Canllawiau

Strategaeth werthuso (4)

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth ar fonitro a gwerthuso ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Crynodeb

4.1 Rydym yn ymrwymo i leihau biwrocratiaeth y rhaglen gyllido a byddwn yn sicrhau bod cyn lleied o faich â phosibl yn cael ei osod ar yr awdurdodau lleol arweiniol hynny y gofynnir iddynt gymryd rhan yn y broses werthuso, yn unol ag agenda symleiddio’r Adran. Byddwn yn gwerthuso ymyriadau, rhaglenni a phrosiectau yn ganolog, ond byddwn yn dibynnu ar rai awdurdodau lleol arweiniol i gefnogi’r gwaith hwn. Bydd ein contractwyr gwerthuso yn datblygu manylion pellach am y Strategaeth Werthuso trwy gam hyfywedd y broses yn ystod dechrau 2023. Bydd awdurdodau lleol arweiniol mewn ardaloedd daearyddol yn gyfrifol am ddarparu’r data a’r wybodaeth honno sy’n ofynnol at ddibenion gwerthuso, o bob un o’r awdurdodau lleol perthnasol yn eu hardal ranbarthol.

4.2 Dylid darllen yr adran hon ochr yn ochr â’r [Strategaeth Werthuso]( https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-evaluation.cy a gyhoeddwyd yma sy’n amlinellu Fframwaith Gwerthuso’r UKSPF yn fanwl. Amcan y Strategaeth Werthuso yw casglu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer yr hyn sy’n gweithio, ym mha gyd-destun, a thrwy ba fodd. Trwy weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol arweiniol, byddwn ni a’n contractwyr gwerthuso yn casglu tystiolaeth i lywio’n well y gwaith o lunio polisïau yn y dyfodol ar lefel leol a chenedlaethol, ac i sicrhau bod gwariant ffyniant bro a thwf lleol yn y dyfodol yn gallu cael eu hoelio ar yr ymyriadau hynny sy’n cyflawni’r effaith fuddiol fwyaf ac sy’n cynrychioli gwerth da am arian.

4.3 Mae gwerthuso yn hanfodol i ddeall effaith yr UKSPF. Oherwydd graddfa a maint y prosiectau unigol y gall UKSPF eu hariannu, mae angen i ni ategu gwerthusiadau lefel leol er mwyn deall effeithiau’r UKSPF yn well. Byddwn yn cydlynu’r gwerthusiad cenedlaethol ond bydd arnom angen i awdurdodau lleol arweiniol ymgysylltu a chefnogi’r gwaith gwerthuso hwn a gydlynir yn lleol. Dylai awdurdodau lleol arweiniol barhau i ddatblygu a chynnal eu gwerthusiadau cadarn a chredadwy eu hunain. Yn achos yr awdurdodau lleol arweiniol hynny â dyraniadau mwy, mae’r pwyslais ar werthuso cymesur a thrylwyr yn gynyddol bwysig.

4.4 Bydd awdurdodau lleol arweiniol sy’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gwerthusiad yn cael gwybod ymlaen llaw a byddwn yn cadarnhau’r gofynion gyda nhw o ran casglu data a rhyngweithio â chontractwyr gwerthuso, os yw’n berthnasol. Ni ofynnir i awdurdodau lleol arweiniol am ddata ôl-weithredol ond, pan fydd yr awdurdod lleol arweiniol wedi bod yn gwneud ei waith casglu data neu werthuso ei hun, gofynnwn fod y wybodaeth honno’n cael ei rhannu gyda’n contractwr gwerthuso.

4.5 Anogir cymryd rhan mewn gwerthuso wedi’i arwain gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau; credwn y bydd y buddion i’r awdurdodau lleol arweiniol sy’n cymryd rhan ac i bolisi cyllid twf a ffyniant bro ehangach yn sylweddol. Rydym yn cydnabod y gallai rhai awdurdodau lleol ei chael hi’n anodd darparu’r adnoddau i weithio gyda’n contractwyr gwerthuso, felly byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod y baich yn hylaw.

