Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mehefin 2016

Cyhoeddwyd 16 August 2016

1. Prif ystadegau

Ar gyfer Mehefin 2016:

  • pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £213,927
  • y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.7%
  • y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.0%
  • y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 112.2 (Ionawr 2015 = 100)

2. Datganiad economaidd

Mae pwysau parhaus ar brisiau yn y farchnad dai yn adlewyrchu galw cryfach o’i gymharu â chyflenwad yn y farchnad dai. Fodd bynnag, ceir arwyddion hefyd bod pwysau yn y farchnad dai wedi lleihau’n ddiweddar, gyda gostyngiadau yn y galw a’r cyflenwad.

Mae sawl dangosydd yn awgrymu bod y galw am dai wedi arafu dros y misoedd diwethaf. Parhaodd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai i ostwng ym Mehefin 2016 – gan 2.9% o’i gymharu â’r mis blaenorol. Fodd bynnag, mae cymeradwyaethau misol yn parhau i fod yn is na’r lefelau a welwyd yn y 10 mis cyn y newidiadau i’r doll stamp yn Ebrill 2016. Yn dilyn cynnydd cryf mewn gwerthiannau ym Mawrth, cwympodd gwerthiannau tai y DU gan 55.4% yn Ebrill 2016, gan adfer ychydig ym Mai a Mehefin 2016. Mae data Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn awgrymu y lleihaodd y galw gan brynwyr am y trydydd mis yn olynol, gan gyrraedd ei lefel isaf ers canol 2008. Lleihaodd ymholiadau gan brynwyr newydd ar draws y rhan fwyaf o ardaloedd yn y DU, gyda’r lleihad mwyaf amlwg i’w weld yn rhannau mwy deheuol Lloegr.

Ceir arwyddion bod gweithgarwch y farchnad dai wedi arafu dros y misoedd diwethaf. Nododd RICS fod y cyflenwad cyffredinol, fel y’i mesurir gan gyfarwyddiadau newydd i werthu, wedi parhau i leihau ym Mehefin 2016 ym mhob ardal ac eithrio Gogledd Iwerddon. Mewn cyferbyniad, awgrymodd datganiad diweddaraf Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu’r Swyddfa Ystadegau Gwladoly cynyddodd allbwn tai a adeiledir o’r newydd gan 1.8% yn y tri mis blaenorol (Mawrth i Fai 2016) o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn yn gynharach. Adlewyrchir yr arwyddion hyn o leihad yn y galw a’r cyflenwad ym mesurau sefydliadau eraill o weithgarwch cyffredinol yn y farchnad dai. Nododd Crynodeb Asiantau Banc Lloegr ar gyfer Chwarter 2 2016 fod gweithgarwch yn y farchnad dai yn llai bywiog yn Ebrill a Mai yn dilyn cynnydd mewn trafodion tai yn Ionawr i Fawrth, tra bo RICS wedi nodi gostyngiad am y trydydd mis yn olynol yng ngweithgarwch cyffredinol y farchnad dai ym Mehefin 2016.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

welsh Annual price change for UK by country over the past five years

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £145,238 1.2% 4.9%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2016) £123,241 3.8% 7.8%
Lloegr £229,383 0.8% 9.3%
Yr Alban £143,282 2.7% 4.6%
De Ddwyrain Lloegr £309,149 1.5% 12.3%
De Orllewin Lloegr £234,987 1.0% 8.0%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £171,462 1.3% 7.9%
Dwyrain Lloegr £270,029 1.3% 14.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £174,998 -0.2% 6.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £124,470 -0.2% 1.5%
Gogledd Orllewin Lloegr £148,320 0.4% 6.6%
Llundain £472,204 0.2% 12.6%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £149,706 1.2% 5.5%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Welsh Annual price change for UK by country over the past five years

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mehefin 2016 Mehefin 2015 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £318,945 £295,273 8.0%
Tŷ pâr £200,789 £185,011 8.5%
Tŷ teras £174,495 £160,538 8.7%
Fflat neu fflat deulawr £193,758 £176,467 9.8%
Holl £213,927 £196,802 8.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Ebrill 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Ebrill 2016 Ebrill 2015 Gwahaniaeth
Cymru 2,394 3,237 -26.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2016) 4,075 5,200 -21.6%
Lloegr 42,938 64,467 -33.4%
Yr Alban 6,665 7,936 -16.0%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Ebrill 2016

welsh Sales volumes for 2012 to 2016 by country

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £249,976 -4.2% 8.8%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £211,992 1.7% 9.0%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer adeiladau newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn. Mae cyfartaledd symudol tri mis wedi cael ei gymhwyso i’r amcangyfrif diweddaraf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd i ddileu peth o’r ansicrwydd hwn.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £180,677 0.7% 8.6%
Cyn berchen-feddiannydd £247,736 1.2% 8.8%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £203,639 1.2% 8.2%
Morgais £223,126 0.9% 9.0%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035