Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Hydref 2016

Cyhoeddwyd 13 December 2016

1. Prif ystadegau

Ar gyfer Hydref 2016:

  • pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £216,674
  • y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 6.9%
  • y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.1%
  • y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 113.6 (Ionawr 2015 = 100)

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Hydref iddo fod yn gyfnod o alw cynyddol cymharol fach a thwf cyson yn lefelau prisiau. Tyfodd prisiau tai gan 6.9% yn y flwyddyn hyd at Hydref, sef 0.1 pwynt canran yn is nag ym Medi. Yn ôl crynodeb Asiantau Banc Lloegr o amodau busnes, ar gyfer Medi a Hydref 2016 ceir tystiolaeth o adfywiad yn y farchnad dai ers y gwendid a welwyd yn union ar ôl y refferendwm. Roedd graddfa’r adfywiad yn amrywio ar draws ardaloedd a bandiau pris.

Gellir gweld yr amrywiad ar draws ardaloedd o fewn y mynegai prisiau tai ar lefel ranbarthol. Er enghraifft, mae’r twf yn Nwyrain Lloegr wedi parhau i fod yn gryf, gan gwympo ychydig o 14.9% i 12.3% o dwf blynyddol rhwng Mehefin 2016 a Hydref 2016. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â Llundain a welodd arafu mwy amlwg, gan gwympo o 13.8% i 7.7% o dwf blynyddol dros yr un cyfnod.

O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) gynnydd cymharol fach yn yr ymholiadau gan brynwyr newydd ar gyfer Hydref. Yn ôl Banc Lloegr, cynyddodd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai gan 6.2% o Fedi i Hydref 2016, er bod hyn yn parhau i fod 3.3% yn is na Hydref 2015. Cynyddodd gwerthiannau tai yn y DU gan 1.0% rhwng Medi a Hydref 2016 yn ôl Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. O’i gymharu â Hydref 2015 mae lefel y gwerthiannau tai yn Hydref 2016 8.0% yn is.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS ostyngiad yn rhestriadau gwerthiannau newydd yn Hydref 2016 o’i gymharu â Medi 2016. Nododd adroddiad Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu y Swyddfa Ystadegau Gwladol nad oedd newid yng nghyfanswm y tai newydd o’i gymharu â’r ail a’r trydydd chwarter, ond mae cyfanswm y tai newydd 8.7% yn uwch nag yn nhrydydd chwarter 2015.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past five yearsWelsh

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £147,065 1.0% 4.4%
Gogledd Iwerddon £124,093 0.8% 5.4%
Lloegr £232,655 -0.1% 7.4%
Yr Alban £143,131 0.8% 4.0%
De Ddwyrain Lloegr £312,509 0.5% 9.1%
De Orllewin Lloegr £240,322 0.2% 7.2%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £176,084 1.0% 7.5%
Dwyrain Lloegr £279,148 1.3% 12.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £177,937 -0.7% 6.2%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £124,749 -1.3% 2.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £148,586 -1.2% 4.6%
Llundain £474,475 -1.2% 7.7%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £150,401 -0.2% 4.2%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office regionWELSH

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Hydref 2016 Hydref 2015 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £330,473 £305,634 8.1%
Tŷ pâr £203,588 £190,127 7.1%
Tŷ teras £173,515 £164,699 5.4%
Fflat neu fflat deulawr £195,945 £182,107 7.6%
Holl £216,674 £202,663 6.9%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Awst 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Awst 2016 Awst 2015 Gwahaniaeth
Lloegr 67,396 84,565 -20.3%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2016) 5,200 5,820 -10.7%
Yr Alban 8,468 8,715 -2.8%
Cymru 3,558 4,025 -11.6%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Awst 2016

Sales volumes for 2012 to 2016 by country: August 2016WELSH

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £307,983 11.1% 28.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £210,917 -0.7% 5.4%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £182,073 -0.2% 6.4%
Cyn berchen-feddiannydd £251,917 0.3% 7.4%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £205,802 -0.1% 6.4%
Morgais £226,274 0.1% 7.2%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035