Y fframwaith gwerthuso

4.6. Bydd y fframwaith gwerthuso’n cyfrannu at ddeall effaith y Gronfa ar falchder mewn lle a chyfleodd bywyd trwy dair haen o werthuso ynghyd â dadansoddiad trawsbynciol, a fydd yn mynd i’r afael â nifer o gwestiynau sylfaenol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Gwerthusiad trawsbynciol: datblygu cyfres o arolygon i adeiladu gwell dealltwriaeth o sut mae balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd yn amrywio ar draws y DU, gan ddarparu gwaelodlin i’w ddefnyddio i asesu effeithiau UKSPF ar lefel ymyrraeth, lle a rhaglen. Cesglir data trwy gyfuniad o Arolwg Bywyd Cymuned, wedi’i arwain gan y DCMS, ac arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd penodol i UKSPF, a gyflwynir gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.
  • Gwerthusiad lefel ymyrraeth: Deall effeithiau 10 i 15 ymyrraeth benodol ar draws tair blaenoriaeth fuddsoddi UKSPF, a pha mor dda y cawsant eu cyflwyno ar lefel lle, gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau lled-arbrofol gyda grwpiau triniaeth a rheolydd. Lle y bo ymyriadau’n briodol, gallem hefyd gynnal hap-dreialon rheoli i ddarparu dealltwriaeth fanylach o’r effeithiau, y tu hwnt i’r hyn sy’n bosibl gan ddull lled-arbrofol gwerthusiadau o effaith ymyriadau ehangach.
  • Gwerthusiad lefel lle: Datblygu dealltwriaeth fanwl o effeithiolrwydd UKSPF ar draws gwahanol fathau o le, gan ystyried eu nodweddion a’u heriau lleol unigryw, a chanolbwyntio ar ryngweithiadau rhwng rhanddeiliaid, penderfyniadau lleol, effeithlonrwydd proses a rhyngweithiadau â chronfeydd twf lleol eraill (fel y Gronfa Ffyniant Bro)
  • Gwerthusiad lefel rhaglen: Deall effaith y rhaglen yn ei chyfanrwydd gan ddefnyddio dull anarbrofol, aml-lefel yn seiliedig ar atchweliad i ynysu effeithiau UKSPF rhag cronfeydd twf lleol eraill, cyd-destunau economaidd gwaelodlin lleoedd a ffactorau drysu ehangach. Er enghraifft, i ddeall effaith a gwerth Multiply am arian, pa mor effeithiol y cafodd ei gyflawni gan leoedd a Llywodraeth y DU, ac i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth o arfer gorau o ran cyflawni ymyriadau sgiliau i oedolion yn lleol.

Beth mae hyn yn ei olygu i awdurdodau lleol arweiniol

Arolygon trawsbynciol

4.7 Ni ofynnir i bob awdurdod lleol arweiniol gymryd rhan yn yr arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd lleol a lefel ymyrraeth – dim ond y rhai sydd hefyd yn cymryd rhan yn y gwerthusiadau effaith ar lefel ymyrraeth ac astudiaethau achos lefel lle, y bydd yr arolygon yn ffynhonnell ddata allweddol ar eu cyfer. O ystyried hyn, ein nod fydd sicrhau cyn lleied â phosibl o geisiadau ychwanegol penodol i arolwg i leoedd trwy adeiladu ar elfennau gwerthuso eraill.

Yn fyr:

  • Yn achos hwb lefel leol CLS, Cesglir data oddi wrth ymatebwyr yn uniongyrchol yn unol â’r CLS craidd, heb ofyn am unrhyw waith ychwanegol gan awdurdodau lleol arweiniol.
  • Yn achos arolygon PiP ac LC, bydd disgwyl i’r awdurdodau lleol arweiniol sy’n cymryd rhan gynorthwyo â sefydlu fframiau samplu ar gyfer ymyriadau dethol ac o fewn ardaloedd daearyddol penodol.
  • Ni fydd offeryn yr arolwg lleol yn gofyn am unrhyw gyfraniad gan awdurdodau lleol arweiniol – er y caiff awdurdodau lleol arweiniol eu hannog i’w ddefnyddio ar gyfer eu harolygon eu hunain pan fydd ar gael.

