofion wedi’u rheoli i ategu’r gwerthusiad ehangach o’r effaith ar lefel ymyriadau trwy:

  • weithredu ar lefel fanylach brosiectau unigol mewn ALlAau penodol, yn hytrach nag edrych ar grwpiau astudio ehangach o brosiectau tebyg ar draws mwy nag un ALlA
  • defnyddio dull cwbl arbrofol o fesur effaith, trwy ddyrannu’r grwpiau triniaeth a rheolydd ar hap. Nid yw hyn yn bosibl ar gyfer y gwerthusiad ehangach ar lefel ymyriadau, gan fod y rhan fwyaf o brosiectau UKSPF, yn eu hanfod, yn anaddas ar gyfer dull dyrannu ar hap

Rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023, gwahoddodd MHCLG ALlAau i wirfoddoli eu prosiectau UKSPF trwy broses mynegi diddordeb i fod yn destun gwerthusiad hap-brawf wedi’i reoli a gyflwynwyd gan MHCLG.  

Ar ôl lefel uchel o ddiddordeb cychwynnol gan ALlAau, nodwyd un prosiect UKSPF a allai fod yn addas. Fodd bynnag, yn dilyn gwaith dichonoldeb manylach, nid ystyriwyd bod y prosiect hwn yn ymarferol ar gyfer hap-brawf llawn wedi’i reoli ac ni chafodd ei ddwyn ymlaen.

Cyhoeddwyd papur gwersi a ddysgwyd (PDF, 637KB) ar gyfer y rhai sy’n ystyried hapbrofion wedi’u rheoli mewn twf lleol.

Astudiaethau achos ar lefel lleoedd

Mae UKSPF yn digwydd yng nghyd-destun tirwedd llywodraeth leol gymhleth ar draws sawl haen o sefydliadau – gyda dyraniadau i Awdurdodau Strategol Maerol, awdurdodau unedol, cynghorau sir ac awdurdodau haen is – bob un ohonynt â’u set eu hun o bwerau a chyfrifoldebau o ran y math o brosiectau twf lleol y mae UKSPF wedi’i llunio i’w cyflwyno. Hyd yn oed o fewn math penodol o sefydliad, mae amrywiad sylweddol rhwng lleoedd o ran maint, gallu, demograffeg ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol.

Mae UKSPF wedi’i llunio i ddod â budd i bob math o leoedd ar draws y DU – nid yn unig y rhai sydd fwyaf abl neu sydd â’r adnoddau i fanteisio ar y cyllid y mae’n ei gynnig – ac felly mae’n hanfodol deall sut ac i ba raddau y caiff ei deilliannau eu cymedroli gan nodweddion gwahanol fathau o ALlAau. 

Nodau

Mae elfen astudiaethau achos ar lefel lleoedd y gwerthusiad yn canolbwyntio ar hyd at 34 o ALlAau[troednodyn 3] gyda’r nod o feithrin dealltwriaeth fanwl o’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio mewn gwahanol leoedd. Bydd yr astudiaethau achos yn canolbwyntio ar ddylunio, cyflwyno ac effeithiau prosiectau yn lleol, gan greu tystiolaeth gadarn o sut mae cyfuniadau o brosiectau a ariennir gan UKSPF mewn ardal yn cydweithio â’i gilydd i gefnogi blaenoriaethau lleol ar draws y tair blaenoriaeth fuddsoddi allweddol: cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Mae hyn yn adeiladu ar werthusiad UKSPF ar lefel ymyriadau trwy werthuso’r broses gyflwyno ac effaith prosiectau mewn cyd‑destunau lleoedd penodol. 

Yn aml, mae gan raglenni twf lleol nodau ac amcanion sy’n gorgyffwrdd o fewn lleoedd. Felly, lle y bo’n berthnasol, bydd yr astudiaethau achos hefyd yn archwilio’r rhyngweithio rhwng UKSPF a chronfeydd twf lleoedd eraill, fel y Gronfa Trefi.  

Methodoleg a chasglu data

Bydd pob astudiaeth achos yn cynnwys gwerthusiadau o’r broses, yr effaith a gwerth am arian[troednodyn 4]. Bydd y gwerthusiad o’r effaith yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar ddamcaniaeth – gan ddefnyddio dadansoddiad cyfraniad, yn bennaf – wedi’i ategu gan ymchwil dulliau cymysg, gan gynnwys arolygon, cyfweliadau, grwpiau ffocws a dulliau lled-arbrofol, lle bo hynny’n ymarferol ac yn briodol.

Mae cwestiynau ymchwil yn ymwneud â’r broses a’r effaith ym mhob gwerthusiad wedi’u seilio ar fframwaith cyffredin, gyda chwestiynau pwrpasol ychwanegol wedi’u teilwra i bob ALlA. Bydd arolygon Your Community, Your Say (YCYS) a gomisiynwyd gan MHCLG yn cael eu cynnal mewn hyd at 20 o leoedd i ategu gwerthusiad o brosiectau cymunedau a lle.

Bydd elfen Lluosi rhaglen UKSPF yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu harchwilio trwy werthusiadau byr o’r broses ym mhob un o’r astudiaethau achos hyn. Bydd tystiolaeth sy’n cael ei chasglu yn rhan o’r gwerthusiadau hyn yn ategu’r gwerthusiad o Lluosi ar lefel y rhaglen, dan arweiniad yr Adran Addysg (DfE).

Ar ben hynny, bydd adroddiad cryno sy’n dadansoddi tystiolaeth o astudiaethau achos ar lefel lleoedd yn amlygu naratifau a chasgliadau ehangach ynghylch yr hyn a oedd yn gweithio ac nad oedd yn gweithio ar draws gweithrediad UKSPF yn ei chyfanrwydd, a rhwng gwahanol fathau o leoedd.  

Mae adroddiad ar fethodoleg y gwerthusiad ar lefel lleoedd yn rhoi rhagor o fanylion am y prif ddulliau y disgwylir eu defnyddio.

Strwythur

Caiff astudiaethau achos eu dylunio a’u datblygu ar draws dau gyfnod craidd – y cyfnod dichonoldeb a’r prif gyfnod. 

Cwblhawyd y cyfnod dichonoldeb ym mis Mawrth 2024 ac roedd yn cynnwys: 

  • nodi rhestr hir o leoedd gan ddefnyddio ymchwil wrth y ddesg a set o ddata eilaidd
  • creu rhestr fer trwy gydweithio â lleoedd dethol a MHCLG

Mae’r adroddiad methodoleg ar lefel lleoedd yn cyflwyno’r cyfnod dichonoldeb yn fanylach, yn ogystal â’r themâu a’r methodolegau gwerthuso i’w harchwilio a’u defnyddio ar draws yr astudiaethau achos. Mae cynlluniau gwerthuso ar gyfer yr astudiaethau achos ar gael i’w darllen ar dudalen gwerthusiad ar lefel lleoedd UKSPF.

Ar ôl y cyfnod dichonoldeb, mae’r prif gyfnod yn cael ei gynnal rhwng Ebrill 2024 a dechrau 2026 ac mae’n cwmpasu cyflwyno’r astudiaethau achos eu hunain. Mae hyn wedi’i rannu’n: 

  • dylunio a chynllunio’r gwerthusiad: adolygu dogfennau a data monitro’r rhaglen, cyfweliadau â swyddogion arweiniol UKSPF a gweithdy damcaniaeth newid i greu cynllun gwerthuso o fewn pob astudiaeth achos
  • gwaith maes ac adroddiadau interim: ton gyntaf o waith maes yn canolbwyntio ar werthuso’r broses, ac yna cyflwyno adroddiad interim a damcaniaeth newid diwygiedig. Bydd gwaith maes YCYS yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd â gwaith maes prosesau Lluosi
  • gweithdy dadansoddi cyfraniadau canol cyfnod: i asesu hawliadau’r cyfraniadau drafft. Bydd y rhain yn dilyn canfyddiadau gwerthuso’r broses ac yn cynnig cyfle i fyfyrio ar ein damcaniaethau newid ar lefel lleoedd a chadwyni achosol damcaniaethol, a fydd yn cael eu profi yng ngham olaf y gwerthusiad
  • gwaith maes ac adroddiadau terfynol: ail don o waith maes yn canolbwyntio ar werthuso effaith a datblygu damcaniaeth newid terfynol. Mae’r cyfnod hwn yn cynnwys dadansoddi arolygon YCYS ar gyfer yr 20 lle

Mae Ffigur 6 yn darparu enghreifftiau o’r cwestiynau ymchwil y bydd yr astudiaethau achos yn ceisio mynd i’r afael â nhw ar draws y gwerthusiadau o’r broses a’r effaith. Mae’r cwestiynau ymchwil yn enghreifftiol yn hytrach nag yn gynhwysfawr a datblygwyd rhagor o gwestiynau sy’n sensitif i amgylchiadau, blaenoriaethau, heriau a phrosiectau lleol penodol pob ALlA yn yr astudiaethau achos.

