Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ionawr 2017

Cyhoeddwyd 21 March 2017

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2017

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£218,255

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

6.2%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.8%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

114.5

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Ionawr alw cymharol fach sy’n parhau’n fwy na’r cyflenwad. Tyfodd prisiau tai y DU gan 6.2% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2017, sef 0.5 pwynt canran yn uwch nag yn Rhagfyr 2016. Fodd bynnag mae hyn yn parhau’n is na’r twf blynyddol cyfartalog mewn prisiau tai o 7.4% a welwyd yn 2016.

Nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Ionawr 2017 na fu llawer o newid yn nifer y trafodion ac ymholiadau gan brynwyr newydd rhwng Ionawr 2017 a Rhagfyr 2016. Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS na fu unrhyw welliant yn y rhestriadau cenedlaethol o dai am yr 11fed mis yn olynol. Llundain oedd yr unig ardal lle mae disgwyliadau prisiau yn y dyfodol agos yn negyddol, tra bo disgwyliadau prisiau yn gadarnhaol yn holl ranbarthau eraill y DU.

Dangosodd cymeradwyaethau rhoi benthyg wedi’u gwarantu ar anheddau Banc Lloegr ar gyfer Ionawr 2017 fod nifer y cymeradwyaethau ar gyfer prynu tai wedi gostwng gan 3.9% o’i gymharu ag Ionawr 2016. Fodd bynnag cynyddodd cyfanswm y cymeradwyaethau rhoi benthyg wedi’u gwarantu ar anheddau, sy’n cynnwys ailforgeisio a dibenion eraill, gan 3.2% o Ionawr 2016 i Ionawr 2017. Nododd crynodeb Asiantau (PDF 68KB) Banc Lloegr ar gyfer Chwefror 2017 fod gweithgarwch yn y farchnad dai wedi bod yn araf ar y cyfan, a disgwylir iddo barhau felly dros y flwyddyn nesaf.

Nododd adroddiad Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn Rhagfyr 2016 fod cyfanswm y tai newydd 6.7% yn uwch nag yn Rhagfyr 2015. Ar gyfer y 13 mis o Ragfyr 2015 i Ragfyr 2016 mae cyfradd twf 12 mis cyfanswm y tai newydd wedi bod yn gadarnhaol, fodd bynnag nid ymddengys fod hyn wedi lleddfu’r broblem o fwy o alw am dai na’r cyflenwad.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past five years welsh

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £145,933 -0.6% 4.2%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2016) £125,480 0.6% 5.7%
Lloegr £234,794 0.7% 6.5%
Yr Alban £142,233 2.1% 4.0%
De Ddwyrain Lloegr £319,368 2.4% 8.7%
De Orllewin Lloegr £243,203 1.9% 7.4%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £174,222 -0.4% 5.6%
Dwyrain Lloegr £279,231 0.2% 9.4%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £179,633 0.4% 5.8%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £123,781 -1.5% 2.2%
Gogledd Orllewin Lloegr £149,767 -0.4% 4.6%
Llundain £490,718 3.0% 7.3%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £148,458 -2.6% 2.7%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ionawr 2017 Ionawr 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £332,284 £308,899 7.6%
Tŷ pâr £203,915 £193,042 5.6%
Tŷ teras £174,559 £166,305 5.0%
Fflat neu fflat deulawr £199,706 £186,061 7.3%
Holl £218,255 £205,457 6.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Tachwedd 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Tachwedd 2016 Tachwedd 2015 Gwahaniaeth
Lloegr 62,482 79,243 -21.2%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2016) 5,081 6,163 -17.6%
Yr Alban 8,594 8,877 -3.2%
Cymru 3,582 4,082 -12.2%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Tachwedd 2016

Sales volumes for 2012 to 2016 by country: november 2016 welsh

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £312,561 12.9% 27.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £212,337 -0.1% 4.8%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £183,295 0.4% 5.8%
Cyn berchen-feddiannydd £253,825 1.0% 6.6%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £207,195 0.5% 5.8%
Morgais £227,952 0.9% 6.5%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data, Cofrestri’r Alban

Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387