Ar gyfer prosiectau seiliedig ar ardal (h.y. nad ydynt yn cael eu cyflwyno i grŵp penodol o gyfranogwyr unigol, fel parc newydd), gall fod angen i awdurdodau lleol arweiniol wneud rhywfaint o waith ychwanegol i gynorthwyo â nodi dalgylch cywir y prosiect a chyfeiriadau’r trigolion yn y dalgylch hwnnw.

Gwerthusiadau o effaith ymyriadau

4.8 Rydym yn rhagweld y bydd 5 i 10 awdurdod lleol arweiniol yn llunio’r grwpiau triniaeth a rheolydd ar gyfer pob ymyrraeth sy’n cael ei gwerthuso. Dewisir awdurdodau lleol arweiniol yn y grŵp rheolydd ar sail eu nodweddion economaidd gymdeithasol a demograffig tebyg o gymharu â’r grŵp triniaeth. Caiff disgwyliadau a gofynion penodol y grŵp triniaeth o awdurdodau lleol arweiniol eu llunio’n derfynol fel rhan o’r cam hyfywedd, ond byddant yn cynnwys:

  • Datblygu a phrofi damcaniaethau newid cadarn ar gyfer yr ymyriadau sy’n cael eu gwerthuso, ar y cyd â’r contractwr.
  • Cynorthwyo â threfnu grwpiau ffocws a chyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol a staff prosiect.
  • Cynorthwyo â sefydlu fframwaith samplu addas ar gyfer y Mathau o Ymyrraeth sy’n cael eu gwerthuso i gefnogi arolygon balchder mewn lle a chyfleoedd bywyd lefel ymyrraeth.

4.9 Bydd setiau data a sianeli adrodd presennol yn cael eu defnyddio i gasglu data lefel awdurdod lleol arweiniol, lle y bo’n bosibl. Fodd bynnag, bydd angen casglu rhywfaint o ddata sylfaenol a gofynnir i awdurdodau lleol arweiniol helpu i hwyluso hyn. Bydd gofynion data penodol yn cael eu llunio fel rhan o’r cam hyfywedd a’u cyfleu’n glir i awdurdodau lleol arweiniol. Nid oes disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol ddechrau casglu data ymlaen llaw y tu hwnt i sianeli adrodd ehangach UKSPF, hyd nes bod hyn wedi digwydd.

4.10 Gellid gofyn i awdurdodau lleol arweiniol grŵp triniaeth ddarparu:

  • Manylion prosiectau penodol o fewn pob Math o Ymyrraeth y tu hwnt i’r hyn sydd wedi’i gynnwys yng nghynlluniau buddsoddi lleoedd a manylion am gyfrifoldebau cyflawni a llinellau adrodd lleol.
  • Manylion am argaeledd data a bylchau data lleol, yn enwedig ynghylch buddiolwyr ymyriadau UKSPF.
  • Manylion am raglenni twf a ffyniant bro lleol eraill sy’n cyflawni yn eu hardaloedd, yn enwedig os yw hyn yn gorgyffwrdd â blaenoriaethau buddsoddi UKSPF a/neu yn cael ei ddefnyddio fel cyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau UKSPF.

4.11 Bydd gofynion grŵp rheolydd yr awdurdodau lleol arweiniol yn ysgafnach ac yn cael eu datblygu ymhellach yn ystod y cam hyfywedd, ond yn yr un modd, byddant yn cynnwys manylion ychwanegol ar gynlluniau buddsoddi, strwythurau cyflawni a buddsoddiadau lleol eraill sydd wrthi’n cael eu cyflawni.

Hap-dreialon rheoli

4.12 Byddwn yn gwahodd awdurdodau lleol arweiniol i fynegi diddordeb mewn cynnal hap-dreialon rheoli ar gyfer un neu fwy o’r prosiectau y maent yn defnyddio’r UKSPF i’w hariannu. Dim ond rhai ymyriadau fydd yn addas ar gyfer dylunio gwerthusiad ar ffurf hap-dreial rheoli. Mae’n haws neilltuo cyfranogwyr i grŵp rheoli yn achos ymyriadau sy’n cynnwys cyfranogiad gweithgar unigolion, nag ymyriadau sy’n cynnwys newidiadau i’r amgylchedd ffisegol. Yn ystod cam y mynegiant o ddiddordeb, byddwn yn cynnal gweithdai hyfywedd i helpu awdurdodau lleol arweiniol sydd â diddordeb i ddatblygu eu syniadau. Rydym yn rhagweld cynnal tua 10 treial yn gyfan gwbl. Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau fydd yn ariannu’r hap-dreialon rheoli.

