Ymddiriedolwyr, masnachu a threth: sut gall elusennau fasnachu’n gyfreithiol
Published 24 February 2016
Applies to England and Wales
1. Cyflwyniad
1.1 Y canllaw hwn
Mae’r canllaw hwn yn esbonio pryd a sut y gall elusennau fasnachu. Mae’n ymwneud yn bennaf â masnachu at ddiben codi arian, yn hytrach na masnachu i gyflawni amcanion yr elusen. Hefyd, mae’n esbonio pryd y dylid sefydlu cwmni masnachu ar wahân i ddelio â gweithgarwch o’r fath. Gellir cael gwybodaeth am godi arian trwy ddulliau heblaw masnachu yng nghanllaw’r Comisiwn Elusennau Elusennau a Chodi Arian (CC20).
Mae’r canllaw presennol hefyd yn cynnwys ychydig o wybodaeth sylfaenol am dreth incwm a threth gorfforaeth ac elw masnachu, oherwydd mae hyn yn ffactor arwyddocaol wrth bennu’r math o strwythurau sefydliadol y dylai elusennau eu mabwysiadu er mwyn masnachu at ddibenion codi arian.
Cewch wybodaeth fanwl am drethu elw masnachu a enillir gan elusennau yn www.hmrc.gov.uk gwefan Cyllid a Thollau EM (‘HMRC’) - gweler y canllaw masnachu a gweithgareddau busnes o fewn y nodiadau canllaw manwl ar gyfer elusennau sy’n delio ag elusennau. Mae’r Comisiwn yn cyfeirio at yr wybodaeth hon drwy gydol y canllaw hwn.
1.2 ‘Rhaid’ a ‘dylai’: beth mae’r Comisiwn yn ei olygu
Yn y canllaw hwn:
- mae ‘rhaid’ yn golygu rhywbeth sy’n ofyniad cyfreithiol neu reoleiddiol neu’n ddyletswydd y mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr gydymffurfio â hi
- mae ‘dylai’ yn golygu rhywbeth sy’n arfer da y mae’r Comisiwn yn disgwyl i ymddiriedolwyr ei dilyn a’i chymhwyso i’w helusen nhw
Bydd dilyn yr arfer da a nodir yn y canllaw hwn yn eich helpu i redeg eich elusen yn effeithiol, osgoi anawsterau a chydymffurfio â’ch dyletswyddau cyfreithiol. Mae elusennau’n amrywio o ran eu maint a’u gweithgareddau. Ystyriwch a phenderfynwch ar y ffordd orau o gymhwyso’r arfer da yma i amgylchiadau eich elusen chi. Mae’r Comisiwn yn disgwyl i chi allu esbonio a chyfiawnhau eich ymagwedd, yn arbennig os ydych chi’n penderfynu peidio â dilyn yr arfer da yn y canllaw hwn.
Mewn rhai achosion ni fyddwch yn gallu cydymffurfio â’ch dyletswyddau cyfreithiol os nad ydych yn dilyn yr arfer da. Er enghraifft:
Eich dyletswydd gyfreithiol | Mae’n hollbwysig eich bod chi’n |
---|---|
Gweithredu er lles gorau eich elusen | Delio â gwrthdaro buddiannau |
Rheoli adnoddau eich elusen mewn modd cyfrifol | Gweithredu rheolaethau ariannol priodol Rheoli risgiau |
Gweithredu gyda gofal a sgil rhesymol | Ceisio cyngor priodol pan fydd ei angen arnoch, er enghraifft, pan fyddwch yn prynu neu’n gwerthu tir, neu’n buddsoddi (mewn rhai achosion mae hyn yn ofyniad cyfreithiol) |
Gall ymddiriedolwyr sy’n torri eu dyletswyddau cyfreithiol fod yn atebol am y canlyniadau sy’n deillio o gamweithredu o’r fath ac am unrhyw golled a ddaw i’r elusen o ganlyniad. Pan fydd y Comisiwn yn ystyried achosion posibl o dor-ymddiriedaeth neu dor-ddyletswydd neu gamymddwyn neu gamreoli arall, gall ystyried tystiolaeth bod yr ymddiriedolwyr wedi rhoi’r elusen, ei hasedau neu ei buddiolwyr mewn perygl o niwed neu risg ormodol drwy beidio â dilyn arfer da.
1.3 Canllawiau blaenorol
Mae’r canllaw hwn yn cymryd lle’r canllaw blaenorol Elusennau a Masnachu (CC35) a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2001. Yn ogystal â chael ei ysgrifennu mewn arddull gliriach, mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor mwy ymarferol ar elusennau sy’n buddsoddi mewn is-gwmnïau masnachu ac yn eu defnyddio, ac mae’n adlewyrchu datblygiadau yn y gyfraith a phrofiad y Comisiwn o gynghori ar y materion.
1.4 Defnyddio’r canllaw hwn
Mae 2 brif ran i’r canllaw hwn. Y cyntaf yw adran 3 sy’n delio â sefyllfa elusennau sy’n ymgymryd â gweithgareddau masnachu eu hunain yn uniongyrchol, neu sy’n ystyried gwneud hynny. Dilynir hyn gan adran 4 sy’n ymwneud ag elusennau sydd wedi sefydlu is-gwmni masnachu neu a all fod angen gwneud hynny.
Rhennir pob rhan yn nifer o adrannau, ac mae pob un yn dechrau gyda chwestiwn, a rhoddir ateb cryno i’r cwestiwn ac yna esboniad mwy manwl.
1.5 Termau a diffiniadau
Mae’r termau canlynol yn cael eu defnyddio trwy’r ddogfen hon, a dylid cymryd bod ganddynt yr ystyron penodol fel y nodir.
Deddf 1988: Deddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988.
Masnachu ategol: masnachu sy’n ategol i brif ddiben elusen, ac sy’n rhan gyfreithiol o ‘fasnachu prif ddiben’ yr elusen.
Cyfnod trethadwy: blwyddyn dreth at ddibenion treth incwm, a chyfnod cyfrifyddu at ddibenion treth gorfforaeth. Mae ymddiriedolwyr ymddiriedolaeth elusennol (yn amodol ar eithriadau elusennau) yn atebol i dalu treth incwm. Mae elusennau corfforedig a sefydliadau anghorfforedig elusennol (yn amodol ar yr eithriadau) yn atebol i dalu treth gorfforaeth.
Gwariant elusennol: fe’i diffinnir yn adran 506 o ddeddf 1988. Mewn gwirionedd, gwariant ar ddibenion elusennol yn unig.
(Y) Comisiwn: y Comisiwn Elusennau.
(Y) Comisiwn Hapchwarae: sefydlwyd y Comisiwn Hapchwarae o dan Ddeddf Hapchwarae 2005. Mae’r Comisiwn wedi cymryd rôl cyn Fwrdd Hapchwarae Prydain Fawr ac yn rheoleiddio casinos, bingo, peiriannau hapchwarae a lotrïau.
Cymorth Rhodd: mae’r cynllun hwn yn rhoi rhyddhad treth i gwmnïau ac unigolion sy’n cyfrannu at elusennau. Os yw rhodd wedi cael ei roi gan unigolyn sy’n talu treth y DU, gall yr elusen hawlio ad-daliad o’r dreth (ac os yw’n atebol i dalu treth cyfradd uwch, mae’r rhoddwr yn cael rhyddhad treth ychwanegol). Os yw cwmni yn gwneud cyfraniad, mae swm y cyfraniad rhodd yn lleihau incwm trethadwy’r cwmni.
Dogfen lywodraethol: unrhyw ddogfen sy’n pennu dibenion yr elusen ac, fel arfer, y dull o’i gweinyddu. Gall fod yn Siartr Frenhinol, yn weithred ymddiriedolaeth, yn gyfansoddiad, yn femorandwm ac erthyglau cymdeithasu, yn ewyllys, yn drawsgludiad neu’n gynllun y Comisiwn.
HMRC: Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol: incwm heb fod yn incwm masnachu elusen sy’n drethadwy, ac nid yw wedi’i gynnwys gan unrhyw un o’r eithriadau treth elusen, neu nid yw wedi’i gynnwys gan unrhyw un o’r eithriadau treth ar wahân i’r eithriad ar raddfa fach.
Elusen gorfforedig: elusen sydd wedi’i sefydlu fel cwmni, Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus, neu fel math arall o gorfforaeth gorfforedig.
Masnachu heb fod yn brif ddiben: masnachu nad yw’n fasnachu prif ddiben. Yn ymarferol bydd yn golygu bod masnachu’n mynd rhagddo gyda’r prif neu’r unig nod o godi arian i’r elusen.
Gwariant anelusennol: gwariant gan elusen nad yw’n wariant elusennol o fewn ystyr adran 506 o ddeddf 1988, h.y. nid yw’n wariant at ddibenion elusennol yn unig. Nid yw gwneud buddsoddiadau (gan gynnwys benthyciadau, boed yn fuddsoddiadau neu beidio) yn ‘wariant’ fel arfer. Ond, mewn rhai amgylchiadau, mae adran 506 yn trin gwneud benthyciadau/buddsoddiadau fel gwariant anelusennol. Hefyd, gall taliadau i gorff a leolir y tu allan i’r Deyrnas Unedig gael eu trin yn awtomatig fel gwariant anelusennol, os yw’r elusen sy’n gwneud y taliad heb gymryd camau sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau i sicrhau y bydd y taliad yn cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol.
Rhiant elusen: yr elusen neu’r elusennau sy’n berchen ar is-gwmni masnachu.
Masnachu prif ddiben: gweithgareddau masnachu y bydd elusen yn ymgymryd â nhw wrth gyflawni prif ddiben yr elusen. At ddibenion presennol, mae’n cynnwys masnachu lle mae’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r masnachu yn cael ei gyflawni gan fuddiolwyr yr elusen yn bennaf. Fel rheol, bydd y math hwn o fasnachu, mewn unrhyw achos, yn mynd rhagddo wrth gyflawni prif ddiben yr elusen, ond, os mai dyma yw’r achos neu beidio, bydd y 2 fath o fasnachu yn cael eu trin mewn ffordd debyg.
(Yr) eithriad ar raddfa fach: y ddarpariaeth yn adran 46 o ddeddf Gyllid 2000 sy’n eithrio elw masnachu elusennau o dreth incwm a threth gorfforaeth, a hefyd peth o incwm arall elusennau, fyddai’n rhaid talu treth arno fel arall, ar yr amod nad yw’r trosiant masnachu, ynghyd ag incwm perthnasol arall, yn fwy na throthwy penodol.
Ymddiriedolwyr: ystyr ymddiriedolwyr yw ymddiriedolwyr elusen. Ymddiriedolwyr elusen yw’r bobl sy’n gyfrifol am reoli gweinyddiad yr elusen yn gyffredinol. Yn nogfen lywodraethol yr elusen gallan nhw gael eu galw’n ymddiriedolwyr, yn ymddiriedolwyr rheoli, yn aelodau pwyllgor, yn llywodraethwyr neu’n gyfarwyddwyr, neu gall fod enw arall arnynt.
Is-gwmni masnachu: unrhyw gwmni masnachu anelusennol y mae elusen neu elusennau yn berchen arno i fasnachu ar ran yr elusen (neu elusennau). Drwy’r canllaw hwn ystyrir bod unrhyw gwmni o’r fath wedi’i sefydlu mewn un o wledydd y DU - Cymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Yn y canllaw hwn mae ‘is-gwmni masnachu’ yn cynnwys cwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr mwy nag un elusen, hyd yn oed os nad yw’n ‘is-gwmni’ unrhyw un o’r elusennau sy’n berchen arno yn dechnegol.
Elusen anghorfforedig: elusen sydd heb unrhyw fath o gorfforiad cyfreithiol. Mae’r ymddiriedolwyr eu hunain yn cynrychioli’r elusen.
Grwˆ p TAW: grwˆ p o sefydliadau (sy’n cynnwys is-gwmnïau a rhiant gwmnïau yn gyffredinol) sy’n cael ei drin fel un endid at ddibenion TAW.
2. Crynodeb
O dan gyfraith Cymru a Lloegr, gall elusennau ymgymryd â rhai mathau o fasnachu.
O’i gymharu â chwmnïau masnachol arferol, mae elusennau yn mwynhau manteision sylweddol o ran treth ar gyfer masnachu ac elw masnachu. Er enghraifft, o ran TAW, mae rhai gwerthiannau a phryniannau wedi’u heithrio neu â chyfradd sero. O ran treth uniongyrchol, mae nifer o fanteision - er enghraifft:
- mae elw masnachu elusen, mewn rhai amgylchiadau, wedi’i eithrio rhag treth; mae hyn yn cynnwys elw o fasnachu prif ddiben, a’r elw sy’n cael ei wneud o lotrïau a rhai mathau o ddigwyddiadau codi arian - mae eithriad yn destun amodau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r elw a dderbyniwyd gan yr elusen
- nid yw incwm a dderbynnir gan elusen o werthu nwyddau sydd wedi cael eu rhoi iddi yn cael ei ystyried yn elw masnachu fel arfer, ac nid yw’n drethadwy
Fodd bynnag, mae cost i’w thalu am y driniaeth ffafriol hon. Er bod rhwydd hynt mwy neu lai gan elusennau i fasnachu er mwyn cyflawni eu hamcanion elusennol, mae cyfyngiadau ar fasnachu gyda’r nod o gynhyrchu arian i’r elusen. Yn arbennig, ni all elusennau ymgymryd â gweithgareddau masnachu masnachol eu natur pe byddai risg sylweddol i’w hasedau.
Os yw masnachu (heblaw masnachu i gyflawni ei hamcanion elusennol) yn cynnwys risg sylweddol i asedau’r elusen, rhaid defnyddio is-gwmni masnachu. Ond hyd yn oed os nad yw’n hanfodol i is-gwmni masnachu ymgymryd â’r masnachu, gall defnyddio is-gwmnïau masnachu gynnig manteision, er enghraifft lleihau rhwymedigaethau treth. Yn arbennig, gall is-gwmnïau masnachu roi cyfraniadau i’w rhiant elusen fel ‘Cymorth Rhodd’, gan felly lleihau neu ddileu elw’r is-gwmni sy’n drethadwy.
Ond nid yw defnyddio is-gwmnïau masnachu, os nad yw’n hanfodol i wneud hynny, bob amser yn fuddiol, oherwydd gall gynnwys costau rheoli a chostau ychwanegol eraill. Gall fod anfanteision ariannol hefyd i’w pwyso a mesur yn erbyn y manteision, er mae’n bosibl nad ystyriaethau ariannol uniongyrchol yw’r unig ystyriaethau sy’n berthnasol. Gall gweithrediadau masnachu elwa o ddefnyddio is-gwmni masnachu oherwydd yr eglurder sefydliadol ac ariannol a ddaw drwy wahaniaethu rhwng gweithgaredd masnachu a phrif waith yr elusen.
Mae angen i ymddiriedolwyr elusennau sydd ag un neu ragor o is-gwmnïau masnachu fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau. Yn arbennig, rhaid iddynt gofio, gyda phob penderfyniad sy’n cael ei wneud mewn perthynas ag is-gwmni masnachu, bod buddiannau’r elusen o’r pwys mwyaf. Rhaid i fuddiannau is-gwmni masnachu, ei gyfarwyddwyr, ei gredydwyr neu ei weithwyr i gyd ddod yn ail i fuddiannau’r elusen.
Pwrpas defnyddio is-gwmni masnachu yw cynnig budd i’r elusen mewn rhyw ffordd, er enghraifft diogelu asedau’r elusen rhag risgiau masnachu, neu gynyddu lefel yr adenillion ariannol i’r elusen drwy arbed treth.
