Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Rhagfyr 2016

Cyhoeddwyd 14 February 2017

1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2016

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£219,544

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

7.2%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.4%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

115.2

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Rhagfyr gynnydd cyson mewn prisiau. Tyfodd prisiau tai y DU gan 7.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr, sef 1.1 pwynt canran yn uwch nag yn Nhachwedd. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod yn is na lefel y twf blynyddol a welwyd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn.

Yn ôl crynodeb Asiantau Banc Lloegr o amodau busnes, ar gyfer chwarter olaf 2016 (Hydref i Ragfyr), mae gweithgarwch wedi adfer yn y farchnad dai yn dilyn cyfnod o wendid ym mhob ardal ar wahân i ganol Llundain. Nododd yr adroddiad gystadleuaeth gref yn y farchnad rhoi benthyg morgais sydd efallai’n adlewyrchu’r cyfnod hir cyfredol o gyfraddau llog isel.

O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) gynnydd cymharol fach yn yr ymholiadau gan brynwyr newydd ar gyfer Rhagfyr. Mae’r newid bach hwn wedi’i adlewyrchu hefyd yn ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae’r rhain yn dangos i nifer y gwerthiannau tai yn y DU (wedi’i addasu’n dymhorol) gynyddu gan 0.2% rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2016, ond o’i gymharu â Rhagfyr 2015 cafwyd 8.5% yn llai o werthiannau tai.

Mae Cymeradwyaethau rhoi benthyg wedi’u gwarantu ar anheddau Banc Lloegr yn dangos i gyfanswm y cymeradwyaethau gynyddu 1.6% yn Rhagfyr 2016 o’i gymharu â Thachwedd 2016. Roedd nifer y cymeradwyaethau 3.9% yn uwch yn Rhagfyr 2016 nag yn Rhagfyr 2015.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS na fu unrhyw welliant yn y rhestriadau cenedlaethol am y 10fed mis yn olynol. Tynnodd RICS sylw hefyd at bwysau’r lefelau stoc isel ar weithgarwch prynwyr wrth iddynt ystyried prynu tŷ. Nododd adroddiad Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu y Swyddfa Ystadegau Gwladolyn Nhachwedd 2016 fod cyfanswm y tai newydd 12.7% yn uwch nag yn Nhachwedd 2015. Dangosodd adroddiad Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Tachwedd 2016 i 36.5% yn fwy o dai newydd gael eu hadeiladu yn y cyfnod rhwng Ionawr 2014 a Thachwedd 2016 nag yn y cyfnod rhwng Ionawr 2011 a Thachwedd 2013.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past five years welsh

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £148,177 1.0% 4.7%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2016) £125,480 0.6% 5.7%
Lloegr £236,424 1.6% 7.7%
Yr Alban £141,553 -0.2% 3.5%
De Ddwyrain Lloegr £316,026 1.7% 8.5%
De Orllewin Lloegr £242,808 1.3% 7.0%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £176,790 1.0% 7.1%
Dwyrain Lloegr £281,513 1.9% 11.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £181,328 0.4% 7.1%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £128,631 2.3% 4.1%
Gogledd Orllewin Lloegr £152,259 1.9% 6.6%
Llundain £483,803 1.8% 7.5%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £154,985 2.2% 6.5%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Rhagfyr 2016 Rhagfyr 2015 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £333,441 £309,507 7.7%
Tŷ pâr £206,216 £191,816 7.5%
Tŷ teras £176,571 £166,204 6.2%
Fflat neu fflat deulawr £198,483 £184,519 7.6%
Holl £219,544 £204,839 7.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Hydref 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Hydref 2016 Hydref 2015 Gwahaniaeth
Lloegr 58,853 89,884 -34.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2016) 5,081 6,163 -17.6%
Yr Alban 8,329 9,767 -14.7%
Cymru 3,415 4,610 -25.9%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Hydref 2016

Sales volumes for 2012 to 2016 by country welsh

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £308,767 10.7% 25.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £213,953 0.7% 5.9%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £184,973 1.4% 7.0%
Cyn berchen-feddiannydd £254,924 1.4% 7.4%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £208,731 1.1% 6.8%
Morgais £229,292 1.6% 7.4%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035