Datganiad GOV.UK wedi’i ddiweddaru – troseddau rheilffyrdd (ar ôl gwrandawiad y Prif Ynad)
Diweddarwyd 13 Ionawr 2026
Diweddariad – 8 Ionawr 2026
Ddydd Iau, 15 Awst 2024 cyflwynodd y Prif Ynad ddyfarniad ar nifer fach o achosion ble roedd sawl cwmni trenau wedi erlyn yn defnyddio’r Weithdrefn Un Ynad (SJP) mewn camgymeriad. Roedd hyn er mwyn penderfynu sut y delir gydag achosion ac euogfarnau beichus. Penderfynodd y dylid datgan bod yr achosion hyn yn annilys, a ble bo’n briodol, y dylid ad-dalu unrhyw beth a dalwyd am y drosedd honno.
Cafodd pob achos a nodwyd ei restru gerbron y llys ar sawl dyddiad rhwng dydd Iau, 28 Tachwedd 2024 a dydd Iau, 13 Chwefror 2025. Gwrandawyd achosion yn ymwneud â darparwr rheilffordd penodol gyda’i gilydd ac nid oedd yn ofynnol i bobl oedd yn ymwneud â’r achosion hyn fynychu’r gwrandawiadau hynny. Penderfynodd y llys ddatgan yr achosion hyn yn annilys.
Mae GLlTEF bellach yn y broses o gysylltu â’r sawl yr effeithiwyd arnynt yn ysgrifenedig. Mae’r llythyrau hyn yn amlinellu’r broses ar gyfer ad-daliad, yn dibynnu p’un a yw unigolyn eisoes heb dalu dim, wedi talu rhywfaint neu’r cyfan o gosb ariannol sy’n ymwneud â’u hachos.
Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i olrhain pob unigolyn yr effeithiwyd arnynt, efallai bod yna nifer fach o bobl na allwn ysgrifennu atynt os na ellir eu holrhain, er enghraifft y rhai heb gyfeiriad sefydlog neu ddilys.
Os ydych chi’n credu bod eich cyfeiriad wedi newid ers i chi ei roi i GLlTEF ddiwethaf, ffoniwch 0300 303 5858 i roi’r wybodaeth ddiweddaraf. Bydd angen eich rhif achos neu rif cyfrif arnoch hefyd fel y gallwn ddiweddaru eich manylion.
Os nad yw achos yn bodloni pob un o’r meini prawf canlynol, yna gallwn eisoes gadarnhau nad yw hyn yn effeithio arnoch. Cafodd achosion yr effeithiwyd arnynt eu herlyn:
- gan Northern, Transpennine, Avanti West Coast, Greater Anglia, Great Western Railway, Arriva Rail Northern, Merseyrail, Govia neu C2C
- rhwng 2018 a 2023 (gyda mwyafrif helaeth yr achosion yr effeithiwyd arnynt yn cael eu herlyn o 2020)
- o dan Adran 5(1) neu 5(3) o’r Ddeddf Rheoleiddio Rheilffyrdd (a byddai geiriad un o’r rhain wedi ymddangos ar yr hysbysiad un ynad y byddech wedi’i dderbyn)
Cefndir
Mae’r Weithdrefn Un Ynad (SJP) yn caniatáu i’r rhai sy’n pledio’n euog i rai troseddau lefel isel, angharcharadwy ddatrys eu hachos heb fynd i’r llys.
Mae cwmnïau trên ac amryw gyrff eraill wedi’u hawdurdodi gan Orchymyn Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (Dull Newydd o Gychwyn Achosion) (Manyleb Erlynwyr Perthnasol) 2016 i gychwyn achos gan ddefnyddio Hysbysiad SJP.
Mae’r penderfyniad i ddefnyddio SJP yn fater i erlynwyr. Pan ddaw achosion i’r llys, mae ynadon yn penderfynu ar euogfarn a dedfryd, a gynghorir gan gynghorwyr cyfreithiol.
Troseddau prisiau rheilffyrdd
Mae GLlTEF, yr Adran Drafnidiaeth a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwybodol bod sawl cwmni trên wedi erlyn rhai troseddau penodol drwy SJP mewn camgymeriad mewn amgylchiadau lle:
- nad yw’r drosedd wedi’i chynnwys yng Ngorchymyn 2016 neu
- bod y drosedd yn un y gellir rhoi dedfryd o garchar (er na chafodd dedfryd o garchar ei phasio am y troseddau hyn drwy SJP)
Byddai unrhyw wall gweithdrefnol o’r math hwn yn ymwneud â throseddau prisiau rheilffordd penodol yn unig ac nid yw’n effeithio ar unrhyw fath arall o erlyn drwy SJP.