Os yw asedau’r elusen yn cael eu defnyddio neu’n cael eu peryglu er budd yr is-gwmni, neu ei gyfarwyddwyr, ei gredydwyr neu ei weithwyr, effeithir ar y pwrpas hwnnw. Mewn achosion o’r fath, gall ymddiriedolwyr yr elusen fod yn atebol yn bersonol am unrhyw golled, neu leihad mewn gwerth asedau’r elusen.
Mae’r canllaw hwn yn disgrifio’r prif egwyddorion ac ystyriaethau sy’n berthnasol i fasnachu gan elusennau eu hunain, ac i fasnachu drwy is-gwmnïau masnachu. Fodd bynnag, oherwydd cymhlethdod y gyfraith yn y maes hwn, a graddfa bosibl canlyniadau niweidiol os yw camgymeriadau’n cael eu gwneud, dylai elusennau ac ymddiriedolwyr elusennau sy’n ymgymryd â gweithrediadau masnachu sylweddol geisio cyngor annibynnol gan bobl broffesiynol gymwysedig briodol.
Gwybodaeth bellach
Gweler adran 3 i gael rhagor o wybodaeth am fasnachu gan elusennau. Gweler adran 4 i gael rhagor o wybodaeth am is-gwmnïau masnachu.
3. Elusennau sy’n masnachu
3.1 Beth yw masnachu?
Yr ateb byr
Yn anffodus, does dim ateb byr. Mae gwerthu nwyddau (gan gynnwys eiddo) neu wasanaethau yn nodwedd hanfodol o unrhyw fasnach. Fodd bynnag, mae achosion lle y gall elusennau werthu nwyddau neu wasanaethau, heb i’r gweithgarwch gael ei ystyried yn ‘fasnach’, a heb i’r incwm sy’n deillio gael ei drin fel elw masnachu. Mae’r gwahaniaeth hwn yn bwysig, er enghraifft, oherwydd gall elw masnachu fod yn drethadwy (gweler 3.4).
Yn fwy manwl
Mae penderfynu a yw gwerthu nwyddau a gwasanaethau gan elusen yn ‘fasnachu’ yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys:
- nifer ac amlder y trafodion
- natur y nwyddau neu’r gwasanaethau sy’n cael eu gwerthu
- beth yw bwriad yr elusen os yw’n prynu nwyddau sydd i’w gwerthu
- a oes modd i’r elusen sy’n eu gwerthu ddefnyddio’r nwyddau a’u mwynhau
- natur a dulliau gwerthu
- presenoldeb neu absenoldeb cymhelliad i wneud elw
Ond nid yw’r ffaith bod gwerthu nwyddau, gwasanaethau ac eiddo yn hybu amcanion yr elusen, neu fod elw masnachu yn cael ei ddefnyddio i hybu’r amcanion hyn, yn atal gweithgaredd rhag cael ei ystyried yn ‘fasnachu’.
Nid yw’r gweithgareddau canlynol yn cael eu hystyried yn ‘fasnachu’ fel rheol, ac nid yw’r incwm sy’n deillio ohonynt yn cael ei ystyried yn elw masnachu:
- gwerthu neu osod nwyddau a roddwyd i elusen at ddiben gwerthu neu osod (gweler 3.3)
- gwerthu buddsoddiadau
- gwerthu asedau y mae’r elusen yn eu defnyddio, neu wedi’u defnyddio, ar gyfer ei dibenion elusennol
- gosod tir ac adeiladau pan nad yw unrhyw wasanaethau yn cael eu darparu i’r defnyddiwr
Os yw elusen yn masnachu, mae’r elw masnachu, mewn egwyddor, yn agored i dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol), heblaw’r eithriadau penodol. Gweler 3.4 am wybodaeth bellach.
Gwybodaeth bellach
Dylech gyfeirio at wefan HMRC a’r canllaw Masnachu a gweithgareddau busnes i gael mwy o wybodaeth am elusennau sy’n masnachu.
Pan fydd elusen yn gosod eiddo, fel rheol bydd rhaid i’r ymddiriedolwyr geisio cyngor syrfëwr cymwysedig ynglyˆ n â rhent priodol ar gyfer yr eiddo: gweler Comisiwn’s canllaw prydlesau gwerthu, trosglwyddiadau neu forgeisi: yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr ei wybod am waredu tir elusen. Os yw gwasanaethau yn cael eu darparu i’r defnyddiwr, gall gosod o’r fath gael ei ystyried yn fusnes eiddo, a fyddai’n cael ei ystyried yn ‘fasnachu’.
3.2 Pa fath o fasnachu all elusennau ymgymryd ag ef?
Yr ateb byr
Gall elusennau ymgymryd â gweithgareddau masnachu sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at hybu eu hamcanion elusennol, neu (os mai’r diben yw codi arian ar gyfer yr elusen) sydd heb achosi risg sylweddol.
Yn fwy manwl
Mae’r gyfraith elusennau yn caniatáu i elusennau fasnachu ar yr amod bod masnachu wedi’i gynnwys o fewn un o’r categorïau canlynol:
- ‘masnachu prif ddiben’ (gweler 3.6)
- ‘masnachu ategol’ (gweler 3.7)
- ‘masnachu heb fod yn brif ddiben’ nad yw’n achosi risg sylweddol i adnoddau’r elusen (gweler 3.8)
Sylwer, deellir fel rheol bod y trydydd categori o fasnachu a restrir, sef ‘masnachu heb fod yn brif ddiben’ nad yw’n creu risg sylweddol i adnoddau’r elusen, yn cynnwys: - cynnal lotrïau, yn destun amodau (gweler 3.11) - masnachu o fewn telerau’r ‘eithriad ar raddfa fach’ (gweler 3.12)
Ond gall hefyd gynnwys mathau eraill o fasnachu: mae’n dibynnu ar yr amgylchiadau.
Gwybodaeth bellach
I gael rhagor o wybodaeth am werthu alcohol ar safle elusen, gweler: Alcohol mewn cyfarfodydd a digwyddiadau elusennol.
3.3 Ydy gwerthu neu hurio nwyddau a roddwyd yn ‘fasnachu’?
Yr ateb byr
Nac ydy. Fel rheol os yw elusen yn gwerthu, neu’n gosod ar log nwyddau a roddwyd iddi gyda’r bwriad y dylid eu gwerthu (neu eu gosod) nid yw hyn yn ‘fasnachu’. Ni ystyrir bod yr incwm sy’n deillio felly yn elw masnachu ac nid yw treth gorfforaeth yn daladwy (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol). Mae gwerthiannau o’r fath yn gyfradd sero at ddibenion TAW.
Yn fwy manwl
Ni ystyrir bod gwerthu neu osod nwyddau a roddwyd yn ‘fasnachu’. Mae’n weithgarwch busnes at ddibenion TAW, ac mae gwerthu neu osod o’r fath wedi’i gynnwys o fewn TAW. Fodd bynnag, mae gwerthiannau yn gyfradd sero os caiff y nwyddau eu gwerthu neu eu gosod drwy siopau elusennol, neu drwy arwerthiannau elusennol neu ddigwyddiadau tebyg, i’r cyhoedd, pobl anabl neu bobl sy’n derbyn rhai budd-daliadau arbennig, neu os cânt eu hallforio. Gall gwerthu neu osod nwyddau a roddwyd gan is-gwmni masnachu fod yn gyfradd sero hefyd (gweler adran 4, yn arbennig 4.13.
Os yw nwyddau a roddwyd i elusen gyda’r nod o’u gwerthu yn cael eu haddasu neu eu gwella’n sylweddol cyn eu gwerthu, er enghraifft drwy droi deunyddiau crai a roddwyd yn nwyddau gorffenedig, gwerthadwy, gall yr elw o werthiannau o’r fath gael ei drin fel elw masnachu, a gall effeithio ar y modd y caiff ei drin at ddiben TAW. Fodd bynnag, nid yw didoli a glanhau eitemau, neu wneud mân atgyweiriadau iddynt, yn gwneud yr elw sy’n deillio o’u gwerthu yn elw masnachu.
Gweler hefyd 3.10
3.4 Oes rhaid i elusennau dalu treth ar elw masnachu?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Oes. Mae elw masnachu, a pheth incwm elusen o ffynonellau eraill, yn agored i dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) oni bai ei fod wedi’i eithrio’n benodol.
Yn fwy manwl
Mae elw masnachu elusennau wedi’i eithrio o dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) os yw’r masnachu yn:
- ‘masnachu prif ddiben’ (gweler 3.6)
- ‘masnachu ategol’ (gweler 3.7)
- o fewn telerau’r ‘eithriad ar raddfa fach’ (gweler 3.12)
- loteri (gweler 3.11)
- yn gysylltiedig â digwyddiadau codi arian arbennig (gweler 3.13)
Ym mhob un o’r achosion hyn mae’r eithriad yn destun i’r amod bod elw yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen yn unig.
Dylech nodi hefyd nad yw gwerthu neu hurio nwyddau a roddwyd at y diben hwnnw yn ‘fasnachu’ fel rheol ac nid yw incwm o’r gweithgarwch hwn yn agored i dreth incwm neu dreth gorfforaeth (gweler 3.3)
Nid yw’r rhan fwyaf o fathau o incwm elusen - heblaw elw masnachu - naill ai’n agored i dreth incwm neu dreth gorfforaeth o gwbl, neu’n gymwys ar gyfer eithriadau cyffredinol, ar yr amod bod yr incwm yn cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol yn unig. Ond mae rhai mathau o incwm heb fod yn fasnachu (a ddisgrifir yn dechnegol fel ‘adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol’) yn drethadwy. Mewn rhai achosion gall yr ‘eithriad ar raddfa fach’ fod ar gael, mewn eraill nid oes unrhyw eithriad o gwbl. Mae enghreifftiau o ‘adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol’ yn cynnwys:
- incwm o warantu cyfranddaliadau (ac eithrio pan fydd hyn yn cael ei wneud yn gyson, ac mae’n debygol o gael ei drin fel masnachu)
- enillion sy’n codi ar werthu tir, sy’n cael eu trin at ddibenion treth fel incwm yn hytrach na chyfalaf, oherwydd prynwyd y tir yn benodol gyda’r nod o gael elw ar werthu, neu oherwydd bod y tâl ar gyfer gwerthu wedi’i strwythuro’n llwyr neu’n rhannol drwy gyfeirio at elw’r datblygiad dilynol o’r tir gan y prynwr
Gall fod yn fuddiol i’r elusen ymgymryd â busnes mewn is-gwmni masnachu y disgwylir iddo gynhyrchu adnoddau a dderbynnir o’r natur hon, oherwydd gall atebolrwydd yr is-gwmni i dalu treth gorfforaeth gael ei leihau neu ei ddileu fel y nodir yn 4.4
Fodd bynnag, mae’r canllaw hwn yn ymwneud ag elusennau a masnachu yn bennaf, nid sut y gall elusennau leihau eu hatebolrwydd i dalu treth. Dylid ceisio cyngor proffesiynol cyn bod elusen yn neilltuo gweithgareddau heb fod yn weithgareddau masnachu o’r natur hon i is-gwmni masnachu.
Gwybodaeth bellach
Cewch ragor o wybodaeth am atebolrwydd elusennau i dalu treth ar wefan HMRC.
3.5 Oes rhaid i elusennau godi TAW ar werthiannau?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Oes. Rhaid i elusennau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW godi TAW ar werthiannau cyfradd safonol/gostyngol yn yr un ffordd â sefydliadau eraill, ond mae rhai darpariaethau penodol ar gyfer cyfradd sero neu eithriadau, sy’n gymwys i elusennau, neu i rai elusennau, ond nid i sefydliadau eraill, neu nid i bob sefydliad arall.
Yn fwy manwl
Mae TAW yn daladwy ar werthu nwyddau gan elusennau ar yr un sail ag y byddai’n gymwys i sefydliadau masnachol, oni bai bod darpariaethau penodol ar gyfer cyfradd sero neu eithriad yn gymwys. Mae nifer o ddarpariaethau o’r fath yn gymwys i rai elusennau, i elusennau yn gyffredinol, neu i ddosbarth o gyflenwr sy’n cynnwys rhai elusennau neu elusennau yn gyffredinol. Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r hyn sy’n cael triniaeth arbennig:
- mae gwerthu neu hurio nwyddau a roddwyd i elusennau at y diben hwnnw yn gyfradd sero ar gyfer TAW (gweler 3.3)
- mae gwerthu nwyddau neu wasanaethau mewn rhai digwyddiadau codi arian elusennol wedi’i eithrio o TAW (gweler 3.13)
Gwybodaeth bellach
Cewch ragor o wybodaeth am atebolrwydd elusennau i dalu treth ar wefan HMRC. Mae maes TAW yn un cymhleth, a dylai unrhyw elusen sy’n gwerthu geisio cyngor arbenigwr treth.
3.6 Beth yw ‘masnachu prif ddiben’?
Yr ateb byr
Mae ‘masnachu prif ddiben’ yn fasnachu sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at un neu ragor o amcanion elusen fel y nodwyd yn ei dogfen lywodraethol. At ddibenion presennol, mae’n cynnwys masnachu lle mae’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r masnachu yn cael ei wneud gan fuddiolwyr yr elusen yn bennaf, oherwydd bydd hynny’n fasnachu prif ddiben fel rheol. Os yw felly neu beidio, mae’r gyfraith elusennau a’r rheolau treth yn debyg.
Yn fwy manwl
Mae enghreifftiau cyffredin o fasnachu prif ddiben yn cynnwys:
- ysgol neu goleg elusennol yn darparu gwasanaethau addysgol yn gyfnewid am ffioedd cyrsiau
- gwerthu nwyddau a gynhyrchwyd gan bobl anabl sy’n fuddiolwyr elusen i’r anabl
- oriel gelf neu amgueddfa elusennol yn cynnal arddangosfa celf yn gyfnewid am ffioedd mynediad
- elusen gofal preswyl yn darparu llety preswyl yn gyfnewid am dâl
- theatr elusennol yn gwerthu tocynnau am gynhyrchiad theatrig sydd i’w lwyfannu gan yr elusen
- oriel gelf neu amgueddfa elusennol yn gwerthu nwyddau addysgol arbennig
Mae’r elw o fasnachu prif ddiben wedi’i eithrio o dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol). Mae’r eithriad hwn rhag talu treth ar gael dim ond os yw’r elw yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen yn unig. Fodd bynnag, bydd y gwerthiannau y mae’r elw hwnnw wedi deillio ohonynt yn cael eu hystyried yn weithgarwch busnes at ddibenion pennu atebolrwydd i dalu TAW.
Gwybodaeth bellach
Bydd HMRC Elusennau yn cynghori ymddiriedolwyr a yw gweithgarwch arbennig, yn eu barn nhw, wedi’i gynnwys o fewn y diffiniad o fasnachu prif ddiben. Ond os oes unrhyw amheuaeth neu anhawster mae’n bosibl y bydd angen i ymddiriedolwyr ymgynghori â’u cynghorwyr proffesiynol eu hunain hefyd.
3.7 Beth yw ‘masnachu ategol’?
Yr ateb byr
Mae ‘masnachu ategol’ yn cyfrannu’n anuniongyrchol at hybu dibenion yr elusen yn llwyddiannus. Mae hyn yn cael ei drin fel rhan o ‘fasnachu prif ddiben’ at ddibenion y gyfraith elusennau a threth.
Yn fwy manwl
Enghraifft o fasnachu ategol yw elusen theatrig sy’n gwerthu bwyd a diod mewn bwyty neu far i aelodau’r gynulleidfa. Gall lefel y trosiant blynyddol mewn masnachu yr ystyrir ei fod yn ategol ddylanwadu ar y cwestiwn a yw’r masnachu yn ategol mewn gwirionedd, ond nid oes unrhyw lefel benodol o drosiant blynyddol wedi’i phennu pan na fydd masnachu sydd y tu hwnt i’r lefel yn cael ei ystyried yn bendant fel masnachu ategol. Nid yw masnachu yn cael ei ystyried yn ategol i gyflawni prif ddiben yr elusen dim ond oherwydd mai codi arian i’r elusen yw ei ddiben.