4.13 Rydym yn annog awdurdodau lleol arweiniol i ystyried cyfleoedd i ymgymryd â hap-dreialon rheoli, lle y bo’n bosibl, a’n nod fydd cefnogi unrhyw le sy’n ystyried hap-dreial rheoli. Cynhwysir mwy o wybodaeth yn y Strategaeth Werthuso. Gellir defnyddio hap-dreialon rheoli i brofi a yw prosiect wedi cyflawni ei effaith ddymunol, neu gellid eu defnyddio i brofi pa un sydd fwyaf effeithiol o blith dwy ffordd wahanol neu fwy o wneud pethau. Er enghraifft, cynhaliwyd hap-dreial rheoli yn ddiweddar i bennu a oedd yn fwy effeithiol i’r heddlu fynd ar batrolau byrrach, yn amlach, neu batrolau hirach, llai aml.

Astudiaethau achos gwerthuso

4.14 Byddwn yn comisiynu hyd at 36 astudiaeth achos werthuso seiliedig ar le (yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon), i ddeall sut mae’r UKSPF wedi gweithio mewn lleoedd. Bydd yr astudiaethau achos yn canolbwyntio’n benodol ar rôl y lleoedd, rhyngweithiadau rhwng rhanddeiliaid, gwneud penderfyniadau, y gwahanol ymyriadau a chronfeydd twf lleol, a phrosesau.

4.15 Dylai awdurdodau lleol arweiniol sydd â dyfarniad o £60m neu fwy yn gyfan gwbl ddisgwyl cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn un neu fwy o’r samplau gwerthuso seiliedig ar le a gomisiynir.

4.16 Bydd yr astudiaethau achos seiliedig ar le yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau casglu a dadansoddi data, gan gynnwys arolygon, cyfweliadau, grwpiau ffocws a dulliau lled-arbrofol.

4.17 Bydd ein contractwr yn cyflawni’r astudiaethau achos seiliedig ar le. Lle y bo awdurdod lleol arweiniol yn cymryd rhan mewn nifer o elfennau’r gwerthusiad ar yr un pryd, bydd contractwyr yn rhannu gwybodaeth penodol i le, lle y bo’n bosibl, fel bod llai o ymdrech gan awdurdodau lleol arweiniol yn cael ei ddyblygu.

4.18 Bydd pob adroddiad sy’n cael ei greu o ganlyniad i’r gweithgarwch gwerthuso yn cael ei rannu ag awdurdodau lleol arweiniol sy’n cymryd rhan a’u cyhoeddi, lle y bo’n bosibl. Ni fydd awdurdodau lleol arweiniol yn cael eu henwi yn yr un adroddiad, oherwydd bwriad yr astudiaethau achos hyn yw adeiladu’r sylfaen dystiolaeth, nid bod yn offeryn rheoli perfformiad.

4.19 Gellid gofyn i awdurdodau lleol arweiniol sy’n astudiaethau achos ddarparu’r data canlynol (os na chawsant eu darparu eisoes trwy gymryd rhan mewn rhannau eraill o’r gwerthusiad):

  • Manylion prosiectau sydd wedi’u cynnwys yng nghynlluniau buddsoddi lleoedd, gyda ffocws penodol ar strwythurau cyflawni, cyfrifoldebau a llinellau adrodd lleol.
  • Manylion am argaeledd data a bylchau mewn data yn lleol, yn enwedig ynghylch buddiolwyr ymyriadau UKSPF a dangosyddion economaidd a’r farchnad lafur y tu hwnt i’r rhai y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn eu dal yn ganolog.
  • Manylion rhaglenni twf lleol a ffyniant bro eraill sy’n cyflawni yn eu hardal, yn enwedig os yw’r rhain yn gorgyffwrdd â blaenoriaethau buddsoddi UKSPF a/neu yn cael eu defnyddio fel cyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau UKSPF.
  • Gwybodaeth bersonol am fuddiolwyr UKSPF at ddibenion paru data, os na chawsant eu darparu eisoes i gefnogi’r gwerthusiad lefel ymyrraeth.