Caiff rhai prosiectau a ariennir gan UKSPF eu cyflwyno i bobl neu fusnesau unigol (e.e. cyrsiau sgiliau neu gynlluniau cymorth busnes). Bydd prosiectau eraill yn ‘seiliedig ar ardal’ ac yn cael eu cyflwyno i ardal benodol mewn lle (e.e. fel gwelliannau i dir cyhoeddus neu fesurau atal troseddu). Bydd astudiaethau achos yn cynnwys cymysgedd o’r ddau.

Ffigur 6: Cwestiynau ymchwil enghreifftiol astudiaethau achos ar gyfer UKSPF

Ar gyfer gwerthuso’r broses, mae cwestiynau ymchwil yn cynnwys:

  • Dylunio:
    • Pa brosiectau y cyflwynodd UKSPF a pham/sut y cawsant eu dewis?
    • Pa fathau o anghenion oedd y prosiectau’n mynd i’r afael â nhw?
    • A gafwyd cyllid o ffynonellau eraill (cyllid cyhoeddus neu gyllid cyfatebol lleol)?
  • Gweithredu:
    • Sut rhoddodd awdurdodau lleol brosiectau UKSPF ar waith?
    • Pa mor llwyddiannus oedd ymgysylltiad â chyflenwyr posibl ac y cyflawnwyd unrhyw brosesau caffael?
    • Pa ddull a ddefnyddiwyd i sicrhau y byddai’r mathau priodol o gyfranogwyr yn elwa ar y prosiectau?
    • Sut roedd prosiectau’n rhyngweithio â phrosiectau adfywio lleol eraill (e.e. y Gronfa Trefi)?
  • Cyflwyno:
    • Sut cafodd prosiectau UKSPF eu cyflwyno’n ymarferol, gan gynnwys ymgysylltu â’r poblogaethau targed, y sgiliau, yr arbenigedd ac ansawdd y cyflwyno?
    • Beth weithiodd yn dda ac na weithiodd cystal wrth gyflwyno?
  • Monitro:
    • Sut aeth rhaglenni lleol ati i gasglu data ar wariant, allbynnau a deilliannau?
    • Sut y darparwyd adnoddau ar gyfer hyn?
    • Sut cafodd y data hwn ei ddefnyddio a’i rannu?

Ar gyfer gwerthuso’r effaith, mae’r cwestiynau’n cynnwys:

  • Pa fathau o ddeilliannau ac effaith y mae prosiectau a ariannwyd gan UKSPF wedi’u cael?
  • Sut y cyflawnwyd y rhain?
  • Beth oedd effaith cyflwyno prosiectau UKSPF ar y cyd â ffrydiau ariannu eraill a strategaethau lleol?
  • Beth sydd wedi sbarduno llwyddiant lleol?

Caiff hyn ei gyfuno ag allbynnau o werthusiadau lleol a gwerthusiad UKSPF ar lefel ymyriadau.

Ar gyfer y gwerthusiad economaidd, mae’r cwestiynau’n cynnwys:

  • A yw UKSPF wedi cynnig gwerth am arian, yn ôl dull 4 E y Swyddfa Archwilio Genedlaethol?
  • Pa mor effeithiol y defnyddiwyd cyllid UKSPF ar y cyd â chyllid cyhoeddus arall i gyflawni deilliannau?

Yn y gwerthusiadau ar gyfer lleoedd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd MHCLG hefyd yn cynnal gwerthusiadau proses byr o’r rhaglen Lluosi. Caiff y rhain eu llunio gan y cwestiynau ymchwil yn Ffigur 7. 

Ffigur 7: Cwestiynau ymchwil enghreifftiol astudiaethau achos ar gyfer Lluosi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Cwestiynau ymchwil ar gyfer y gwerthusiad o broses Lluosi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys

  • Sut y gwnaed penderfyniadau gwariant?
  • Pa garfanau penodol y gwnaethoch chi ddewis eu targedu?
  • Pa rwystrau penodol ydych chi wedi’u hwynebu wrth gyflwyno prosiectau Lluosi a sut ydych wedi ymateb iddynt?
  • Pa lefel o hyder fyddai gennych wrth gyflwyno cefnogaeth rhifedd eto?

Allbynnau

Bydd adroddiadau interim a therfynol manwl yn cael eu cyhoeddi ar gyfer pob astudiaeth achos, gan gyfuno dadansoddiad o amodau economaidd-gymdeithasol lleol â thystiolaeth ansoddol a meintiol i asesu: 

  • proses: dylunio, gweithredu a chyflwyno cynlluniau buddsoddi lleoedd; yr hyn a weithiodd yn dda, yr hyn na weithiodd yn dda a’r prif alluogwyr/rhwystrau o ran cyflwyno’n effeithiol
  • effaith: i ba raddau roedd y damcaniaethau newid ar lefel lleoedd yn cyd-fynd â deilliannau terfynol y prosiectau hynny; p’un a oedd y hawliadau cyfraniad damcaniaethol yn gywir
  • gwerth am arian: gwerthusiad economaidd o gyflwyno UKSPF ym mhob lle, gan ddilyn dull 4 E y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, sef economi, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a thegwch (equity)

Bydd adroddiadau interim yn canolbwyntio ar werthuso’r broses a chanfyddiadau cynnar o’r effaith. Bydd adroddiadau terfynol yn canolbwyntio ar werthuso’r effaith, gan gynnwys tystiolaeth lled-arbrofol, lle bo hynny’n ymarferol.

Caiff adroddiad cryno ei gyhoeddi a fydd yn dwyn ynghyd dystiolaeth o bob astudiaeth achos. Bydd hyn yn tynnu sylw at themâu, patrymau a naratifau cyffredinol ar draws gwahanol leoedd, gyda’r nod o nodi arfer da cyffredin a gwersi a ddysgwyd a allai fod yn berthnasol i leoedd eraill yn y DU.

Caiff Dadansoddiad Cymharol Ansoddol ei ddefnyddio i ddadansoddi’r ffactorau sydd fwyaf tebygol o fod wedi cefnogi cyflawniad deilliannau’r rhaglenni sydd o ddiddordeb, gan gynnwys llwyddiant cyflwyno mewn ardaloedd penodol (e.e. nodi ffactorau sydd wedi gweithio’n dda mewn ardaloedd gwledig o gymharu ag ardaloedd trefol). 

Amserlen

Carreg filltir Amserlen
Cyfnod Dichonoldeb:

Llunio rhestr hir a rhestr fer o ALlAau sy’n ymgeisio

Peilota dull wedi’i seilio ar leoedd â charfan gychwynnol o leoedd
Mawrth 2024

Ebrill 2024
Gwahoddiad i leoedd carfan 2 gymryd rhan Gorffennaf 2024*
Cyfnod cynllunio’r gwerthusiad a gweithdai damcaniaeth newid Haf – Hydref 2024*
Gwaith maes ac adroddiadau interim Diwedd 2024 – Gwanwyn 2025*
Cyflwyno arolwg Your Community, Your Say 2025 Ionawr – Mawrth 2025*
Gweithdai dadansoddiad cyfraniad canol cyfnod Mehefin 2025
Gwaith maes ac adroddiadau terfynol Haf 2025 – Dechrau 2026
Adroddiad cryno Chwefror 2026

*Cyflawnwyd y garreg filltir hon (erbyn mis Ebrill 2025)

Gwerthusiad ar lefel y rhaglen

Mae UKSPF yn rhaglen genedlaethol a bydd ei gwerthusiad yn cynnwys elfen genedlaethol ar lefel y rhaglen, yn ogystal â’r gwerthusiadau ar lefel ymyriadau a lleoedd a gwmpaswyd yn adrannau cynharach y strategaeth hon. 

Yn y cyd-destun hwn, mae ‘lefel y rhaglen’ yn cyfeirio at werthuso effaith rhannau o UKSPF a gyflwynwyd gan MHCLG yn unig. Nid yw’n cynnwys Lluosi na Chronfa Ffyniant Lloegr Wledig, sydd wedi’u cynnwys yn eu hadrannau eu hunain o’r strategaeth hon.

Bydd MHCLG hefyd yn ceisio cynnal gwerthusiad o’r broses ar lefel y rhaglen. Yn hytrach nag elfen ar wahân, bydd y gwerthusiad o’r broses ar lefel y rhaglen yn dwyn ynghyd yr astudiaethau achos unigol ar lefel lleoedd i ddeall pa mor effeithiol y mae UKSPF wedi gweithredu ar draws gwahanol fathau o leoedd. Mae gweddill y bennod hon yn canolbwyntio ar werthuso’r effaith ar lefel y rhaglen yn unig. 

Fel y nodwyd yng ngwybodaeth ychwanegol UKSPF, mae MHCLG wedi ymgysylltu â What Works Centre for Local Economic Growth (WWG) i fynd i’r afael â rhai o’r heriau wrth asesu’r effeithiau cyffredinol sy’n gynhenid mewn rhaglen fel UKSPF. Bydd MHCLG yn parhau i fanteisio ar gyngor arbenigol gan WWG a mannau eraill – gan gynnwys trwy Grŵp Cynghori Technegol UKSPF – wrth i’r gwerthusiad ar lefel y rhaglen barhau i ddatblygu.

