Policy paper

Cylch Gorchwyl Ymchwiliad COVID-19

Published 28 June 2022

Bydd yr Ymchwiliad yn archwilio, yn ystyried ac yn adrodd ar y paratoadau a’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, hyd at ac yn cynnwys dyddiad sefydlu ffurfiol yr Ymchwiliad, x Mehefin 2022.

Wrth gyflawni ei waith, bydd yr Ymchwiliad yn ystyried materion a gadwyd yn ôl ac a ddatganolwyd ar draws y Deyrnas Unedig, yn ôl yr angen, ond bydd yn ceisio lleihau dyblygu o ran ymchwilio, casglu tystiolaeth ac adrodd gydag unrhyw ymchwiliad cyhoeddus arall a sefydlwyd gan y llywodraethau datganoledig. I gyflawni hyn, bydd yr ymchwiliad yn nodi’n gyhoeddus sut y mae’n bwriadu lleihau dyblygu, a bydd yn cysylltu ag unrhyw ymchwiliad o’r fath cyn iddo ymchwilio i unrhyw fater sydd hefyd o fewn cwmpas yr ymchwiliad hwnnw.

Wrth gyflawni ei nodau, bydd yr Ymchwiliad yn gwneud y canlynol:

a) ystyried unrhyw wahaniaethau sy’n amlwg yn effaith y pandemig ar wahanol gategorïau o bobl, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y rheini sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chategorïau cydraddoldeb o dan Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998;

b) gwrando ar brofiadau teuluoedd mewn profedigaeth ac eraill sydd wedi dioddef caledi neu golled o ganlyniad i’r pandemig, ac ystyried hynny’n ofalus. Er na fydd yr ymchwiliad yn ystyried achosion unigol o niwed neu farwolaeth yn fanwl, bydd gwrando ar y cyfrifon hyn yn sail i’w ddealltwriaeth o effaith y pandemig a’r ymateb, ac o’r gwersi i’w dysgu;

c) tynnu sylw at ba wersi a ganfuwyd yn sgil parodrwydd a’r ymateb i’r pandemig a allai fod yn berthnasol i argyfyngau sifil eraill;

d) rhoi ystyriaeth resymol i gymariaethau rhyngwladol perthnasol; a

e) chynhyrchu ei adroddiadau (gan gynnwys adroddiadau interim) ac unrhyw argymhellion yn brydlon.

Dyma nodau’r Ymchwiliad hwn:

1 Archwilio’r ymateb i COVID-19 ac effaith y pandemig yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a llunio adroddiad naratif ffeithiol, gan gynnwys:

a) Yr ymateb i iechyd y cyhoedd ledled y DU, gan gynnwys

  • parodrwydd a gwytnwch;
  • sut y cafodd penderfyniadau eu gwneud, eu cyfleu, eu cofnodi a’u gweithredu;
  • gwneud penderfyniadau rhwng llywodraethau’r DU;
  • rolau llywodraeth ganolog, gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol a rhanbarthol, a’r sector gwirfoddol a chymunedol, a’r cydweithio rhyngddynt;
  • argaeledd a defnydd data, ymchwil a thystiolaeth arbenigol;
  • rheolaeth a gorfodaeth ddeddfwriaethol a rheoleiddiol;
  • gwarchod a diogelu pobl sy’n agored i niwed yn glinigol;
  • defnyddio’r cyfyngiadau symud ac ymyriadau ‘anfferyllol’ eraill fel cadw pellter cymdeithasol a defnyddio gorchuddion wyneb;
  • profi ac olrhain cysylltiadau, ac ynysu;
  • yr effaith ar iechyd meddwl a lles y boblogaeth, gan gynnwys y rheini a gafodd eu niweidio’n sylweddol gan y pandemig, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny;
  • yr effaith ar iechyd meddwl a lles y rhai sydd mewn profedigaeth, gan gynnwys cymorth ar ôl profedigaeth;
  • yr effaith ar weithwyr y sector iechyd a gofal a gweithwyr allweddol eraill;
  • yr effaith ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys iechyd, lles a gofal cymdeithasol;
  • darpariaeth addysg a blynyddoedd cynnar;
  • cau ac ailagor y sectorau lletygarwch, manwerthu, chwaraeon a hamdden, a theithio a thwristiaeth, addoldai, a sefydliadau diwylliannol;
  • tai a digartrefedd;
  • diogelu a chefnogi dioddefwyr cam-drin domestig;
  • carchardai a mannau cadw eraill;
  • y system gyfiawnder;
  • mewnfudo a lloches;
  • teithio a ffiniau; a
  • diogelu arian cyhoeddus a rheoli risg ariannol.

b) Ymateb y sector iechyd a gofal ledled y DU, gan gynnwys:

  • parodrwydd, capasiti cychwynnol a’r gallu i gynyddu capasiti, a gwytnwch;
  • cyswllt cychwynnol â gwasanaethau cyngor gofal iechyd swyddogol fel 111 a 999;
  • rôl lleoliadau gofal sylfaenol megis Ymarfer Cyffredinol;
  • rheoli’r pandemig mewn ysbytai, gan gynnwys atal a rheoli heintiau, brysbennu, capasiti gofal critigol, rhyddhau cleifion, defnyddio penderfyniadau ‘Na cheiser dadebru cardio-anadlol’ (DNACPR), y dull o ymdrin â gofal lliniarol, profi’r gweithlu, newidiadau i arolygiadau, a’r effaith ar lefelau staffio a staff;
  • rheoli’r pandemig mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal eraill, gan gynnwys atal a rheoli heintiau, trosglwyddo preswylwyr i gartrefi, triniaeth a gofal preswylwyr, cyfyngiadau ar ymweld, profi’r gweithlu a newidiadau i arolygiadau;
  • gofal yn y cartref, gan gynnwys gan ofalwyr di-dâl;
  • gofal cynenedigol ac ôl-enedigol;
  • caffael a dosbarthu cyfarpar a chyflenwadau allweddol, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol ac peiriannau anadlu;
  • datblygiad, darpariaeth ac effaith gwasanaethau therapiwtig a brechlynnau;
  • canlyniadau’r pandemig ar ddarpariaeth ar gyfer cyflyrau ac anghenion nad ydynt yn gysylltiedig â COVID; a
  • ar gyfer y rheini sy’n profi COVID hir.

c) Yr ymateb economaidd i’r pandemig a’i effaith, gan gynnwys ymyriadau llywodraethol drwy:

  • cymorth i fusnesau, swyddi a phobl hunangyflogedig, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, cynlluniau benthyciadau, rhyddhad ardrethi busnes a grantiau;
  • cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus perthnasol;
  • cyllid ychwanegol ar gyfer y sector gwirfoddol a chymunedol; a
  • budd-daliadau a thâl salwch, a chefnogaeth i bobl agored i niwed.

2 Nodi’r gwersi i’w dysgu o’r uchod, er mwyn cyfrannu at y paratoadau ar gyfer pandemigau yn y dyfodol ledled y DU.