Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mehefin 2017

Cyhoeddwyd 15 August 2017

1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2017

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£223,257

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

4.9%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.8%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

117.1

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 4.9% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2017, sef 0.1 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn hyd at Fai 2017. Er bod y gyfradd twf flynyddol wedi arafu ers canol 2016 mae wedi parhau tua 5% yn ystod 2017.

O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mehefin 2017 fod disgwyliadau pris yn parhau fymryn yn gadarnhaol tra bo ymholiadau gan brynwyr newydd wedi lleihau dros y mis.

Dangosodd ystadegau Trafodion Eiddo y DU fod nifer y trafodion eiddo wedi’u haddasu’n dymhorol a gwblhawyd yn y DU gyda gwerth o £40,000 neu ragor wedi cynyddu gan 1.0% ym Mehefin 2017 o’i gymharu â Mehefin 2016. O gymharu Mehefin 2017 â Mai 2017, cwympodd trafodion eiddo gan 3.3%.

Gan edrych yn fwy manwl ar lefel ranbarthol y DU, roedd y twf mwyaf mewn prisiau tai yn Nwyrain Lloegr (7.2%) ac roedd y twf lleiaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr (2.5%) yn y 12 mis hyd at Fehefin 2017. Gwelwyd y twf blynyddol lleiaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr am y 15 mis diwethaf, a gwelwyd y twf blynyddol cyflymaf yn Nwyrain Lloegr am y 14 mis diweddaf ar draws rhanbarthau Lloegr.

Yn ôl crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer ail chwarter 2017, roedd gweithgarwch wedi tawelu yn y farchnad dai yn y rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig wrth i’r galw leihau o’i gymharu â’r cyflenwad.

Ar yr ochr gyflenwi nododd RICS fod cyfarwyddiadau gwerthu newydd wedi parhau’n negyddol am yr unfed mis ar bymtheg yn olynol. Nodwyd hefyd bod lefelau stoc asiantau tai cyfartalog wedi cyrraedd eu lefelau isaf erioed gyda diffyg cyflenwad yn parhau i gynnal prisiau.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

welsh Annual price change for UK by country over the past five years

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.9% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2017 (bron yn ddigyfnewid o’r 5.0% a welwyd yn y flwyddyn hyd at Fai 2017).

Daeth y prif gyfraniad at y cynnydd mewn prisiau tai y DU o Loegr, lle y cynyddodd prisiau gan 5.2% dros y flwyddyn hyd at Fehefin 2017.

Gwelwyd cynnydd mewn prisiau tai yng Nghymru hefyd gan 3.6% dros y 12 mis diwethaf. Yn yr Alban, cynyddodd y pris cyfartalog gan 2.9% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.4% dros y flwyddyn i Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2017.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £151,672 2.9% 3.6%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2017) £128,650 3.1% 4.4%
Lloegr £240,325 0.8% 5.2%
Yr Alban £144,253 0.1% 2.9%
De Ddwyrain Lloegr £320,168 0.6% 4.9%
De Orllewin Lloegr £246,159 0.7% 5.3%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £182,166 1.0% 7.1%
Dwyrain Lloegr £286,623 0.3% 7.2%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £185,082 0.5% 4.7%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £130,065 1.9% 2.5%
Gogledd Orllewin Lloegr £156,392 1.9% 5.5%
Llundain £481,556 -0.7% 2.9%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £157,762 2.2% 4.9%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

welsh Price changes by country and government office region

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mehefin 2017 Mehefin 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £334,276 £319,683 4.6%
Tŷ pâr £209,356 £199,148 5.1%
Tŷ teras £181,049 £173,343 4.4%
Fflat neu fflat deulawr £203,089 £192,478 5.5%
Holl £223,257 £212,887 4.9%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Ebrill 2017

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Ebrill 2017 Ebrill 2016 Gwahaniaeth
Lloegr 53,410 52,590 1.6%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2017) 5,106 4,865 5.0%
Yr Alban 7,908 6,820 16.0%
Cymru 3,101 2,822 9.9%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Ebrill 2017

welsh Sales volumes for 2013 to 2017 by country

Yn Ebrill 2017 cynyddodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 3.8% o’i gymharu ag Ebrill 2016. Fodd bynnag, roedd lefel is o drafodion yn Ebrill 2016 yn gysylltiedig â chyflwyno’r gyfradd treth uwch ar eiddo ychwanegol o 1 Ebrill 2016.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £296,917 -0.9% 15.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £218,5571 1.0% 4.1%

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £188,947 1.0% 4.9%
Cyn berchen-feddiannydd £258,417 0.7% 5.0%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £212,925 1.1% 5.1%
Morgais £232,911 0.8% 4.9%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387