4.20 Byddwn yn cysylltu â lleoedd yn uniongyrchol yn dilyn y cam hyfywedd i’w gwahodd yn ffurfiol i gymryd rhan mewn astudiaethau achos ac, wrth wneud hynny, byddwn yn cadarnhau a oes angen iddynt ddechrau casglu unrhyw ddata ychwanegol. Os cânt eu dewis, caiff awdurdodau lleol arweiniol eu hannog i gymryd rhan; bydd yr astudiaethau achos yn benodol yn darparu cyfoeth o arfer da a gwersi ar gyfer cyflwyno cyllid yn y dyfodol a fydd yn arbennig o berthnasol a defnyddio’r i’r awdurdodau lleol arweiniol hynny sy’n cymryd rhan.

Gwerthuso’r rhaglen

4.21 Ar gyfer gwerthuso ar lefel rhaglen, disgwyliwn y bydd mwyafrif y data mewnbynnu naill ai ar gael yn gyhoeddus, yn cael ei gasglu o adrannau eraill y Llywodraeth, neu’n cael ei gasglu trwy sianeli adrodd ehangach y mae awdurdodau lleol arweiniol eisoes yn eu defnyddio.

4.22 Fodd bynnag, wrth i’r model atchwel sydd wrth wraidd y gwerthusiad lefel rhaglen gael ei ddatblygu ymhellach, gall fod angen cynnwys ffynonellau data ychwanegol fel:

  • Dangosyddion economaidd a chymdeithasol ychwanegol ar lefel lle, y tu hwnt i’r rhai a gesglir yn ganolog gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Manylion pellach am wariant a ariennir gan awdurdodau lleol arweiniol ar brosiectau cyffiniol UKSPF
  • Manylion pellach am gyllidebau a ffynonellau cyllido ehangach awdurdodau lleol arweiniol

4.23 Bydd y gwerthusiad lefel rhaglen yn dilyn amserlenni ychydig yn arafach na gweddill yr elfennau, yn unol â’r cyfnodau angenrheidiol ychydig yn hwy i weld effeithiau lefel rhaglen. Cysylltir yn uniongyrchol ag awdurdodau lleol arweiniol yn dilyn gwaith hyfywedd pellach gyda manylion am unrhyw ofynion casglu data ychwanegol. Yn y cyfamser, ni fydd disgwyl i leoedd gasglu data penodol i werthusiad rhaglen ymlaen llaw.

Gwerthusiad o Multiply

4.24 Mae Multiply yn rhaglen rhifedd 3 blynedd newydd i oedolion sy’n werth £559m, sy’n rhan o UKSPF. Rhan graidd o’r rhaglen yw adeiladu’r sail dystiolaeth am ‘beth sy’n gweithio’ wrth wella rhifedd oedolion.

4.25 Yn yr Alban a Chymru, yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yw’r adran gyflawni gyfrifol; bydd y cyflawni’n defnyddio’r un strwythurau daearyddol â Chronfa Ffyniant Gyffredin graidd y DU.

4.26 Yr Adran Addysg yw’r brif adran ar gyfer cyflawni Multiply yn Lloegr ynghyd â rhaglen y DU gyfan ar gyfer gwerthuso Multiply yn Lloegr. Lle y bo’n bosibl, byddwn yn gweithio gyda’r Adran Addysg i gysoni’r dull gwerthuso yn yr Alban a Chymru â’r dull gwerthuso yn Lloegr, gan gydnabod y seilweithiau sgiliau gwahanol mewn gwledydd gwahanol.

4.27 Bydd yr Adran Addysg a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweithio gydag awdurdodau lleol arweiniol i brofi a mireinio’r cynllun gwerthuso ar gyfer Multiply trwy gyfres o drafodaethau bwrdd crwn yn ystod y cam hyfywedd, a bydd yr Adran Addysg yn paratoi ac yn lledaenu diweddariadau ymchwil yn rheolaidd i awdurdodau lleol arweiniol wrth i waith maes ddechrau i’w hysbysu am weithgarwch gwerthuso sydd ar ddod. Bydd gan awdurdodau lleol arweiniol nifer o gyfleoedd i adolygu canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg fel y’u cofnodir trwy gydol y cylch gwerthuso, yn gymesur â’u lefel cyfranogiad yng ngwahanol ffrydiau’r gwerthusiad.