Nodau

Nod y gwerthusiad ar lefel y rhaglen yw deall i ba raddau y mae rhaglen UKSPF yn ei chyfanrwydd – yn hytrach na themâu ymyrraeth penodol neu leoedd penodol – wedi effeithio ar y nodau craidd o feithrin balchder a chyfleoedd cymunedol ledled y DU ac, ar ben hynny, a yw’r damcaniaeth newid ar lefel y rhaglen, fel y nodir yn Ffigur 2, wedi gweithio’n ymarferol.

Bydd hyn: 

  • yn cynorthwyo MHCLG a Llywodraeth y DU yn ehangach i ddeall yr hyn sy’n gweithio ar gyfer twf economaidd a chyllid cymunedau o ran modelau cyflwyno, ymreolaeth leol a blaenoriaethau buddsoddi

  • yn ategu’r gwerthusiad ar lefel ymyriadau o ran helpu i greu’r sylfaen dystiolaeth ar gategorïau eang prosiectau sy’n cyflawni’r budd mwyaf am bob £ sy’n cael ei wario

  • yn dwyn MHCLG (yn hytrach nag ALlAau) yn atebol am gyfraniad cadarnhaol UKSPF at falchder a chyfleoedd cymunedol pobl ledled y DU i gefnogi Cenadaethau’r Llywodraeth

Bydd gwerthusiad y rhaglen yn defnyddio dull gwerthuso sy’n seiliedig ar ddamcaniaeth gan ddefnyddio dadansoddiad o gyfraniad. Bydd hyn yn profi damcaniaeth newid UKSPF ar lefel y rhaglen ac yn asesu a ellir casglu’n rhesymol (yn hytrach nag i ba raddau) bod cysylltiad rhwng cyllid UKSPF a’i deilliannau arfaethedig – ac, os na ellir gwneud hynny, nodi ymhle mae’r damcaniaeth newid yn methu. Trwy ganolbwyntio ar sefydlu cysylltiadau achosol, yn hytrach na’u meintioli, bydd dadansoddiad o gyfraniad yn ein galluogi i ddefnyddio ystod ehangach o dystiolaeth a data o elfennau eraill o’r gwerthusiad i lunio naratif lefel uchel, annhechnegol i esbonio effeithiau cyffredinol (neu ddiffyg effeithiau) UKSPF. 

Strwythur

Mae nodweddion dylunio ehangach UKSPF yn cyflwyno nifer o rwystrau rhag gwerthuso’r effaith ar lefel y rhaglen yn effeithiol. Yn benodol:

  • mae pob rhan o’r DU yn cael dyraniad UKSPF – felly, nid oes unrhyw grwpiau naturiol wedi’u rheoli yn bodoli
  • dyrannwyd cyllid gan ddefnyddio methodoleg gymysg wedi’i seilio ar gyfuniad o gyllid strwythurol blaenorol yr Undeb Ewropeaidd (UE), poblogaeth a mynegai yn seiliedig ar angen. Mae rhai lleoedd hefyd wedi cael dyraniad REPF wedi’i seilio ar set wahanol o feini prawf
  • mae cyllid wedi’i ddyrannu ar draws sawl haen o ALlAau, gan gynnwys Awdurdodau Strategol Maerol, awdurdodau unedol ac awdurdodau haen is mewn gwahanol rannau o’r DU, ac ar raddfa ranbarthol yng Ngogledd Iwerddon

Mae unrhyw werthusiad o effaith yn mynnu amcangyfrif o’r hyn a fyddai wedi digwydd pe na fyddai’r prosiect wedi digwydd – sef gwerthusiad gwrthffeithiol – at ddibenion cymharu. Mae nodweddion UKSPF, fel y nodir uchod, yn golygu nad yw’n ymarferol defnyddio hap-brawf wedi’i reoli na dulliau gwerthuso lled-arbrofol (QED) hyd yn oed ar lefel y rhaglen. Mae Tabl 2 isod yn nodi’n fanylach pam mae hyn yn wir ar gyfer pob dull a ystyriwyd.

Tabl 2: Dulliau amgen a ystyriwyd ar gyfer gwerthuso’r rhaglen

Methodoleg Disgrifiad Rhwystrau
Hap-brawf wedi’i reoli Byddai defnyddio hap-brawf wedi’i reoli i werthuso effaith gyffredinol UKSPF yn gofyn am ddyrannu rhaid lleoedd ar hap i gael cyllid ac eraill i beidio â chael cyllid, er mwyn caniatáu cymharu’r effeithiau ‘gyda chyllid a heb gyllid’ Nid yw’n ymarferol dan unrhyw amgylchiadau; dyrannwyd cyfran o UKSPF i bob lle, gan ei bod yn disodli cyllid presennol gan raglenni’r UE
Dyluniad lled-arbrofol: triniaeth yn erbyn rheolydd Cymharu lleoedd sy’n cael cyllid â lleoedd ‘tebyg’ nad ydynt yn cael cyllid – yn debyg i ddull yn seiliedig ar hap-brawf wedi’i reoli ond heb ddyrannu grwpiau triniaeth a rheoli ar hap. Caiff y dull hwn ei ddefnyddio yn y gwerthusiad o UKSPF ar lefel ymyriadau Nid yw’n ymarferol ar gyfer gwerthuso’r rhaglen am yr un rhesymau â hapbrofion wedi’u rheoli; mae cyllid wedi’i ddyrannu i bob lle (a rhaid iddynt ei dderbyn)
Dyluniad lled-arbrofol: dwyster cymharol Cymharu lleoedd yn ôl maint eu dyraniad UKSPF – asesu a brofodd lleoedd a gafodd fwy o gyllid effeithiau cadarnhaol mwy yn gydredol Yn mynnu bod y mesurau sy’n dylanwadu ar ddyraniadau lleoedd (maint y boblogaeth, safle ar y mynegai a chyllid blaenorol gan yr UE) yn annibynnol ar y deilliannau sy’n cael eu hasesu (balchder a chyfleoedd cymunedol). Heb fesur pendant, gwrthrychol o’r deilliannau hyn sy’n amlwg yn annibynnol yn y modd hwn, mae’r dull hwn yn annhebygol o arwain at fewnwelediad cadarn
Dyluniad lled-arbrofol: cyflwyno’n wasgaredig Cymharu lleoedd sy’n cyflwyno prosiect â’r rhai nad ydynt wedi gwneud hynny eto, gan ddefnyddio’r grŵp olaf fel gwerthusiad gwrthffeithiol i’r cyntaf Mae gorwel ariannu a gofynion gwariant UKSPF yn ystod y flwyddyn yn golygu y bydd lleoedd yn defnyddio cyllid ar yr un pryd, i raddau helaeth, yn ystod yr amserlen gyflwyno. Ar ben hynny, byddai’n rhaid i unrhyw amrywiadau y gellir eu defnyddio i werthuso o ran amseriad cyflwyno rhwng lleoedd fod yn annibynnol ar y deilliannau sy’n cael eu hasesu, yn yr un modd â’r dull dwyster cymharol

Yn ogystal â’r rhwystrau sy’n benodol i UKSPF a nodwyd yn Nhabl 2, mae heriau sy’n gynhenid wrth werthuso unrhyw raglen twf leol sy’n deillio o anhawster gwahanu effaith UKSPF oddi wrth effaith ffynonellau cyllid eraill a allai gyfrannu at gyflawni deilliannau tebyg ar yr un pryd. Mae’r rhain yn cynnwys (ond nid yw’n rhestr hollgynhwysfawr):

  • rhaglenni twf lleol eraill a gyflwynir yn ganolog, fel y Gronfa Trefi, y Gronfa Ffyniant Bro neu gytundebau datganoli
  • gwariant sylfaenol llywodraeth ganolog, fel cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion, atal troseddu ac addysg
  • mentrau a ariennir yn lleol gan ALlAau eu hunain, a all amrywio o ran eu cwmpas a gorgyffwrdd â blaenoriaethau UKSPF ar draws gwahanol leoedd
  • prosiectau a ariennir gan y Llywodraethau Datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
  • cyllid sy’n weddill o raglenni’r UE a ddisodlwyd gan UKSPF – a all barhau i gefnogi prosiectau hyd at fis Rhagfyr 2023 – yn ogystal ag ardaloedd a lwyddodd i gael cyllid peilot gan ragflaenydd UKSPF, sef Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU
  • achosion lle mae arian UKSPF ond yn cefnogi prosiectau UKSPF yn rhannol; er enghraifft, lle mae prosiect yn barhad o’r Gronfa Ffyniant Bro neu’r Gronfa Trefi, neu os yw prosiect yn cael cyllid cyfatebol sylweddol gan bartneriaid yn y sector preifat neu’n fewnol gan yr ALlA

Yn olaf, rhaid ystyried yr amrywiad o ran nodweddion a galluoedd sylfaenol ar draws ALlAau gwahanol – hynny yw, maint eu heriau lleol a’u gallu i gyflwyno UKSPF yn effeithiol i fynd i’r afael â nhw. Er enghraifft, disgwylir i brosiect sy’n canolbwyntio ar gyfalaf i adeiladu parc newydd mewn lle sydd ag ychydig iawn o fannau gwyrdd gael effaith gymharol fwy na’r un prosiect mewn man sydd eisoes yn wyrdd, am resymau nad ydynt yn gysylltiedig â gwerth ychwanegol cynhenid y gweithgarwch.

