Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ionawr 2018

Cyhoeddwyd 20 March 2018

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2018

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£225,621

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

4.9%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-0.3%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

118.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Y dyddiad cyhoeddi nesaf

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU: Dydd Mercher 18 Ebrill 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 4.9% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2018, i lawr o 5% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017.

Gan edrych ar y galw am dai, nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU ar gyfer Ionawr 2018 Sefydliad y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ei gyfres ymholiadau gan brynwyr newydd wedi gostwng am y 10fed mis yn olynol, gyda gweddill net o -11% o ymatebwyr yn nodi lleihad yn y galw.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ionawr 2018 fod nifer y trafodion wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy wedi gostwng gan 0.1% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2018. Rhwng Rhagfyr 2017 ac Ionawr 2018, cynyddodd trafodion gan 1.3%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd (PDF, 517KB) Banc Lloegr y cafodd 67,000 o forgeisiau wedi eu haddasu’n dymhorol eu cymeradwyo yn Ionawr 2018. Mae hyn yn gynnydd o 6,000 ers y mis blaenorol a’r nifer fwyaf er Gorffennaf 2017. Ystyrir bod nifer y morgeisiau a gafodd eu cymeradwyo yn brif ddangosydd nifer y trafodion.

Nododd crynodeb o amodau busnes (PDF, 485KB) Asiantau Banc Lloegr na fu llawer o weithgarwch yn y cyfnod rhwng diwedd Tachwedd 2017 a chanol Ionawr 2018, gan adlewyrchu cyflenwad a galw gwan. Nodwyd bod y galw am dai yn arbennig o wan ar bennau uwch y marchnadoedd yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod y gweddill net ar gyfer cyfarwyddiadau newydd ar ei lefel wannaf er Mai 2017. Mae stociau cyfartalog fesul gwerthwr tai yn parhau i ddirywio. Mae’r disgwyliadau o ran gwerthiannau a phrisiau yn wastad yn y dyfodol agos, er bod rhywfaint o optimistiaeth yn y rhagolygon tymor hwy.

Gan edrych ar lefel gwlad a lefel ranbarthol, cofnodwyd y twf mwyaf mewn prisiau blynyddol yn yr Alban a Dwyrain Canolbarth Lloegr ar 7.3%. Roedd y twf blynyddol lleiaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.7% dros y flwyddyn, wedi ei ddilyn gan Lundain ar 2.1%. Dyma’r 14eg mis yn olynol i’r twf blynyddol yn Llundain barhau’n is na chyfartaledd y DU.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past 5 years (Welsh)

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.9% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2018 (i lawr o 5% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2017).

Cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn yr Alban, lle y cynyddodd prisiau tai gan 7.3% dros y flwyddyn hyd at Ionawr 2018.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 4.5% dros y 12 mis diwethaf.

Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.6% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.3% dros y flwyddyn hyd at chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2017.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £153,034 -0.5% 4.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2017) £130,482 1.0% 4.3%
Lloegr £242,286 -0.5% 4.6%
Yr Alban £148,512 1.4% 7.3%
De Ddwyrain Lloegr £323,435 0.2% 3.4%
De Orllewin Lloegr £255,307 1.4% 6.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £185,568 -0.1% 7.3%
Dwyrain Lloegr £289,729 -0.7% 5.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £187,905 -2.0% 5.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £122,870 -5.5% 0.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £155,788 -1.5% 4.3%
Llundain £485,830 1.0% 2.1%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £156,484 -0.7% 5.1%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region (Welsh)

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ionawr 2018 Ionawr 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £341,478 £325,283 5.0%
Tŷ pâr £212,833 £201,116 5.8%
Tŷ teras £181,256 £173,221 4.6%
Fflat neu fflat deulawr £203,840 £196,008 4.0%
Holl £225,621 £215,084 4.9%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Tachwedd 2017 Tachwedd 2016 Gwahaniaeth
Lloegr 64,454 74,097 -13.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2017) 5,501 6,033 -8.8%
Yr Alban 8,572 8,734 -1.9%
Cymru 3,871 4,084 -5.2%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Tachwedd

Sales volumes for 2013 to 2017 by country: November (Welsh)

Yn Nhachwedd, 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 11.3% o’i gymharu â Thachwedd 2016. O’i gymharu â Hydref 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 6%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Tachwedd 2017 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2017 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein polisi diwygiadau am ragor o wybodaeth.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2017 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £299,808 3.8% 14.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £221,080 -0.1% 4.4%

Sylwer: Er Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn Improvement to the calculation of provisional estimates within the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £189,859 -0.6% 4.6%
Cyn berchen-feddiannydd £262,282 -0.1% 5.1%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Ionawr 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £214,828 -0.4% 4.8%
Morgais £235,448 -0.3% 4.9%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Mae ystadegau’n cael eu hadolygu bob chwarter i gynnwys gwerthiannau a dderbyniwyd ers y cyhoeddiad diwethaf, sef gwerthiannau eiddo newydd sydd wedi eu cynnwys yn Rhestr Brisio GI a gwerthiannau hwyr a adroddir i CThEM. Gwelwyd adolygiad sylweddol i lawr i’r prisiau/mynegai annedd newydd yn Ch3 2017, a oedd yn bennaf oherwydd bod mwy o werthiannau ar gael, ond gwaethygodd oherwydd gwall prosesu mewnol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen 4 o adroddiad ystadegol Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU
0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban
44 (0)131 659 6111 Est. 6387