Gwybodaeth bellach
Cewch ragor o fanylion ar wefan HMRC a’r canllaw Masnachu a gweithgareddau busnes o fewn yr adran ‘Elusennau’.
3.8 Beth yw ‘masnachu heb fod yn brif ddiben’, a phryd all elusennau wneud hyn?
Yr ateb byr
Mae ‘masnachu heb fod yn brif ddiben’ yn fasnachu sy’n bwriadu codi arian ar gyfer yr elusen, yn wahanol i fasnachu sydd ynddo’i hun yn hybu amcanion yr elusen. Gall elusennau ymgymryd â masnachu o’r fath dim ond os nad oes unrhyw risg sylweddol.
Yn fwy manwl
Mae’r gyfraith elusennau yn caniatáu i elusennau ymgymryd â masnachu heb fod yn brif ddiben er mwyn codi arian, ar yr amod nad yw masnachu yn cynnwys unrhyw risg sylweddol i asedau’r elusen.
Y ‘risg sylweddol’ i’w osgoi yma yw bod y trosiant yn annigonol i dalu costau masnachu, a rhaid talu am y gwahaniaeth o asedau’r elusen.
Er nad dyma yw’r achos o anghenraid, fel rheol byddai hawl ddigolledu gan gredydwyr masnach i unrhyw asedau’r elusen, os oedd gan yr asedau hynny unrhyw gysylltiad â’r masnachu neu beidio. Gallai’r lleihad dilynol yn asedau’r elusen atal yr elusen rhag gallu parhau i wasanaethu’r gymuned mor effeithiol ag y gallai fod wedi’i wneud fel arall, neu ddim o gwbl. Mae’n debyg bod y rhai a ddarparodd asedau’r elusen yn disgwyl y byddai’r asedau hynny yn cael eu defnyddio i hybu dibenion yr elusen, neu eu buddsoddi’n ddoeth, ac ni fyddent yn cael eu peryglu mewn gweithgareddau masnachu gyda’r nod syml o godi mwy o arian.
Mae penderfynu a yw’r risg o fasnachu heb fod yn brif ddiben yn ‘sylweddol’ neu beidio yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys:
- maint yr elusen
- natur y busnes
- y treuliau disgwyliedig
- rhagamcaniadau o’r trosiant
- sensitifrwydd proffidioldeb y busnes i ddringo a disgyn yn y farchnad
Wrth gwrs, bydd asesu difrifoldeb y risg yn cynnwys elfen o farn ar ran yr ymddiriedolwyr a’u cynghorwyr. Fodd bynnag, yn gyffredinol, gall loteri, neu fasnach sy’n gymwys ar gyfer ‘yr eithriad ar raddfa fach’ (gweler 3.12) gael ei ystyried yn weithgarwch nad yw’n cynnwys risg sylweddol.
Nid oes unrhyw eithriad cyffredinol rhag talu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) ar elw masnachu heb fod yn brif ddiben a gyflawnir gan elusen, hyd yn oed os yw’r elw i gyd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau yn gymwys, h.y. yr eithriad lotrïau (gweler 3.11)), yr ‘eithriad ar raddfa fach’ (gweler 3.12)
Os hoffai elusennau ymgymryd â masnachu heb fod yn brif ddiben sy’n cynnwys risg sylweddol, rhaid iddynt wneud hynny drwy is-gwmni masnachu, fel y nodir yn adran 4. Mae hyn yn gymwys a fyddai’r elw masnachu, pe bai’r elusen ei hun yn ymgymryd â’r masnachu, wedi’i eithrio rhag talu treth neu beidio.
3.9 Beth os yw masnachu yn cynnwys elfennau ‘prif ddiben’ a ‘heb fod yn brif ddiben’? (gofyniad cyfreithiol)
Enghraifft o’r math hwn o fasnachu yw siop sy’n cael ei rhedeg gan elusen sy’n darparu oriel gelf gyhoeddus, a all werthu amrywiaeth o nwyddau, rhai’n gysylltiedig â hybu prif ddiben yr elusen (e.e. llyfrau sy’n ymwneud â’r arddangosfa, copïau o baentiadau’r elusen), a rhai sydd heb fod yn gysylltiedig (e.e. pennau, mygiau a llieiniau hyrwyddol).
Er y bydd un fasnach yn unig gan elusen yn gyffredinol, at ddibenion treth rhaid trin y math hwn o weithgarwch masnachu prif ddiben a heb fod yn brif ddiben cymysg fel 2 fasnach ar wahân, ac mae’r rheolau sy’n gymwys i fasnachu prif ddiben a heb fod yn brif ddiben yn gymwys i bob un ar wahân. Rhaid cael dosraniad rhesymol o dreuliau a derbyniadau rhwng y masnachau y tybir eu bod ar wahân.
Mae’r driniaeth hon yn gymwys ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 22 Mawrth 2006. Cyn hynny roedd y math hwn o fasnachu yn cael ei drin fel prif ddiben yn llwyr neu heb fod yn brif ddiben yn llwyr, yn dibynnu ar faint yr elfen heb fod yn brif ddiben. Bydd angen i ymddiriedolwyr elusennau sy’n ymgymryd â’r math hwn o fasnachu ystyried a yw unrhyw ailstrwythuro yn ddymunol.
3.10 Beth os yw nwyddau a roddwyd yn cael eu gwerthu gyda nwyddau eraill?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Nid yw gwerthu nwyddau sydd wedi cael eu rhoi i elusen yn fasnachu. Pan fydd nwyddau a roddwyd yn cael eu gwerthu gyda nwyddau eraill y mae eu gwerthu yn cael eu hystyried yn fasnachu, rhaid i’r incwm o werthu nwyddau a roddwyd fod ar wahân i’r elw masnachu.
Yn fwy manwl
Ni ystyrir bod gwerthu neu osod nwyddau a roddwyd yn fasnachu (gweler 3.3). Rhaid bod modd adnabod incwm o werthu neu osod nwyddau a roddwyd ar wahân mewn cofnodion yr elusen o’r elw masnachu. Rhaid ystyried masnachu cysylltiedig ar wahân, boed yn ‘fasnachu prif ddiben’ (gweler 3.6 a 3.7), neu ‘fasnachu heb fod yn brif ddiben’ (gweler 3.8).
Gallai’r sefyllfa hon godi mewn siop elusen sy’n cael ei rhedeg gan elusen sydd â’r nod o wella sgiliau pobl anabl. Er enghraifft, gallai’r siop werthu:
- llyfrau, CDs a fideos a roddwyd i’w gwerthu - nid masnachu
- teganau pren wedi’u gwneud gan bobl anabl - ‘masnachu prif ddiben’
- teganau meddal wedi’u prynu i mewn - ‘masnachu heb fod yn brif ddiben’ gyda’r unig ddiben o godi arian
Yn yr achos hwn, yr unig fasnachu sy’n mynd rhagddo yw masnachu teganau pren a theganau meddal. Mae’r fasnach hon yn cael ei rhannu’n elfennau prif ddiben a heb fod yn brif ddiben, fel y nodwyd yn 3.9
Gwybodaeth bellach
Os yw ymddiriedolwyr yn bryderus am oblygiadau treth busnes o’r natur hon, dylid ceisio cyngor proffesiynol, neu dylid cysylltu â HMRC Elusennau am wybodaeth. Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i ymddiriedolwyr gyfeirio at y canllaw masnachu ar wefan HMRC.
3.11 Ydy cynnal loteri yn cael ei ystyried yn ‘fasnachu’?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Ydy. Mae cynnal loteri yn cael ei ystyried yn fasnachu. Fodd bynnag, yn destun amodau, caniateir i elusennau gynnal lotrïau ac mae’r elw o lotrïau o’r fath wedi’i eithrio rhag talu treth.
Yn fwy manwl
Ni ystyrir bod hybu a chynnal loteri yn unol â naill ai adran 3 neu adran 5 Deddf Loterïau a Difyrion 1976 yn groes i gyfyngiadau’r gyfraith elusennau ar fasnachu heb fod yn brif ddiben, oherwydd mae unrhyw risg i asedau’r elusen sy’n deillio o ymgymryd â’r math hwn o fasnachu yn ddibwys.
Mae’r elw o loteri sy’n cael ei hybu a’i chynnal gan elusen wedi’i eithrio o dalu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol), ar yr amod bod:
- y loteri yn cael ei hybu a’i chynnal yn unol â naill ai adran 3 neu adran 5
- mae’r elw o’r loteri yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen yn unig
Rhaid i loteri adran 3, a elwir hefyd yn ‘loteri fach’, gadw at yr amodau hyn:
- rhaid iddi fod yn wirioneddol ategol i’r hyn a elwir yn neddf 1976 yn ‘ddifyrion wedi’u heithrio’, gan gynnwys garddwesti, ffeiriau sborion, arwerthiannau, ac ati
- ni all cyfanswm gwerth y gwobrau fod yn fwy na £250
- rhaid i’r derbyniadau o’r loteri gael eu defnyddio ar gyfer y dibenion heblaw budd preifat
- ni ellir rhoi unrhyw wobrau arian parod
- rhaid i werthu a dosbarthu tocynnau a chyhoeddi’r canlyniadau ddigwydd yn ystod yr adloniant ac ar y safle lle y’i cynhelir
Mae loteri adran 5, a elwir hefyd yn ‘loteri cymdeithas’ wedi’i rheoleiddio’n fwy caeth, a gellir gwahodd y cyhoedd i gymryd rhan. Gall loteri o’r fath gael ei chynnal gan gorff sydd wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Hapchwarae, neu’r awdurdod lleol, yn dibynnu ar faint busnes y loteri. Gall elusennau ac is-gwmnïau masnachu geisio cofrestru.
Os yw is-gwmni masnachu, yn hytrach na’r elusen ei hun, wedi’i gofrestru fel y ‘gymdeithas’ o dan adran 5 ddeddf 1976, bydd yn hybu ac yn cynnal y loteri, ac nid oes unrhyw driniaeth treth arbennig ar gyfer unrhyw elw’r fasnach.
Mae darpariaethau deddf 1976 y cyfeirir atynt uchod wedi cael eu disodli gan y Ddeddf Hapchwarae 2005 gyda darpariaethau cyfatebol. Nid yw’r darpariaethau olaf mewn grym eto.
3.12 Beth yw’r eithriad ar raddfa fach?
Yr ateb byr
Mae’r eithriad ar raddfa fach hon yn eithriad o dalu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) ar elw masnachu heb fod yn brif ddiben ar raddfa fach a’r incwm o rai gweithgareddau busnes eraill y bydd elusennau yn ymgymryd â nhw. Mae’n gymwys dim ond os yw’r holl elw neu incwm perthnasol yn cael eu defnyddio at ddibenion yr elusen. Nid yw’n gymwys os yw’r elw masnachu neu incwm arall wedi’i eithrio o dalu treth ar ryw sail arall.
Yn fwy manwl
Mae’r eithriad ar raddfa fach yn gymwys i elw o fasnachu heb fod yn brif ddiben, a hefyd incwm arall sydd wedi’i gynnwys yn y categori ‘adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol.’ Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad ar raddfa fach o fewn cyfnod trethadwy penodol, naill ai:
-
ni all trosiant blynyddol masnachu heb fod yn brif ddiben perthnasol yr elusen, a hefyd ‘adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol’ a all fod yn gymwys ar gyfer eithriad, fod yn fwy na’r ‘trothwy perthnasol’ yn ystod y cyfnod trethadwy
-
os yw’n ‘fwy’ na’r ‘trothwy perthnasol’, rhaid iddo fod yn rhesymol i’r elusen ddisgwyl ar ddechrau’r cyfnod trethadwy na fyddai’n fwy na’r lefel honno.
Ni ddylid cyfrif trosiant masnachu, y mae ei elw yn destun eithriadau treth penodol, megis masnachu sy’n gysylltiedig â digwyddiadau codi arian (gweler 3.13) wrth benderfynu beth yw’r ‘trothwy perthnasol’. Ni ddylid cyfrif ‘adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol’ ychwaith na fyddant o bosibl yn gymwys ar gyfer yr eithriad ar raddfa fach.
Mae’r tabl canlynol yn dangos sut y cyfrifir y trothwy perthnasol. Mae’n cymryd nad oes gan yr elusen unrhyw ‘adnoddau a dderbynnir o weithgareddau amrywiol’ perthnasol yn y cyfnod trethadwy a fyddai’n gymwys ar gyfer yr eithriad.
Incwm blynyddol gros yr elusen | Uchafswm y trosiant masnachu bach a ganiateir |
---|---|
Llai na £32,000 | £8,000 |
£32,001 i £320,000 | 25% o gyfanswm trosiant blynyddol eich elusen |
Dros £320,000 | £80,000 |
Os yw trosiant y fasnach berthnasol (wedi’i gymryd gyda’r ‘incwm o weithgareddau amrywiol’ perthnasol) yn fwy na’r lefel uchaf (fel y nodwyd yn y golofn ar y dde yn y tabl) nid yw’r eithriad ar raddfa fach yn gymwys oni bai ei fod yn rhesymol i’r elusen ddisgwyl ar ddechrau’r cyfnod trethadwy na fyddai’n fwy na’r lefel honno.
Nid yw masnach elusen y mae ei drosiant wedi’i gynnwys o fewn cwmpas yr eithriad ar raddfa fach yn debygol o fod yn groes i gyfyngiadau’r gyfraith elusennau ar fasnachu heb fod yn brif ddiben (gweler 3.8). Mae uchafswm isel y lefel trosiant masnachu a ganiateir yn golygu bod unrhyw risg i adnoddau’r elusen o’r fasnach yn debygol o fod yn fach.
Felly, oni bai y gwaherddir hyn gan ei dogfen lywodraethol, gall unrhyw elusen ymgymryd â masnach heb fod yn fasnachu prif ddiben, ar raddfa fach, a chael ei heithrio rhag talu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) ar yr elw, ar yr amod bod yr elw yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr elusen.
Gwybodaeth bellach
Cewch fwy o fanylion am yr eithriad ar wefan HMRC a’r canllaw Masnachu a gweithgareddau busnes o fewn yr adran ‘Elusennau’. Os yw ymddiriedolwyr yn ansicr ynghylch yr eithriad dylent gysylltu â HMRC Elusennau.
3.13 Pa fanteision treth sy’n gymwys i ddigwyddiadau codi arian?
Yr ateb byr
Mae cyflenwi nwyddau neu wasanaethau mewn neu mewn perthynas ag ystod eang o ddigwyddiadau codi arian wedi’i eithrio rhag talu TAW, ac mae elw masnachu wedi’i eithrio rhag talu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol), yn destun i amodau caeth.
Yn fwy manwl
Mae rhai eithriadau treth arbennig yn gymwys i werthiannau/incwm mewn neu mewn perthynas â digwyddiadau sydd wedi’u cynnwys o fewn telerau Grwˆ p 12 o Atodlen 9 o Ddeddf TAW 1994. Mae’r Comisiwn yn cyfeirio at y digwyddiadau hyn fel ‘digwyddiadau cymwys.’ Maent yn destun yr amodau canlynol:
- rhaid i’r digwyddiad gael diben elusennol
- rhaid i’r digwyddiad gael ei drefnu gan elusen, neu is-gwmni masnachu (gweler adran 4) neu gorff cymwys arall, er budd yr elusen ei hun
- nid yw masnachu’n mynd rhagddo drwy gyfres o ddigwyddiadau (digwyddiadau lluosog - megis, dyweder, cinio a dawns wythnosol rheolaidd)
- ni ddarperir llety ar gyfer y digwyddiad am fwy na 2 noson yn olynol
- ni all elusen (gan gynnwys is-gwmni masnachu’r elusen) neu gorff cymwys gael mwy na 15 digwyddiad o’r un fath ym mlwyddyn ariannol yr elusen mewn unrhyw leoliad (Sylwch, os yw elusen yn cynnal mwy na 15 digwyddiad o’r un fath yn yr un lleoliad yn ystod ei blwyddyn ariannol, ni fydd unrhyw un o’r digwyddiadau yn gymwys ar gyfer eithriad.)