Yn yr un modd, gallai prosiect aml-foddol cymhleth sydd â’r nod o ddatgarboneiddio trafnidiaeth, tai ac adeiladau dinesig lleol fod yn fwy effeithiol o lawer pan gaiff ei gyflwyno gan ALlA mwy abl sydd â’r arbenigedd, y profiad a’r adnoddau nag un rhywle heb y priodoleddau hyn. Gallai nodweddion fel dosbarthiad gwledig-trefol (sy’n effeithio ar gymhwysedd lle i gael REPF) effeithio ar effeithiau UKSPF ar draws gwahanol fathau o leoedd hefyd.

Methodoleg a chasglu data

Gan ystyried y rhwystrau rhag opsiynau amgen a nodir yn Nhabl 2, mae MHCLG wedi dod i’r casgliad mai dull sy’n seiliedig ar ddamcaniaeth yw’r unig opsiwn ymarferol ar gyfer gwerthuso effaith UKSPF ar lefel y rhaglen. Yn benodol, dadansoddiad o gyfraniad yw’r dewis mwyaf priodol o ddulliau. Mae’r dull hwn yn gydnaws â’r Llyfr Majenta a bydd yn ceisio ymchwilio i b’un a gafodd UKSPF effaith, sut a pham, yn hytrach na cheisio amcangyfrif maint yr effaith honno.

Gellir defnyddio dadansoddiad o gyfraniad i ddeall yn well pa mor effeithiol y bu cyllid UKSPF ar draws gwahanol fathau o leoedd mewn modd mwy cyfannol a llai meintiol. Gall hefyd weithredu yng nghyd-destun rhaglenni cymhleth a defnyddio ystod eang o dystiolaeth. Fodd bynnag, nid oes ganddo bŵer casgliadol dulliau arbrofol a lled-arbrofol – gall dadansoddiad o gyfraniad ein galluogi i ddod i’r casgliad rhesymol bod UKSPF wedi cael effaith ar falchder a chyfleoedd cymunedol, ond ni fydd yn gallu meintioli’r effeithiau hynny ar ei ben ei hun, na’u nodi’n ffeithiol. 

Yn ogystal, bydd rhai awdurdodau lleol wedi defnyddio cyllid UKSPF i barhau â phrosiectau a ariannwyd gan gronfeydd strwythurol yr UE neu ffynonellau cyllid eraill – er bod hynny â set wahanol o flaenoriaethau buddsoddi a model cyflwyno dirprwyedig. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach mesur effeithiau ‘cyn ac ar ôl’ yn glir, hyd yn oed wrth ddefnyddiol dull anarbrofol cyn ac ar ôl.

Allbynnau

Prif allbwn y gwerthusiad o’r effaith ar lefel y rhaglen fydd adroddiad manwl sy’n nodi:

  • y fethodoleg a’r data sylfaenol y tu ôl i’r dadansoddiad o gyfraniad, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth bod prosiectau UKSPF – yn hytrach na ffactorau eraill – yn hanfodol o ran cyflawni effeithiol ar lefel y rhaglen ac o ran themâu ac is-themâu

  • dadansoddiad cysylltiedig o sut mae gwahanol agweddau ar ddyluniad UKSPF (blaenoriaethau buddsoddi, modelau cyflwyno, strwythurau lleol) wedi cefnogi neu danseilio’r effeithiau hynny, a sut y gallai hyn fod wedi amrywio ar draws gwahanol fathau o leoedd

Amserlen

Carreg filltir Amserlen
Datblygu tair damcaniaeth newid a phrofi â Grŵp Cynghori Technegol a rhanddeiliaid eraill Tymor yr Hydref 2025
Dechrau casglu data Hydref – Gaeaf 2025
Datblygu ac iteru’r tair damcaniaeth newid ymhellach Hydref – diwedd 2025
Canlyniadau cychwynnol yn barod i’w cyhoeddi Haf 2026

Gwerthusiad o’r rhaglen Lluosi

Rhwng 2022 a 2025, gweinyddodd MHCLG y rhaglen Lluosi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn Lloegr, yr Adran Addysg (DfE) oedd yn gyfrifol am weinyddu Lluosi i leoedd, lle gall Awdurdodau Strategol Maerol ac ALlau haen uwch eraill ddefnyddio eu symiau a ddyrannwyd iddynt trwy gynlluniau buddsoddi penodol Lluosi a gymeradwywyd gan yr Adran Addysg sy’n wahanol i gynlluniau buddsoddi craidd UKSPF. Mae prosbectws Lluosi yn rhoi rhagor o fanylion am y nodau a’r model cyllid ar gyfer Lluosi yn Lloegr.

Dyrannwyd cyllid Lluosi ychwanegol i’r Adran Addysg hefyd yn ystod 2022-25 i gynnal rhaglen o weithgareddau gwerthuso ‘beth sy’n gweithio’, yn cynnwys adolygiad systematig o’r sylfaen dystiolaeth gyfredol ar gyfer prosiectau rhifedd, gwerthusiad o’r broses, yr effaith a gwerth am arian ar lefel y rhaglen, ynghyd â set o hapbrofion wedi’u rheoli i greu’r sylfaen dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio i wella rhifedd oedolion. Mae’r adran hon yn canolbwyntio’n bennaf ar y gwerthusiad ar lefel y rhaglen.

Bydd rhag agweddau ar werthusiad Lluosi, fel yr amlinellir yn yr adran hon, yn berthnasol i’r DU gyfan, gyda gweithgarwch ychwanegol yn Lloegr. Mae hyn yn unol â natur ddatganoledig polisi sgiliau oedolion a’r ffaith bod model cyflwyno ehangach Lluosi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael ei reoli gan MHCLG ac yn cael ei gyflwyno gan fodel cyflwyno dirprwyedig yn lleol. Yn benodol:

  • bydd gwerthusiad cyflawn o’r broses a’r effaith yn cael ei gynnal yn Lloegr yn unig, gyda chyfranogiad ALlAau yn Lloegr yn unig. Caiff hwn ei arwain gan yr Adran Addysg
  • bydd astudiaethau achos UKSPF ar lefel lleoedd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cynnwys gwerthusiad o broses Lluosi ac yn cael eu cefnogi gan gyfranogiad gan ALlAau yng Nghymru a’r Alban a phartneriaid lleol yng Ngogledd Iwerddon. Caiff hyn ei arwain gan MHCLG – gweler yr adran ar astudiaethau achos ar lefel lleoedd

Nodau

Amcanion craidd y gwerthusiad o’r broses, effaith a gwerth am arian ar lefel rhaglen Lluosi yw:

  • deall pa mor effeithiol y mae Lluosi yn cael ei rhoi ar waith mewn lleoedd, er mwyn gwella’r modd y caiff prosiectau rhifedd i oedolion eu cyflwyno yn ystod blynyddoedd olaf y rhaglen
  • asesu effaith a gwerth am arian rhaglen Lluosi, gan gynnwys p’un a yw wedi cyflawni ei nodau ac wedi cyflawni yn erbyn ei metrigau llwyddiant gan ddefnyddio cymysgedd o ddulliau lled-arbrofol, dulliau sy’n seiliedig ar arolygon a dulliau ansoddol
  • crynhoi’r hyn a ddysgwyd a nodi arfer addawol, yn enwedig ar lefel leol, i fwydo’r sylfaen dystiolaeth yn ymwneud â rhaglenni sgiliau oedolion a llywio’r modd y cânt eu cyflwyno yn y dyfodol

Strwythur

Bydd gwerthusiad y rhaglen Lluosi wedi’i rannu’n dri chyfnod, sef – y cyfnod dichonoldeb, y prif gyfnod a’r adroddiad terfynol a lledaenu, fel y crynhoir yn Ffigur 8:

Ffigur 8: Strwythur gwerthuso Lluosi

Mae’r ddelwedd hon yn nodi’n weledol strwythur gwerthuso Lluosi, fel y disgrifir mewn geiriau yng ngweddill yr adran hon, wedi’i rannu yn ôl y cyfnod dichonoldeb, y prif gyfnod a’r cyfnod adrodd terfynol.

Yn y prif gyfnod, mae’r diagram yn ymhelaethu ar y gweithgareddau dan y penawdau gwerthuso effaith, proses a gwerth am arian. O dan y rhain, mae’r diagram yn rhestru’r gweithgareddau trawsbynciol a fydd yn effeithio ar y tri ohonynt, gan gynnwys dadansoddi data eilaidd, arolygon meintiol, ymchwil ansoddol a defnyddio adroddiadau interim o leoedd. Mae rhagor o fanylion am sut caiff pob un o’r rhain eu defnyddio yn y gwerthusiad i’w gweld yng ngweddill yr adran hon.

Roedd y cyfnod dichonoldeb yn cynnwys datblygu ac iteru ar y cwestiynau gwerthuso cyffredinol a’r cwestiynau ymchwil unigol a oedd wedi’u nythu ynddynt. Trwy hyn, nododd yr Adran Addysg ba gwestiynau oedd y rhai pwysicaf i’w hateb a chytuno ar ddulliau casglu data.

