Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mai 2016

Cyhoeddwyd 19 July 2016

Applies to England

1. Prif ystadegau

Ar gyfer Mai 2016:

  • pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £211,230
  • y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.1%
  • y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.1%
  • y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 110.8 (Ionawr 2015 = 100)

2. Datganiad economaidd

Mae’r pwysau parhaus ar brisiau yn y farchnad dai wedi mynd law yn llaw â dangosyddion galw cryf o’i gymharu â dangosyddion cyflenwi yn y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, yn dilyn cyfraddau uwch o Dreth Tir Toll Stamp a’r Dreth Trafodion Adeiladau ar eiddo ychwanegol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn Ebrill 2016, ceir arwyddion bod gweithgarwch y farchnad dai ym Mai 2016 wedi bod yn llai bywiog o’i gymharu â’r cyfnod cyn y newidiadau.

Mae’n ymddangos bod amseriad y dreth tir toll stamp wedi arafu galw dros y misoedd diwethaf, ond mae hyn yn dilyn cyfnod estynedig o gynnydd mewn gweithgarwch. Yn dilyn gostyngiad o 6.2% ar y mis yn Ebrill 2016, gwelwyd ychydig o adferiad yn nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai, gan 1.3% ym Mai. Fodd bynnag, mae cymeradwyaethau misol yn parhau i fod yn is na’r lefelau a welwyd yn y 10 mis cyn y newidiadau i’r doll stamp. Yn dilyn cynnydd cryf mewn gwerthiannau yn y mis cyn y newidiadau i’r doll stamp (Mawrth 2016), cwympodd gwerthiannau tai y DU gan 42.3% yn Ebrill 2016 i’w lefel isaf er Mai 2013; dim ond ychydig o adferiad a welwyd ym Mai 2016. Mae data Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) hefyd yn awgrymu y lleihaodd y galw gan brynwyr am yr ail fis yn olynol ym Mai 2016, gyda’r gyfradd gyflymaf o leihad yn y galw ers canol 2008. Lleihaodd ymholiadau gan brynwyr newydd ar draws y rhan fwyaf o ardaloedd yn y DU gydag amrywiadau rhanbarthol yng nghyflwr y farchnad dai.

Roedd dangosyddion o gyflenwad yn y farchnad dai yn fwy cymysg. Nododd Crynodeb o Amodau Busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer Mai 2016 brinder o gyflenwad tai a adeiledir o’r newydd a marchnad eilaidd. Nododd RICS hefyd fod y cyflenwad cyffredinol, fel y’i mesurir gan gyfarwyddiadau newydd i werthu, wedi lleihau’n gyffredinol ym Mai 2016.

Mewn cyferbyniad, awgrymodd datganiad diweddaraf Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol y cynyddodd allbwn tai a adeiledir o’r newydd gan 3.3% yn y tri mis blaenorol (Chwefror i Ebrill 2016) o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn yn gynharach. Fodd bynnag, gall fod oedi cyn i’r cyflenwad hwn o dai a adeiledir o’r newydd gael effaith ar gyflwr y farchnad dai yn fwy cyffredinol.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

welsh graph

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £142,568 0.9% 3.6%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2016) £117,524 -1.0% 5.9%
Lloegr £226,807 1.0% 8.9%
Yr Alban £141,142 2.8% 4.0%
De Ddwyrain Lloegr £306,037 1.8% 12.9%
De Orllewin Lloegr £231,469 1.3% 7.4%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £170,120 1.6% 7.9%
Dwyrain Lloegr £265,156 1.4% 12.8%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £173,566 -0.1% 6.7%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £124,466 2.1% 3.2%
Gogledd Orllewin Lloegr £145,730 -0.3% 4.3%
Llundain £472,163 1.5% 13.6%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £147,044 -0.2% 3.8%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

heat map

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mai 2016 Mai 2015 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £313,413 £292,765 7.1%
Tŷ pâr £198,115 £183,485 8.0%
Tŷ teras £172,084 £158,540 8.5%
Fflat neu fflat deulawr £192,999 £176,819 9.2%
Holl £211,230 £195,313 8.1%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Mawrth 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mawrth 2016 Mawrth 2015 Gwahaniaeth
Cymru 5,002 3,358 49.0%
Gogledd Iwerddon 5,272 4,555 15.7%
Lloegr 102,597 67,489 52.0%
Yr Alban 11,017 7,576 45.4%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Mawrth 2016

graph welsh 2

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws Eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £270,178 9.0% 16.4%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £207,281 0.6% 7.5%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer adeiladau newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £178,923 1.2% 8.3%
Cyn berchen-feddiannydd £244,413 1.1% 8.2%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £200,699 1.1% 7.4%
Morgais £220,765 1.2% 8.7%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035