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran natur y digwyddiad. Nid yw’r rhestr ganlynol, sy’n rhoi enghreifftiau o ddigwyddiadau y gellir eu cynnal at ddibenion codi arian, a lle y gall elw o fasnachu achlysurol gael ei eithrio o dalu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol), a lle y gall gwerthiannau gael eu heithrio rhag talu TAW, yn rhestr derfynol.
- dawnsiau, er enghraifft, dawnsiau mawreddog, cinio a dawns, disgo neu ddawnsiau gwerin
- perfformiadau byw, er enghraifft, cyngherddau, cynyrchiadau theatrig, bale, perfformiadau gymnastig, sioeau pypedau a digwyddiadau tebyg gyda chynulleidfa sy’n talu
- dangos ffilm, fideo neu DVD
- garddwesti, ffeiriau a gwyliau
- sioeau garddwriaethol
- arddangosfeydd, er enghraifft, gwrthrychau o ddiddordeb artistig, hanesyddol, diwylliannol, addysgol, crefyddol, gwyddonol, mecanyddol, chwaraeon, ecolegol neu amgylcheddol
- basarau, ffeiriau sborion, arwerthiannau cist car ac arwerthiannau nwyddau fel newydd
- gemau o sgìl, gwybodaeth neu allu, gan gynnwys gornestau a chwisiau
- arddangosiadau tân gwyllt
- prydau, megis ciniawau, cinio canol dydd, te a barbeciw
- arwerthiannau o nwyddau a roddwyd; (sylwch mae nwyddau a roddwyd yn gyfradd sero ar gyfer TAW, ac nid wedi’u heithrio, ac mae hyn yn golygu bod modd adennill TAW ar gostau sy’n gysylltiedig â’r gwerthiant; gall nwyddau a roddwyd mewn digwyddiadau fod yn gymwys ar gyfer cyfradd sero, yn wahanol i eithriad)
- arwerthiannau o nwyddau wedi’u prynu i mewn (a all ddenu TAW)
Mae’r eithriadau treth canlynol yn berthnasol i ddigwyddiadau cymwys o’r fath:
- mae nwyddau neu wasanaethau a werthir gan elusen neu is-gwmni masnachu wrth fasnachu mewn, neu mewn perthynas â, digwyddiad cymwys wedi’u heithrio rhag talu TAW
- mae’r elw o werthiannau o’r fath gan elusen (ond nid gan is-gwmni masnachu) wedi’i eithrio o dalu treth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) ar yr amod eu bod yn cael eu defnyddio at ddibenion elusennol yn unig
Nid oes unrhyw derfynau trosiant i’r eithriad hwn. Felly, mae ganddo’r posibilrwydd o ddarparu rhyddhad rhag talu treth ar gyfer elw o fasnachu sylweddol. Mewn rhai achosion gallai masnachu sylweddol o’r fath gynnwys risg sylweddol i asedau’r elusen sy’n ymgymryd â’r fasach. Byddai hyn yn groes i’r egwyddor na all ‘masnachu heb fod yn brif ddiben’ gynnwys risg sylweddol, fel y nodir yn 3.8
Mewn achosion o’r fath os oes risg sylweddol yn gysylltiedig â digwyddiad codi arian elusen, rhaid i’r digwyddiad gael ei gynnal gan is-gwmni masnachu, ac nid gan yr elusen ei hun. Mae hyn yn wir er y byddai’r elw o’r digwyddiad, pe byddai wedi cael ei gynnal gan yr elusen ei hun, wedi’i eithrio rhag talu treth. Gall gwerthiannau a wnaed gan is-gwmni masnachu mewn digwyddiadau codi arian hefyd gael eu heithrio rhag talu TAW, ond nid yw’r is-gwmni masnachu yn mwynhau unrhyw driniaeth arbennig o ran treth gorfforaeth (gweler 4.3)
Gwybodaeth bellach
Gweler canllaw y Comisiwn Elusennau a chodi arian (CC20) a pharagraff 36 o ganllaw ar-lein HMRC Masnachu a gweithgareddau busnes.
3.14 Beth sy’n digwydd os yw elusen yn colli arian o fasnachu heb fod yn brif ddiben?
Yr ateb byr
Os yw elusen yn wynebu colledion o fasnachu heb fod yn brif ddiben, gall eithriadau treth yr elusen ar incwm arall fod mewn perygl, a gall yr ymddiriedolwyr fod yn atebol am dor-ymddiriedaeth.
Yn fwy manwl
Os yw elusen yn wynebu colled o’i masnachu heb fod yn brif ddiben, ystyrir y golled mewn perthynas â’r masnachu yn ‘wariant anelusennol’, o fewn ystyr adran 506(1) o ddeddf 1988. Gallai hyn olygu cyfyngu ar eithriadau treth yr elusen ar incwm a/neu enillion eraill.
Barn y Comisiwn yw y byddai cael colled o’r fath yn cael ei hystyried yn dor-ymddiriedaeth dim ond os yw’r golled wedi codi drwy weithred anghyfrifol. Ym marn y Comisiwn, ni fyddai unrhyw dor-ymddiriedaeth:
- os oedd yn rhesymol disgwyl y byddai’r fasnach yn llwyddiannus
- os oedd yn rhesymol i’r elusen ymgymryd â’r fasnach ei hun, yn hytrach na defnyddio is-gwmni masnachu
- os oedd y gwariant y deilliodd y golled ohono wedi’i gynnwys o fewn y pwerau sydd ar gael i’r ymddiriedolwyr
Fodd bynnag, mae eithriad treth mewn perygl os yw’r golled yn codi drwy weithred anghyfrifol neu beidio. Wrth benderfynu a ddylai is-gwmni masnachu ymgymryd â’r fasnach neu beidio, dylai ymddiriedolwyr ystyried y ffaith os yw’r elusen ei hun yn ymgymryd â’r fasnach, gallai colled masnachu gyfyngu ar eithriadau treth yr elusen. Mewn rhai achosion, ond nid pob achos, gellid gosod cyfyngu’r eithriadau hyn yn erbyn y rhyddhad colled sydd ar gael. Mae paragraffau 52 i 55 o ganllaw ar-lein HMRC Elusennau masnachu a gweithgareddau busnes yn rhoi manylion llawn.
Gwybodaeth bellach
Gweler adran 4 i gael rhagor o wybodaeth am is-gwmnïau masnachu.
4. Elusennau gydag is-gwmnïau masnachu
4.1 Beth yw ‘is-gwmni masnachu’, a phryd mae’n rhaid defnyddio is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Mae ‘is-gwmni masnachu’ yn gwmni y mae un neu ragor o elusennau yn berchen arno a’i reoli, ac fe’i sefydlwyd i fasnachu. Pwrpas is-gwmni masnachu fel arfer yw cynhyrchu incwm i’w riant elusen. Rhaid defnyddio is-gwmnïau masnachu ar gyfer masnachau heb fod yn brif ddiben sy’n cynnwys risg sylweddol.
Yn fwy manwl
Rhaid defnyddio is-gwmni masnachu mewn unrhyw achos lle y byddai risg sylweddol i asedau’r elusen, pe byddai’n ymgymryd â masnachu heb fod yn brif ddiben ei hun (gweler 3.8). Rhaid i’r is-gwmni masnachu gael ei sefydlu mewn ffordd sy’n diogelu’r rhiant elusen a’i hasedau rhag y risgiau sy’n gysylltiedig â’r masnachu. Mae’r angen i ddiogelu asedau’r elusen rhag unrhyw risg sylweddol sy’n gysylltiedig â masnachu heb fod yn brif ddiben o’r pwys mwyaf. Nid yw’r ffaith y byddai elw masnachu wedi’i eithrio rhag talu treth pe bai’r elusen ei hun wedi ymgymryd â’r masnachu yn golygu o reidrwydd ei fod yn briodol i’r elusen ymgymryd â’r masnachu.
Nid yw’r elw o fasnach y mae is-gwmni masnachu yn ymgymryd â hi yn gymwys ar gyfer eithriad treth elusen. Maent yn atebol i dalu treth gorfforaeth yn y ffordd arferol. Ond gall taliadau a wnaed gan yr is- gwmni masnachu i’r elusen neu’r elusennau sy’n berchen arno leihau lefel yr elw sy’n drethadwy yn yr is- gwmni masnachu. Ac mae eithriad treth ar gael i’r elusen sy’n derbyn ar gyfer yr incwm y mae’n ei dderbyn gan yr is-gwmni masnachu.
Mae hyn yn esbonio pam y gall fod yn fuddiol i elusen ddefnyddio is-gwmni masnachu hyd yn oed os nad oes unrhyw rwystr cyfreithiol i’r elusen fasnachu ei hun. Pe byddai’r elw o fasnachu gan elusen yn agored i dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol), gall defnyddio is-gwmni masnachu i fasnachu olygu bod modd i’r atebolrwydd i dalu treth ar yr elw masnachu gael ei leihau, neu ei ddileu.
Mae elusen sy’n darparu gwasanaethau hysbysebu a hyrwyddo eraill yn gyfnewid am nawdd busnes yn enghraifft o fasnachu sy’n annhebygol o beri unrhyw risg sylweddol i asedau’r elusen, oherwydd mae’r treuliau a wyneba’r elusen yn ystod masnachu o’r fath yn debygol o fod yn fach. Felly, er nad oes unrhyw orchymyn yn y gyfraith elusennau i neilltuo’r math hwn o fasnachu i is-gwmni masnachol, gall fod mantais treth drwy wneud hynny, pe na fyddai’r elw yn gymwys ar gyfer unrhyw eithriad elusen. Byddai’r elusen yn atebol i dalu treth ar yr elw masnachu pe byddai’n ymgymryd â’r fasnach ei hun, ond pe byddai is-gwmni masnachu yn ymgymryd â’r masnachu, gellid trosglwyddo elw’r is-gwmni masnachu i’r elusen fel Cymorth Rhodd, gan felly cyfyngu ar unrhyw atebolrwydd i dalu treth, neu ei ddileu.
Os yw masnachu prif ddiben yn cael ei gynnal drwy is-gwmni masnachu, nid yw llawer o’r canllawiau yn yr adran hon yn berthnasol: byddai cyllido’r is-gwmni masnachu yn ddefnydd elusennol o gronfeydd, yn hytrach na buddsoddi cronfeydd er mwyn gwneud elw.
Dylai is-gwmni masnachu fod yn ddichonol yn ariannol cyn gynted â phosibl. Felly, mae’n bwysig cael cynllun busnes sy’n nodi’n glir pryd y disgwylir i fasnachu fod yn broffidiol ac asesu cynnydd yn erbyn y cynllun busnes. Os na ragwelir dichonolrwydd ariannol o fewn 2 flynedd o weithredu, dylid ystyried priodoldeb ymgymryd â’r gweithgarwch masnachu arfaethedig yn ofalus.
4.2 Beth yw manteision defnyddio is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Prif fanteision defnyddio is-gwmni masnachu yw diogelu asedau’r rhiant elusen rhag risgiau masnachu; creu uned weinyddu ar wahân; a lleihau atebolrwydd i dalu treth. Fodd bynnag, yn yr achosion hynny lle nad yw defnyddio is-gwmni masnachu yn hanfodol, rhaid i ymddiriedolwyr gofio y gall fod anfanteision i ddefnyddio is-gwmni masnachu, ac wrth gwrs rhaid cydbwyso’r anfanteision hynny yn erbyn y manteision.
Yn fwy manwl
Rhaid defnyddio is-gwmni masnachu mewn unrhyw achos lle y byddai risg sylweddol i asedau’r elusen pe byddai’n ymgymryd â gweithgarwch masnachu ei hun. Fodd bynnag, gall ymddiriedolwyr ddefnyddio is- gwmni masnachu am resymau eraill, er enghraifft:
- diogelu asedau’r elusen rhag risgiau masnachu, hyd yn oed os nad yw’r risgiau yn sylweddol
- diogelu asedau’r elusen rhag risgiau masnachu, hyd yn oed os yw’r masnachu yn brif ddiben neu’n ategol
- creu uned weinyddu ar wahân at ddibenion cyfrifyddu a/neu reoli er mwyn, er enghraifft, hwyluso llunio contractau ar gyfer darparu gwasanaeth cyhoeddus a diogelu asedau’r elusen yr un pryd
- leihau neu ddileu’r atebolrwydd i dalu treth sy’n codi o’r gweithgareddau masnachu
Fodd bynnag, gall fod anfanteision i drosglwyddo gweithgareddau masnachu elusen i is-gwmni masnachu. Er enghraifft:
- os mai treth yw’r prif reswm dros ddefnyddio is-gwmni masnachu, gall y manteision treth fod yn annigonol i gyfiawnhau’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â sefydlu a gweithredu is-gwmni masnachu
- gall fod anfanteision i ddefnyddio is-gwmni masnachu oherwydd mae’n bosib na fydd rhai manteision y mae elusennau’n eu mwynhau ar gael, e.e. rhyddhad treth elusennau gweler 4.14 ac eithriad rhag talu treth tir toll stamp (gweler 4.21)
Gwybodaeth bellach
Gweler hefyd canllaw’r Comisiwn Elusennau a darparu gwasanaeth cyhoeddus: cyflwyniad a throsolwg (CC37)
4.3 Ydy is-gwmnïau masnachu yn talu treth fel cwmnïau eraill?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Ydynt. Mae rhai gwahaniaethau cyfreithiol rhwng is-gwmnïau masnachu elusennau a chwmnïau eraill. Fodd bynnag, mae modd i is-gwmni masnachu dalu peth neu’r cyfan o’i elw masnachu i’w riant elusen, gan felly eithrio’r elw hwnnw wrth gyfrifo atebolrwydd y cwmni masnachu at ddibenion treth gorfforaeth, a lleihau lefel yr atebolrwydd hwnnw.
Yn fwy manwl
Mae is-gwmni masnachu yn agored i dalu treth gorfforaeth ar ei elw ei hun, yn yr un modd ag unrhyw gwmni arall. Ond gall yr is-gwmni masnachu wneud taliadau i’w riant elusen fel Cymorth Rhodd, a gall hyn leihau neu ddileu atebolrwydd treth gorfforaeth yr is-gwmni. Gweler 4.4.
Mae masnachu yn weithgarwch busnes, a rhaid i is-gwmni masnachu (neu yn wir elusen) sy’n ymgymryd â masnach gael ei gofrestru ar gyfer TAW os yw’r trosiant trethadwy yn fwy na’r terfyn statudol. Gall is- gwmnïau masnachu fwynhau rhai o fanteision TAW y rhiant elusen (gweler 4.13).
Gwybodaeth bellach
Mae cyngor cyffredinol ar ddefnyddio is-gwmnïau masnachu i’w weld yng nghanllaw gwe HMRC Masnachu a gweithgareddau busnes o fewn yr adran ‘Elusennau’.
Mae gwybodaeth am y trothwy TAW i’w gweld yn y rhifyn cyfredol o Rybudd TAW 700/1. Mae rhybuddion TAW 701/1 (Elusennau) a 701/5 (Clybiau a Chymdeithasau) yn rhoi gwybodaeth bellach. Mae’r rhain hefyd ar gael yn yr adran ‘Elusennau’ ar wefan HMRC.