Yn Lloegr, roedd y cyfnod hwn hefyd yn cynnwys dadansoddiad disgrifiadol rhagarweiniol o ffynonellau data, gan gynnwys Cofnodion Dysgwyr Unigol (ILR), Set Ddata Genedlaethol y Disgyblion (NPD), data panel cynrychioliadol ar raddfa fawr, a chynlluniau buddsoddi Lluosi lleol lleoedd, er mwyn deall:

  • pa grwpiau sy’n fwy neu’n llai tebygol o ymgysylltu â Lluosi
  • newidiadau cyfatebol yng nghyfanswm nifer y dysgwyr ar gyrsiau perthnasol dros gyfnod
  • y ffordd orau i fesur effeithiau ar rifedd ac enillion i sefydlu gwerthusiadau gwrthffeithiol a mesurau deilliannau

Defnyddiodd y cyfnod dichonoldeb dystiolaeth a gasglwyd i gefnogi gwaith ehangach ar draws y llywodraeth yn ymwneud â gwerthuso rhaglenni sgiliau oedolion a datganoli’r Gyllideb Addysg Oedolion (AEB) ac, o flwyddyn academaidd 2024/25, y Gronfa Sgiliau Oedolion (ASF). Yn yr un modd, bydd gwerthusiad Lluosi yn helpu i fwydo i’r gwaith hwn.

Bydd y cyfnod gweithgareddau gwerthuso yn cynnwys y rhan fwyaf o’r gwaith maes, wedi’i rhannu’n dri llinyn eang, sef: gwerthuso’r effaith, gwerthuso’r broses ac asesu gwerth am arian, gyda gweithgareddau penodol dan bob llinyn wedi’u hamlinellu yn Ffigur 8.

Bydd y cyfnod adrodd a lledaenu terfynol yn adeiladu ar yr holl ganfyddiadau ymchwil ar draws y ffrydiau gwaith amrywiol ac yn eu dwyn ynghyd mewn cyfres o adroddiadau manwl a fydd yn cael eu rhannu ag ALlAau ac yn cael eu cyhoeddi.

Methodoleg a chasglu data

Mae’r dulliau a’r ffynonellau data yn cynnwys:

Datblygu gwerthusiadau gwrthffeithiol (Lloegr yn unig): er mwyn cymharu cynnydd buddiolwyr Lluosi â set gymharol o’r rhai nad ydynt yn rhan o’r rhaglen, bydd grŵp gwrthffeithiol yn cael ei greu yn cynnwys dysgwyr nad ydynt yn rhan o’r rhaglen Lluosi sydd wedi’u paru’n ystadegol o ddata’r Adran Addysg am yr holl ddysgwyr a ariannwyd o’r Gyllideb Addysg Oedolion yn setiau data’r Cofnod Dysgwyr Unigol a Set Ddata Genedlaethol y Disgyblion. Er mwyn galluogi hyn, mae’r Adran Addysg wedi cynnal arolwg â hapsampl o ddysgwyr nad ydynt yn rhan o’r rhaglen Lluosi, o’r Gyllideb Addysg Oedolion, wedi’u paru’n ddemograffig ac o ran eu lefel rhifedd i lywio’r gwerthusiad gwrthffeithiol. Er mwyn cyfrif ymhellach am duedd wrth ddethol, bydd yr Adran Addysg hefyd yn edrych ar grŵp gwrthffeithiol ychwanegol, yn cynnwys oedolion â sgiliau rhifedd isel nad ydynt yn ymwneud â sgiliau sylfaenol (h.y. dysgwyr nad ydynt yn cael eu hariannu gan y Gyllideb Addysg Oedolion) i wella cadernid unrhyw gymariaethau ymhellach. Bydd datblygu gwerthusiadau gwrthffeithiol penodol i Lluosi yn ystyried gwaith gwrthffeithiol cyfochrog ar gyfer gwerthusiad craidd UKSPF ar lefel ymyriadau.

Arolygon meintiol (Lloegr yn unig): bydd set o arolygon ar wahân yn cael eu cynnal ymhlith ystod o gyfranogwyr Lluosi sy’n ymwneud â chyflwyno’r rhaglen a fydd yn cael eu dewis ar hap, i asesu boddhad â’r rhaglen, barn ar ei heffeithiolrwydd, ei chryfderau a’r hyn y gellid ei wella. Caiff yr arolygon eu defnyddio hefyd i gasglu gwybodaeth ychwanegol am gefndiroedd, profiadau ac agweddau dysgwyr ar y rhaglen, er mwyn helpu’r Adran Addysg i ddeall mwy am bwy y mae Lluosi yn eu cyrraedd, sut mae’n cael ei chyflwyno, a sut mae barn am Lluosi yn amrywio ymhlith gwahanol grwpiau. Bydd arolygon yn cynnwys (nid yw’r rhestr hon yn un gynhwysfawr) dysgwyr, ymarferwyr, darparwyr, staff ALlAau a chyflogwyr lleol

Ymchwil ansoddol: bydd yn cael ei defnyddio i archwilio themâu a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg o’r gwaith arolygon meintiol yn fanylach. Mae hyn yn cynnwys:

  • (Lloegr yn unig) cyfweliadau manwl gyda dysgwyr Lluosi a adawodd eu cyrsiau, darparwyr ymchwil a oedd yn cynnal hapbrofion wedi’u rheoli Lluosi a staff canolog Llywodraeth y DU a oedd yn rhan o ddatblygu a chyflwyno’r rhaglen ar draws yr Adran Addysg, MHCLG a’r Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau (ESFA)
  • (Lloegr yn unig) astudiaethau achos mewn awdurdodau lleol penodol i ddeall yn fanwl sut y datblygwyd cynlluniau buddsoddi, sut maent wedi gwario cyllid Lluosi, sut maent wedi asesu gwerth am arian y gwariant hwn (yn enwedig dulliau nad ydynt yn yr ystafell ddosbarth) ar lefel leol, a sut maent wedi osgoi dyblygu â gwariant lleol arall y Gyllideb Addysg Oedolion. Bydd y rhain yn wahanol i’r astudiaethau achos ar lefel lleoedd a gynhaliwyd ar gyfer gwerthusiad craidd UKSPF
  • (ledled y DU) casglu enghreifftiau manwl o arfer addawol a gyflwynwyd yn rhan o’r rhaglen Lluosi gan gomisiynwyr a darparwyr addysg yn yr ardal leol

Bydd gwerthusiad Lluosi hefyd yn dibynnu’n fawr ar ddadansoddiad eilaidd o ddata, gan baru a chysylltu data a gesglir trwy arolygon a dulliau ymchwil cynradd eraill gan ddefnyddwyr dynodwyr cyffredin i ddatblygu darlun mor gyflawn â phosibl o ddysgwyr. Gallai hyn gynnwys:

  • yn Lloegr, cysylltu data NPD, ILR a Deilliannau Addysg Hydredol (LEO) i olrhain dilyniant i ddysgu pellach neu’r farchnad lafur
  • data adrodd chwarterol a chwe misol, gwybodaeth reoli a data o gynlluniau buddsoddi lleol
  • dadansoddiad o setiau data ehangach a gasglwyd i gefnogi’r gwerthusiad ehangach o effaith UKSPF, yn enwedig lle maent yn ymwneud â phrosiectau sy’n ymwneud â phobl a sgiliau a all orgyffwrdd ag amcanion Lluosi

Allbynnau

Bydd allbynnau allweddol yn cynnwys:

  • adolygiad systemau ledled y DU o’r sylfaen dystiolaeth yn ymwneud ag ymyriadau rhifedd, a fydd yn helpu i ddarparu cyd-destun ar gyfer y dirwedd y bydd Lluosi yn cyflwyno ynddi, yn amlygu arfer da hanesyddol ac yn llywio’r gwaith o fireinio cwestiynau gwerthuso yn ystod y cyfnod dichonoldeb
  • pedwar adroddiad interim, gydag o leiaf un fesul blwyddyn cyflwyno, a fydd yn cyflwyno unrhyw ganfyddiadau sy’n dod i’r amlwg a chanfyddiadau trawsbynciol o weithgarwch gwerthuso hyd at yr adeg honno. Mae canfyddiadau’r adroddiadau hyn wedi’u rhannu ag ALlAau
  • adroddiadau arunig, wedi’u grwpio yn ôl gweithgareddau ymchwil tebyg ac yn cwmpasu prif ganfyddiadau pob grŵp o weithgareddau ymchwil
  • adroddiadau interim arolygon dysgwyr ar gyfer ardaloedd lleol, lle mae mwy na 100 o ddysgwyr fesul ardal wedi ymateb i’r arolwg. Bydd y rhain yn dangos y canlyniadau ar gyfer yr ardal leol a chyfartaledd Lloegr ac yn cael eu diweddaru’n fisol. Mae’r adroddiadau i’w defnyddio’n fewnol gan yr ardal leol yn unig hyd nes bydd adroddiad gwerthuso terfynol y rhaglen yn cael ei gyhoeddi
  • adroddiad gwerthuso ysgrifenedig terfynol yn rhoi atebion cynhwysfawr i holl gwestiynau’r gwerthusiad, wedi’u trefnu fesul elfen werthuso (effaith, proses a gwerth am arian). Bydd yn defnyddio’r adroddiadau arunig i nodi naratif ar gyfer effeithiau, llwyddiannau a heriau Lluosi ar draws y DU, ochr yn ochr ag argymhellion clir ar gyfer dylunio rhaglenni a’u rhoi ar waith yn y dyfodol
  • adroddiad ar gyfer ymarferwyr, a fydd yn grynodeb hygyrch o ganfyddiadau allweddol y gwerthusiad, yr hyn a ddysgwyd ac arfer gorau a argymhellir ar gyfer rhanddeiliaid ar lefel leol sy’n ymwneud â chyflwyno ymyriadau Lluosi
  • cronfa ddata chwiliadwy yn cynnwys enghreifftiau o arfer addawol a nodwyd gan y sector o’r rhaglen Lluosi

Amserlen

Sylwer bod yr amserlen hon yn ymwneud â’r gwerthusiad o raglen Lluosi dan arweiniad yr Adran Addysg. Mae amseriadau ar gyfer astudiaethau achos Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon dan arweiniad MHCLG i’w gweld yn y bennod ar astudiaethau achos ar lefel lleoedd.

