Ystadegau Swyddogol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ionawr 2018

Cyhoeddwyd 20 March 2018

Applies to Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2018

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£153,034

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

4.5%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

-0.5%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

112.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Y dyddiad cyhoeddi nesaf

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU: Dydd Mercher 18 Ebrill 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Newid mewn prisiau

2.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years (Welsh)

Yng Nghymru cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.5% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2018 (i lawr o 5% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anghysondeb yn y gyfres. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer anghysondeb, gall y newid mewn prisiau ar y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo mewn unrhyw gyfnod arbennig.

Awdurdodau lleol Ionawr 2018 Ionawr 2017 Gwahaniaeth
Abertawe £142,592 £138,422 3%
Blaenau Gwent £83,078 £80,509 3.2%
Bro Morgannwg £217,955 £204,558 6.5%
Caerdydd £200,082 £190,244 5.2%
Caerffili £128,127 £118,932 7.7%
Casnewydd £165,013 £154,378 6.9%
Castell-nedd Port Talbot £111,418 £106,283 4.8%
Ceredigion £179,419 £170,682 5.1%
Conwy £158,474 £148,456 6.7%
Gwynedd £148,891 £145,362 2.4%
Merthyr Tudful £96,947 £96,321 0.7%
Pen-y-bont ar Ogwr £148,951 £138,965 7.2%
Powys £179,789 £172,568 4.2%
Rhondda Cynon Taf £103,588 £100,841 2.7%
Sir Benfro £166,374 £163,386 1.8%
Sir Ddinbych £145,712 £143,342 1.7%
Sir Fynwy £245,080 £225,548 8.7%
Sir y Fflint £167,673 £158,629 5.7%
Sir Gaerfyrddin £140,271 £134,166 4.6%
Tor-faen £129,710 £127,495 1.7%
Wrecsam £153,384 £154,993 -1%
Ynys Môn £178,247 £157,541 13.1%
Cymru £153,034 £146,395 4.5%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales (Welsh)

Yn Ionawr 2018, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £245,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £83,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ionawr 2018 Ionawr 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £232,526 £221,555 5.0%
Tŷ pâr £148,715 £140,503 5.8%
Tŷ teras £116,573 £113,087 3.1%
Fflat neu fflat deulawr £110,479 £105,921 4.3%
Holl £153,034 £146,395 4.5%

3. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Tachwedd 2017 Tachwedd 2016 Gwahaniaeth
Abertawe 297 304 -2.3%
Blaenau Gwent 96 69 39.1%
Bro Morgannwg 172 214 -19.6%
Caerdydd 411 442 -7.0%
Caerffili 214 223 -4.0%
Casnewydd 221 254 -13.0%
Castell-nedd Port Talbot 182 184 -1.1%
Ceredigion 90 63 42.9%
Conwy 208 190 9.5%
Gwynedd 140 151 -7.3%
Merthyr Tudful 69 69 0.0%
Pen-y-bont ar Ogwr 146 196 -25.5%
Powys 152 159 -4.4%
Rhondda Cynon Taf 299 290 3.1%
Sir Benfro 153 167 -8.4%
Sir Ddinbych 135 129 4.7%
Sir Gaerfyrddin 228 270 -15.6%
Sir Fynwy 107 129 -17.1%
Sir y Fflint 184 232 -20.7%
Tor-faen 87 127 -31.5%
Wrecsam 155 146 6.2%
Ynys Môn 92 75 22.7%
Cymru 3,871 4,084 -5.2%

3.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Tachwedd 2013 4,070
Tachwedd 2014 3,613
Tachwedd 2015 4,064
Tachwedd 2016 4,084
Tachwedd 2017 3,871

4. Statws eiddo

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2017 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £216,604 3.3% 14.4%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £149,835 -0.9% 4.3%

Sylwer: ar gyfer y datganiad hwn, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.

5. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £131,595 -0.9% 4.0%
Cyn berchen-feddiannydd £178,201 0.0% 5.1%

Sylwer: ar gyfer y datganiad hwn, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.

6. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Ionawr 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £148,756 -0.7% 4.3%
Morgais £155,572 -0.3% 4.6%

7. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Tachwedd 2017
Cymru 66

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084.