{;#s4-4} ###Sut gall is-gwmni masnachu dalu cronfeydd i’w riant elusen?
Yr ateb byr
Gall cronfeydd gael eu talu ar ffurf difidend cyfrannau, llog ar gyfalaf benthyciadau ac ad-daliadau cyfalaf benthyciadau, neu fel Cymorth Rhodd. Mae llawer o fanteision treth i’w cael drwy wneud y taliadau mewn ffordd sy’n cael yr effaith o leihau lefel yr atebolrwydd treth gorfforaeth yn yr is-gwmni masnachu.
Yn fwy manwl
Mae Cymorth Rhodd yn ddull cyffredin i is-gwmni masnachu dalu cronfeydd i’w riant elusen. Y rheswm am hyn yw:
- Mae taliadau Cymorth Rhodd yn lleihau incwm trethadwy is-gwmni masnachu gan swm y taliad; felly, drwy wneud taliadau o’r fath, yn aml iawn mae modd dileu rhwymedigaeth treth gorfforaeth bosibl gyfan yr is-gwmni masnachu (ond gweler 4.5)
- Mae taliadau Cymorth Rhodd i’r rhiant elusen o is-gwmni masnachu wedi’u heithrio o dreth gorfforaeth (neu dreth incwm yn achos ymddiriedolaethau elusennol) os cânt eu defnyddio at ddibenion elusennol yn unig
Gall is-gwmni masnachu wneud taliadau Cymorth Rhodd i’w riant elusen unrhyw bryd o ddechrau’r cyfnod cyfrifyddu perthnasol tan 9 mis o ddiwedd y cyfnod hwnnw. Gall gohirio taliadau gynorthwyo llif arian yn yr is-gwmni masnachu.
Mae amseriad y taliadau Cymorth Rhodd yn fater i gyfarwyddwyr yr is-gwmni masnachu yn bennaf. Ni fyddai disgwyl i ymddiriedolwyr y rhiant elusen ymyrryd oni bai bod rheswm ganddynt dros gredu nad oedd cyfarwyddwyr yr is-gwmni yn rhoi ystyriaeth briodol i fuddiannau’r elusen wrth wneud y penderfyniadau perthnasol.
Prin iawn y bydd cronfeydd yn cael eu talu i’r rhiant elusen drwy gyfrwng difidend cyfrannau, os o gwbl. Mae difidendau, fel taliadau Cymorth Rhodd, wedi’u heithrio o dreth yn nwylo’r rhiant elusen, ond nid ydynt yn lleihau elw trethadwy’r is-gwmni masnachu. Felly, byddai’r dull hwn o dalu cronfeydd i’r rhiant elusen yn gadael atebolrwydd i dalu treth gorfforaeth yn yr is-gwmni masnachu.
Pan fydd rhiant elusen yn darparu cyfalaf benthyciadau i is-gwmni masnachu, wrth gwrs, rhaid i’r is-gwmni masnachu, wneud taliadau llog ac ad-daliadau o’r prifswm yn unol â thelerau’r cytundeb benthyciad gyda’r elusen. Am fwy o wybodaeth gweler 4.10 a 4.11. Gellir gwneud iawn am gostau cynnal benthyciad yn effeithiol wrth gyfrifo beth yw incwm trethadwy yr is-gwmni masnachu, naill ai’n uniongyrchol fel costau’r fasnach, neu drwy lwfansau cyfalaf.
4.4 All ymddiriedolwyr ddisgwyl i’w his-gwmni masnachu sydd ym mherchnogaeth lwyr roi drwy Gymorth Rhodd yr holl elw a ddangosir yn y cyfrif elw a cholled bob amser i’w rhiant elusen?
Sylwer: diwygiwyd yr adran hon ar 24/02/2016. Mae’n seiliedig ar farn gyfreithiol wedi’i diweddaru ac yn cymryd lle adran 4.5 a gafodd ei thynnu’n ôl ar 31/10/2014.
Na all. Mae’r gyfraith cwmnïau yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i unrhyw gwmni wneud dosbarthiadau sy’n fwy na’r elw y gellir ei ddosbarthu. Os yw’r elw cyfrifyddu yn uwch na’r gwerth a gyfrifwyd ar gyfer elw y gellir ei ddosbarthu, dim ond y ffigur is all gael ei dalu ar draws o dan Gymorth Rhodd.
O ganlyniad, pan fydd elw trethadwy’r is-gwmni masnachu yn fwy na’i elw y gellir ei ddosbarthu, gall fod rhwymedigaeth treth gan yr is-gwmni masnachu. Mae canllaw HMRC ar elusennau a masnachu yn cynnwys cyngor ar drin treth yn yr achos hwn.
Mae’n rhaid i riant elusennau sydd ag is-gwmnïau sydd ym mherchnogaeth lwyr sicrhau bod eu gweithrediadau yn cydymffurfio â’r safle diwygiedig hwn ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015. Os yw is-gwmnïau masnachu sydd ym mherchnogaeth lwyr wedi talu ffigur uwch o elw cyfrifyddu o dan gymorth rhodd, efallai y bydd rhaid iddynt geisio cyngor gan gynghorydd proffesiynol cymwysedig addas ar sut i weithredu.
Mae Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) wedi cyhoeddi ‘datganiad technegol’ Canllaw ar roddion gan gwmni i’w riant gwmni [TECH 16/14BL] sy’n rhoi esboniad mwy manwl. Mae’n seiliedig ar y cyngor cyfreithiol a roddwyd iddynt.
Mae datganiad technegol ICAEW hefyd yn rhoi arweiniad ar ffyrdd posibl o roi sylwi i faterion cyfrifyddu tebygol a all godi wrth unioni’r sefyllfa. Mae hyn yn cynnwys yr opsiwn i ddileu’r cyfan neu ran o fenthyciad a wnaed i is-gwmni masnachu sydd ym mherchnogaeth lwyr mewn perthynas â’r sefyllfa hon. Os yw’r ymddiriedolwyr yn ystyried yr opsiwn hwn, byddai’n rhaid iddynt allu dangos bod:
-
Y penderfyniad er lles yr elusen, gan ddefnyddio’r egwyddorion yn Eich penderfyniad chi.
-
Unig bwrpas yr y dileu yw datrys problemau technegol sy’n deillio o’r angen i gysoni’r trefniadau â’r eglurhad hwn o safle’r gyfraith cwmnïau.
-
Mae’r berthynas â’r is-gwmni masnachu yn drefniant cyfreithlon y gellir ei gyfiawnhau ei hun sydd yn amlwg yn gweithredu er lles yr elusen.
-
Ni fu hanes blaenorol o ddileu colledion a roddwyd gan yr elusen i’w is-gwmni masnachu oherwydd diffyg perfformiad yr is-gwmni o ran ad-dalu benthyciadau.
-
Fel arall mae’r is-gwmni masnachu yn hyfyw yn ariannol ac yn fusnes byw.
Os yw’r amodau a nodir wedi’u bodloni yna nid oes rhaid i ymddiriedolwyr geisio unrhyw hawlildiad neu gytundeb blaenorol gan y Comisiwn. Os nad yw’r amodau hyn wedi’u bodloni ni fydd y Comisiwn yn rhoi unrhyw hawlildiad neu gymeradwyaeth ac eithrio o dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol a dim ond ar ôl i’r ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol a gwneud achos sy’n amlinellu’r holl ffeithiau perthnasol gan gynnwys cyfiawnhad rhesymedig dros eu cais.
4.5 Sut dylai is-gwmnïau masnachu gael eu cyllido?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Fel arfer bydd is-gwmnïau masnachu yn cael eu cyllido gan eu rhiant elusennau, er bod modd cael cyllid allanol hefyd. Gall y cyllid gael ei ddarparu fel cyfalaf cyfrannau a/neu gyfalaf benthyciadau. Hefyd gall is- gwmnïau masnachu gadw elw, yn amodol ar ystyriaethau treth.
Yn fwy manwl
Pan fydd is-gwmni masnachu yn cael ei ffurfio, gall ei riant elusen wneud cyfraniad nominal o gyfalaf cyfrannau yn yr is-gwmni masnachu er mwyn cydymffurfio â gofynion y gyfraith cwmnïau mewn perthynas â ffurfio cwmnïau. Fodd bynnag, fel arfer bydd yr is-gwmni masnachu yn gofyn am fwy na swm nominal o gyfalaf er mwyn gweithredu’n effeithiol.
Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yn cyllido eu busnes drwy gymysgedd o gyfalaf cyfrannau, cyfalaf benthyciadau, a chadw elw. Fodd bynnag mae’r system dreth yn annog is-gwmni masnachu i drosglwyddo ei elw i’r rhiant elusen fel Cymorth Rhodd. O ganlyniad mae cymhelliad gan is-gwmni masnachu i beidio ag ateb ei anghenion cyllido o elw a gedwir (gweler 4.7).
Felly, bydd angen is-gwmni masnachu am gyllid, yn y rhan fwyaf o achosion, yn cael ei ateb o gyfalaf cyfrannau a/neu gyfalaf benthyciadau. Fel rheol, ond nid bob amser, darperir y cyfalaf hwn gan y rhiant elusen.
Rhaid gallu cyfiawnhau’r ddarpariaeth hon fel buddsoddiad o asedau’r elusen (gweler 4.8). Ni all rhiant elusennau ddarparu cymorth i is-gwmnïau masnachu ar delerau sy’n cynnwys elfen mwy neu elfen lai o rodd. Er enghraifft:
- ni all rhiant elusen wneud cyfraniadau i’r is-gwmni masnachu, mewn arian parod neu nwyddau, drwy brynu stoc ar gyfer yr is-gwmni, a rhoi’r stoc honno i’r is-gwmni masnachu, neu fel arall;
- rhaid i riant elusen beidio â thalu dyledion is-gwmni masnachu
- rhaid i elusen, os yw’n caniatáu i is-gwmni masnachu ddefnyddio ei staff, adeiladau neu offer, godi taliadau teg ar y defnyddwyr hynny (gweler 4.21 ac 4.22)
4.6 All is-gwmni masnachu gyllido ei hun drwy gadw elw?
Yr ateb byr
Gall, mae hyn yn bosibl. Fodd bynnag, bydd elw masnachu a gedwir yn agored i dalu treth gorfforaeth.
Yn fwy manwl
Fel y nodwyd yn 4.4 os yw holl elw y gellir ei ddosbarthu yr is-gwmni masnachu yn cael ei dalu i’r rhiant elusen fel Cymorth Rhodd, mae atebolrwydd yr is-gwmni masnachu i dalu treth gorfforaeth wedi’i leihau neu ei ddileu. Ond rhaid i anghenion yr is-gwmni masnachu am gyllid gael eu hateb o’r cyfalaf yn gyfan gwbl.
Mae’n well gan rai rhiant elusennau dderbyn y canlyniadau treth gorfforaeth a ddaw os yw’r is-gwmni masnachu yn cadw elw y gellir ei ddosbarthu. Yn wir, gall fod angen ei gadw os yw cyllid drwy gyfrwng benthyciad wedi’i geisio gan fanciau masnachol neu drydydd partïon eraill, er mwyn cynnal y benthyciad. Mae’r dull hwn o weithredu:
- yn cynnig modd i’r is-gwmni masnachu gyllido ei hun drwy gyfuniad o gyfalaf ac elw a gedwir mewn ffordd sy’n agosach at arferion masnachol cyffredin
- gall ei gwneud hi’n haws i’r rhiant elusen gyfiawnhau buddsoddiadau yn yr is-gwmni masnachu, yn enwedig os oes angen cyllid ecwiti sylweddol i gyllido gweithgareddau masnachu parhaus; fodd bynnag, gall cadw elw o’r fath gan is-gwmni masnachu hefyd rhagfarnu gostyngiadau TAW a fyddai wedi bod ar gael fel arall (gweler 4.13
Gwybodaeth bellach
Dylid ceisio cyngor proffesiynol mewn unrhyw achos os yw ymddiriedolwyr yn ansicr ynghylch lefel y taliad Cymorth Rhodd i’r rhiant elusen sydd, at ei gilydd, yn fwyaf buddiol i’r elusen.
4.7 Pa rwymedigaethau cyfreithiol sy’n codi os yw ymddiriedolwyr yn buddsoddi cronfeydd elusen mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Rhaid i ymddiriedolwyr y rhiant elusen allu cyfiawnhau cymorth ariannol ar gyfer is-gwmni masnachu fel buddsoddiad priodol o adnoddau’r elusen. Ym mhob achos rhaid i fuddiannau’r elusen fod o’r pwys mwyaf. Dylai unrhyw fuddsoddiad ddilyn polisi buddsoddi cyffredinol yr elusen.
Yn fwy manwl
Mae’r ystyriaethau sy’n gymwys i fuddsoddiad gan riant elusen mewn is-gwmni masnachu, yn debyg i unrhyw fuddsoddiad arall o adnoddau’r elusen. Rhaid i ymddiriedolwyr, pan fyddant yn buddsoddi adnoddau elusen:
- fod yn sicr bod y buddsoddiad wedi’i gynnwys o fewn pwerau buddsoddi’r elusen
- dangos gofal a medr yn y broses fuddsoddi sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau
- ystyried yr addasrwydd i’r elusen o fuddsoddiadau sydd yr un fath â’r buddsoddiad arbennig y mae’n cynnig ei wneud
- ystyried addasrwydd y buddsoddiad arbennig dan sylw, fel buddsoddiad o’r fath y mae’n ymddangos ei fod yn briodol i’w wneud
- ystyried yr angen i arallgyfeirio buddsoddiadau, fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r elusen
- ceisio ac ystyried cyngor am y buddsoddiad gan unigolyn y mae’n rhesymol i’r ymddiriedolwyr gredu ei fod yn gymwys i’w roi drwy ei allu a phrofiad ymarferol o faterion ariannol a materion eraill; rhaid i’r cyngor ystyried addasrwydd a’r pwyntiau arallgyfeirio y sonnir amdanynt uchod
Yng nghyd-destun buddsoddiad arfaethedig mewn is-gwmni masnachu a ddefnyddir i ymgymryd â masnachu heb fod yn brif ddiben, mae’n golygu bod:
- rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried yn rhesymol ei fod er lles yr elusen i wneud y buddsoddiad, ar ôl gwneud cymhariaeth deg rhwng y math hwn o fuddsoddiad a mathau eraill o fuddsoddiad y gellid eu dewis
- rhaid i’r gymhariaeth deg hon gynnwys asesiad gwrthrychol o ragolygon busnes yr is-gwmni masnachu
- rhaid i’r ymddiriedolwyr fodloni eu hunain ynghylch dichonoldeb ariannol yr is-gwmni masnachu, yn seiliedig ar ei gynllun busnes, rhagolygon llif arian, rhagamcaniadau elw, dadansoddiad risg a gwybodaeth arall sydd ar gael
- fel arfer mae’n rhaid i’r ymddiriedolwyr geisio cyngor priodol ar y buddsoddiad a hyfywedd ariannol yr is-gwmni masnachu; bydd yr hyn sy’n ‘briodol’ yn dibynnu ar yr amgylchiadau - mae cost ceisio’r cyngor yn ffactor perthnasol a dylai’r gost fod yn gymesur â maint y buddsoddiad arfaethedig
Dylai ymddiriedolwyr hefyd:
- roi sylw i’r cyfnod y gallai’r cronfeydd gael eu rhwymo mewn buddsoddiad mewn is-gwmni masnachu, oherwydd mae’n bosib na fydd yn hawdd realeiddio cronfeydd y mae eu hangen yn y tymor byr i ganolig pan gânt eu buddsoddi yn y ffordd hon
- ystyried, a cheisio cyngor addas, ar y posibilrwydd o gael cyllid annibynnol fel dewis arall i gyllido gan yr elusen, gweler 4.9
Mae union strwythur y buddsoddiad yn yr is-gwmni masnachu yn benderfyniad y mae ymddiriedolwyr y rhiant elusen (gyda chyngor proffesiynol) yn gyfrifol amdano, gan ystyried dyletswyddau buddsoddi ymddiriedolwyr sydd wedi’u crynhoi. Hefyd, rhaid i ymddiriedolwyr ystyried yn achlysurol a ddylid cadw neu waredu buddsoddiad sy’n bod. Wrth adolygu buddsoddiadau, mae’r dyletswyddau yn debyg i’r rhai a nodir.