Carreg filltir Amserlen
Cyfnod dichonoldeb Diwedd 2022 - Gwanwyn 2023*
Gwaith maes ar gyfer arolygon dysgwyr Ionawr 2022 - Gwanwyn 2025
Gwaith maes ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau ymchwil eraill Gwanwyn 2023 - Gwanwyn 2025
Cyfweliadau manwl â rhanddeiliaid (yn cynnwys ALlAau) Diwedd 2023 - Dechrau 2024

Diwedd 2024 - Dechrau 2025*
Adroddiad interim 1 yn cael ei ddosbarthu i ALlAau Haf 2023*
Adroddiad interim 2 yn cael ei ddosbarthu i ALlAau Gwanwyn 2024*
Adroddiad interim 3 yn cael ei ddosbarthu i ALlAau Haf/Hydref 2024*
Adroddiad interim 4 yn cael ei ddosbarthu i ALlAau Gwanwyn 2025
Cyhoeddi’r adroddiadau terfynol Hydref 2025

*Cyflawnwyd y garreg filltir hon (erbyn mis Ebrill 2025)

Gwerthusiad o Gronfa Ffyniant Lloegr Wledig

Ar gyfer REPF, bydd DEFRA yn arwain gwerthusiad o’r broses.

Nodau

Nod gwerthusiad REPF yw:

  • archwilio effeithiolrwydd gweinyddu a gweithredu REPF ar lefel adrannau, awdurdodau lleol a phrosiectau unigol

Strwythur

Mae gwerthusiad REPF yn canolbwyntio ar ddeall prosesau ac effeithio i greu sylfaen dystiolaeth ar brosiectau twf lleol mewn ardaloedd gwledig. Ochr yn ochr â gwerthusiad REPF, mae DEFRA yn cynnal ymchwil strategol ychwanegol i ddeall yr heriau penodol i dwf y mae ardaloedd gwledig yn cael profiad ohonynt. Nid dyma ffocws yr adran hon.

Methodoleg a chasglu data

Mae’r gwerthusiad wedi’i rannu’n ddau gyfnod, sef: datblygu’r ddamcaniaeth newid a gwerthusiad o’r broses.

Cyfnod 1: bydd datblygu’r ddamcaniaeth newid yn cynnwys:

  • adolygiad o lenyddiaeth, dogfennau a data eilaidd i ddatblygu’r ddamcaniaeth newid ar gyfer REPF

Cyfnod 2: bydd y gwerthusiad o’r broses yn canolbwyntio ar ddeall sut mae REPF yn gweithio a’r hyn a gyflawnwyd, gan ddefnyddio:

  • dadansoddiad o ddata monitro: archwilio ffactorau fel lefelau gwariant a chyflawni allbynnau
  • arolwg o ALlAau: arolwg ar-lein o awdurdodau lleol yn ymdrin â phrosesau, sut mae ALlAau wedi defnyddio REPF, safbwyntiau ar effeithiolrwydd REPF fel offeryn i ysgogi datblygiad economaidd, a ph’un a fyddai prosiectau eraill wedi digwydd pe na fyddai’r rhaglen yn bodoli
  • ymchwil fanwl ag ALlAau: cyfweliadau o randdeiliaid o ALlAau sy’n cymryd rhan yn REPF. Bydd y cyfweliadau’n cwmpasu ystod o gwestiynau gwerthuso’r broses, yn ogystal â’r cwestiynau polisi strategol ehangach yn ymwneud â ffactorau a allai fod yn atal ffyniant mewn ardaloedd gwledig
  • astudiaethau achos: deg astudiaeth achos gan awdurdodau lleol, gan gynnwys:
    • adolygiad o’r cyd-destun economaidd-gymdeithas lleol a pherfformiad yr economi wledig
    • ymweliadau safle ag awdurdodau lleol
    • cyfweliadau dilynol â sampl o fusnesau a grwpiau cymunedol y dyfarnwyd cyllid iddynt drwy REPF

Allbynnau

Bydd gwerthusiad REPF yn llunio dau allbwn: adroddiad gwerthuso interim ac adroddiad gwerthuso terfynol.

Bydd yr adroddiad interim yn amlinellu’r ddamcaniaeth newid a thrywyddau ymholi i’w harchwilio yn yr adroddiad gwerthuso terfynol.

Bydd yr adroddiad gwerthuso terfynol yn ystyried sut y rhoddwyd REPF ar waith, ei damcaniaeth newid a chanfyddiadau’r gwerthusiad o broses y rhaglen. Bydd yr adroddiad hwn hefyd yn darparu dadansoddiad cwmpasu a dichonoldeb ar y dull a argymhellir ar gyfer gwerthusiad effaith ac economaidd trylwyr o REPF.

Amserlen

Carreg filltir Amserlen
Cynllunio’r gwerthusiad Gaeaf 2024*
Cyfnod 1: datblygu’r ddamcaniaeth newid Gwanwyn 2025
Cyfnod 2: gwerthuso’r broses Gwanwyn 2025
Cyflwyno’r gwerthusiad interim o’r broses i Defra Gwanwyn 2025
Barod i’w gyhoeddi Haf 2025

*Cyflawnwyd y garreg filltir hon (erbyn mis Ebrill 2025)

Offer gwerthuso a ffynonellau data

Pecyn arolygon UKSPF 

Mae pecyn arolygon UKSPF yn hwyluso elfennau eraill o werthusiad UKSPF trwy ddarparu ffordd newydd ac uniongyrchol o ddeall effaith gweithgarwch UKSPF, gan ganolbwyntio ar brosiectau a lleoedd penodol.  

Is-elfennau arolygon 

Caiff data arolygon ei gasglu trwy bedair sianel: 

  • Community Life Survey (CLS): bu CLS yn cael ei gynnal yn flynyddol fel arolwg ar-lein er 2012, gan gasglu data gan tua 10,000 o ymatebwyr y flwyddyn yn Lloegr yn unig, wedi’i agregu i lefel ranbarthol (ITL1). Mae’n cynnwys cwestiynau am foddhad â lle, ymgysylltiad cymunedol, balchder dinesig a chydlyniant cymdeithasol ac mae eisoes yn ffynhonnell dystiolaeth allweddol ar gyfer y rhai sy’n llunio polisïau ar draws Llywodraeth y DU. DCMS sy’n gyfrifol am gyflwyno’r arolwg ‘craidd’
  • Hwb lefel leol CLS: er mwyn gwasanaethu anghenion gwerthuso sy’n benodol i UKSPF yn well, datblygodd MHCLG a DCMS elfen ychwanegol o CLS – yr ‘hwb lefel leol’. Mae’r hwb lefel leol yn defnyddio’r un fethodoleg â CLS ond yn rhoi hwb i feintiau samplau i ddarparu amcangyfrifon ar lefel ALlAau. Mae’r set o gwestiynau wedi’i hymestyn hefyd i gynorthwyo i werthuso UKSPF. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer y rhannau hynny o’r gwerthusiad – fel y gwerthusiad o’r effaith ar lefel ymyriadau a’r astudiaethau achos ar lefel lleoedd – y mae angen data manylach arnynt ar lefel ALlAau. Mae ton gyntaf hwb CLS, ar gyfer 2023/24, wedi’i cyhoeddi, a bydd yr ail a’r trydydd hwb yn cael eu cynnal yn 2024/25 a 2025/26
  • Arolygon Your Community, Your Say (YCYS): ochr yn ochr ag ehangu cwmpas CLS, mae MHCLG wedi cynnal cyfres o arolygon ledled y DU ar yr un pryd sy’n canolbwyntio ar – o fewn yr ardaloedd hynny sy’n cymryd rhan yn yr elfennau ar lefel ymyriadau a lleoedd – feithrin dealltwriaeth o safbwyntiau lleol ar UKSPF, y prosiectau y mae’n eu cefnogi, a’i chyflwyno mewn lleoedd. Caiff hyn ei gyflawni trwy ddau amrywiad, sef:
  • mewn ardaloedd astudiaethau achos: cwestiynau ychwanegol yn canolbwyntio ar gyd-destun lleol pob ardal, pa mor gyfarwydd y mae pobl â UKSPF yn ei chyfanrwydd ochr yn ochr â rhaglenni twf lleol cysylltiedig (fel y Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Trefi), a lefelau lles sylfaenol
  • mewn ardaloedd grwpiau astudio: cwestiynau ychwanegol yn canolbwyntio ar amgyffrediad pobl o’r grwpiau astudio cymunedau a lle mewn ardal benodol yn hytrach na UKSPF yn ei chyfanrwydd. Ar gyfer yr amrywiad hwn, dewiswyd cyfranogwyr ar y sail eu bod wedi’u nodi’n fuddiolwyr uniongyrchol UKSPF trwy fyw yn ardal effaith prosiect yn seiliedig ar ardal (e.e. yn byw ger man gwyrdd newydd arfaethedig)
  • offeryn arolygon lleol ar gyfer ALlAau: datblygwyd casgliad o ganllawiau i alluogi ALlAau a rhanddeiliaid lleol i gynnal arolygon a chasglu data ar amgyffredion cymunedol eu hunain, i ategu gwerthusiadau lleol lle maent wedi’u cynllunio, a’u galluogi i gymharu ag ardaloedd eraill. Mae defnyddio’r offeryn hwn yn ddewisol; ni ddisgwylir i ALlAau ei ddefnyddio i gasglu data ar gyfer gwerthusiad cyffredinol UKSPF

