Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Medi 2016

Cyhoeddwyd 15 November 2016

1. Prif ystadegau

Ar gyfer Medi 2016:

  • pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £217,888
  • y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 7.7%
  • y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.2%
  • y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 114.3 (Ionawr 2015 = 100)

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Medi i’r mis hwn fod yn gyfnod cymharol sefydlog. Tyfodd prisiau tai gan 7.7% yn y flwyddyn hyd at Fedi, heb eu newid er Awst. Er bod peth tystiolaeth o ychydig o adfywiad yn y galw yn ystod y mis hwn, parhaodd y dangosyddion galw a chyflenwi rywfaint yn wannach nag yn 2015 a dechrau 2016. Ceir tystiolaeth o amrywiadau rhanbarthol gyda Chrynodeb Asiantau Banc Lloegr yn datgan bod arafu amlwg mewn gweithgarwch yn ardal Llundain, ond bod gweithgarwch yn well mewn mannau eraill yn y DU.

O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) gynnydd cymharol fach yn yr ymholiadau gan brynwyr newydd ar gyfer Medi – y cynnydd cyntaf er Chwefror. Cododd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai gan 3.2% ym Medi hefyd o’i gymharu ag Awst. Fodd bynnag, mae hyn yn dilyn tri mis o ostyngiadau olynol ac mae nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg yn parhau i fod tua’r un lefel ag yr oedd ar ddechrau 2015. Adlewyrchir hyn yn y data ar gyfer gwerthiannau tai yn y DU a gwympodd gan 4.3% rhwng Awst a Medi, gyda lefelau’n parhau i fod yn is nag yn 2014, 2015 a chyn y newidiadau i’r doll stamp ar ddechrau 2016.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS hefyd fod rhestriadau gwerthiannau newydd wedi cwympo unwaith eto ym Medi o’i gymharu ag Awst, gan barhau â’r duedd a welwyd dros y saith mis diwethaf. Nododd cyhoeddiad diweddaraf Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu y Swyddfa Ystadegau Gwladol ostyngiad misol o 1.3% yn allbwn tai a adeiledir o’r newydd yn Awst, er bod allbwn tai a adeiledir o’r newydd yn parhau 8.0% yn uwch o’i gymharu ag Awst 2015.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

annual price WELSH

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £146,388 0.2% 4.4%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2016) £124,093 0.8% 5.4%
Lloegr £234,250 0.2% 8.3%
Yr Alban £143,006 0.2% 3.4%
De Ddwyrain Lloegr £312,609 -0.9% 9.9%
De Orllewin Lloegr £241,262 0.6% 7.5%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £175,441 0.7% 8.2%
Dwyrain Lloegr £277,248 0.7% 12.1%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £180,551 0.3% 7.7%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £125,213 -1.9% 1.5%
Gogledd Orllewin Lloegr £150,845 0.2% 5.7%
Llundain £487,649 1.4% 10.9%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £151,399 -0.4% 4.7%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

heat map Welsh

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Medi 2016 Medi 2015 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £331,378 £306,359 8.2%
Tŷ pâr £204,364 £189,114 8.1%
Tŷ teras £175,394 £164,097 6.9%
Fflat neu fflat deulawr £196,653 £182,638 7.7%
Holl £217,888 £202,389 7.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Gorffennaf 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Gorffennaf 2016 Gorffennaf 2015 Gwahaniaeth
Lloegr 66,870 93,040 -28.1%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2016) 5,200 5,820 -10.7%
Yr Alban 9,108 10,021 -9.1%
Cymru 3,525 4,603 -23.4%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Gorffennaf 2016

sales volumes WELSH

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £286,092 3.2% 20.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £213,385 -0.1% 6.7%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £183,385 0.0% 7.5%
Cyn berchen-feddiannydd £253,086 0.3% 7.9%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £206,922 0.1% 6.9%
Morgais £227,602 0.2% 8.1%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035