Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ebrill 2016

Cyhoeddwyd 14 June 2016

1. Prif ystadegau

Ar gyfer Ebrill 2016:

  • pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £209,054
  • y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.2%
  • y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.6%
  • y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 109.6 (Ionawr 2015 = 100)

2. Datganiad economaidd

Mae’r pwysau parhaus ar brisiau yn y farchnad dai wedi mynd law yn llaw â dangosyddion galw cryf o’i gymharu â dangosyddion cyflenwi yn y misoedd diwethaf. Fodd bynnag, yn dilyn cyfraddau uwch o Dreth Tir Toll Stamp a Threth Trafodion Tir ac Adeiladau ar eiddo ychwanegol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ceir arwyddion bod y farchnad yn arafu yn Ebrill 2016.

Mae’n ymddangos bod amseriad y dreth tir toll stamp wedi arafu galw yn ystod y mis, ond mae hyn yn dilyn cyfnod o gynnydd mewn gweithgarwch. Yn dilyn chwe mis o gynnydd olynol, cwympodd nifer y benthyciadau a gymeradwywyd i brynu tai gan 5.8% yn Ebrill 2016 o’i gymharu â’r mis blaenorol, i’w lefel isaf er Mai 2015. Parhaodd nifer gwerthiannau tai y DU i dyfu yn y tri mis hyd at Ebrill 2016 (Chwefror i Ebrill): gan godi gan 8.3% o’i gymharu â’r tri mis blaenorol (Tachwedd i Ionawr), er i werthiannau ostwng gan 45.2% yn Ebrill 2016 o’i gymharu â Mawrth 2016. Mae data Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) hefyd yn awgrymu y lleihaodd y galw gan brynwyr am y tro cyntaf yn Ebrill 2016 yn dilyn cyfnod o dwf parhaus er Mawrth 2015.

Roedd dangosyddion o gyflenwad yn y farchnad dai yn fwy cymysg. Nododd Crynodeb o Amodau Busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer Mai 2016 brinder o gyflenwad tai marchnad eilaidd, tra nododd RICS i’r cyflenwad cyffredinol (cyfarwyddiadau newydd i werthu) barhau i leihau yn Ebrill. Fodd bynnag, awgrymodd datganiad diweddaraf Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol y cynyddodd allbwn tai a adeiledir o’r newydd gan 3.4% yn y tri mis blaenorol (Ionawr i Fawrth) o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn yn gynharach.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

welsh graph 1

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2016) £117,524 -1.0% 5.9%
Yr Alban £138,445 1.5% 3.3%
Cymru £139,385 -1.9% 1.7%
Lloegr £224,731 0.7% 9.1%
Gogledd Orllewin Lloegr £145,149 2.3% 5.8%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £167,762 1.6% 7.8%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £146,712 1.6% 6.0%
Dwyrain Lloegr £263,420 1.2% 13.6%
De Ddwyrain Lloegr £301,689 0.3% 12.3%
De Orllewin Lloegr £227,404 -2.8% 6.0%
Llundain £470,025 0.6% 14.5%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £173,321 2.2% 7.1%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £121,719 -0.9% 0.1%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

welsh heat map

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ebrill 2016 Ebrill 2015 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £310,364 £290,900 6.7%
Tŷ pâr £197,168 £181,200 8.8%
Tŷ teras £171,298 £157,103 9.0%
Fflat neu fflat deulawr £187,793 £173,968 8.0%
Holl £209,054 £193,225 8.2%

4.Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1Nifer y gwerthiannau: Chwefror 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Chwefror 2016 Chwefror 2015 Gwahaniaeth
Lloegr 56,884 56,261 1.1%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2016) 5,272 4,555 15.7%
Yr Alban 5,507 5,113 7.7%
Cymru 2,796 2,686 4.1%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Chwefror 2016

welsh graph 2

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £254,604 4.6% 10.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £205,914 0.3% 8.0%

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £176,773 0.9% 8.2%
Cyn berchen-feddiannydd £242,109 0.4% 8.4%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £198,492 0.0% 7.3%
Morgais £218,490 0.9% 8.8%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai’r DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Mynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Data Services Team Leader, HM Land Registry

E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Telephone 0300 006 5288

Aimee North, Head of Housing Market Indices, Office for National Statistics

E-bost aimee.north@ons.gov.uk

Telephone 01633 456400

Ciara Cunningham, Statistician for the Northern Ireland HPI

E-bost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Telephone 028 90 336035