Bydd gweddill y bennod hon yn canolbwyntio ar y ddau bwynt bwled olaf, y mae MHCLG yn gyfrifol am eu cyflwyno’n benodol i ategu gwerthusiad UKSPF.

Mae Ffigur 9 yn dangos sut bydd yr arolygon gwahanol a ddisgrifir uchod yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o effaith UKSPF ar draws ystod o raddfeydd gofodol.

Ffigur 9: Is-elfennau’r arolygon

Mae’r ddelwedd hon yn dadansoddi is-elfennau’r arolygon fel y’u disgrifiwyd yn gynharach yn yr adran hon, gan eu grwpio’n weledol ar sail: 

  • p’un a ydynt yn cael eu cyflwyno gan DCMS (CLS a hwb lefel leol CLS) neu MHCLG (arolygon penodol YCYS ar leoedd ac ymyriadau, offeryn arolygon lleol) 

  • y raddfa benodol y byddant yn gweithredu arni: rhanbarthol ac uwch (CLS), ar lefel ALlAau (hwb lefel leol CLS, arolygon lle YCYS) neu ar lefel ymyriadau (arolygon ymyriadau YCYS) 

Yna, mae’r diagram yn dangos y bydd yr is-elfennau hyn yn bwydo i elfennau’r gwerthusiad ehangach o UKSPF ar lefel ymyriadau, lleoedd a’r rhaglen

Rhoi’r arolygon ar waith

Rhannwyd y gwaith ar yr arolygon yn ddau gyfnod, sef y cyfnod datblygu a’r cyfnod gweithredu

Roedd y cyfnod datblygu yn cynnwys: 

  • datblygu’r set graidd o gwestiynau i’w defnyddio yn yr arolygon

  • datblygu offer i’w defnyddio i gasglu data arolygon

  • nodi strategaethau samplu eang ar gyfer y grŵp astudio a’r amrywiadau o’r arolwg YCYS a oedd yn canolbwyntio ar astudiaethau achos

  • datblygu’r offeryn arolygon lleol ar gyfer ALlAau, yn unol â’r egwyddorion yn y tri phwynt bwled uchod

Roedd y cyfnod gweithredu yn cynnwys: 

  • mireinio dyluniad yr arolwg ar gyfer pob grŵp astudio a lle (gan gynnwys cwestiynau penodol ar gyfer gwerthuso ar lefel ymyriadau a lleoedd)

  • mireinio’r strategaethau samplu unigol a nodwyd yn ystod y cyfnod datblygu

  • cyflwyno’r arolygon eu hunain wedi hynny, gan gynnwys dau gyrch o arolygon (i ddechrau) ym mhob un o’r grwpiau astudio a’r grwpiau gwrthffeithiol a nodwyd, ac un cyrch o ddetholiad o astudiaethau achos

Er mwyn caniatáu cymharu rhwng gwahanol elfennau’r arolwg a nodir yn Ffigur 9, roedd y set o gwestiynau sylfaenol ar gyfer arolygon YCYS yn adeiladu ar yr hyn a ddefnyddiwyd ar gyfer CLS, yn hytrach na’i ddisodli – gan olygu y bydd pob arolwg yn rhannu’r un cynnwys craidd. Ychwanegwyd rhagor o gwestiynau a oedd yn benodol i UKSPF yn ystod y cyfnod datblygu, yn ymwneud â grwpiau astudio a/neu leoedd yn ôl yr angen, gan geisio dilyn naws a fformat tebyg i’r CLS craidd, lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Yn rhan o ddatblygu a mireinio cwestiynau ar gyfer yr arolygon ar lefel lleoedd ac ymyriadau, defnyddiwyd profion gwybyddol i wneud yn siŵr fod yr holl gwestiynau a’r wybodaeth gyd-destunol mor glir, diamwys a hawdd eu defnyddio â phosibl. 

Ar gyfer llinyn YCYS ar lefel ymyriadau, cynhaliwyd arolygon ddwywaith yn ystod cylch ariannu UKSPF, gyda’r cyrch cyntaf yn cael ei gynnal yng ngwanwyn 2025. Ar gyfer llinyn YCYS ar lefel lleoedd, dewiswyd un cyrch, a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2025 yn unig. At sail archwiliad o iteriadau blaenorol o CLS, mae MHCLG yn amcangyfrif, er mwyn mesur effeithiol hirdymor UKSPF, y bydd angen cynnal rhagor o gyrchoedd rheolaidd ar ôl i gyfnod y rhaglen gyfredol ddod i ben ym mis Mawrth 2026. 

Methodoleg a chasglu data

Ar gyfer arolygon YCYS ar lefel ymyriadau, penderfynwyd ar boblogaethau sampl gan gyfeirio at y grwpiau triniaeth a rheoli a grëwyd yn rhan o’r gwerthusiad cymunedau a lle ar lefel ymyriadau. Targedwyd naw prosiect ochr yn ochr â naw grŵp gwrthffeithiol, sy’n crynhoi i dri grŵp astudio cymunedau a lle. Yna, targedodd pob arolwg ddalgylch o amgylch y prosiect a nodwyd. 

Ar gyfer yr arolygon ar lefel lleoedd, cymerwyd samplau o bob rhan o ALlA yr astudiaeth achos (neu ardal yr ALl yng Ngogledd Iwerddon) dan sylw, er, yn dibynnu ar faint yr ALlA a lledaeniad prosiectau o fewn ei ffiniau, roedd angen cymryd samplau o ardal ddaearyddol â diffiniad mwy cul yn yr ALlA mewn rhai achosion. 

Ym mhob achos, dyluniwyd fframiau samplu i gyflawni canlyniadau ystadegol arwyddocaol. Ar gyfer yr arolygon ar lefel ymyriadau, maint y sampl a gyflawnwyd oedd 500 o ymatebwyr. Ar gyfer yr arolygon ar lefel lleoedd, cyflawnwyd sampl fwy o tua 1,500 o ymatebwyr fesul cyrch, o ystyried nod yr astudiaethau achos i gwmpasu ystod eang o grwpiau poblogaeth a phrosiectau ym mhob ALlA/lle. 

Casglwyd data arolygon ar gyfer y cwestiynau craidd a’r amrywiadau ar lefel ymyriadau a lleoedd yn uniongyrchol gan gyfranogwyr gan ddefnyddio platfform arolygon ar-lein, gan ddilyn methodoleg CLS.

Ochr yn ochr â’r arolygon YCYS dan arweiniad MHCLG, datblygwyd offeryn arolygon i alluogi ALlAau i gasglu eu data eu hunain gan ymatebwyr i gefnogi gwerthusiad dewisol ar lefel leol a’u datblygiad polisi eu hunain. Mae’r offeryn arolygon lleol yn adlewyrchu’r cwestiynau a ddatblygwyd ar gyfer arolygon YCYS, gyda lle i ALlAau ychwanegol cwestiynau pwrpasol ychwanegol, lle bo hynny’n briodol. 

Mae’r offeryn arolygon lleol yn cynnwys arweiniad manwl yn nodi sut i ddatblygu strategaeth samplu, is-set o set cwestiynau craidd CLS, a sut i gasglu a phrosesu’r data mewn modd sy’n gyson â’r strategaeth sy’n cael ei dilyn gan arolygon YCYS. Ariannwyd y gwaith o ddatblygu’r offeryn arolygon ei hun gan MHCLG.

Allbynnau’r arolygon

Caiff canlyniadau a methodoleg CLS eu cyhoeddi’n llawn, yn unol â blynyddoedd blaenorol. Bydd hyn yn cynnwys y wybodaeth ychwanegol a gasglwyd yn rhan o’r hwb ar lefel leol.