4.28 Fel rhanddeiliaid cyflawni allweddol, gellid gofyn i awdurdodau lleol arweiniol gymryd rhan yng ngwerthusiad Multiply trwy:

  • gymryd rhan mewn arolygon mewn astudiaethau achos i geisio barn am fodel cyflawni Multiply, rhwystrau rhag gweithredu, a’r amgyffrediad o’r effeithiau
  • helpu i drefnu grwpiau ffocws, cyfweliadau ac ymweliadau safle.
  • Ymgysylltu â chyfranogwyr a rhanddeiliaid i gynorthwyo â chasglu data, lledaenu allbynnau gwerthuso, a cheisio adborth ar gynllun gwerthuso trwy gydol y cam hyfywedd

4.29 Rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol yng Nghymru a’r Alban sicrhau bod contractwyr trydydd parti yn casglu gwybodaeth am nifer yr unigolion sy’n cymryd rhan mewn unrhyw ymyrraeth Multiply sylweddol. Nid oes disgwyl i awdurdodau lleol arweiniol gasglu data personol gan y bobl sy’n cymryd rhan yn rhaglenni Multiply oni bai bod ei angen at eu dibenion monitro a gwerthuso eu hunain.

Gwybodaeth bellach am werthuso

4.30 Bydd cyfraniadau gan awdurdodau lleol arweiniol sy’n cael eu gwahodd i ymgysylltu â’r gweithgareddau gwerthuso yn y Strategaeth Werthuso yn gymesur a dylid eu hariannu o’u cyllidebau gweinyddu eu hunain, oni ddatgenir yn wahanol yn y Strategaeth Werthuso. Mae’r amlinelliad o’r mathau o weithgarwch gwerthuso wedi’u disgrifio yn adran 4.6.

4.31 Caiff lleoedd eu hannog i ymgymryd â’u gwerthusiadau ar sail lle eu hunain o’r modd y mae’r UKSPF wedi gweithio yn eu hardal, yn enwedig gwerthusiad o broses mewn prosiectau unigol, ochr yn ochr â’r astudiaethau achos seiliedig ar le a gomisiynwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (gweler adran 4.14). Gallai dulliau arfaethedig gynnwys mesur allbynnau, dadansoddi cyfraniadau, datblygu astudiaethau achos, cynnal arolygon a chyfweliadau gyda rhanddeiliaid a buddiolwyr. Yn unol ag adran 3, mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi gofyn am gael gwybod pryd mae hyn yn digwydd trwy adrodd rheolaidd.

4.32 Nid oes angen i awdurdodau lleol arweiniol ddweud wrthym beth fydd eu strategaeth werthuso leol fel rhan o’u cynllun buddsoddi [ond bydd yn llunio rhan o’r adrodd blynyddol].

4.33 Gall yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ymwneud â CThEF a’r Adran Gwaith a Phensiynau, yn enwedig ynghylch blaenoriaethau buddsoddi pobl a sgiliau a chynorthwyo busnesau lleol. Yn yr un modd â’r Adran Addysg, bydd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a threfniant priodol ar gyfer rhannu data yn cael eu datblygu.

4.34 Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Swyddog Diogelu Data’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a byddwn yn adolygu’r trefniadau hyn i sicrhau cydymffurfiad parhaus â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data.

4.35 Fel y bo’r gofyn, bydd trefniadau priodol i awdurdodau lleol arweiniol rannu data gyda’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cael eu datblygu a’u hamlinellu, gan gynnwys hysbysiadau preifatrwydd, lle y bo’n briodol.

Cyhoeddwyd ar 19 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 March 2023 + show all updates
  1. Greater detail and clarification provided in line with the UKSPF Evaluation Strategy published at the same time as this update. Clarification on what DLUHC expects from LLAs with respect to collection of additional data for evaluation purposes.

  2. Welsh added

  3. Added translation