Rhaid i ymddiriedolwyr ystyried adran 506(4), ac atodlen 20 o ddeddf 1988 hefyd. Gall y darpariaethau hyn greu effaith treth os yw benthyciadau i is-gwmnïau masnachu, neu fuddsoddiadau ecwiti mewn is-gwmnïau masnachu yn amhriodol. Mae’r pwnc hwn wedi’i grynhoi yn 4.12.
Gwybodaeth bellach
Mae rhagor o wybodaeth am ddyletswyddau buddsoddi ymddiriedolwyr i’w chael yn y canllaw manwl ar ‘Elusennau a buddsoddiadau’.
4.8 All elusen geisio buddsoddiad allanol mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Gall. Mae’n arfer da i ymddiriedolwyr rhiant elusen ystyried a yw’n ddymunol cael eraill i fuddsoddi yn eu his-gwmni masnachu. Byddai hyn yn lledaenu risgiau’r fasnach, a gall gyfrannu’n bositif at hylifedd yr elusen. Ond gall fod yn anodd denu buddsoddiad o’r fath am gost resymol.
Yn fwy manwl
Gall rhannu’r risg o fasnach yn methu gydag ariannwr annibynnol fod yn ddewis synhwyrol i riant elusen, ar yr amod nad yw’r gost yn ormodol. Mantais ychwanegol o gynnwys ariannwr annibynnol yw y bydd unigolyn o’r fath yn gallu darparu asesiad annibynnol o ddichonoldeb economaidd gweithrediad yr is-gwmni masnachu.
Rhaid ystyried yn ofalus natur a thelerau unrhyw fuddsoddiad allanol. Er mwyn cadw ei atebolrwydd i dalu treth gorfforaeth i’r lleiaf posibl, fel rheol bydd yr is-gwmni masnachu yn talu’r cyfan o’i elw trethadwy i’w riant gwmni fel Cymorth Rhodd (gweler 4.3). Drwy wneud hyn ni fyddai unrhyw gronfeydd yn weddill i’w dosbarthu i gyfranddalwyr fel difidendau.
Felly ni fydd buddsoddiad cyfalaf cyfrannau mewn is-gwmni masnachu elusen yn ddeniadol fel arfer i gyllidwyr allanol sy’n cael eu cymell gan elw. Ond gallai buddsoddiad cyfalaf cyfrannau mewn is-gwmni masnachu gael ei farchnata i gefnogwyr y rhiant elusen, a allai fod yn awyddus i gael adenillion masnachol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd buddsoddiad allanol mewn is-gwmni masnachu’r elusen ar ffurf cyfalaf benthyciadau, oherwydd bydd taliadau llog ar fenthyciadau ac ad-daliadau o’r prifswm yn digwydd cyn rhoi unrhyw daliadau Cymorth Rhodd i’r rhiant elusen. Gall cyllid benthyciad fod ar gael gan fanciau, a benthycwyr preifat eraill, gan gynnwys cefnogwyr yr elusen.
Dylai ymddiriedolwyr roi sylw arbennig i delerau’r cyfalaf benthyciadau oherwydd gallai taliadau llog leihau lefel yr elw masnachu yn yr is-gwmni yn fawr. Hyd yn oed os yw gweithrediad yr is-gwmni masnachu yn broffidiol cyn taliadau benthyciad, mae’n bosibl na fydd felly wedi hynny. Dylai elusennau ystyried y posibilrwydd o gael cyfalaf benthyciadau gan eu cefnogwyr, a all fod yn barod i ddarparu cyllid ar delerau ffafriol.
Wrth lunio menter ar y cyd o’r natur hon, mae’n bwysig bod y buddsoddiad er lles yr elusen. Fel agwedd ar ystyried priodoldeb y fenter ar y cyd, dylai’r ymddiriedolwyr ystyried a ddylid gwneud unrhyw wiriadau diwydrwydd dyladwy ar statws ariannol y partner(iaid) eraill, a dylent sicrhau eu bod nhw â’u partner(iaid) menter ar y cyd â barn debyg ynghylch graddfa’r buddsoddiad sydd ei hangen, lefel y risg masnachu a dderbynnir, y mecanwaith ar gyfer pennu cyfeiriad y gweithgarwch masnachu ac am ddatrys unrhyw anghytuno rhwng y partneriaid.
Wrth lunio menter ar y cyd, er y bydd pob parti yn rhagweld canlyniad llwyddiannus, mae hefyd yn bwysig ystyried y ‘strategaeth ymadael’, rhag ofn y bydd anawsterau anorchfygol yn codi.
Un o brif achosion menter ar y cyd yn methu yw gwahaniaeth anghymodlon yn nealltwriaeth partneriaid am gyfeiriad y fenter ar y cyd. O ganlyniad, argymhellir y dylai pob partner ystyried a chytuno ar amcanion y fenter ar y cyd, sicrhau bod yr holl ddogfennaeth angenrheidiol wedi’i chwblhau, a bod cynllun busnes wedi cael ei gytuno. Argymhellir bod ymddiriedolwyr yn ceisio cyngor proffesiynol pellach, lle bo’n briodol.
Rhaid i ymddiriedolwyr sy’n ystyried menter ar y cyd o’r natur hon gofio’r 2 bwynt treth canlynol:
(1) Oni bai bod y cwmni menter ar y cyd ym mherchnogaeth lwyr un neu ragor o elusennau, rhaid i unrhyw daliadau sy’n cael eu rhoi i elusen fel Cymorth Rhodd gael ei wneud yn ystod y flwyddyn ariannol y bydd y taliadau yn cael eu gosod yn erbyn elw trethadwy’r cwmni. Mae’r gallu i wneud taliadau Cymorth Rhodd hyd at 9 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol (gweler 4.4) ar gael i gwmnïau sydd ym mherchnogaeth lwyr un elusen neu fwy yn unig.
(2) Os yw’r partner masnachol yn derbyn cyfran o’r elw gan y cwmni, gall HMRC herio’r defnydd o Rodd Cymorth i wneud taliad cyfatebol i’r partner elusennol.
4.9 Pa ystyriaethau sy’n berthnasol i fuddsoddiad elusen o gyfalaf cyfrannau mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Os yw’r busnes yn methu, mae cyfranddalwyr yn llai tebygol o adennill eu buddsoddiad na buddsoddwyr cyfalaf benthyciadau. Fodd bynnag, bydd buddsoddiad o gyfalaf cyfrannau gan y rhiant elusen yn rhoi hyder yn yr is-gwmni masnachu i gyflenwyr ac eraill y mae’n gwneud busnes â nhw.
Yn fwy manwl
Nid yw cyfranddaliwr mewn is-gwmni masnachu yn gredydwr y cwmni fel y cyfryw. Fel rheol gall cyfalaf cyfrannau gael ei ad-dalu os yw’r cwmni yn diddymu, ac yna bydd cyfranddalwyr yn cael swm ar gyfer eu cyfalaf cyfrannau dim ond os yw holl gredydwyr y cwmni wedi cael eu had-dalu’n llawn. Fel cyfranddaliwr, nid oes gan y rhiant elusen hawl absoliwt i dderbyn difidendau neu roddion o’i his-gwmni masnachu.
Fel rheol, atyniad buddsoddiad cyfalaf cyfrannau (o’i gymharu â chyfalaf benthyciadau) yw ei fod yn rhoi (neu’n cynyddu) hawl i gyfranogi yn elw’r cwmni ar ffurf difidendau pan gânt eu datgan. Mae hyn yn cyfiawnhau’r risg mwy i fuddsoddwyr o’i gymharu â chyfalaf benthyciadau. Ond mae’n amlwg nad yw’r atyniad yn bodoli os yw’r is-gwmni masnachu eisoes ym mherchnogaeth lwyr y rhiant elusen.
Fodd bynnag, mae rhesymau dilys pam y gallai rhiant elusen ddewis gyfalafu is-gwmni masnachu drwy gyfrwng cyfalaf cyfrannau yn hytrach na chyfalaf benthyciadau. Er enghraifft:
- gall cyfraniad rhiant elusen o gyfalaf cyfrannau sylweddol yn ei his-gwmni masnachu roi hyder i gyflenwyr, cwsmeriaid, credydwyr, darpar gredydwyr ac eraill y mae gan yr is-gwmni masnachu berthynas fusnes ag ef
- pe byddai is-gwmni masnachu yn agored i risg neu ansolfedd pe byddai’n cael ei gyfalafu gan fenthyciad, ni fydd llawer o ddewis gan ymddiriedolwyr ond buddsoddi cyfalaf cyfrannau (yn amodol ar yr ystyriaethau a nodwyd yn 4.8
Mae’r ffaith na fydd y cyfalaf cyfrannau a gyfrannwyd gan y rhiant elusen yn yr is-gwmni masnachu yn cael ei ad-dalu’n llawn, neu hyd yn oed yn rhannol efallai, pan gaiff yr is-gwmni ei ddiddymu, yn un o’r ffactorau y dylai cynghorydd buddsoddi’r elusen ei ystyried wrth benderfynu p’un ai i argymell i ymddiriedolwyr y rhiant elusen i gyfrannau cyfalaf cyfrannau. Byddai’n rhaid i’r cynghorydd ystyried yr adenillion economaidd cyfan i’r elusen, gan gydbwyso taliadau Cymorth Rhodd ac unrhyw ddosraniadau a ragwelir yn erbyn y risg o golli cyfalaf.
4.10 Pa ystyriaethau sy’n berthnasol i fuddsoddiad elusen o gyfalaf benthyciadau mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Fel darparwr cyfalaf benthyciadau i’r is-gwmni masnachu, mae hawl cytundebol gan riant elusen i ad-dalu’r prifswm. Mae hyn yn rhoi mwy o sicrwydd ad-daliad i’r rhiant elusen, ond gall hefyd greu ansolfedd i’r cwmni pe na fyddai’n gallu gwasanaethu ei fenthyciadau.
Yn fwy manwl
Mae hawl gytundebol gan fenthyciwr i dalu llog ar y benthyciad, ac ad-dalu’r prifswm ar ddiwedd cyfnod y benthyciad. Felly, mae darparu cyfalaf benthyciadau yn rhoi mwy o sicrwydd i’r elusen sy’n buddsoddi na darparu cyfalaf cyfrannau, sydd heb gynnig unrhyw warantau o’r fath.
Fodd bynnag, mae swm unrhyw gyfalaf benthyciadau a ddelir gan gwmni yn cael ei ystyried wrth bennu ei solfedd. Ni all cwmni fasnachu os yw’n ansolfent. Felly, ni ddylai ymddiriedolwyr fuddsoddi cyfalaf benthyciadau mewn is-gwmni masnachu os yw’n rhesymol i ragweld na fydd yr is-gwmni yn gallu cynnal y benthyciad neu ei ad-dalu pan fydd y cyfnod yn dod i ben. Mewn achosion o’r fath dylai ymddiriedolwyr:
- ystyried a yw er lles yr elusen i gynnal y cwmni o gwbl, neu a yw er ei lles gorau i’w ddiddymu neu ei werthu fel busnes byw (yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodwyd yn 4.8 (gweler hefyd 4.16).
- darparu’r buddsoddiad fel cyfalaf cyfrannau (gweler 4.10), uchod), os yw er lles yr elusen i ddarparu cyllid ychwanegol
Gall darparu cyfalaf benthyciadau greu ansolfedd yn anfwriadol mewn is-gwmni masnachu hyd yn oed os yw’n masnachu’n broffidiol. Er mwyn dileu atebolrwydd i dalu treth gorfforaeth, bydd is-gwmni masnachu yn aml yn talu i’w riant elusen fel Cymorth Rhodd ei holl elw y gellir ei ddosbarthu a fyddai fel arall yn agored i dalu treth gorfforaeth (gweler4.4. O ganlyniad gall yr is-gwmni masnachu gadw adnoddau annigonol i ad-dalu benthyciadau a wnaed gan yr elusen pryd a phan y byddant yn ddyledus. Byddai hynny’n golygu bod yr is-gwmni masnachu yn ansolfent, oherwydd ni fyddai’n gallu talu ei ddyledion.
Os yw elusen yn rhoi benthyciadau i is-gwmni masnachu, rhaid i ymddiriedolwyr benderfynu ar y telerau o ran y gyfradd llog ac ad-dalu’r prifswm. Rhaid iddynt hefyd benderfynu sut y dylid gwarantu’r benthyciad. Mae’r penderfyniadau hyn yn rhan o ddyletswyddau’r ymddiriedolwyr a nodwyd yn 4.8 uchod.
Efallai yr hoffai ymddiriedolwyr roi benthyciad di-log i is-gwmni masnachu, neu fenthyciad a warentir dim ond drwy ymrwymiad cytundebol yr is-gwmni, ac nid drwy arwystl dros asedau’r is-gwmni. Fodd bynnag, mae HMRC Elusennau yn feirniadol o fenthyciadau sydd heb eu gwneud ar delerau masnachol priodol (gweler 4.12. Yn arbennig:
- nid yw’n debygol y gellid cyfiawnhau benthyciadau di-log i is-gwmni masnachu fel buddsoddiad, oni bai bod swm y benthyciad yn fach
- er bod creu arwystl dros eiddo’r is-gwmni masnachu i warantu benthyciad yn cynnwys cost, nid yw’n debygol y gellid cyfiawnhau benthyciad a warentir dim ond drwy ymrwymiad cytundebol yr is-gwmni masnachu fel buddsoddiad, oni bai bod swm y benthyciad yn fach, neu os yw gwerth y warant sydd ar gael yn yr is-gwmni yn gyfyngedig
4.11 Pa oblygiadau treth eraill y mae angen eu hystyried wrth fuddsoddi mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Mae’n bwysig sicrhau nad yw unrhyw fuddsoddiad gan riant elusen mewn is-gwmni masnachu yn cael ei drin fel ‘gwariant anelusennol’, yn ôl y diffiniad ohono yn adran 506 o ddeddf 1988. Os yw’n cael ei drin felly, gall atebolrwydd i dalu treth godi.
Yn fwy manwl
Bydd unrhyw fuddsoddiad mewn is-gwmni masnachu, boed ar ffurf cyfalaf cyfrannau neu gyfalaf benthyciadau, yn cael ei drin fel ‘gwariant anelusennol’ o fewn ystyr adran 506 o ddeddf 1988 os nad yw’n fenthyciad neu’n fenthyciad cymwys yn ôl y diffiniad yn Atodlen 20 y ddeddf honn. Os yw’n cael ei drin fel gwariant anelusennol, gall rhai o eithriadau treth yr elusen gael eu cyfyngu.
Er mwyn osgoi cael ei drin fel gwariant anelusennol, rhaid i’r ymddiriedolwyr allu bodloni HMRC Elusennau fod y buddsoddiad yn yr is-gwmni masnachu wedi’i wneud er budd y rhiant elusen yn unig, ac nid er mwyn osgoi treth, gan yr elusen neu unrhyw un arall.