Bydd arolygon YCYS yn ffurfio elfen hanfodol o’r gwerthusiadau ar lefel ymyriadau a lleoedd yr ymdriniwyd â nhw mewn rhannau eraill o’r strategaeth hon. Ni fydd arolygon YCYS sy’n benodol i UKSPF yn allbynnau yn eu rhinwedd eu hunain; yn hytrach, byddant yn helpu i hwyluso rhannau eraill o’r gwerthusiad. Am y rheswm hwn, nid yw MHCLG yn bwriadu cyhoeddi adroddiad ar wahân sy’n ymdrin â chanlyniadau arolygon YCYS ar eu pen eu hunain, ar hyn o bryd, er y gallai ddewis sicrhau bod allbynnau dethol a chanlyniadau cyfun ar gael trwy eu cynnwys mewn adroddiadau sy’n ymdrin ag elfennau gwerthuso eraill neu ar wahân, fel y bo’n briodol.

Bydd yr offeryn arolygon lleol, ynghyd ag arweiniad ar sut i’w ddefnyddio, yn cael ei gyhoeddi cyn hir a bydd ar gael ar dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: gwerthusiad - GOV.UK.

Amserlen

Carreg filltir Amserlen
Community Life Survey a’r hwb lefel leol  
Datblygu cwestiynau’r arolygon a’r strategaeth samplu Gwanwyn – Haf 2023*
Cyrch cyntaf o arolygon Hydref 2023 – Mawrth 2024*
Ail gyrch o arolygon Hydref 2024 – Mawrth 2025*
Arolygon Your Community, Your Say  
Datblygu cwestiynau’r arolygon a’r strategaeth samplu Gwanwyn – Haf 2023*
Cyrch cyntaf o arolygon ar gyfer ymyriadau Chwefror – Mawrth 2024*
Ail gyrch o arolygon ar gyfer ymyriadau a’r cyrch cyntaf ar gyfer lleoedd Chwefror – Ebrill 2025
Offeryn arolygon lleol  
Cyhoeddi’r offeryn arolygon lleol Ebrill 2025

*Cyflawnwyd y garreg filltir hon (erbyn mis Ebrill 2025)

Trosolwg o ffynonellau data

Bydd gwerthusiad UKSPF yn defnyddio ystod eang o ffynonellau data, sef rhai sy’n benodol i UKSPF a rhai sy’n benodol i leoedd - er enghraifft data gweinyddol a gedwir gan ONS ar gynhyrchiant isranbarthol, gweithgarwch economaidd a demograffeg – a fydd yn bwydo nifer o elfennau, tra y bydd eraill yn benodol i elfennau penodol.

Mae Tabl 3 yn nodi tacsonomeg eang, nad yw’n hollgynhwysfawr, o’r gwahanol fathau o ddata y mae MHCLG yn disgwyl eu defnyddio ar draws y gwerthusiad yn ei gyfanrwydd.

Tabl 3: Tacsonomeg lefel uchel o ffynonellau data UKSPF

Math o ddata Yn benodol i UKSPF? Graddfa ofodol Disgrifiad
Buddiolwyr Ydy Unigol Gwybodaeth adnabyddadwy (rhifau Yswiriant Gwladol a Rhifau Cofrestru Cwmnïau) yn ymwneud ag unigolion a busnesau a allai elwa’n ddamcaniaethol ar brosiect penodol a ariennir gan UKSPF. Caiff ei defnyddio ochr yn ochr â data paru i olrhain effaith prosiectau a ariennir gan UKSPF ar lefel fanwl
Paru Nac ydy Unigol Credyd Cynhwysol, enillion a chofnodion treth unigolion a gedwir gan CThEF a’r Adran Gwaith a Phensiynau, i’w cyfuno â data buddiolwyr penodol er mwyn olrhain effaith prosiectau a ariennir gan UKSPF
Ar sail arolygon Cymysg Unigol Ymatebion i arolygon gan unigolion sy’n cymryd rhan yn y Community Life Survey a gynhelir gan DCMS ac arolygon Your Community, Your Say ychwanegol sy’n benodol i UKSPF ar lefel ymyriadau a lleoedd
Monitro Ydy Prosiect Gwybodaeth a gesglir gan bob ALlA yn ystod cylch adrodd chwe misol UKSPF sy’n cwmpasu cynnydd a gwariant fesul prosiect tuag at yr allbynnau a’r deilliannau y cytunwyd arnynt yn lleol
Gweinyddol Cymysg ALlA Data cyd-destunol a gedwir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Llywodraeth y DU ac ALlAau sy’n cwmpasu demograffeg leol, gweithgarwch economaidd, marchnadoedd llafur a manylion am gyllid arall (cyfredol a hanesyddol) a gafwyd gan leoedd a allai orgyffwrdd â UKSPF. Hefyd, gall gynnwys gwybodaeth sy’n benodol i UKSPF yn ymwneud â strwythurau cyflwyno prosiectau, partneriaid yn y sector preifat a’r trydydd sector, a rhanddeiliaid lleol

Er mwyn lleihau’r baich ar ALlAau a phartneriaid lleol yng Ngogledd Iwerddon ar draws pob rhan o’r gwerthusiad, bydd MHCLG yn ceisio defnyddio data presennol, lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Mewn rhai achosion, bydd angen i ALlAau, partneriaid lleol neu dderbynwyr grantiau (yn dibynnu ar ba rannau o’r gwerthusiad y maent yn cymryd rhan ynddynt) gynorthwyo i gasglu gwybodaeth ychwanegol.

Caiff data ei gasglu trwy:

  • adroddiadau UKSPF rheolaidd: mae strwythurau adrodd ysgafn UKSPF yn ei gwneud yn ofynnol i bob ALlAau adrodd bob chwe mis ar wariant ar lefel prosiectau a themâu a chynnydd tuag at allbynnau a deilliannau cytûn. Bydd MHCLG yn defnyddio’r data a gesglir ar gyfer y llinynnau gwerthuso, gan leihau nifer y sianeli casglu data y bydd angen i ALlAau eu gwasanaethu
  • contractwyr yn uniongyrchol: yn ogystal â’r data monitro a fydd yn cael ei gasglu gan bob ALlA, bydd contractwyr ar gyfer pob un o’r elfenna yn casglu data ychwanegol, yn ôl yr angen, i gynorthwyo i gyflawni’r gwerthusiad. Bydd yn ofynnol i gontractwyr ar draws gwahanol elfennau gydweithio a rhannu data, lle bo hynny’n bosibl, i leihau nifer y ceisiadau ar wahân am ddata ar gyfer ALlAau sy’n ymwneud â sawl rhan o’r gwerthusiad. Mae’r adrannau unigol ar gyfer pob elfen yn cynnwys mwy o fanylion am y mathau o ddata y byddant yn eu defnyddio

Y tu allan i adroddiadau rheolaidd UKSPF, ni ddisgwylir i ALlAau ddechrau casglu data ar gyfer unrhyw ran o’r gwerthusiad, oni bai bod MHCLG neu eu partneriaid gwerthuso yn cysylltu â nhw ac yn gofyn iddynt wneud hynny.

Rheoli data

Lle bo’n briodol ac yn unol â chanllawiau diogelu data, bydd MHCLG yn ceisio cyhoeddi’r data cyfun a’r dadansoddiad sy’n sail i’r prif adroddiadau gwerthuso er mwyn caniatáu i arbenigwyr allanol a rhanddeiliaid eu harchwilio ac ymchwilio iddynt ymhellach.

Bydd pob ffynhonnell data i gefnogi gwerthusiad UKSPF – gan gynnwys data personol, lle bo hynny’n briodol - yn cael ei chasglu a’i phrosesu trwy gydymffurfio’n llawn â chanllawiau diogelu data fel y’u nodir yn Neddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Mae MHCLG wedi cynnal asesiad o’r effaith ar ddiogelu data ar gyfer pob llinyn gwerthuso a bydd yn gyfrifol am sefydlu cytundebau diogelu data ag ALlAau a rhanddeiliaid lleol perthnasol eraill, yn ôl yr angen, i hwyluso’r gwaith o gasglu, rhannu a phrosesu data gydag MHCLG, adrannau eraill y llywodraeth a chontractwyr.

  1. Cyhoeddodd Cyllideb yr Hydref 2024 llywodraeth y DU £900 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn diwedd mis Mawrth 2026, gan ymestyn amserlen a gwariant gwreiddiol UKSPF. 

  2. Caiff pob ffynhonnell ddata i ategu gwerthusiad UKSPF – gan gynnwys data personol, lle bo hynny’n briodol – ei chasglu a’i phrosesu gan gydymffurfio’n llawn â chanllawiau diogelu data, fel y nodir yn Neddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredin ar Ddiogelu Data (GDPR). 

  3. Roedd elfen yr astudiaethau achos ar lefel lleoedd yn canolbwyntio ar 36 ALlA gwreiddiol. Ni symudwyd ymlaen â dwy astudiaeth achos oherwydd capasiti lleol, gan adael cyfanswm o 34 ALlA. 

  4. Heblaw am Ogledd Iwerddon, lle byddai gwerthusiad o’r broses ledled Gogledd Iwerddon yn cael ei gynnal yn unig.