Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Chwefror 2017

Cyhoeddwyd 11 April 2017

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2017

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£217,502

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

5.8%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.6%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

114.1

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Chwefror fod galw yn lleihau a bod cyflenwad yn parhau i fod yn dynn. Tyfodd prisiau tai y DU gan 5.8% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2017, sef 0.5 pwynt canran yn uwch nag yn Ionawr 2017. Fodd bynnag mae hyn yn dal i fod yn is na’r twf blynyddol cyfartalog mewn prisiau tai o 7.3% a welwyd yn 2016.

O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Chwefror 2017 fod gweithgarwch yn y farchnad dai yn parhau i fod yn araf. Mae nifer y trafodion a’r ymholiadau gan brynwyr newydd wedi aros yn ddigyfnewid yn gyffredinol er Tachwedd 2016. Er gwaethaf hyn, mae RICS yn rhagweld y bydd disgwyliadau prisiau yn parhau i fod yn gadarnhaol, er yn gyson, yn y dyfodol agos.

Mae ffigurau RICS ar gyfer ymholiadau gan brynwyr newydd wedi’u cefnogi gan gymeradwyaethau rhoi benthyg wedi’u gwarantu ar anheddau Banc Lloegr ar gyfer Chwefror 2017, a ddangosodd fod nifer y cymeradwyaethau ar gyfer prynu tai wedi gostwng gan 5.6% o’i gymharu â Chwefror 2016.

Dangosodd ystadegau Trafodion Eiddo y DU fod cyfanswm y trafodion eiddo wedi’u haddasu’n dymhorol a gwblhawyd yn y DU gyda gwerth o £40,000 neu uwch wedi gostwng gan 1.9% yn Chwefror 2017 o’i gymharu â Chwefror 2016. Mae hyn yn gyson â chrynodeb Asiantau (PDF) Banc Lloegr ar gyfer Chwefror 2017 a nododd fod gweithgarwch yn y farchnad dai wedi bod yn araf ar y cyfan, a bod disgwyl iddo barhau felly dros y flwyddyn nesaf.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS na fu unrhyw welliant yn y rhestriadau cenedlaethol o dai am y 12fed mis yn olynol. Nododd RICS fod yr amodau cyflenwi yn dynn ar draws y rhan fwyaf o’r rhanbarthau.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

annual price change in Welsh

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £145,293 -0.9% 1.8%
Gogledd Iwerddon(Chwarter 4 – 2016) £125,480 0.6% 5.7%
Lloegr £234,466 0.8% 6.3%
Yr Alban £138,821 -0.6% 3.1%
De Ddwyrain Lloegr £311,539 -1.0% 5.4%
De Orllewin Lloegr £241,582 0.4% 6.2%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £176,784 2.0% 7.5%
Dwyrain Lloegr £281,665 2.1% 10.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £180,516 1.1% 7.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £123,749 -0.1% 2.2%
Gogledd Orllewin Lloegr £152,618 1.8% 6.7%
Llundain £474,704 -0.9% 3.7%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £152,591 2.5% 5.2%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

welsh Price changes by country and government office region

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Chwefror 2017 Chwefror 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £326,878 £309,557 5.6%
Tŷ pâr £203,515 £192,819 5.5%
Tŷ teras £175,714 £166,935 5.3%
Fflat neu fflat deulawr £198,658 £185,376 7.2%
Holl £217,502 £205,584 5.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Rhagfyr 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Rhagfyr 2016 Rhagfyr 2015 Gwahaniaeth
Cymru 3,845 4,129 -6.9%
Gogledd Iwerddon(Chwarter 4 – 2016) 5,081 6,163 -17.6%
Lloegr 65,064 80,367 -19.0%
Yr Alban 8,361 7,850 6.5%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Rhagfyr 2016

welsh Sales volumes for 2012 to 2016 by country

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £289,682 6.3% 19.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £212,870 0.2% 4.8%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £183,857 0.9% 6.0%
Cyn berchen-feddiannydd £251,575 0.3% 5.6%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £207,871 1.0% 6.1%
Morgais £226,434 0.4% 5.7%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data, Cofrestri’r Alban

Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387