Ni fyddai buddsoddiad yn cael ei ystyried ‘er budd y rhiant elusen’, er enghraifft, pe byddai’r buddsoddiad yn hapfasnachol, neu wedi’i gymell gan awydd i gadw’r is-gwmni masnachu, waeth beth fo’r rhagolygon o adenillion economaidd i’r rhiant elusen.
Gall benthyciad sy’n honni ei fod yn fuddsoddiad hefyd gael ei ystyried gan HMRC Elusennau yn ‘wariant anelusennol’:
- os yw’r cytundeb benthyciad heb gynnwys y ddarpariaeth briodol ar gyfer ei ad-dalu
- os yw’r benthyciad heb ei warantu ac mae asedau gan y cwmni y gellid fod wedi gwarantu’r benthyciad arno
- mae’r cytundeb benthyciad yn darparu ar gyfer cyfradd adenillion nad yw’n adlewyrchu lefel y risg
- rhagwelwyd o’r dechrau na fyddai’r cytundeb benthyciad yn cael ei weithio allan, e.e. byddai’r benthyciad yn cael ei ddileu gan y rhiant elusen
Mae’n bwysig i ymddiriedolwyr gadw cofnod o’r trafodion sy’n rhagflaenu unrhyw benderfyniad i wneud buddsoddiad mewn is-gwmni masnachu, a’u bod yn gallu dangos i HMRC Elusennau fod y dyletswyddau buddsoddi a ddisgrifir yn fras wedi cael eu cyflawni’n briodol o ran gwneud y buddsoddiad hwnnw.
Gall y darpariaethau ‘rhoddwr sylweddol’ a ddeddfwyd yn Neddf Cyllid 2006 hefyd gael yr effaith o drin buddsoddiad elusen mewn busnes fel gwariant anelusennol, os yw’r busnes hwnnw wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’r elusen. Fodd bynnag, ni all is-gwmni masnachu fod yn ‘rhoddwr sylweddol’ mewn perthynas â’i riant elusen ei hun, waeth beth fo maint y taliadau y mae’n eu gwneud, neu wedi’u gwneud, i’r rhiant elusen.
Gwybodaeth bellach
Cyfeiriwch at wefan HMRC a’r canllaw Masnachu a gweithgareddau busnes.
4.12 Ydy is-gwmni masnachu yn mwynhau manteision TAW a threth gorfforaeth a roddir i’w riant elusen?
Yr ateb byr
Mae is-gwmni masnachu yn mwynhau rhai, ond nid pob un o fanteision TAW ei riant elusen, ar yr amod bod rhai amodau’n cael eu bodloni. Nid oes unrhyw fanteision cyfatebol o ran treth gorfforaeth.
Yn fwy manwl
Ar yr amod bod yr is-gwmni masnachu yn trosglwyddo’r elw masnachu sy’n deillio o’r gwerthiannau perthnasol i’r elusen o dan gytundeb ysgrifenedig neu rwymedigaeth gyfreithiol arall, gall manteision canlynol y rhiant elusen hefyd fod yn gymwys i is-gwmni masnachu:
- TAW cyfradd sero ar werthu neu osod nwyddau a roddwyd (gweler 3.3)
- eithriad TAW ar werthu nwyddau a gwasanaethau gan is-gwmni masnachu mewn cysylltiad â digwyddiadau codi arian (gweler 3.13)
Nid yw eithriadau treth gorfforaeth gyfatebol yn gymwys. Fodd bynnag, gall yr is-gwmni masnachu leihau ei atebolrwydd i dalu treth gorfforaeth drwy wneud taliadau i’r rhiant gwmni fel Cymorth Rhodd (gweler 4.1).
4.13 Ydy is-gwmnïau masnachu yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi?
Yr ateb byr
Nid oes gan is-gwmnïau masnachu hawl absoliwt i ryddhad ardrethi ar gyfer eiddo a feddiannir ganddynt. Ond gall yr awdurdod ardrethi roi rhyddhad treth yn ôl ei ddisgresiwn.
Yn fwy manwl
Gall eiddo annomestig a feddiannir ac a ddefnyddir gan elusen hawlio rhyddhad cyfradd orfodol o 80%, a elwir yn ‘rhyddhad cyfradd elusen’. Gall yr 20% sy’n weddill gael ei hepgor yn ôl disgresiwn yr awdurdod ardrethi lleol. Er mwyn bod yn gymwys am y rhyddhad hwn, rhaid i eiddo:
- gael ei feddiannu gan elusen, neu ymddiriedolwyr elusen
- cael ei ddefnyddio’n llwyr neu’n bennaf at ddibenion elusennol
Yn y cyd-destun hwn, fel rheol nid yw’r term ‘dibenion elusennol’ yn cynnwys gweithgareddau codi arian, ond mae’n cynnwys gwerthu nwyddau a roddwyd.
Nid yw’r rhyddhad gorfodol hwn ar gael yn achos eiddo a feddiannir gan is-gwmni masnachu. Fodd bynnag, mae disgresiwn gan awdurdodau ardrethi i roi rhyddhad treth i rai cyrff nad ydynt yn elusennau.
Mae eiddo a feddiannir yn rhannol gan elusen ac a ddefnyddir at ddibenion elusennol, ac yn rhannol gan is- gwmni masnachu, yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi elusen gorfodol dim ond ar gyfer y rhan a feddiannir gan yr elusen.
Gall rhyddhad cyfradd elusen fod ar gael os yw elusen yn meddiannu eiddo er bod yr eiddo yn cael ei ddefnyddio’n rhannol i godi arian, ar yr amod y caiff ei ddefnyddio’n ‘bennaf’ at ‘ddibenion elusennol’. Er bod y fasnach codi arian yn mynd rhagddo gan is-gwmni masnachu, gall yr elusen ddadlau ei fod yn meddiannu’r eiddo cyfan, ac yn ei ddefnyddio’n ‘bennaf’ at ddibenion elusennol.
Er enghraifft, os yw nwyddau a roddwyd yn cael eu gwerthu yn yr un siop â nwyddau a brynwyd i mewn, gall yr elusen werthu’r nwyddau a roddwyd ei hun (gan gofio nad yw hyn yn ‘fasnachu’ (gweler 3.3) a gall werthu’r nwyddau a brynwyd i mewn fel asiant i’r is-gwmni masnachu (gweler 3.10). Yna gall yr elusen hawlio rhyddhad ardrethi elusen ar gyfer y siop drwy fodloni’r awdurdod fod y siop wedi’i meddiannu gan yr elusen ‘yn bennaf’ at ddiben gwerthu’r nwyddau a roddwyd.
Nid oes diffiniad statudol o ‘yn bennaf’. Fodd bynnag, dadleuir yn aml os yw gwerth gwerthiannau nwyddau a roddwyd mewn cyfnod arbennig yn fwy na gwerth gwerthiannau nwyddau a brynwyd i mewn, bod yr eiddo yn cael ei ddefnyddio’n ‘bennaf’ ar gyfer gwerthu nwyddau a roddwyd, ac felly at ddibenion elusennol. Mewn achosion o’r fath dylai’r ymddiriedolwyr gysylltu â’r awdurdod ardrethi priodol ac, os oes angen, eu cynghorwyr cyfreithiol eu hunain am gyngor pellach.
4.14 All ymddiriedolwyr elusen a gweithwyr weithio i is-gwmni masnachu hefyd?
Yr ateb byr
Mae’n arferol i rai o ymddiriedolwyr a/neu weithwyr rhiant elusen fod yn gyfarwyddwyr is-gwmni masnachu hefyd. Fodd bynnag, bydd y cyfyngiadau arferol ar dalu ymddiriedolwyr elusen am unrhyw waith a wnânt ar gyfer yr elusen hefyd yn gymwys i unrhyw waith a wnânt i’r is-gwmni masnachu.
Yn fwy manwl
Er mwyn sicrhau bod yr is-gwmni masnachu yn cael ei reoli er lles y rhiant elusen, a monitro ei berfformiad, bydd rhai o’r ymddiriedolwyr a/neu weithwyr yr elusen yn gweithredu fel cyfarwyddwyr yr is-gwmni masnachu yn aml. Fodd bynnag, rhaid iddynt gofio bod yr elusen a’r is-gwmni masnachu yn endidau gwahanol. Mae dau gyfrifoldeb gwahanol gan unrhyw un sy’n ymwneud â gweinyddu’r 2, a gall fod yn anodd cydbwyso’r cyfrifoldebau sy’n gwrthdaro ar brydiau.
Nid oes modd talu ymddiriedolwr elusen am ei wasanaethau fel cyfarwyddwr neu weithiwr is-gwmni masnachu’r elusen oni bai:
- bod dogfen lywodraethol yr elusen yn darparu’n benodol ar gyfer hyn
- bod rhyw awdurdod penodol arall, megis gorchymyn gan y Comisiwn.
Ni all sefydlu is-gwmni masnachu, os yw cyfarwyddwyr yr is-gwmni hwnnw yr un bobl ag ymddiriedolwyr y rhiant elusen, gael ei ddefnyddio fel dull o dalu ymddiriedolwyr yr elusen ‘trwy’r drws cefn’.
Fel mater o lywodraethu da, dylai fod:
- o leiaf un unigolyn sy’n ymddiriedolwr, ond heb fod yn gyfarwyddwr nac yn weithiwr yr is-gwmni masnach
- o leiaf un unigolyn sy’n gyfarwyddwr yr is-gwmni masnachu, ond heb fod yn ymddiriedolwr neu’n weithiwr yr elusen
Disgrifir y bobl hyn fel pobl ‘heb unrhyw wrthdaro’ oherwydd nid oes unrhyw wrthdaro buddiannau yn eu rolau. Dylai’r ymddiriedolwyr a chyfarwyddwyr heb wrthdaro gynghori eu cydweithwyr ynghylch y camau priodol i’w cymryd os yw dyletswyddau’r rhai sydd â dau gyfrifoldeb yn gwrthdaro. Mae hyn yn lleihau’r risg o unrhyw drafodiad rhwng y rhiant elusen a’r is-gwmni masnachu yn cael ei herio neu ei gwestiynu.
Os yw’r ymddiriedolwyr wedi dirprwyo cyfrifoldeb dros fonitro gweithrediad yr is-gwmni masnachu i bwyllgor wedi’i ffurfio’n gyfan gwbl o bobl sy’n gyfarwyddwyr neu’n weithwyr yr is-gwmni, dylent sicrhau bod systemau mewn lle i sicrhau bod cyngor yn cael ei geisio gan ymddiriedolwr heb wrthdaro os yw’n briodol.
4.15 Beth ddylai ymddiriedolwyr ei wneud os yw’r is-gwmni masnachu mewn trafferthion ariannol?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Rhaid i ymddiriedolwyr roi buddiannau’r rhiant elusen yn gyntaf bob amser. Weithiau bydd hyn yn golygu diddymu, neu werthu, is-gwmni masnachu aflwyddiannus. Os yw ymddiriedolwyr yn cadw is-gwmni masnachu aflwyddiannus ar draul yr elusen, gallant fod yn atebol yn bersonol am golledion dilynol i’r elusen.
Yn fwy manwl
Os yw’r is-gwmni masnachu wedi bod yn gwneud colledion am gyfnod sylweddol, heb unrhyw ffactorau tymor byr arbennig, rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried dichonolrwydd yr is-gwmni masnachu. Rhaid i ymddiriedolwyr gadw unrhyw golledion i’r elusen i’r lleiaf posibl, heb ystyried unrhyw deimlad o rwymedigaeth foesol a all fod gan yr ymddiriedolwyr tuag at yr is-gwmni masnachu, ei gyfarwyddwyr a’i weithwyr.
Os yw’r ymddiriedolwyr yn buddsoddi arian pellach i gefnogi is-gwmni masnachu sy’n colli arian ar adeg pan oedd yn glir bod methiant yr is-gwmni yn debygol, gallai hyn olygu tor-ymddiriedaeth ar eu rhan a’u rhoi mewn risg personol o wneud iawn am unrhyw golledion i’r elusen. Dylai ymddiriedolwyr sy’n wynebu’r amgylchiadau hyn geisio cyngor gan eu cynghorwyr proffesiynol.
Os yw’r is-gwmni masnachu yn diffygdalu ar gytundeb benthyciad â’r elusen, rhaid i’r ymddiriedolwyr ystyried gorfodi hawliau’r elusen o dan y cytundeb. Wrth benderfynu ar yr union gamau i’w cymryd, rhaid i’r ymddiriedolwyr ddefnyddio eu barn fasnachol, yn seiliedig ar gyngor proffesiynol priodol. Rhaid i’w penderfyniad gael ei seilio ar les gorau’r elusen sy’n berchen ar yr is-gwmni masnachu.
Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldebau tebyg os yw’r elusen wedi buddsoddi cyfalaf cyfrannau yn yr is-gwmni masnachu, er nad yw cyfalaf cyfrannau yn agored i’w ad-dalu. Yn y pendraw, ymateb y rhiant elusen - yn ei rôl fel cyfranddaliwr - i fethiant yr is-gwmni masnachu yw naill ai sicrhau bod yr is-gwmni yn cael ei ddwyn i ben neu werthu’r busnes fel busnes byw i drydydd parti.
Gallai ymddiriedolwyr ofni y byddai caniatáu i is-gwmni masnachu gael ei ddiddymu’n ansolfent yn cael effaith andwyol ar enw da’r elusen. Gallai hyn ymddangos fel petai’n cyfiawnhau gwneud buddsoddiad pellach, a/neu gadw buddsoddiadau sy’n bod yn yr is-gwmni, er mwyn atal neu leihau colledion i gredydwyr yr is-gwmni.
Fodd bynnag, prif bwynt ymgymryd â masnach drwy is-gwmni masnachu yw diogelu asedau’r elusen rhag risgiau’r fasnach (gweler 4.1). Defnyddio’r asedau hynny i ddiogelu credydwyr yr is-gwmni yw’r union ganlyniad y mae cyfyngiadau’r gyfraith elusennau ar fasnachu gan elusen ei hun yn ceisio ei atal. Os yw ymddiriedolwyr yn gweithredu i gadw’r is-gwmni masnachu mewn busnes, waeth beth fo buddiannau’r elusen, gallant fod yn atebol yn bersonol am unrhyw golled ddilynol yng ngwerth buddsoddiad yr elusen yn yr is-gwmni masnachu.
4.16 Pa ddyletswyddau sydd gan ymddiriedolwyr elusen o ran is-gwmnïau masnachu?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Rhaid i ymddiriedolwyr fonitro perfformiad yr holl is-gwmnïau masnachu yn gyson, a buddsoddiadau’r rhiant elusen ynddynt, gyda’r nod o sicrhau defnydd da a phriodol o asedau’r elusen. Rhaid iddynt fod yn barod i ymarfer hawliau’r rhiant elusen fel cyfranddaliwr.
Yn fwy manwl
Rhaid i ymddiriedolwyr adolygu’r berthynas rhwng y rhiant elusen a’r is-gwmni masnachu yn rheolaidd. Diben sefydlu is-gwmni masnachu fel rheol yw codi arian i’r elusen, a dylai ei effeithiolrwydd yn hyn o beth gael ei fonitro. Ni ddylai adolygiad o fuddsoddiadau aros am sbardun penodol, megis darganfod bod is- gwmni masnachu mewn trafferthion ariannol.
Rhaid i ymddiriedolwyr y rhiant elusen hefyd ymarfer hawliau’r elusen fel cyfranddaliwr yn yr is-gwmni masnachu er mwyn hybu buddiannau’r elusen. Mae cyfarwyddwyr yr is-gwmni masnachu yn gyfrifol am ei reoli, ond yr ymddiriedolwyr, fel cynrychiolwyr y rhiant elusen, sy’n gwneud y prif benderfyniadau eraill. Er enghraifft, mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am:
- penodi/diswyddo cyfarwyddwyr yr is-gwmni masnachu
- telerau gwasanaeth y cyfarwyddwyr, gan gynnwys unrhyw dâl
- parhad, neu ddiddymiad yr is-gwmni masnachu
4.17 All is-gwmni masnachu gael ei berchen gan fwy nag un elusen?
Yr ateb byr
Gall. Nid oedd y math hwn o strwythur sefydliadol yn cael ei annog ar un adeg drwy waharddiad ar wneud taliadau Cymorth Rhodd gan is-gwmni masnachu gyda mwy nag un perchennog elusennol i’r perchnogion hynny. Ond nid yw’r gwaharddiad hwn yn bod mwyach.
Yn fwy manwl
Gall un elusen berchen ar is-gwmni masnachu yn llwyr, neu gall nifer o elusennau berchen arno ar y cyd. Yn amlwg, yn yr ail achos, mae’n rhaid i’r elusennau dan sylw gytuno i rannu elw masnachu’r is-gwmni.
Mae’r sylwadau ynghylch mentrau ar y cyd yn 2 baragraff diwethaf 4.9 yr un mor berthnasol i fentrau ar y cyd ag elusennau eraill.
4.18 All elusen warantu rhwymedigaethau is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr
Ni fydd modd gorfodi gwarantau o’r fath, os cânt eu rhoi, yn erbyn yr elusen a gall yr ymddiriedolwyr wynebu atebolrwydd personol.
Yn fwy manwl
Gellir gwahodd rhiant gwmni neu ei ymddiriedolwyr i warantu rhwymedigaethau is-gwmni masnachu. Er enghraifft, gall banc yr is-gwmni masnachu fod yn amharod i ddarparu cyfleusterau gorddrafft i’r is-gwmni masnachu oni bai bod y rhiant elusen (neu ei ymddiriedolwyr) yn gwarantu rhwymedigaeth yr is-gwmni masnachu i ad-dalu.
Os yw ymddiriedolwyr rhiant elusen yn rhoi gwarant o’r fath, ac mae rhwymedigaeth o dan y warant yn cael ei gorfodi gan gredydwr yr is-gwmni masnachu, nid yw ymddiriedolwyr yn debygol o gael yr hawl i gael eu hindemnio rhag yr elusen, a bydd rhaid iddynt fodloni’r atebolrwydd yn bersonol:
- os yw’r atebolrwydd yn deillio o fethiant masnach y mae is-gwmni masnachu yn ymgymryd â hi
- os na allai’r rhiant elusen ei hun fod wedi ymgymryd â’r fasnach honno ei hun
Effaith syml caniatáu gorfodi’r warant ar draul yr elusen fyddai rhwystro diben cyfyngiad y gyfraith elusennau ar yr elusen yn ymgymryd â’r fasnach ei hun.
Os yw gwarant o’r fath yn cael ei rhoi gan riant elusen gorfforedig, mae’n bosibl na fydd yn ddilys o gwbl. Bydd dilysrwydd gwarant o’r fath yn dibynnu ar:
- ddarpariaethau cyfansoddiad yr elusen
- darpariaethau adran 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006
Os ‘gellir’ gorfodi atebolrwydd o dan y warant, a chaiff ei orfodi gan gredydwyr yr is-gwmni masnachu, gall yr ymddiriedolwyr fod yn atebol yn bersonol i wneud iawn am atebolrwydd yr elusen gorfforedig o dan y warant:
- os yw’r atebolrwydd yn deillio o fethiant masnach y mae is-gwmni masnachu yn ymgymryd â hi
- os na allai’r rhiant elusen ei hun fod wedi ymgymryd â’r fasnach honno ei hun
Yn ogystal, gall taliadau a wnaed gan riant elusen o dan warant o atebolrwydd is-gwmni masnachu gael eu hystyried yn wariant anelusennol, gan greu effaith treth a allai fod yn niweidiol i’r elusen.
Mae cofrestru ‘grwˆ p TAW’ sy’n cynnwys elusen a’i his-gwmni neu is-gwmnïau masnachu yn golygu bod pob endid o fewn y grwˆ p yn gwarantu bodloni rhwymedigaethau TAW endidau eraill o fewn y grwˆ p. Nid oes unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i gofrestru elusen fel rhan o grwˆ p TAW. Ond cyn gwneud hynny, rhaid i ymddiriedolwyr fodloni eu hunain bod manteision cofrestriad grwˆ p yn drech na’r risg o golled i asedau’r elusen, os oes rhaid defnyddio’r asedau hynny i fodloni rhwymedigaeth TAW is-gwmni masnachu.
Yn gyffredinol, rhaid i ymddiriedolwyr geisio sicrhau y gellir dangos bod yr holl drefniadau ar delerau masnachol ac er lles yr elusen, ac nid ydynt yn creu’r trafferthion a nodwyd yn flaenorol.
Gwybodaeth bellach
Gall gwarantu rhwymedigaethau is-gwmnïau masnachu fod yn faes cymhleth, a dylai ymddiriedolwyr geisio cyngor proffesiynol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
4.19 All rhiant elusen a’i his-gwmni masnachu gyfuno eu cyfrifon banc?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Gallant, nid oes unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor i gyfuno cyfrifon banc er mwyn cael telerau busnes gwell gan y banc. Fodd bynnag, rhaid cadw strwythurau ariannol y rhiant elusen a’r is-gwmni masnachu ar wahân.
Yn fwy manwl
Gall cyfrifon banc elusen a’i his-gwmni neu ei his-gwmnïau masnachu gael eu cyfuno ar yr amod bod:
- cofnod priodol yn cael ei gadw o gyflwr y gweddillion yn y cyfrifon unigol sydd wedi cael eu cyfuno
- manteision a beichiau’r cyfrif cyfunol yn cael eu dyrannu’n deg rhwng y rhiant elusen a’r is-gwmni neu is-gwmnïau masnachu, gan ystyried cyflwr y cyfrifon unigol
- nid yw cyfuno yn golygu bod gwariant anelusennol yn codi i’r elusen, sydd yn ei dro yn creu effaith treth bosibl, neu mae’r elusen yn dioddef anfantais treth fel arall
Gwybodaeth bellach
Gall trefniadau cronni fod yn faes cymhleth, ac mae cyngor proffesiynol yn cael ei argymell, gyda’r nod o sicrhau y gellir dangos bod yr holl drefniadau ar delerau masnachol ac er lles yr elusen.
4.20 All is-gwmni masnachu ddefnyddio tir ac adeiladau ei riant elusen?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Gall. Ond rhaid i ddefnydd o’r fath fod ar sail gytundebol briodol ac ar delerau masnachol priodol.
Yn fwy manwl
Dylai unrhyw ddefnydd o dir ac adeiladau’r rhiant elusen gan is-gwmni masnachu gael ei gynnwys drwy brydles neu drwydded ffurfiol yr eiddo dan sylw o’r elusen i’r is-gwmni. Rhaid i’r is-gwmni masnachu dalu rhent neu ffi sy’n cyfateb i’r hyn a fyddai’n daladwy ar gyfer gosod yr eiddo ar y farchnad agored.
Bydd rhoi prydles, a gall rhoi trwydded, gael ei ystyried yn werthu tir elusen. Bydd angen i warediad o’r fath gael ei awdurdodi gan y Comisiwn oherwydd bod yr is-gwmni masnachu yn ‘berson cysylltiedig’ mewn perthynas â’r elusen. Os yw elusen yn prynu tir i is-gwmni masnachu ei ddefnyddio, rhaid cyfiawnhau hyn fel buddsoddiad o adnoddau’r elusen yn nhermau’r adenillion masnachu a dderbynnir.
Mae elusennau’n cael eu heithrio o dreth tir toll stamp ar dir a brynir (sy’n cynnwys adeiladau). Ond nid yw’r rhyddhad yn gymwys i dir a brynir gan is-gwmnïau masnachu. Bydd yr eithriad hwn yn cael ei golli os nad oes modd cyfiawnhau prynu’r tir a’r adeiladau fel buddsoddiad o adnoddau’r elusen; neu os yw’n cael ei wneud er mwyn osgoi treth gan yr is-gwmni masnachu.
Gwybodaeth bellach
Gweler canllaw y Comisiwn Gwerthiannau, prydlesi, trosglwyddiadau neu forgeisiau: yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr wybod am waredu tir elusennau (CC28)
4.21 All elusen fuddsoddi’n anuniongyrchol mewn is-gwmni masnachu?
Yr ateb byr (gofyniad cyfreithiol)
Gall. Mae buddsoddi anuniongyrchol fel caniatáu defnyddio amser staff ac offer swyddfa yn ddull pwysig o gymorth i is-gwmni masnachu. Fodd bynnag rhaid i’r elusen godi tâl ar yr is-gwmni, am werth teg, ar gyfer y gwasanaethau o’r fath neu am ddefnyddio cyfleusterau.
Yn fwy manwl
Gall buddsoddi anuniongyrchol mewn is-gwmni masnachu fod cyn bwysiced i ddichonolrwydd yr is- gwmni masnachu â chyfalaf a ddarperir yn ffurfiol gan yr elusen. Soniwyd eisoes am ganiatáu i’r is-gwmni masnachu ddefnyddio tir ac adeiladau’r elusen (gweler 4.21. Gall buddsoddi anuniongyrchol hefyd fod ar ffurf y rhiant elusen yn caniatáu i’r is-gwmni masnachu ddefnyddio staff ac offer yr elusen.
Fodd bynnag, ni all buddsoddi anuniongyrchol gynnwys unrhyw elfen o roi cymhorthdal i’r is-gwmni masnachu, oherwydd byddai hynny’n atal gwerthuso perfformiad yr is-gwmni fel buddsoddiad mewn modd gwrthrychol. Gall trefniadau sy’n cynnwys yr elusen yn rhoi cymhorthdal i’r is-gwmni masnachu gael effaith dreth niweidiol hefyd oherwydd, yn gyffredinol, nid yw cymorthdaliadau o’r fath yn debygol o fod yn ‘wariant elusennol’ o dan ddeddf 1988.
Felly, dylai’r rhiant elusen godi tâl am unrhyw wasanaethau a chyfleusterau y mae’n eu darparu i’r is-gwmni masnachu. Yn unol â hynny:
- os yw staff a gyflogir gan yr elusen yn gwneud peth gwaith i’r is-gwmni masnachu, neu os yw’r is- gwmni masnachu yn defnyddio cyfleusterau y mae’r elusen yn berchen arnynt, rhaid i’r elusen godi tâl priodol
- rhaid i daliadau o’r fath gael eu talu o fewn cyfnod rhesymol; gall taliadau heb eu talu fod yn fath arwyddocaol o gyllido hirdymor, a chael ei ystyried yn fath o gymorthdalu’r is-gwmni masnachu gan yr elusen
- fel rheol ni ddylai taliadau o’r fath fynd y tu hwnt i ad-dalu costau’r elusen; os ydynt, cânt eu hystyried fel derbyn masnach y mae’r elusen yn ymgymryd â hi, ac mae’n bosibl na fydd yr elw sy’n deillio ohono yn gymwys i gael ei eithrio rhag talu treth
Gallai trefniadau rhannu costau gael eu herio gan HMRC Elusennau, os nad yw’r costau’n cael eu cyfrifo mewn ffordd dderbyniol neu eu rhannu’n briodol.
Dylid defnyddio trefniadau o’r fath dim ond os yw staff a chyfleusterau yn cael eu rhannu rhwng y rhiant elusen a’r is-gwmni masnachu. Os yw staff yn cael eu cyflogi ar fusnes yr is-gwmni masnachu yn unig, dylai’r is-gwmni masnachu gyflogi’r staff. Os defnyddir offer gan yr is-gwmni masnachu yn unig, dylai’r is- gwmni masnachu berchen ar yr offer.
Rhaid ystyried yn ofalus trefniadau rhannu rhwng y rhiant elusen a’r is-gwmni masnachu, gyda’r nod o sicrhau nad ydynt yn amharu ar allu’r elusen i gyflawni ei hamcanion. Dylai ymddiriedolwyr sydd eisiau dilyn trefniadau o’r fath geisio cyngor gan eu cynghorwyr proffesiynol eu hunain a chysylltu â’r Comisiwn yn gynnar yn y broses.
Gall fod angen i rai grwpiau elusennau mawr iawn ystyried goblygiadau deddfwriaeth prisiau trosglwyddo hefyd. Os yw’n gymwys, mae hyn yn gofyn am brisio trafodion ‘hyd braich’ o fewn y grwˆ p elusen at ddibenion treth, waeth beth fo telerau’r cytundeb rhwng y rhiant elusen a’r is-gwmni masnachu. Gall defnyddio pris hyd braich yn lle’r pris go iawn (at ddibenion treth) gynyddu derbyniadau masnach, cynyddu elw’r fasnach, gan felly creu atebolrwydd i dalu treth. Dylid nodi nad yw HMRC Elusennau yn disgwyl i elusennau gomisiynu adroddiadau prisiau trosglwyddo drud fel rheol, ond dylai elusennau fod mewn sefyllfa i ddangos bod y trefniadau ar delerau masnachol (hyd braich).
Gwybodaeth bellach
Fe welwch arweinid HMRC ar ddeddfwriaeth prisiau trosglwyddo mewn llawlyfrau a gyhoeddir ar ei wefan - INTM 432090. Dylid ceisio cyngor proffesiynol os yw’r arweiniad hwn yn achosi pryder. Bydd HMRC Elusennau hefyd yn ateb ymholiadau penodol am ddeddfwriaeth ac arferion, ond ni all gynghori ar gynllunio sy’n gysylltiedig â threth.
4.22 Sut gall is-gwmnïau masnachu gael eu henwi?
Yr ateb byr
Dylai enwau is-gwmnïau masnachu fod yn wahanol i enwau eu rhiant elusennau er mwyn osgoi dryswch hunaniaeth. Mae’r gyfraith cwmnïau hefyd yn cynnwys cyfyngiadau eraill ar ddewis enwau.
Yn fwy manwl
Y brif egwyddor wrth enwi is-gwmni masnachu yw bod hunaniaethau gwahanol y rhiant elusen a’r is- gwmni masnachu yn glir i bawb dan sylw. Felly dylai enwau’r rhiant elusen a’r is-gwmni masnachu fod yn wahanol er mwyn osgoi unrhyw ddryswch rhwng y 2 sefydliad.
Fodd bynnag, gall enw’r rhiant elusen gael ei gynnwys yn enw’r is-gwmni masnachu, ar yr amod nad yw hyn yn rhoi’r camargraff i’r rhai sy’n delio â’r is-gwmni eu bod yn delio â’r elusen ei hun. Er enghraifft, byddai’n dderbyniol i enwi is-gwmni masnachu fel ‘Cwmni Gwerthu [enw’r elusen] Cyf’.
Mae’r gyfraith cwmnïau yn cyfyngu ar y defnydd o’r geiriau ‘elusen’ ac ‘elusennol’ yn enw unrhyw gwmni - rhaid ceisio cymeradwyaeth y cofrestrydd cwmnïau ar gyfer eu defnyddio. Fel rheol dylai’r geiriau hyn gael eu hosgoi yn enw’r is-gwmni masnachu ac eithrio pan fyddant yn ffurfio rhan o enw’r elusen ei hun, ac mae’r enw hwnnw yn cael ei integreiddio yn enw’r is-gwmni masnachu.
5. Diolchiadau
Mae’r Comisiwn yn ddiolchgar i Gyllid a Thollau EM ac i’r unigolion, elusennau a sefydliadau eraill sydd wedi helpu i ddatblygu ac adolygu’r canllaw hwn. Mae’r Comisiwn hefyd yn cydnabod gwaith James Tickell ac Oliver Tickell a’u cymorth wrth ddrafftio’r fersiwn hen.